Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Nod Grant Cynhwysiant Digidol Cymru yw cefnogi angen lleol a nodwyd ac a amlinellwyd am gymorth sy'n cyd-fynd â chynhwysiant digidol / cyflawni Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS). Ar hyn o bryd diffinnir Cynhwysiant Digidol fel 'defnydd personol o'r rhyngrwyd'. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cynhwysiant digidol yn fwy na hyn. Mae'n cynnwys mynediad at ddyfeisiau priodol (sy'n diwallu anghenion yr unigolyn), cysylltedd (band eang a/neu ddata symudol) a sgiliau digidol sylfaenol (fel y'u diffinnir gan Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol y DU).

Dylai ymgeiswyr ddefnyddio'r nodyn cyfarwyddyd ochr yn ochr â'r ffurflen gais.

Lleol

At ddibenion y grant hwn, mae 'angen lleol' yn cyfeirio at ofyniad sydd â thystiolaeth glir ac wedi'i ddiffinio'n ddaearyddol am weithgarwch cynhwysiant digidol mewn cymuned, ardal, rhanbarth neu ardal leol benodol yng Nghymru. Rhaid dangos yr angen drwy wybodaeth ac ymgysylltu lleol, yn hytrach na thybio neu ddod i gasgliad ar sail data cenedlaethol neu gyffredinol.

Rhaid i ymgeiswyr ddiffinio'r hyn y maent yn ei ystyried yn 'ardal leol' (ee tref, cymdogaeth, clwstwr o gymunedau, un ardal awdurdod lleol neu ardal sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol). Rhaid i'r diffiniad o 'lleol' fod yn glir ac yn gymesur â graddfa'r cynnig, a chael ei gefnogi gan y canlynol:

  • Gallu dangos gwybodaeth am angen o fewn yr ardal a gynigir.
  • Dylech osgoi rhagdybiaethau bod yr angen yr un fath ar draws yr ardal heb ymgysylltiad na data ategol.

Ni fydd dulliau gweithredu Cymru gyfan yn gymwys. Rhaid i'r gweithgaredd ymateb i angen sydd wedi'i ddiffinio'n glir ac sy'n seiliedig ar le yn hytrach na mater cyffredinol neu dybiedig sy'n ymwneud â chynhwysiant digidol.

Enghraifft:

  • Cymwys: Mae awdurdod lleol yn nodi bod gan drigolion mewn tair ward wledig hyder a chysylltedd digidol arbennig o isel, a ddangosir drwy ddata arolwg ac adborth gan y gymuned. Mae'r cynnig yn targedu'r wardiau hynny.
  • Anghymwys: Mae awdurdod lleol yn gwneud cais am gyllid i “wella cynhwysiant digidol ar draws y sir gyfan” heb dystiolaeth bod yr angen yn gyson ar draws y sir nac wedi'i ddiffinio'n lleol.

Cymhwysedd

Sefydliad(au) sy'n gallu dangos ymrwymiad cryf i wella cynhwysiant digidol a'r uchelgais i gefnogi pobl i gyrraedd y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn eu hardal. Mae'r sefydliadau cymwys yn cynnwys:

  • elusennau cofrestredig, mudiadau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol a Chwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • sefydliadau sector cyhoeddus (ee ysgolion, llyfrgelloedd, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol)
  • sefydliadau yn y sector preifat lle:
    • mae’r prosiect arfaethedig yn sicrhau budd clir, mesuradwy i'r cyhoedd ac i'r gymuned
    • nad yw'r cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau gwneud elw masnachol
    • gall y sefydliad ddangos arian cyfatebol (arian parod neu mewn nwyddau)

Mae dau gategori i'r grant, Craidd ac Arloesi. Dilynwch y canllawiau cywir yn dibynnu ar y grant rydych chi'n gwneud cais amdano. 

Craidd

Cefnogi gweithgareddau sy'n lleihau allgáu digidol, yn cefnogi'r uchelgais i bobl gyrraedd y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol ac yn mynd i'r afael ag angen lleol a nodwyd.

Cyllid

Cyfanswm o £360,000 o refeniw a £30,000 o gyfalaf fesul Blwyddyn Ariannol. Disgwylir i ymgeiswyr amlinellu eu hanghenion cyllido ar sail gofynion eu prosiect. Fodd bynnag, fel canllaw cychwynnol:

  • Disgwylir i gais nodweddiadol fod hyd at £40,000 o refeniw a £3,500 o gyfalaf y flwyddyn.
  • Ar sail y gwerth disgwyliedig, gellid dyfarnu hyd at uchafswm o £120,000 o refeniw a £10,500 o gyfalaf i brosiect dros gyfnod o 3 blynedd.

Hyd

Grant 3 blynedd yw hwn.

Gweithgareddau cymwys

Enghreifftiau o fathau o weithgareddau cymwys - pob un yn gysylltiedig â chynyddu cynhwysiant digidol mewn cymunedau (ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr):

  • Hyfforddiant a chymorth sgiliau digidol sylfaenol (1:1 neu mewn grŵp).
  • Darparu dyfeisiau a/neu gysylltedd ar gyfer pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol (ar sail angen a nodwyd).
  • Cymorth i bobl gael gafael ar wasanaethau ar-lein (ee iechyd, budd-daliadau, addysg).
  • Cefnogi a chadw Gwirfoddolwyr.
  • Allgymorth i gymunedau sy'n cael eu tangynrychioli neu gymunedau ynysig.
  • Gweithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau.

