Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r cylch cyllid nesaf ar gyfer Cynllun Grant Cymru o Blaid Affrica yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd tua £150,000 ar gael i ariannu prosiectau a fydd yn helpu i wella bywydau miloedd o bobl mewn cymunedau yn Affrica.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

“Mae ein rhaglen grantiau Cymru o Blaid Affrica eisoes wedi helpu i wella bywydau miloedd o bobl yn Affrica. Mae hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth gryfhau’r berthynas sydd gennym ni â’r cyfandir prydferth ac amrywiol hwn. Rwy’n annog grwpiau a sefydliadau cymunedol o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn y rhaglen bwysig hon sydd â’r gallu i newid bywydau.”

Rydym yn chwilio am geisiadau gan grwpiau sy’n teimlo’n angerddol ac yn benderfynol o helpu i gyfrannu at nodau’r cynllun, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau maent yn eu cyrraedd.

Gallwch ddarllen am y prosiectau a gafodd eu hariannu yn y cylch diwethaf yma.

Gallwch gyflwyno’r ffurflen gais drwy’r post neu e-bost ynghyd â’r dogfennau ategol sydd eu hangen. Ewch i wefan CGGC i lawrlwytho canllawiau’r cynllun a’r ffurflen gais.