Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyllid a roddir i ysgolion a lleoliadau addysgol (lleoliadau) yw'r Grant Datblygu Disgyblion. Mae'r lleoliadau'n cynnwys meithrinfeydd, unedau cyfeirio disgyblion, a chartrefi sy'n tiwtora.

Nod cyllid y Grant Datblygu Disgyblion, Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar a Grant Datblygu Disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol yw codi lefel cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel. Rhoddir y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal neu blant sy'n derbyn gofal. Mae'r cyllid yn lleihau'r rhwystrau sy'n atal plant yn aml rhag cyflawni eu potensial llawn. 

Mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn adnodd allweddol ar gyfer gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb.

Y Grant Datblygu Disgyblion

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddarparu i ysgolion a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 15 oed. Dylai'r defnydd o'r grant ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:

  • dysgu ac addysgu o ansawdd uchel
  • Ysgolion Bro
  • chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar
  • dyheadau uchel a gefnogir gan gydberthnasau cryf
  • iechyd a lles
  • arweinyddiaeth
  • Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau
  • cefnogi cynnydd ôl-16

Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar 

Mae Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar yn rhoi cefnogaeth debyg i blant 3 a 4 oed mewn ysgolion a meithrinfeydd. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir. Mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi:

  • lles emosiynol a chymdeithasol
  • datblygiad corfforol
  • lleferydd, iaith a chyfathrebu

Y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Bwriad y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yw cefnogi cyrhaeddiad addysgol y canlynol:

  • plant sy'n derbyn gofal
  • plant sydd wedi cael eu mabwysiadu 
  • plant sy'n destun Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag:

  • ysgolion
  • lleoliadau
  • awdurdodau lleol 
  • partneriaethau a chonsortia rhanbarthol

Gyda'n gilydd, rydym yn ceisio canfod lle gall cyllid sicrhau'r budd mwyaf wrth i ni ddod dros bandemig COVID-19, ac yng ngoleuni heriau o ran costau byw.

Sut mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddyrannu

Mae swm y Grant Datblygu Disgyblion, Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar, Grant Datblygu Disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol a'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a roddir i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau yn seiliedig ar y canlynol:

  • nifer y plant a'r bobl ifanc 5 i 15 oed mewn ysgol neu leoliad (er enghraifft addysg heblaw yn yr ysgol neu uned cyfeirio disgyblion) sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ar sail data'r cyfrifiad ysgolion diweddaraf (CYBLD)
  • nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal, ar sail y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal
  • nifer y plant rhwng 3 a 4 oed mewn ysgol neu leoliad nas cynhelir (er enghraifft meithrinfeydd) sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ar sail data'r cyfrifiad ysgolion diweddaraf (CYBLD)

Caiff cyllid ei roi ar sail blwyddyn ariannol, yn seiliedig ar nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n gymwys. Mae'n seiliedig ar y meini prawf uchod, nid gallu academaidd.

Sut mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddosbarthu

Caiff y Grant Datblygu Disgyblion ei dalu'n uniongyrchol i awdurdodau lleol a'i ddosbarthu i ysgolion a lleoliadau. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n agos gyda phartneriaethau a chonsortia rhanbarthol (lle bo hynny'n berthnasol) yn ogystal ag ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod y grant yn cael ei ddefnyddio at ei ddibenion arfaethedig. Rhoddir adroddiad i Lywodraeth Cymru am y gweithgarwch ac effaith y gwariant gan Gynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion (a Chydgysylltwyr Rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal lle bo hynny'n berthnasol) ac awdurdodau lleol.