Ni ddylid ystyried mai diben y cyllid yw ariannu swydd staffio benodol yn unig. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd rhai enghreifftiau lle mae angen hyn i gyflawni'r canlyniadau arfaethedig, a dylid nodi hyn yn yr adrannau ‘angen lleol’ a ‘gwaddol y prosiect’ yn y cais. Ar ben hynny, ni fydd ceisiadau sy'n gofyn am ddull gweithredu cenedlaethol yn gymwys.

Canllaw cam wrth gam

Nod y canllaw canlynol yw eich helpu i ddeall a datblygu'r ffurflen gais sy'n gysylltiedig â'r Grant Craidd (3 blynedd).

Cwestiwn 1: angen lleol

Ar gyfer yr adran hon, er mwyn deall ac ymateb i anghenion cynhwysiant digidol lleol, dylai sefydliadau ddechrau drwy ddefnyddio eu gwybodaeth bresennol am y bobl a'r cymunedau maen nhw'n eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar ddata gwasanaeth, adborth, ac ymgysylltu â gwahanol grwpiau i nodi lle mae mynediad digidol, sgiliau digidol sylfaenol neu hyder yn rhwystrau. Dylid ystyried patrymau sy'n gysylltiedig ag oedran, incwm, anabledd, iechyd, daearyddiaeth neu iaith, ac archwilio sut mae bod all-lein neu wedi'ch allgáu'n ddigidol yn effeithio ar allu pobl i ymgysylltu â gwasanaethau, cael gafael ar gymorth a chynnal llesiant.

Dylid crynhoi canfyddiadau lleol yn glir i ddangos pwy sy'n cael eu heffeithio, pa rwystrau sy'n bodoli, a'r effaith ar degwch ac ymgysylltiad â gwasanaethau. Gall y dystiolaeth hon wedyn arwain y gwaith o nodi camau gweithredu arfaethedig i wella cynhwysiant digidol, bod yn gyson ag uchelgais Llywodraeth Cymru i bawb fodloni'r MDLS, a sicrhau bod y gwaith o ddylunio a thrawsnewid gwasanaethau yn gynhwysol, yn deg ac yn ymateb i anghenion lleol. Gall ymgeiswyr ddefnyddio gwybodaeth am faterion ehangach lle mae allgáu digidol yn ffactor pwysig, er enghraifft cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, rheoli cyllid a chynnal ymgysylltiad cymdeithasol.

Cwestiwn 2: gwaddol y prosiect

Fel rhan o'r cais, bydd angen i chi ystyried a nodi sut bydd y gweithgaredd yn parhau i gynhyrchu canlyniadau y tu hwnt i gyfnod y grant. Dylai ymgeiswyr fod yn glir ynghylch sut bydd yn cael ei wreiddio yng ngwaith craidd y sefydliad, yn hytrach na chreu prosiectau dros dro neu annibynnol yn dibynnu ar gyllid grant. Gallai hyn gynnwys integreiddio cynhwysiant digidol â phrosesau, gwasanaethau a chyfrifoldebau staff presennol fel ei fod yn dod yn rhan o arferion bob dydd y sefydliad yn hytrach na dibynnu ar un prosiect neu rôl.

Drwy wneud cynhwysiant digidol yn gyfrifoldeb ar y cyd, gall sefydliadau gynnal momentwm, cyrraedd mwy o bobl, a gwneud gwelliannau cynaliadwy i fynediad ac ymgysylltiad dros amser. Dylai ymgeiswyr ystyried sut gall partneriaethau, adnoddau a gwerthuso helpu i wreiddio gweithgarwch mewn systemau a phrosesau sefydliadol, polisïau, gweithdrefnau a mesurau perfformiad y tu hwnt i'r grant. Mae'r hyn a ddysgir o fonitro ac adborth parhaus yn sicrhau bod cynhwysiant digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd i'r sefydliad. Mae'r dull gweithredu hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd manteision y prosiect yn parhau i gyrraedd pobl mewn angen ymhell ar ôl i'r grant ddod i ben.

Cwestiwn 3: cydweithio

Bydd angen i ymgeiswyr nodi sut maent wedi ymgysylltu'n weithredol â sefydliadau a rhanddeiliaid eraill i archwilio cyfleoedd i gydweithio yn eu maes. Mae hyn yn cynnwys nodi partneriaid sydd eisoes yn gweithio yn yr un lle, rhannu dysgu, ac ystyried sut gall gwasanaethau neu weithgareddau ategu ei gilydd yn hytrach na dyblygu ymdrechion. Mae cydweithio effeithiol yn helpu i sicrhau'r effaith fwyaf posibl, cronni adnoddau a sicrhau bod pobl yn elwa o gymorth cydgysylltiedig.

Mae dangos hyn yn y cais yn bwysig. Dylai ymgeiswyr esbonio'n glir gyda phwy maen nhw wedi siarad, pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal a sut mae hyn wedi dylanwadu ar ddyluniad y prosiect. Mae hyn yn dangos eu bod wedi ystyried y dirwedd leol ac wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i gryfhau canlyniadau ac osgoi gorgyffwrdd diangen.

