Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y grantiau a ddyfernir o dan gynllun grant Cynhwysiant Digidol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Arloesi (1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027)

Accessibility Powys

Bydd y prosiect hwn yn profi a all cysylltedd lloeren cludadwy helpu trigolion anabl yng nghefn gwlad Powys i gyrraedd y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Fel sefydliad pobl anabl sy'n darparu allgymorth ar gyfer pob math o anabledd ledled y sir, byddwn yn defnyddio technoleg lloeren i ddod â mynediad digidol amser real i gartrefi heb fand eang, heb signal symudol a heb fodd i deithio. Gan gydweithio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys, byddwn yn cefnogi preswylwyr i brofi offer ar-lein sy'n ymwneud ag iechyd, budd-daliadau a chyfathrebu, magu hyder, ac asesu a all allgymorth wedi'i alluogi gan loeren ddarparu llwybr hyfyw i fywyd digidol sylfaenol, diogel a chynhwysol. (Powys)

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae'r prosiect hwn yn defnyddio diogelu rhag cwympo fel pwynt mynediad dibynadwy ac ysgogol i helpu pobl hŷn sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i ymgysylltu â thechnoleg glyfar syml. Bydd unigolion yn gallu benthyg pecyn technoleg clyfar i'w hatal rhag cwympo a derbyn cymorth digidol ymarferol i godi hyder, meithrin sgiliau a dilyn arferion mwy diogel yn y cartref. Trwy gysylltu offer digidol â'r hyn sy'n bwysicaf, sef teimlo'n ddiogel gartref a chynnal lles, mae'r prosiect yn creu llwybr naturiol i gynhwysiant digidol ehangach, tra hefyd yn archwilio a all technoleg glyfar gyfrannu at leihau'r risg o gwympo. (Castell-nedd Port Talbot)

MAD Abertawe

Mae Immersive Youth Work Spaces yn gynllun peilot arloesi cyfnod alffa sy'n defnyddio VR/AR/XR i greu mannau gwaith ieuenctid rhithwir diogel ar gyfer pobl ifanc sydd ar gyrion y gymdeithas yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos. Bydd y prosiect yn profi sut y gall technoleg trochi wella sgiliau digidol, hyder, lles a chysylltiad i bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at ddarpariaeth wyneb yn wyneb, wrth ategu gwaith ieuenctid presennol. Wedi'i gyd-gynllunio gyda phobl ifanc, bydd y cynllun peilot yn cynhyrchu dysgu ymarferol, canllawiau diogelu digidol ac adnoddau ar gyfer y sector gwaith ieuenctid ehangach yng Nghymru, gan gefnogi strategaethau cynhwysiant digidol a gwaith ieuenctid cenedlaethol. (Abertawe)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bydd Cynllun Peilot Mynediad Iechyd Digidol yn profi dull arloesol, integredig o leihau allgáu digidol, ac yn cryfhau llythrennedd iechyd digidol i gleifion gan ddefnyddio Ap GIG Cymru, Patient Knows Best (PKB), Health Apps Library a BadgerNet Maternity ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae'r cynllun peilot yn cyfuno talebau dyfeisiau wedi'u hadnewyddu, cymorth cysylltedd (SIM data, canllawiau tariffau cymdeithasol), adnoddau llythrennedd iechyd digidol dwyieithog (fideos, canllawiau, e-ddysgu) model Hyfforddi'r Hyfforddwr ar gyfer partneriaid cymunedol a rhwydweithiau staff mewnol. Gan weithio gyda Rheolwyr Rhaglenni a'r Grŵp Llywio Cynhwysiant Digidol Rhanbarthol, mae'r prawf cysyniad Alpha hwn yn mynd i'r afael â rhwystrau sgiliau, hyder, mynediad i ddyfeisiau, cysylltedd a llythrennedd iechyd. (Sir Gaerfyrddin) 

Innovate Trust

Profi a yw technoleg gynorthwyol hygyrch, sy'n cyfateb i anghenion asesedig, yn gallu gwella sgiliau digidol, diogelwch ac annibyniaeth oedolion ag anableddau neu amhariadau corfforol a synhwyraidd sy'n byw â chymorth,yn eu cartref ac wrth gael mynediad i'r gymuned i gwrdd â'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Bydd 10 o gyfranogwyr yn derbyn naill ai watshys clyfar CPR Guardian (dyfais wedi'i chynllunio gan Abertawe gyda chyfathrebu 4G, olrhain GPS, a monitro iechyd) neu ffonau clyfar symlach Doro (rhyngwyneb hygyrch ar gyfer ymgysylltu digidol a rheoli cartref  yn glyfar), yn seiliedig ar asesiad unigol. Mae cam cyntaf hwn  yn profi effeithiolrwydd dyfaisiadau, cywirdeb asesu, a defnydd parhaus dros 12 mis. (Caerdydd)

Craidd (1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2029)