Sut mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddefnyddio

Ysgolion a lleoliadau

Y Grant Datblygu Disgyblion

Disgwylir i ysgolion a lleoliadau ddefnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion i weithredu ar lefel ysgol neu leoliad cyfan. Gall hyn fod o fudd i'w holl blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r gweithgarwch gefnogi'n benodol anghenion dysgwyr cymwys yng ngoleuni'r anfantais sy'n eu hwynebu. Gall y gweithgarwch gynnwys:

  • dysgu proffesiynol i athrawon
  • ymyriadau dysgu ac addysgu wedi'u teilwra

Gall arweinwyr ysgolion benderfynu sut i wario’r arian y maent yn ei gael drwy gyllid y Grant Datblygu Disgyblion. Ond dylent sicrhau bod eu gwaith cynllunio a'i wariant yn unol â thelerau ac amodau'r grant, gan adlewyrchu'r canllaw i'r Grant Datblygu Disgyblion.

Dylai gwariant y Grant Datblygu Disgyblion ganolbwyntio'n arbennig ar:

  • ddarparu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel
  • datblygu Ysgolion Bro

Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar

Mae'r sylfeini ar gyfer gwneud cynnydd tuag at bedwar diben Cwricwlwm i Gymru yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar. Nod Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar yw darparu cefnogaeth ychwanegol i'n dysgwyr ieuengaf - plant 3 a 4 oed. 

Wrth wario Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar, dylid canolbwyntio'n benodol ar bwysigrwydd:

  • lles emosiynol a chymdeithasol, gan roi gwerth ar ryngweithio a chydberthnasau o ansawdd
  • anghenion corfforol, gan ganolbwyntio ar ddealltwriaeth gref o ddatblygiad plant
  • anghenion dysgu a datblygu, gan roi blaenoriaeth uchel i ddatblygiad iaith

Dylai Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ganolbwyntio ar ddod o hyd i anghenion yn gynnar a gweithredu dulliau effeithiol sy'n cyd-fynd ag addysgeg dysgu sylfaen sy'n cefnogi datblygiad plant. 

Mae addysg feithrin o ansawdd uchel yn hanfodol i ddatblygiad plant. 

Mae cydberthnasau yn allweddol i ddysgwyr ifanc, ac mae cael cyfleoedd da i ryngweithio mewn modd ystyrlon yn hollbwysig. Mae hynny'n golygu bod angen gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o ddatblygiad plant ar yr oedolion sy’n galluogi’r dysgu. Bydd hyn yn cynnwys egwyddorion dysgu seiliedig ar chwarae a sut i gefnogi dysgu a arweinir gan y plentyn. 

Mae Galluogi dysgu yn nodi nodweddion allweddol addysgeg lwyddiannus, â ffocws penodol ar ddysgwyr iau. Mae addysgeg effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y plentyn, sy'n ymatebol, yn ddeinamig ac sy’n deillio o gydberthynas gref ag eraill, yn hanfodol. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos datblygiad iaith plentyn. Mae angen amser ar blant i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando da. Mae profiadau o ansawdd uchel yn hollbwysig er mwyn cefnogi plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Dylai eu hamgylcheddau fod yn llawn cyfathrebu. Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad corfforol, deallusol a chreadigol.

Y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Mae plant sy'n derbyn gofal neu sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn debygol o fod wedi profi anawsterau tebyg yn eu blynyddoedd cynnar. Mae effaith y profiadau negyddol cynnar hynny'n cynyddu'r risg y bydd eu cynnydd addysgol yn cymharu'n anffafriol â chynnydd plant eraill.

Wrth wario'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal, dylid canolbwyntio ar:

  • sicrhau budd anghymesur fwy i blant sy'n derbyn gofal a phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • cyfrannu at ddatblygu ysgolion a lleoliadau cynhwysol sydd wedi ymrwymo i degwch a lles 
  • rhoi cyllid i glystyrau o ysgolion a lleoliadau er mwyn meithrin eu capasiti a darparu ymyriadau sydd wedi'u teilwra - mae angen i'r ddwy elfen hon gyflawni anghenion dysgwyr unigol a bod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgu
  • rhoi'r lle canolog i'r unigolyn er mwyn gwrando ar safbwyntiau'r dysgwr fel sail i gynlluniau ysgolion, lleoliadau a chlystyrau, ynghyd â strategaeth yr awdurdod lleol neu ranbarth

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer arweinwyr ysgolion ar gael yn ein canllawiau ar ddefnyddio'r grant datblygu disgyblion.