Er nad yw'r angen i gydweithio'n flaenorol yn un o ofynion y grant, dylid cynnwys cydweithio yn null gweithredu'r prosiect ei hun. Gallai hyn gynnwys modelau darparu ar y cyd, gweithgareddau wedi'u cyd-ddylunio gyda phartneriaid, neu fecanweithiau ar gyfer cyfathrebu a dysgu parhaus. Drwy wreiddio arferion cydweithredol, gall sefydliadau ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol, cynaliadwy a chynhwysol, gan sicrhau bod y prosiect yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr ecosystem ehangach o gynhwysiant digidol a chymorth iechyd a gofal.

Cwestiwn 4: canlyniadau

Disgwylir i ymgeiswyr nodi'n glir y canlyniadau ansoddol a meintiol y maent yn bwriadu eu cyflawni drwy'r cyllid grant, ar sail eu dealltwriaeth o anghenion cynhwysiant digidol lleol. Dylai canlyniadau ddisgrifio'r gwahaniaeth y mae'r prosiect yn ceisio ei wneud i'r bobl a'r cymunedau y mae'n eu cefnogi, a sut bydd yn mynd i'r afael â'r rhwystrau a nodwyd. Dylent fod yn realistig, yn berthnasol ac wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â'r gweithgaredd sy'n cael ei gynnig.

Ar gyfer cyllid craidd, dylai ymgeiswyr ystyried canlyniadau dros yr amserlen gyllido 3 blynedd, gan ddangos effeithiau tymor byr a thymor hwy. Mae hyn yn cynnwys nodi sut bydd gwelliannau mewn mynediad digidol, sgiliau digidol, hyder neu ymgysylltu yn cyfrannu at fanteision sefydliadol neu gymunedol ehangach, a sut mae'r prosiect yn cyd-fynd â nodau strategol fel tegwch, cynhwysiant a gwaddol y prosiect.

Cwestiwn 5: monitro, gwerthuso a risgiau

Disgwylir i ymgeiswyr ddiffinio'n glir sut bydd y prosiect yn cael ei fonitro, ei werthuso, a'r risgiau'n cael eu rheoli dros y cyfnod cyllido 3 blynedd. Dylai hyn adeiladu'n uniongyrchol ar y canlyniadau maen nhw wedi'u nodi, gan ddangos sut bydd cynnydd yn cael ei olrhain, sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur, a sut bydd yr effaith ar y bobl a'r cymunedau sy'n cael eu cefnogi yn cael ei hasesu. Dylid cynllunio'r gwaith monitro a gwerthuso o'r cychwyn cyntaf a'i wreiddio yn null gweithredu'r prosiect.

Yn ogystal â mesur canlyniadau, dylai ymgeiswyr ystyried rheoli risg, gan nodi heriau posibl fel rhwystrau rhag cael mynediad digidol, cyfyngiadau ar adnoddau, neu faterion partneriaeth ac amlinellu camau i'w lliniaru. Mae hyn yn sicrhau bod prosiectau'n parhau i fod yn gadarn, yn realistig ac yn gallu ymateb yn effeithiol i amgylchiadau sy'n newid.

Dylai ymgeiswyr hefyd egluro sut bydd canlyniadau'n cael eu mesur a'u monitro, gan gynnwys pa ddata neu ddangosyddion fydd yn cael eu defnyddio i asesu cynnydd ac effaith. Mae mesur ac adrodd clir yn sicrhau tryloywder, yn galluogi dysgu, ac yn dangos gwerth y buddsoddiad, gan helpu i lywio gwaith cynllunio yn y dyfodol a sicrhau bod ymdrechion cynhwysiant digidol yn cael effaith ystyrlon a pharhaol.

Rhan hanfodol o ddysgu prosiectau yw mynd ati i rannu gwersi i wella dealltwriaeth o anghenion lleol a dulliau gweithredu effeithiol. Dylai ymgeiswyr archwilio ffyrdd o rannu gwybodaeth, fel digwyddiadau dangos a dweud, gweithdai, neu fforymau cydweithredol, a dangos sut bydd astudiaethau achos yn cael eu cofnodi i ddangos effaith bywyd go iawn. Mae hyn yn hyrwyddo dysgu traws-sector, yn helpu i atal dyblygu, ac yn sicrhau bod yr wybodaeth a gynhyrchir gan y prosiect yn cyfrannu at welliannau ehangach mewn cynhwysiant digidol a darparu gwasanaethau.

Cwestiwn 6: Strategaeth Ddigidol i Gymru a'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol

Ar gyfer yr adran hon o'r cais, byddem yn disgwyl i chi nodi sut mae eich gweithgaredd arfaethedig yn cefnogi Strategaeth Ddigidol Cymru (Mawrth 2021), yn cyd-fynd â'r gwaith ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS) ac yn cyfrannu at ein gwaith o ddeall beth mae’n ei olygu i gael eich cynnwys yn ddigidol yn ein cymdeithas bresennol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at fand eang digonol a dibynadwy, mynediad at ddyfeisiau priodol a sgiliau digidol sylfaenol i ddefnyddio'r dechnoleg yn ddiogel ac yn hyderus. Dylai ymgeiswyr ystyried sut mae strategaethau a pholisïau ehangach eich sefydliad yn cefnogi'r uchelgais hwn, gan sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel, yn hyderus ac wedi'u grymuso i ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol, os byddant yn dewis gwneud hynny.