Coleg Castell-nedd Port Talbot

Mae'r prosiect hwn yn darparu rhaglen cynhwysiant digidol a lles digidol wedi'i thargedu ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'u rhieni/gofalwyr sy'n cefnogi eu dysgu. Bydd y rhaglen yn rhagweithiol yn meithrin hyder digidol, annibyniaeth a sgiliau diogelwch ar-lein, gan fynd i'r afael â rhwystrau hysbys sy'n wynebu pobl yn ystod cynfod pontio allweddol i addysg bellach. Mae'n rhaglen sydd wedi'i chyflwyno ar y cyd ar draws timau addysgu, cymorth i ddysgwyr a Gwasanaethau Llyfrgelloedd, ac yn cael ei chefnogi gan bartneriaeth â'r NSPCC, gan ddarparu canllawiau diogelu digidol arbenigol ac adnoddau diogelwch ar-lein sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol. Bydd y prosiect yn darparu cymorth hygyrch, dwyieithog sy'n ategu'r ddarpariaeth bresennol, yn lleihau achosion o allgáu digidol, yn hyrwyddo tegwch, ac yn ymgorffori lles digidol cynaliadwy. (Castell-nedd Port Talbot)

Foothold Cymru

Bydd Digital Lifelines for Llanelli yn mynd i'r afael ag allgáudigidol difrifol yn wardiau Tyisha, Bigyn a Glanymor, lle mae tlodi, iechyd gwael a hyder digidol isel yn cyfyngu ar fynediad at wasanaethau a chyfleoedd hanfodol. Gan adeiladu ar brosiectau bwyd, mannau cynnes a phrosiectau cymunedol dibynadwy Foothold Cymru, bydd y prosiect yn cynnig gweithdai allgymorth, cymorth un-i-un, dyfeisiau wedi'u hadnewyddu a chysylltedd, a fydd oll yn cyd yn cyd-fynd â'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Bydd Hyrwyddwyr Digidol Lleol sydd â phrofiad bywyd yn cyd-ddarparu cefnogaeth, yn ymgorffori cynhwysiant digidol mewn gwasanaethau bob dydd ac yn cryfhau partneriaethau, gan greu model cynaliadwy sy'n parhau ar ôl i'r cyllid grant craidd tair blynedd ddod i ben. (Sir Gaerfyrddin)

Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd

Mae'r prosiect hwn yn cryfhau cynhwysiant digidol ar gyfer cymunedau mudol ac economaidd ddifreintiedig yn Abertawe drwy Hyb Digidol dibynadwy, dan arweiniad y gymuned. Yn brosiect a gyflwynir o Hyb Menter Cymunedol y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd, bydd y prosiect yn darparu mynediad at ddyfeisiau, cysylltedd a sgiliau digidol hanfodol, ochr yn ochr â meithrin hyder a chymorth diogelwch ar-lein.

Bydd cynhwysiant digidol yn cael ei ymgorffori o fewn gwasanaethau cyflogadwyedd, lles a chyngor, gan sicrhau bod pobl yn gallu cyfathrebu, cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, ac ymgysylltu â chyfleoedd yn ddiogel ac yn annibynnol. Mae'r prosiect yn cefnogi'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol ac yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal, gwydn a chysylltiedig. (Abertawe)

Mental Health Matters Wales

Mae prosiect Hyrwyddwyr Llesiant Digidol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a Threorci yn brosiect cynhwysiant digidol tair blynedd sy'n seiliedig ar leoliadau a ddarperir ar draws ôl troed digidol Cwm Taf Morgannwg, o dan arweiniad Mental Health Matters Wales mewn partneriaeth â Cwmpas. Bydd Cydlynydd Rhaglen penodol (18.5 awr yr wythnos) yn rheoli'r gwaith cyflenwi drwy ganolfannau cymunedol ac allgymorth, gan ymgorffori Hyrwyddwyr Llesiant Digidol sydd wedi eu hyfforddi i gefnogi pobl sy'n cael y profiad o fod wedi eu hallgáu digidol. Mae'r prosiect yn cyfuno cymorth wyneb yn wyneb, sgiliau digidol ymarferol, mynediad at ddyfeisiau a chysylltedd, a meithrin hyder yn unol â'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol.  Dros gyfnod o 3 blynedd, bydd 12 Hyrwyddwr Cymunedol Digidol Gwirfoddol yn cael eu datblygu, gan greu gweithlu cymorth digidol lleol a fydd yn gynaliadwy y tu hwnt i gyfnod y grant. (Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf)

Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful

Bydd Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful yn darparu cymorth cynhwysiant digidol wedi'i dargedu i drigolion ledled Merthyr Tudful sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol

oherwydd oedran, anabledd, cyflyrau iechyd, cyfrifoldebau gofalu neu incwm isel. Trwy gymorth un-i-un, gweithdai grwpiau bach a darpariaeth yn y gymuned, bydd y prosiect yn helpu pobl i gael mynediad at ddyfeisiau a chysylltedd priodol, meithrin sgiliau digidol hanfodol, a defnyddio gwasanaethau ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus. Bydd y gefnogaeth yn canolbwyntio ar dasgau bob dydd fel anfon e-bost, llenwi ffurflenni ar-lein, gwasanaethau iechyd, bancio, siopa a galwadau fideo i leihau'r profiad ynysig. Mae'r prosiect hwn, sydd wedi ei ymgorffori o fewn gwasanaethau cyngor, iechyd a bancio, yn brosiect a fydd yn gwella mynediad at wasanaethau hanfodol, yn cryfhau annibyniaeth ac yn cyfrannu at gyrraedd safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol . (Merthyr Tudful)

Adnodd CBC Sir Ddinbych

Bydd Adnodd CBC yn darparu gwasanaeth cynhwysiant digidol pwrpasol dan arweiniad Arweinydd Digidol am 20 awr yr wythnos a fydd yn cydlynu cymorth personol i bawb, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol fwyaf gan gynnwys pobl anabl a niwroamrywiol. Bydd y prosiect yn mynd y tu hwnt i gymorth ar ddyfeisiau sylfaenol trwy gynnig dysgu digidol sy'n meithrin hyder, technolegau creadigol, a sgiliau digidol gwyrdd, gyda chefnogaeth staff a gwirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi yn Hyrwyddwr Cymunedol Digidol. Bydd cyllid cyfalaf yn darparu iPads, gliniaduron ac unedau WiFi, gan alluogi pobl sydd heb ddyfeisiau na band eang i fynd ar-lein. Bydd buddsoddiad mewn technoleg greadigol uwch yn cynyddu diddordeb ac yn cefnogi cynnydd. (Sir Ddinbych) 

Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru

Bydd y prosiect hwn yn sefydlu Hwb Iechyd dwyieithog Gwybodaeth am Ymgysylltu a Lles Digidol  ar gyfer cleifion â lymffoedema (chwyddo hirdymor) ym Mharc Iechyd Keir Hardie. Bydd staff wedi'u hyfforddi yn

cynnig cefnogaeth ddigidol strwythuredig, wyneb yn wyneb i wella'r hyder, sgiliau a mynediad digidol i bobl o gymunedau difreintiedig fel rhan o fenter aros yn iach. Bydd cleifion yn cael  cefnogaeth i gwblhau eu hasesiad iechyd digidol (fel rhan o'r gofal arferol) ac yn cael eu cefnogi i ddefnyddio ap GIG Cymru i gefnogi hunanreolaeth. Gyda'i gilydd bydd hyn yn lleihau rhwystrau digidol, yn cefnogi hunanofal,

yn gwella ymgysylltu â gwasanaeth ac ymgorffori cynhwysiant digidol cynaliadwy o fewn gofal lymffoedema arferol. (Merthyr Tudful)

Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd y prosiect hwn yn darparu rhaglen cynhwysiant digidol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ymateb i fylchau lleol mewn cysylltedd, mynediad at ddyfeisiau, sgiliau digidol a diogelwch ar-lein, sy'n effeithio yn arbennig ar oedolion hŷn, aelwydydd incwm isel a chymunedau ynysig. Trwy ddarparu yn y gymuned, bydd preswylwyr yn cael cymorth ymarferol gyda mynediad fforddiadwy i'r rhyngrwyd, dyfeisiau, sgiliau digidol hanfodol a defnydd diogel o wasanaethau ar-lein. Bydd y prosiect yn ymgorffori cynhwysiant digidol mewn ymarfer sefydliadol, yn datblygu hyrwyddwyr digidol yn staff ac yn bartneriaid, ac yn cryfhau capasiti lleol i ddarparu cymorth cynaliadwy, dwyieithog sy'n parhau y tu hwnt i'r cyfnod ariannu. (Pen-y-bont ar Ogwr)

Eileen

Bydd prosiect Llwybr Digidol Eileen yn darparu cymorth cynhwysiant digidol yn seiliedig ar leoedd trwy Swyddfa Bost a siop gymunedol Eileen ym Mhont Myrddin, Hwlffordd. Wrth i fanciau lleol a gwasanaethau wyneb yn wyneb gau, mae Eileen wedi dod yn bwynt mynediad allweddol i drigolion sydd wedi'u hallgáu ddigidol. Bydd y prosiect yn hyfforddi staff rheng flaen fel Hyrwyddwyr Digidol i ddarparu cymorth un i un dibynadwy, dwyieithog i helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau ar-lein hanfodol yn ddiogel ac yn hyderus. Bydd yn cefnogi mynediad at ddyfeisiau a sgiliau digidol sylfaenol lle bo angen, yn defnyddio mapio digidol i gysylltu pobl â mannau gwyrdd lleol, ac yn ymgorffori arferion digidol cynaliadwy i ddiogelu'r ganolfan gymunedol hanfodol hon. (Sir Benfro)