Awdurdodau lleol

Disgwylir i awdurdodau lleol sicrhau y bydd cyllid y Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddefnyddio i wella deilliannau plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd â phrofiad o fod  mewn gofal. Y nod yw lleihau'r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad y dysgwyr hyn a'u cyfoedion. 

Y Grant Datblygu Disgyblion

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol basbortio'r Grant Datblygu Disgyblion yn llawn i ysgolion a lleoliadau, fel y nodir ym manylion y dyraniadau lefel ysgol a lleoliad. Mae hefyd yn ofynnol iddynt ddosbarthu unrhyw gyllid ychwanegol yn llawn. Bydd hyn yn lleddfu effaith gostyngiadau yn y Grant yn dilyn ailddilysu data CYBLD 2023, yn unol ag anghenion lleol. Mae hyblygrwydd yn bwysig mewn perthynas â'r elfen hon o'r cyllid er mwyn galluogi'r awdurdod lleol i ymateb i anghenion eu hardal. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i'r gwaith o ddyrannu'r Grant Datblygu Disgyblion gael ei ddatganoli'n llawn i ysgolion a lleoliadau. 

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol hefyd:

  • sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn ymwybodol o'r wybodaeth hon, canllawiau'r Grant Datblygu Disgyblion a thelerau ac amodau perthnasol y Grant 
  • cefnogi ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu â Chynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion wrth gynllunio a gwerthuso gwariant y Grant fel y nodir yn y canllawiau – mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn cyhoeddi eu datganiad ynghylch eu strategaeth mewn perthynas â'r Grant Datblygu Disgyblion ar eu gwefan 
  • parhau i gyllido gweithgarwch Cynghorydd y Grant Datblygu Disgyblion, a Chydgysylltydd Rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (lle bo hynny'n berthnasol), cydweithio â nhw a hwyluso'r gweithgarwch, a rhoi adroddiad i Lywodraeth Cymru ar weithgarwch ysgolion, lleoliadau, yr awdurdod lleol a'r rhanbarth, ynghyd ag effaith gwariant y Grant

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol nodi cynlluniau ac adrodd yn ôl ar gyllid y Grant Datblygu Disgyblion drwy Gynghorwyr y Grant ac mewn ffurflenni safonol. Dylai'r rhain gynnwys pa ysgolion a lleoliadau sydd wedi'u targedu neu sydd wedi elwa o gyllid ychwanegol, a'r rhesymeg y tu ôl i hyn. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y Grant yn cael ei wario ar fentrau neu gefnogaeth a ategir gan dystiolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddosbarthu'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer y blynyddoedd cynnar i ysgolion a lleoliadau. Mae'r rôl hon yn cynnwys:

  • ymgysylltu â lleoliadau gofal plant sy'n darparu addysg feithrin a ariennir (er enghraifft Cylch Meithrin neu feithrinfa ddydd)
  • ymgysylltu ag Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar ac Arweinwyr Dysgu Sylfaen i sicrhau cysondeb a bod y ddarpariaeth yn seiliedig ar ddulliau addysgeg priodol ar gyfer addysg gynnar
  • helpu ysgolion a lleoliadau meithrin nas cynhelir i greu cysylltiadau agosach er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ac arferion yn cael eu rhannu i raddau mwy, ac i gefnogi’r broses bontio i ddysgwyr unigol
  • cefnogi ysgolion a lleoliadau i weithio gydag asiantaethau eraill. Gallai hyn gynnwys cydweithio rhwng lleoliadau ac ysgolion sy'n eu bwydo, a chynnwys lleoliadau yng ngwaith clystyrau ysgolion lle bo hynny'n briodol

Y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

O 2024 i 2025, mae awdurdodau lleol yn derbyn cyllid y Grant Datblygu Disgyblion a roddir i ysgolion a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Dylai awdurdodau lleol ystyried sut y byddant yn defnyddio'r grant yn effeithiol i gynllunio, pennu targedau ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn gofal ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a'u cefnogi.