“Mae safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn fwy na dim ond cael rhyngrwyd hygyrch, offer digonol, a'r sgiliau, yr wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl. Mae'n ymwneud â gallu cyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu â chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus.”

Cwestiwn 7: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Wrth ddatblygu neu gyflawni prosiectau cynhwysiant digidol, mae'n hanfodol ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n nodi 7 nod llesiant a phum ffordd o weithio i helpu cyrff cyhoeddus i feddwl yn y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau, ac atal problemau cyn iddynt godi. Mae cysoni gwaith cynhwysiant digidol â'r egwyddorion hyn yn sicrhau bod y camau a gymerir heddiw yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth a chydlynol; gwlad lle gall pawb gael mynediad at gyfleoedd digidol ac elwa ohonynt. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu dylunio gwasanaethau sy'n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol tymor hir, mynediad cynhwysol at dechnoleg, a seilwaith digidol cynaliadwy (meddwl tymor hir); mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli (atal a chydraddoldeb); cydweithio â phartneriaid fel busnesau a sefydliadau cymunedol (cydweithredu); cynnwys defnyddwyr yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau digidol (cynnwys); a sicrhau bod penderfyniadau'n cyfrannu ar draws nifer o nodau llesiant yn hytrach na mynd i'r afael â materion ar eu pen eu hunain (integreiddio). Nodwch yn glir sut bydd y prosiect yn gwreiddio'r dulliau hyn, er mwyn sicrhau bod cynhwysiant digidol yn dod yn ffactor allweddol sy’n galluogi llesiant a thegwch ehangach ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Cwestiwn 8: Y Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod cyd-destun cyfreithiol newydd i'r Gymraeg. Mae'r Mesur yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ac mae hyn yn ymestyn i'r ffordd y dyfernir grantiau. Bydd gofyn i chi sicrhau bod y gwasanaethau rydych chi’n ceisio cael cyllid ar eu cyfer yn darparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.

Arloesi

Cyllid i gefnogi'r defnydd newydd/creadigol o dechnoleg i gefnogi dinasyddion i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol mewn ffordd ystyrlon a/neu fynd i'r afael ag allgáu digidol mewn ffyrdd nad oeddent wedi cael eu harchwilio o'r blaen.

Cyllid

Mae cyfanswm o £40,000 o refeniw ac £20,000 o gyfalaf ar gael yn 2026 i 2027. Disgwylir i ymgeiswyr amlinellu eu hanghenion cyllido ar sail gofynion eu prosiect. Fodd bynnag, fel canllaw cychwynnol, disgwylir i geisiadau unigol fod hyd at uchafswm o £10,000 o refeniw a £5,000 o gyfalaf. 

Hyd

Prosiectau hyd at 12 mis.

Gweithgareddau cymwys

Enghreifftiau o fathau o weithgareddau cymwys (ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr):

  • Cyllid i gefnogi prosiectau prawf cysyniad/menter newydd neu fentrau nad ydynt wedi cael eu defnyddio'n ddiweddar (yn ystod y flwyddyn ddiwethaf).
  • Prosiectau sy'n mynd y tu hwnt i hyfforddiant sgiliau digidol sylfaenol yn unig, gan ganolbwyntio yn hytrach ar sut gall ymgysylltu â thechnoleg ddigidol arwain at fanteision ehangach, fel gwella iechyd a llesiant, llesiant ariannol a chysylltiadau cymdeithasol.

Disgwylir y bydd yr adnoddau staffio sydd eu hangen i gyflawni'r prosiect eisoes ar waith, yn hytrach na dibynnu ar recriwtio swyddi newydd. Lle bo eithriadau'n berthnasol, dylai ymgeiswyr amlinellu hyn o fewn angen lleol y cais.

Mae gan Lywodraeth Cymru safbwynt polisi Digidol yn Gyntaf, gyda sianeli eraill ar gael ee all-lein. Ni ellir defnyddio cyllid i greu atebion digidol yn unig, ee rhaglen/gwefan.

Canllaw cam wrth gam

Nod y canllaw canlynol yw eich helpu i ddeall a datblygu'r ffurflen gais sy'n gysylltiedig â'r Grant Arloesi (hyd at 12 mis).

Cwestiwn 1: angen lleol

Ar gyfer yr adran hon, er mwyn deall ac ymateb i anghenion cynhwysiant digidol lleol, dylai sefydliadau ddechrau drwy ddefnyddio eu gwybodaeth bresennol am y bobl a'r cymunedau maen nhw'n eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar ddata gwasanaeth, adborth, ac ymgysylltu â gwahanol grwpiau i nodi lle mae mynediad digidol, sgiliau digidol sylfaenol neu hyder yn rhwystrau. Dylid ystyried patrymau sy'n gysylltiedig ag oedran, incwm, anabledd, iechyd, daearyddiaeth neu iaith, ac archwilio sut mae bod all-lein neu wedi'ch allgáu'n ddigidol yn effeithio ar allu pobl i ymgysylltu â gwasanaethau, cael gafael ar gymorth a chynnal llesiant. Mae angen cysoni sut gall yr arloesi helpu i gefnogi'r angen lleol, gan sicrhau bod pobl yn gallu byw'n annibynnol ac ategu'r uchelgais i gefnogi pobl i gyrraedd y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol.

