Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddyrannu a'i ddefnyddio i helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn gyllid a roddir i ysgolion a lleoliadau addysgol (lleoliadau). Mae'r lleoliadau'n cynnwys meithrinfeydd, unedau cyfeirio disgyblion, a tiwtora gartref

Nod cyllid y Grant Datblygu Disgyblion yw codi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel. Mae'n gwneud hyn drwy leihau'r rhwystrau y maent yn aml yn eu hwynebu i gyflawni eu potensial llawn. Caiff ei roi hefyd ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal neu sy'n derbyn gofal. Mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn adnodd allweddol ar gyfer gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o safonau a dyheadau uchel i bawb.

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddarparu i ysgolion a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 15 oed. Dylai'r defnydd o'r grant ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:

  • dysgu ac addysgu o ansawdd uchel
  • Ysgolion Bro
  • addysg a gofal plentyndod cynnar
  • dyheadau uchel a gefnogir gan gydberthnasau cryf
  • iechyd a lles
  • arweinyddiaeth
  • Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau
  • cefnogi dilyniant ôl-16

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn rhoi cefnogaeth debyg i blant 3 a 4 oed mewn ysgolion a meithrinfeydd. Mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi:

  • lles emosiynol a chymdeithasol
  • datblygiad corfforol
  • lleferydd, iaith a chyfathrebu

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, lleoliadau, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol. Gyda'n gilydd, rydym yn ceisio canfod lle gall cyllid gael y budd mwyaf wrth i ni adfer o'r pandemig COVID-19 ac yn sgil heriau o ran costau byw.

Sut mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddyrannu

Mae swm y Grant Datblygu Disgyblion a’r Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar a roddir i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau yn seiliedig ar y canlynol:

  • nifer y plant a phobl ifanc 5 i 15 oed mewn ysgol neu leoliad (er enghraifft addysg heblaw yn yr ysgol neu uned cyfeirio disgyblion) sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar y data cyfrifiad ysgolion diweddaraf (CYBLD)
  • nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, ar sail y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal
  • nifer y plant rhwng 3 a 4 oed mewn ysgol neu leoliad nas cynhelir (er enghraifft meithrinfeydd) sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar y data CYBLD diweddaraf

Caiff cyllid ei cael ei roi ar sail blwyddyn ariannol, yn seiliedig ar nifer y plant a phobl ifanc cymwys. Mae’n seiliedig ar y meini prawf uchod, nid gallu academaidd.

Sut y defnyddir y Grant Datblygu Disgyblion

Ysgolion a lleoliadau

Mae ysgolion a lleoliadau'n defnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer 'dulliau ysgol gyfan’. Gall y dulliau hyn fod o fudd i'w holl blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt gefnogi anghenion dysgwyr cymwys yn sgil yr anfantais sy'n eu hwynebu. Gall y dulliau gynnwys:

  • dysgu proffesiynol i athrawon
  • ymyriadau dysgu ac addysgu wedi'u teilwra

Gall arweinwyr ysgolion benderfynu sut i wario eu cyllid. Ond dylent sicrhau eu bod yn ei gynllunio a'i wario yn unol â thelerau ac amodau'r grant.

Dylai gwariant y Grant Datblygu Disgyblion ganolbwyntio'n arbennig ar:

  • ddarparu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel
  • datblygu Ysgolion Bro

Dylai gwariant Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar ganolbwyntio’n benodol ar bwysigrwydd:

  • lles emosiynol a chymdeithasol
  • datblygiad corfforol
  • lleferydd, iaith a chyfathrebu

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer arweinwyr ysgol ar gael yn ein canllawiau ar ddefnyddio'r grant datblygu disgyblion.

Consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol

Mae’r consortia addysg ranbarthol ac awdurdodau lleol yn cael ychydig o gyllid y Grant Datblygu Disgyblion. Defnyddir y cyllid hwn i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau pellach i ysgolion a lleoliadau ar gyfer eu defnydd o’r Grant Datblygu Disgyblion.

Mae’r consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn defnyddio'u cyllid ar gyfer:

  • darparu cefnogaeth bellach i ysgolion a lleoliadau unigol
  • gweithgarwch ar lefel rhanbarthol neu glwstwr (er enghraifft, dysgu proffesiynol i athrawon)

Maent hefyd yn rheoli cyllid y Grant Datblygu Disgyblion sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol a chlystyrau o ysgolion a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Cyfeirir at hyn fel y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal.

Yn seiliedig ar anghenion lleol, gall consortia addysg ranbarthol ac awdurdodau lleol ddewis:

  • basio’r holl arian ymlaen i ysgolion a chlystyrau
  • cadw ychydig o'r arian ar gyfer gweithgareddau a fydd o fudd i grŵp o blant a phobl ifanc yr awdurdod lleol sydd â phrofiad o ofal neu’r holl blant hyn
  • cadw rhannau o'r cyllid i gyflogi Cydlynwyr Rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal

Mae'r consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn gweithio gydag ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod y cyllid yn helpu i gyflawni'r canlyniadau yng nghynlluniau addysg bersonol plant a phobl ifanc.

Mae’r awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am ddyrannu cyllid y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Mae'r rôl hon yn cynnwys:

  • ymgysylltu â lleoliadau gofal plant sy'n darparu addysg feithrin a ariennir (er enghraifft Cylch Meithrin neu feithrinfeydd dydd)
  • ymgysylltu â lleoliadau eraill (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol)

Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod pawb sy'n derbyn cyllid yn deall telerau ac amodau'r Grant Datblygu Disgyblion. Mae hyn yn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei wario ar fentrau neu gefnogaeth a gefnogir gan dystiolaeth i blant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Cynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion a Chydgysylltwyr Rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal

Mae gan Cynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion a Chydgysylltwyr Rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal gyfrifoldeb am y dyraniad o’r Grant sy’n cael ei arwain gan y consortia.

Dylai Cynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion ddarparu her gadarn, adeiladol a chefnogaeth o ansawdd uchel i alluogi arweinwyr ysgolion a lleoliadau, yn ogystal â chyrff llywodraethu, i wella deilliannau plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel yn ogystal â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Nod y dull hwn yw:

  • cryfhau trefniadau arwain rhanbarthol
  • sicrhau mwy o gysondeb cenedlaethol wrth gefnogi plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • cefnogi ein gallu i gasglu tystiolaeth o effaith

Cyfraddau cyllid ar gyfer 2023 i 2024

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion a’r Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar ar gael i ysgolion a lleoliadau, ar gyfradd o £1,150 y plentyn, ar gyfer:

  • plant a phobl ifanc rhwng 5 a 15 oed mewn blynyddoedd ysgol gorfodol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • plant 3 a 4 oed mewn ysgolion neu leoliadau a ariennir nas cynhelir sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar)
  • plant a phobl ifanc mewn unedau cyfeirio disgyblion neu sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • plant a phobl ifanc rhwng 3 a 15 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal (Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal)

Ceir dadansoddiad o ddyraniadau’r Grant Dysgu Disgyblion ar gyfer pob ysgol neu leoliad ar gyfer 2023 i 2024.