Disgwylir i awdurdodau lleol sicrhau: 

  • y bydd y cyllid (gan ei fod yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y dysgwyr sydd yng ngofal yr awdurdod lleol) yn cael ei ddefnyddio i wella deilliannau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ac i leihau'r gwahaniaeth rhwng lefelau cyrhaeddiad y garfan hon a'u cyfoedion
  • y bydd yr elfen o'r Grant Datblygu Disgyblion a ddyrennir ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael ei chadw a'i rheoli'n ganolog gan yr awdurdod lleol (neu'r consortiwm lle mae trefniadau eisoes ar waith)

Yn seiliedig ar anghenion lleol, gall awdurdodau lleol ddewis:

  • pasio'r holl arian ymlaen i ysgolion, lleoliadau a chlystyrau
  • cadw ychydig o'r arian ar gyfer gweithgareddau a fydd o fudd i grŵp o blant a phobl ifanc yr awdurdod sydd â phrofiad o fod mewn gofal, neu'r holl blant hyn
  • cadw rhannau o'r cyllid i gyflogi Cydgysylltwyr awdurdodau lleol neu ranbarthol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (lle mae swyddi rhanbarthol yn bodoli, mae disgwyl i'r rhain barhau i gael eu hariannu am gyfnod trosiannol)

Yn unol â chynllun addysg plant sy'n derbyn gofal Llywodraeth Cymru (Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru), ein disgwyliad yw y gellir parhau i ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chydlynu a goruchwylio'r grant yn strategol. Gall y costau hyn fod yn gysylltiedig â threfniadau presennol y rhanbarth neu'r awdurdod lleol. Bydd Cydgysylltwyr y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cynghorwyr y Grant (os ydynt yn wahanol) ac ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol cyfatebol i wella deilliannau addysgol a lefelau cyrhaeddiad plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Disgwylir i awdurdodau lleol: 

  • barhau i weithio gyda phartneriaethau a chonsortia rhanbarthol lle bo hynny'n berthnasol, a chydag ysgolion a lleoliadau yn eu hardal i sicrhau bod y cyllid yn helpu i gyflawni'r deilliannau a nodir yng nghynlluniau addysg personol plant a phobl ifanc. Dylid nodi'r cyllid ar gyfer blaenoriaethau awdurdodau lleol (a rhanbarthau lle bo hynny'n berthnasol) yn strategaeth yr awdurdod lleol neu'r rhanbarth, a dylid cytuno arno drwy'r strwythurau atebolrwydd
  • gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill (a chonsortia neu bartneriaethau lle bo hynny'n berthnasol) ar ddull cydgysylltiedig, strategol o gefnogi deilliannau plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Bydd hyn yn cael ei oruchwylio gan y cydgysylltydd arweiniol rhanbarthol a Chynghorydd y Grant Datblygu Disgyblion (lle bo hynny'n berthnasol). Ei rôl yw darparu cymorth (cydgysylltu gwybodaeth a chyfathrebu ynghylch arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws rhanbarthau) a rhoi gwybodaeth am y grant
  • cytuno ar drefniadau cydweithio rhwng awdurdodau lleol (a chonsortia neu bartneriaethau lle bo hynny'n berthnasol) ar lefelau priodol, gan gynnwys arweinwyr awdurdodau lleol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal neu sydd â phrofiad o fod mewn gofal a Phenaethiaid Ysgolion Rhithiol lle bo hynny'n berthnasol, er mwyn deall anghenion lleol a sicrhau llinellau atebolrwydd a phenderfyniadau effeithiol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd angen cymorth yn parhau i gael eu cefnogi, lle bynnag maent yn byw neu'n cael eu haddysgu