Dylid crynhoi canfyddiadau lleol yn glir i ddangos pwy sy'n cael eu heffeithio, pa rwystrau sy'n bodoli, a'r effaith ar degwch ac ymgysylltiad â gwasanaethau. Gall y dystiolaeth hon wedyn arwain y gwaith o nodi camau gweithredu arfaethedig i wella cynhwysiant digidol yn yr ardal, bod yn gyson ag uchelgais Llywodraeth Cymru i bawb fodloni'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, a sicrhau bod y gwaith o ddylunio a thrawsnewid gwasanaethau yn gynhwysol, yn deg ac yn ymateb i anghenion lleol. Gall ymgeiswyr ddefnyddio gwybodaeth am faterion ehangach lle mae allgáu digidol yn ffactor pwysig, er enghraifft cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, rheoli cyllid a chynnal ymgysylltiad cymdeithasol.

Cwestiwn 2: arloesi

Dylai arloesi mewn cynhwysiant digidol fod wedi'i seilio'n glir ar ddealltwriaeth o anghenion lleol neu ddechrau gyda cham darganfod i ddeall yr anghenion hyn yn well a'r broblem y mae angen mynd i'r afael â hi. Anogir ymgeiswyr i nodi rhwystrau a wynebir gan y bobl a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi, ac i ddylunio atebion ymarferol a mesuradwy. Gall arloesi gynnwys archwilio technoleg y tu hwnt i'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, gan gynnwys offer fel clychau drws fideo, sbectol ddigidol, synwyryddion monitro yn y cartref, neu ddyfeisiau a systemau newydd eraill a allai wella mynediad, annibyniaeth, diogelwch neu lesiant.

Rhaid i brosiectau ddiffinio'n glir y cam arloesi (Darganfod, Alffa neu Beta) yn unol ag egwyddorion gweithio'n ystwyth GOV.UK, gan ddangos dull strwythuredig o brofi, ailadrodd a mireinio'r ateb. Dylai ymgeiswyr hefyd gadarnhau nad oes unrhyw enghreifftiau hysbys o'r arloesi arfaethedig yn cael ei roi ar waith yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf, gan sicrhau bod y prosiect yn cynrychioli dull gwirioneddol newydd o ymdrin â chynhwysiant digidol.

Disgwylir i ymgeiswyr gysoni canlyniadau a monitro â cham ystwyth y gwaith, gan nodi sut bydd cynnydd, llwyddiant ac effaith yn cael eu mesur ar bob cam. Er enghraifft, dylai prosiectau darganfod ganolbwyntio ar ddysgu a diffinio'r broblem, camau alffa ar brofi atebion ar raddfa fach, a chamau beta ar weithredu a mireinio ehangach.

Cwestiwn 3: Canlyniadau

Disgwylir i ymgeiswyr nodi'n glir y canlyniadau ansoddol a meintiol y maent yn bwriadu eu cyflawni drwy'r cyllid grant, ar sail eu dealltwriaeth o anghenion cynhwysiant digidol lleol. Dylai canlyniadau ddisgrifio'r gwahaniaeth y mae'r prosiect yn ceisio ei wneud i'r bobl a'r cymunedau y mae'n eu cefnogi drwy arloesi, a sut bydd yn mynd i'r afael â'r rhwystrau a nodwyd. Dylent fod yn realistig, yn berthnasol ac wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â'r gweithgaredd sy'n cael ei gynnig.

Ar gyfer cyllid arloesi, dylai ymgeiswyr ystyried canlyniadau dros y cyfnod cyllido, sy’n cynnwys manteision posibl yn y tymor byr a’r tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys nodi sut bydd gwelliannau mewn mynediad digidol, sgiliau digidol, hyder neu ymgysylltu yn cyfrannu at fanteision sefydliadol neu gymunedol ehangach, a sut mae'r prosiect yn cyd-fynd â nodau strategol fel tegwch, cynhwysiant a chynaliadwyedd.

Cwestiwn 4: monitro, gwerthuso a risgiau

Disgwylir i ymgeiswyr ddiffinio'n glir sut bydd y prosiect yn cael ei fonitro, ei werthuso, a'r risgiau'n cael eu rheoli dros y cyfnod cyllido. Dylai hyn adeiladu'n uniongyrchol ar y canlyniadau maen nhw wedi'u nodi, gan ddangos sut bydd cynnydd yn cael ei olrhain, sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur, a sut bydd yr effaith ar y bobl a'r cymunedau sy'n cael eu cefnogi yn cael ei hasesu. Dylid cynllunio'r gwaith monitro a gwerthuso o'r cychwyn cyntaf a'i wreiddio yn null gweithredu'r prosiect.

Yn ogystal â mesur canlyniadau, dylai ymgeiswyr ystyried rheoli risg, gan nodi heriau posibl fel rhwystrau rhag cael mynediad digidol, cyfyngiadau ar adnoddau, neu faterion partneriaeth ac amlinellu camau i'w lliniaru. Mae hyn yn sicrhau bod prosiectau'n parhau i fod yn gadarn, yn realistig ac yn gallu ymateb yn effeithiol i amgylchiadau sy'n newid.

