Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

I wneud cais am y Grant Darparwyr Gofal Plant, rhaid darparu data personol. Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli’r data personol a ddarparwch, a byddwn yn ei brosesu yn unol â’n gorchwyl gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd gennym. Mewn perthynas â’r cynllun penodol hwn, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithredu fel proseswyr data ar ran Llywodraeth Cymru. Byddant yn defnyddio’r data i asesu p’un a ydych yn gymwys i gael cyllid. 

Cyn y gall roi cyllid grant ichi, bydd eich awdurdod lleol yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio eich hunaniaeth. Er mwyn gwneud y gwiriadau hyn, mae’n rhaid prosesu data personol amdanoch ochr yn ochr ag asiantaethau atal twyll trydydd parti. Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll neu’r awdurdod lleol, yn dod i’r casgliad eich bod yn risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod roi’r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu gallwn roi’r gorau i ddarparu cyllid grant rydych eisoes yn ei gael.

Bydd yr asiantaethau atal twyll a/neu’r awdurdod lleol yn cadw cofnod o unrhyw risg o ran twyll neu wyngalchu arian, a gallai hynny yn ei dro olygu bod eraill yn gwrthod gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Caiff rhywfaint o’ch data ei brosesu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru:

  • er mwyn mesur i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu gwasanaethau i chi ac i’r sector gofal plant ehangach yng Nghymru
  • er mwyn hwyluso gwelliannau i’r gwasanaethau hyn
  • er mwyn dyrannu arian i awdurdodau lleol ac eraill
  • er mwyn hwyluso gwaith ymchwil ehangach i’r gwasanaethau neu’r cyllid a ddarperir i chi ac i’r sector gofal plant ehangach yng Nghymru
  • er mwyn cysylltu data’r ffurflen hon â ffynonellau data eraill at ddiben gwerthuso effaith y cyllid ar y busnesau sy’n ei gael

Cofnodir y data a gesglir ar fformat dienw pan gaiff ei ddefnyddio mewn adroddiadau ystadegol neu ymchwil. Ni fydd unrhyw adroddiadau yn cynnwys eich manylion cyswllt nac unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion. Caiff data cyfanredol hefyd ei osod ar wefan data StatsCymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i werthuso llwyddiant y grant hwn, a chaiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym i ddadansoddi cyrhaeddiad ac effaith y grant a roddir i fusnesau yng Nghymru. Mae’n bosibl y caiff y gwaith ymchwil hwn ei wneud drwy gontract trydydd parti. Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon, megis awdurdodau lleol a Busnes Cymru y Llywodraeth, er mwyn darparu cymorth cyson, neu gyfleoedd pellach a allai fod o fudd ichi.

Caiff y Grant Darparwyr Gofal Plant ei werthuso i asesu perfformiad y cynllun ac i helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu’r polisi mewn perthynas â chefnogi’r sector. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu gwerthusiad o’r Grant Darparwyr Gofal Plant, mae’n bosibl y bydd trydydd parti achrededig yn gwneud y gwaith (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) neu caiff staff dadansoddi o fewn Llywodraeth Cymru ymgymryd ag ef, ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cysylltu â chi. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir ag unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion pendant ynghylch prosesu a diogelu data personol.

Mae cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn yn fater gwirfoddol. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, a chithau’n fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil sy’n ymwneud â’r Grant Darparwyr Gofal Plant, cewch Hysbysiad Preifatrwydd arall yn amlinellu sut caiff gwybodaeth a ddaw i law drwy’r gwaith ymchwil ei chasglu, ei chadw a’i defnyddio. Ni chewch eich adnabod ar sail unrhyw adroddiad.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol? 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisi mewn perthynas â grantiau am 7 mlynedd. Fodd bynnag, gan fod y cyllid yn cael ei ddyfarnu ar sail De Minimis*, caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw am 10 mlynedd. Os byddwch yn aflwyddiannus, caiff eich manylion eu cadw am ddwy flynedd ar ôl ichi eu darparu.

Eich hawliau

O dan Reoliad GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol:

  • cael gweld copi o’ch data eich hun
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar ei brosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • gofyn am i’ch data gael ei ddileu (mewn amgylchiadau penodol), a
  • cwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol o ran diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych fwy o gwestiynau ynghylch sut y caiff eich data ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Tîm y Cynnig Gofal Plant
CP2, Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: trafodgofalplant@llyw.cymru 

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: 

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Nodyn esboniadol:

Mae cymorth De Minimis yn cyfeirio at symiau bychain o gymorth gwladwriaethol at fentrau (cwmnïau i bob pwrpas) nad oes rhaid i wledydd yr UE roi gwybod i’r Comisiwn Ewropeaidd amdanynt. Yr uchafswm yw EUR 200 000 ar gyfer pob menter dros gyfnod o 3 blynedd. Mae’r rheoliad De Minimis yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gadw cofnodion o bob cymorth De Minimis a delir am 10 mlynedd wedi’r taliad diwethaf. Rhaid i’r sawl sy’n ei dderbyn gadw cofnodion o’r cymorth De Minimis am 3 blynedd. Rhaid cadw cofnodion hefyd i ddangos bod pob amod o’r rheoliad De Minimis wedi’u bodloni. Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1407/2013 18 Rhagfyr 2013 ynghylch rhoi ar waith Erthyglau 107 a 108 o Gytuniad y CE i gymorth De Minimis (Rheoliad De Minimis)