Grant Datblygu Disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddyrannu'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol. Mae'r rôl hon yn cynnwys:

  • ymgysylltu â lleoliadau (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion) ac addysg heblaw yn yr ysgol
  • pennu trefniadau ar gyfer cynllunio a darparu cymorth i blant eu hawdurdod lleol (a'u rhanbarth) sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, gan weithio gyda chydgysylltwyr addysg heblaw yn yr ysgol ar y cynigion hyn 

Cynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion

Dylai Cynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion (a chydgysylltwyr rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal, lle bo hynny'n berthnasol) ddarparu her gadarn, adeiladol a chefnogaeth o ansawdd uchel i alluogi arweinwyr ysgolion a lleoliadau, yn ogystal â chyrff llywodraethu, i wella deilliannau plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel yn ogystal â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofalNod y dull hwn yw:

  • cryfhau trefniadau arwain rhanbarthol
  • sicrhau mwy o gysondeb cenedlaethol wrth gefnogi plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • ein helpu i gasglu tystiolaeth o effaith

Disgwylir i Gynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion barhau i weithio gydag awdurdodau lleol i roi'r cymorth angenrheidiol i ysgolion a lleoliadau i ddefnyddio'r grant yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac yn unol â’r canllaw i'r Grant Datblygu Disgyblion.

Dylai’r gefnogaeth gynnwys: 

  • her gadarn ac adeiladol i ysgolion a lleoliadau, gan sicrhau eu bod yn defnyddio dulliau seiliedig ar dystiolaeth 
  • cymorth o ansawdd uchel i alluogi arweinwyr, penaethiaid a chyrff llywodraethu i wella'r deilliannau i ddysgwyr sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel
  • cydweithio rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a lleoliadau
  • rhannu arferion effeithiol
  • monitro'r datganiadau blynyddol ynghylch eu strategaeth mewn perthynas â'r Grant Datblygu Disgyblion y mae angen i ysgolion eu cyhoeddi ar eu defnydd o'r Grant a'i effaith
  • sicrhau bod arweinydd dynodedig ar gyfer dysgwyr o aelwydydd incwm isel ym mhob ysgol neu leoliad sy'n derbyn y Grant Datblygu Disgyblion, ac adeiladu rhwydweithiau o arweinwyr allweddol a sefydlu 'rhwydweithiau lleol a rhanbarthol o arweinwyr’
  • gweithio gyda'r awdurdodau lleol i roi adroddiad i Lywodraeth Cymru ar weithgarwch lleol a rhanbarthol ac effaith gwariant y Grant

Cyfraddau cyllid ar gyfer 2024 i 2025

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion a Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gael i ysgolion a lleoliadau, ar gyfradd o £1,150 y plentyn, ar gyfer:

  • plant a phobl ifanc rhwng 5 a 15 oed mewn blynyddoedd ysgol gorfodol sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • plant 3 a 4 oed mewn ysgolion neu leoliadau a ariennir nas cynhelir sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (Grant y Blynyddoedd Cynnar)
  • plant a phobl ifanc mewn unedau cyfeirio disgyblion neu sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • plant a phobl ifanc rhwng 3 a 15 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal (y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal)

Mae dadansoddiad o ddyraniadau'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer pob ysgol neu leoliad ar gael ar gyfer 2024 i 2025.

Yn ogystal, ar gyfer 2024 i 2025, bydd y Grant Datblygu Disgyblion yn:

  • darparu cyfran o £7.1m i awdurdodau lleol i'w dosbarthu'n llawn i ysgolion a lleoliadau 
  • darparu cyfran o gyllid o £400,000 ar gyfer Cynghorydd yr awdurdod lleol neu'r rhanbarth ar gyfer y Grant