Dylai ymgeiswyr hefyd egluro sut bydd canlyniadau'n cael eu mesur a'u monitro, yn dibynnu ar y cam Darganfod, Beta neu Alffa, gan gynnwys pa ddata neu ddangosyddion fydd yn cael eu defnyddio i asesu cynnydd ac effaith. Mae mesur ac adrodd clir yn sicrhau tryloywder, yn galluogi dysgu, ac yn dangos gwerth y buddsoddiad, gan helpu i lywio gwaith cynllunio yn y dyfodol a sicrhau bod ymdrechion cynhwysiant digidol yn cael effaith ystyrlon a pharhaol.

Dylai monitro a gwerthuso gofnodi llwyddiannau a heriau, gan gynnwys gwersi o ddulliau gweithredu nad ydynt yn gweithio, ac amlinellu sut bydd y dysgu hwn yn llywio camau yn y dyfodol neu fabwysiadu ehangach. Mae gwreiddio cynhwysiant digidol mewn arferion sefydliadol a rolau staff, ochr yn ochr â gwerthuso strwythuredig, yn sicrhau bod arloesi yn sicrhau manteision parhaol, yn meithrin gallu sefydliadol, ac yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Rhan hanfodol o ddysgu prosiectau yw mynd ati i rannu gwersi i wella dealltwriaeth o anghenion lleol a dulliau gweithredu effeithiol. Dylai ymgeiswyr archwilio ffyrdd o rannu gwybodaeth, fel digwyddiadau dangos a dweud, gweithdai, neu fforymau cydweithredol, a dangos sut bydd astudiaethau achos yn cael eu cofnodi i ddangos effaith bywyd go iawn. Mae hyn yn hyrwyddo dysgu traws-sector, yn helpu i atal dyblygu, ac yn sicrhau bod yr wybodaeth a gynhyrchir gan y prosiect yn cyfrannu at welliannau ehangach mewn cynhwysiant digidol a darparu gwasanaethau.

Cwestiwn 5: prawf cysyniad

Fel rhan o'ch cais, bydd angen i chi ystyried a nodi'r canlyniadau a'r manteision y gellir eu cyflawni y tu hwnt i gyfnod cychwynnol y grant, gan ystyried y cam arloesi (Darganfod, Beta neu Alffa). Hyd yn oed ar gyfer prosiectau tymor byr, mae'n bwysig dangos sut bydd gwybodaeth sy’n deillio o’r gwaith yn llywio'r cam nesaf, boed hynny'n golygu graddio, profi pellach, neu rannu dysgu, gan gynnwys gwersi o ddulliau aflwyddiannus.

Dylai ymgeiswyr hefyd ystyried sut gall partneriaethau, adnoddau a gwerthuso helpu i wreiddio'r canlyniadau ym mholisïau, gweithdrefnau a mesurau perfformiad y sefydliad y tu hwnt i oes y grant. Drwy fonitro ac adborth, yn ystod y cynllun peilot, bydd yn llywio dysgu ac yn siapio dulliau gweithredu yn y dyfodol, gan sicrhau bod cynhwysiant digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd. Mae'r dull hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd manteision y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd ohono yn parhau i gael effaith ymhell ar ôl i'r cyfnod cyllido ddod i ben.

Cwestiwn 6: cydweithio

Bydd angen i ymgeiswyr ystyried a nodi lle gall ymgysylltu â sefydliadau a rhanddeiliaid eraill i archwilio cyfleoedd i gydweithio, ychwanegu budd at yr arloesi. Dylai hyn gynnwys ystyried y sefydliadau hynny sydd eisoes yn gweithio yn yr un lle, rhannu dysgu, ac ystyried sut gall gwasanaethau neu weithgareddau ategu ei gilydd yn hytrach na dyblygu ymdrechion. Mae cydweithio effeithiol yn helpu i sicrhau'r effaith fwyaf posibl, cronni adnoddau a sicrhau bod pobl yn elwa o gymorth cydgysylltiedig.

Mae dangos hyn yn y cais yn bwysig. Dylai ymgeiswyr esbonio'n glir â phwy maen nhw wedi siarad, pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal a sut mae hyn wedi dylanwadu ar ddyluniad y prosiect. Mae hyn yn dangos eu bod wedi ystyried y dirwedd leol ac wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i gryfhau canlyniadau ac osgoi gorgyffwrdd diangen.

Er nad yw'r angen i gydweithio'n flaenorol yn un o ofynion y grant, dylid cynnwys cydweithio yn null gweithredu'r prosiect ei hun. Gallai hyn gynnwys modelau darparu ar y cyd, gweithgareddau wedi'u cyd-ddylunio gyda phartneriaid, neu fecanweithiau ar gyfer cyfathrebu a dysgu parhaus. Drwy wreiddio arferion cydweithredol, gall sefydliadau ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol, cynaliadwy a chynhwysol, gan sicrhau bod y prosiect yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr ecosystem ehangach o gynhwysiant digidol a chymorth iechyd a gofal.

Cwestiwn 7: Strategaeth Ddigidol i Gymru a'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol

Ar gyfer yr adran hon o'r cais, byddem yn disgwyl i chi nodi sut mae eich gweithgaredd arfaethedig yn cefnogi Strategaeth Ddigidol Cymru (Mawrth 2021), ac yn cyd-fynd â'r gwaith ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS) a'n huchelgais i gefnogi pobl i ddiwallu'r anghenion sylfaenol, a ddiffinnir gan bobl a sefydliadau, ar gyfer yr hyn y mae'n ei olygu i gael eu cynnwys yn ddigidol yn ein cymdeithas bresennol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at fand eang digonol a dibynadwy, mynediad at ddyfeisiau priodol a sgiliau digidol sylfaenol i ddefnyddio'r dechnoleg yn ddiogel ac yn hyderus. Dylai ymgeiswyr ystyried sut mae strategaethau a pholisïau ehangach eich sefydliad yn cefnogi'r uchelgais hwn, gan sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel, yn hyderus ac wedi'u grymuso i ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol, os byddant yn dewis gwneud hynny.

Ar gyfer cyllid Arloesi, dylai hyn ystyried sut gallai defnydd ehangach o dechnoleg gefnogi rhywun ymhellach, er enghraifft, i fyw'n annibynnol, ochr yn ochr â’r safon ofynnol o gael dyfais, cysylltedd a'r sgiliau digidol sylfaenol.

“Mae safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn fwy na dim ond cael rhyngrwyd hygyrch, offer digonol, a'r sgiliau, yr wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl. Mae'n ymwneud â gallu cyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu â chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus.”

Cwestiwn 8: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Wrth ddatblygu neu gyflawni prosiectau cynhwysiant digidol, mae'n hanfodol ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n nodi 7 nod llesiant a phum ffordd o weithio i helpu cyrff cyhoeddus i feddwl yn y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau, ac atal problemau cyn iddynt godi. Mae cysoni gwaith cynhwysiant digidol â'r egwyddorion hyn yn sicrhau bod y camau a gymerir heddiw yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth a chydlynol; gwlad lle gall pawb gael mynediad at gyfleoedd digidol ac elwa ohonynt. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu dylunio gwasanaethau sy'n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol tymor hir, mynediad cynhwysol at dechnoleg, a seilwaith digidol cynaliadwy (meddwl tymor hir); mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli (atal a chydraddoldeb); cydweithio â phartneriaid fel busnesau a sefydliadau cymunedol (cydweithredu); cynnwys defnyddwyr yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau digidol (cynnwys); a sicrhau bod penderfyniadau'n cyfrannu ar draws nifer o nodau llesiant yn hytrach na mynd i'r afael â materion ar eu pen eu hunain (integreiddio). Nodwch yn glir sut bydd y prosiect yn gwreiddio'r dulliau hyn, er mwyn sicrhau bod cynhwysiant digidol yn dod yn ffactor allweddol sy’n galluogi llesiant a thegwch ehangach ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Cwestiwn 9: Y Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod cyd-destun cyfreithiol newydd i'r Gymraeg. Mae'r Mesur yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ac mae hyn yn ymestyn i'r ffordd y dyfernir grantiau. Bydd gofyn i chi sicrhau bod y gwasanaethau rydych chi’n ceisio cael cyllid ar eu cyfer yn darparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.

Y broses ymgeisio

Derbynnir ceisiadau ar ffurf dogfen a gyflwynir drwy e-bost i digitalinclusionmailbox@llyw.cymru neu drwy'r ffurflen ar-lein neu drwy'r post. Mae ffurflenni ar wahân yn dibynnu ar p'un a ydych yn ceisio cyllid ar gyfer Craidd (3 blynedd) neu Arloesi (hyd at 12 mis).

Os ydych chi'n dymuno gwneud cais drwy'r post, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei anfon at: Cangen Cynhwysiant Digidol, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Rhaid cyflwyno pob cais yn llawn erbyn 4pm ddydd Llun 9 Chwefror 2026. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno unrhyw beth ar ôl yr amser hwn.

Os oes angen cymorth ar ymgeiswyr gyda'r cais, mae Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cynhwysiant Digidol Cymru ar gael i'w helpu. Gallwch gysylltu â gwasanaeth Cynhwysiant Digidol Cymru drwy e-bostio: digitalinclusionwales@cwmpas.coop.

Gellir anfon ymholiadau ynghylch ffurflen gais y Grant Craidd neu'r Grant Arloesi neu'r nodyn cyfarwyddyd hwn drwy e-bost i digitalinclusionmailbox@llyw.cymru.

Arfarnu, hysbysu am ganlyniadau ac adborth

Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel o swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn erbyn y meini prawf pwysoli a amlinellir yn y Cais am y Grant Craidd a’r Grant Arloesi. Pan fydd elfennau o weithgarwch ar draws portffolios, er enghraifft, tai cymdeithasol, bydd y Gangen Cynhwysiant Digidol yn gofyn am gyngor polisi gan arweinwyr priodol Llywodraeth Cymru fel rhan o'r asesiad.

Ni fydd cyflawni'r sgôr isaf ar gyfer ceisiadau yn gwarantu y dyfernir grant. Efallai na fydd digon o gyllid i ariannu pob prosiect sy'n bodloni'r meini prawf. Os cyflwynir mwy o brosiectau cymwys na'r cyllid sydd ar gael, bydd y rhai sy'n cyrraedd y trothwy sgorio uchaf yn cael eu hariannu.

Bydd pobl yn cael eu hysbysu am y canlyniadau drwy e-bost i ddechrau a bydd llythyr cynnig electronig neu lythyr aflwyddiannus yn dilyn. Disgwylir i'r gweithgaredd ddechrau o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Bydd yn rhaid llofnodi a dychwelyd pob llythyr cynnig grant erbyn y dyddiad cau a nodir yn y llythyr neu bydd y cynnig grant yn cael ei dynnu'n ôl.

Bydd adborth ar geisiadau aflwyddiannus ar gael ar gais. 

Diogelu data

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Mae pob cais am grant yn ddarostyngedig i'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion am sut mae data personol yn cael ei gasglu, ei brosesu a'i ddiogelu, gan gynnwys hawliau ymgeiswyr a'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio data.

Ni fyddwn yn newid y ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, ond bydd yr hysbysiad yn rhoi manylion ychwanegol i chi fel:

  • Eich hawliau cynyddol mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gennym amdanoch
  • Y sail gyfreithiol dros sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau yn berthnasol i unrhyw grantiau neu gyllid a ddarparwn i chi.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau yn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â chyfraith a rheoliadau preifatrwydd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â ni: dataprotectionofficer@llyw.cymru.

Gwybodaeth ychwanegol

Er mwyn helpu i gyflawni eich gweithgaredd, mae Atodiad A ac Atodiad B yn darparu adnoddau ymarferol sy'n cyd-fynd â'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Mae hyn yn cynnwys helpu i nodi bylchau yn nifer y bobl sy'n cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol a rhestr o'r mathau o ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu bod yn addas i helpu i fodloni'r safon ofynnol.

Adran ariannol

Bydd angen i geisiadau nodi rhagolygon chwarterol ar gyfer naill ai Arloesi (hyd at 12 mis) neu Graidd (3 blynedd) gyda llinell glir ar gyfer refeniw a chyfalaf. Dylid hefyd ystyried fel rhan o'r cais a fyddai angen unrhyw elfen o'r cyllid fel taliad ymlaen llaw y byddai angen ei ddangos.

Ar gyfer y Grant Craidd, ni ddylid ystyried mai diben y cyllid yw ariannu swydd staffio benodol yn unig. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd rhai enghreifftiau lle mae angen hyn i ddiwallu'r angen. Bydd angen nodi hyn yn glir yn yr angen lleol gyda chysylltiad clir ag adran Gwaddol y Prosiect. Bydd ystyried sut bydd y swydd a'r gweithgaredd yn cael eu gwreiddio neu'n parhau y tu hwnt i'r cyllid 3 blynedd yn elfen hanfodol.

Er nad oes disgwyl i gyllid gael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau busnes craidd, gellir gwneud eithriadau lle nodir bod angen defnyddio amser staff i ddarparu a chefnogi pobl ar sail yr angen lleol. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys yr angen i archebu, darparu a gosod dyfais fel rhan o’r gwaith o gyflawni'r prosiect.

Byddai cyllid y Grant Craidd yn gymwys, ar ôl ei ddyfarnu, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2029 (3 blynedd).

Byddai'r Cyllid Arloesi, yn dibynnu ar y cais, yn gymwys ar ôl ei ddyfarnu, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027 (hyd at 12 mis).  Bydd ar gael ar gyfer pob un o 3 blynedd cyllid Grant Cynhwysiant Digidol Cymru.

Rhaid i'r cyllid fod yn gysylltiedig â chyflwyno gweithgareddau penodol, fel yr amlinellir uchod. Mae angen i'r amserlen ar gyfer cyflawni canlyniadau'r cynllun peilot gyd-fynd â'r amserlen gyllido. Dylai'r ymgeisydd fod yn glir nad oes unrhyw gyllid pellach y tu hwnt i'r amserlenni a amlinellir ar gyfer Arloesi a Chraidd a bydd angen nodi'n glir yn yr adran Prawf Cysyniad sut bydd hyn yn cael ei ystyried a'i drin.

Gwariant anghymwys

  • Cyfraniad tuag at gostau dileu swyddi.
  • Costau rheoli.
  • Costau rhedeg y sefydliad.

Cydweithio a'r prif sefydliad

At ddibenion y grant hwn, diffinnir cydweithio fel 2 ddarparwr cyflenwi neu fwy yn ymrwymo i bartneriaeth y cytunwyd arni i gyflawni prosiect penodol ar y cyd â gweithgareddau cysylltiedig.

Y prif sefydliad yw'r sefydliad a nodir yn y cytundeb partneriaeth. Bydd y prif sefydliad yn gyfrifol am hawlio a dosbarthu arian grant o fewn y bartneriaeth yn unol â thelerau'r cytundeb partneriaeth.

Bydd angen i chi ddatblygu cytundeb partneriaeth/cydweithio y mae pob parti wedi ymrwymo iddo cyn cyflwyno cais a rhoi cadarnhad bod hyn ar waith.

Ni fydd prosiectau cydweithredol yn cael blaenoriaeth dros brosiect unigol ac ni fyddant yn sgorio’n uwch. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant ei hun.