Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Cenhadaeth ein cenedl yw cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogi pob dysgwr.

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel Gweinidog, yn cyfarfod â phlant a phobl ifanc, staff cymorth, athrawon, darlithwyr coleg, rhieni a gofalwyr, rydw i wedi dysgu mwy am ein pryderon a’n huchelgeisiau cyffredin. Rydw i wedi clywed bod tegwch ac amrywiaeth, lles dysgwyr a staff, a bod yn uchelgeisiol ar gyfer pob dysgwr, yn bwysig iawn ledled y wlad.

Gan adeiladu ar ein huchelgais gyffredin i wella tegwch o ran deilliannau, mae angen ymrwymiad cadarn ar draws y system er mwyn gwireddu hyn. Gallwn ymfalchïo yn y cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond mae rhagor i’w wneud.

Ni allwn ganiatáu i bandemig y coronafeirws (COVID-19) a’i effeithiau hirdymor posibl waethygu effaith tlodi ar ddeilliannau addysg. Dylid gweld pob cam gweithredu a phenderfyniad a nodir ar y map trywydd hwn drwy’r meddylfryd hwn.

Mae system wirioneddol rhagorol a chyfartal, er lles cyhoeddus a chyffredin, yn un lle mae pob dysgwr a dinesydd yn elwa o addysg eang a chytbwys. Mae Cwricwlwm i Gymru, a weithredir o fis Medi 2022 ymlaen, yn gosod safonau uchel i bawb, gan gyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau.

Pedwar diben Cwricwlwm i Gymru yw’r dyhead cyffredin ar gyfer pob person ifanc. Maent yn llywio ein huchelgeisiau ar gyfer dysgu gydol oes hefyd, gyda dysgwyr o bob oedran ym mhob lleoliad ledled pob cymuned yn ymgysylltu fel dinasyddion Cymru a’r byd yn barod ar gyfer bywyd a gwaith.

Mae’r map trywydd hwn yn tynnu sylw at flaenoriaethau’r llywodraeth a’r system addysg er mwyn sicrhau llwyddiant, safonau uchel a lles pob dysgwr. Am y tro cyntaf, rydym yn cyflwyno map trywydd cydlynol a chydlynus sy’n cwmpasu ehangder addysg yng Nghymru ac ar gyfer Cymru, heb ei rannu yn ôl gwahanol sectorau a lleoliadau. Mae’r map trywydd hwn yn nodi sut mae ein polisïau a’n hymrwymiadau presennol yn berthnasol i’w gilydd, yn hytrach na rhestru ymrwymiadau a dyheadau newydd.

Er mwyn cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial, byddwn yn gweithredu ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a byddwn yn mynd i’r afael â’r ‘bwlch dyheadau’, gan weithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, Gyrfa Cymru a busnesau i godi ymwybyddiaeth o’r byd gwaith a’r dewisiadau gyrfa amrywiol sydd ar gael.

Mae ein system addysg gyhoeddus a theg yn destun balchder a hyder cenedlaethol. Rydym yn gwrthod camau i ddethol unigolion a diystyru lleoedd a phobl. Ond rydym yn gwybod hefyd bod gormod o amrywiaeth rhwng ysgolion a rhwng ardaloedd daearyddol. Mae hon yn her i ni i gyd ac yn un y byddwn yn mynd i’r afael â hi fel gyda’n gilydd.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddyfodol llewyrchus i’n hiaith. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Ysgolion a’r system addysg ehangach yw ein hadnodd mwyaf effeithiol o ran creu siaradwyr newydd a chael dysgwyr i ailgydio.

Rydym yn arweinydd yn ein defnydd o dechnoleg ddigidol, a bydd yn parhau i fod yn hanfodol wrth hyrwyddo dwyieithrwydd, cefnogi dysgu gydol oes a gwella cyrhaeddiad. Boed ar-lein, yn hybrid, yn y ddarlithfa neu mewn lleoliad anffurfiol, mae ein colegau a’n prifysgolion yn cyfoethogi ein bywyd dinesig a’n cymunedau.

Drwy gymryd agwedd system gyfan tuag at addysg drydyddol, byddwn yn lleihau anghydraddoldebau addysgol, yn ehangu cyfleoedd ac yn codi safonau. Bydd ein diwygiadau i addysg drydyddol ac ymchwil yn cefnogi cryfderau gwahanol ond ategol pob sefydliad, er mwyn sicrhau y gall dysgwyr o bob oed gael mynediad at y casgliad llawn o gyfleoedd ac yn gallu cyfrannu’n economaidd, yn academaidd, ac at ein cymunedau.

Mae’r map trywydd hwn yn dwyn ein polisïau a’n huchelgeisiau ar gyfer addysg ynghyd, gan fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad a rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau i bob dysgwr i fod yn ddinesydd iach, addysgedig a mentrus yng Nghymru a’r byd. Mae’r llinellau amser yn yr atodiad yn nodi pryd bydd camau a chamau gweithredu amrywiol yn cael eu cymryd o nawr tan ddiwedd tymor y Senedd hwn. Bwriedir i hwn fod yn adnodd defnyddiol i helpu gyda chynllunio, ymgysylltu a pharatoadau.

Jeremy Miles AS

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Nod ac amcanion

Nod

Yng Nghymru, addysg yw cenhadaeth ein cenedl. Gyda’n gilydd, byddwn yn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, gan fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac uchelgais. Cefnogir pob dysgwr, beth bynnag fo’i gefndir, i fod yn ddinesydd iach, sy’n ymgysylltu, sy’n fentrus ac sy’n foesegol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

Amcan 1

Dysgu am oes fel bod pawb yng Nghymru yn dysgu, ac yn parhau i ddysgu, gan ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a chymryd rhan mewn profiadau sy’n berthnasol i’w bywydau heddiw ac yn y dyfodol.

Yr hyn a wnawn

Sicrhau bod yr holl ddysgu’n cael ei arwain gan bedwar diben y cwricwlwm, drwy gydweithio ar draws darparwyr a chyda diwydiannau a chyflogwyr.

Amcan 2

Chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau bod cyfleoedd a deilliannau addysg rhagorol yn gallu cael eu cyflawni gan bob dysgwr, o bob oed, mewn ystafelloedd dosbarth, ar-lein, ac yn y gwaith.

Yr hyn a wnawn

Drwy adnabod yn gynnar, drwy gymorth a thrwy gamau gweithredu wedi’u targedu, sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau i fod yn ddinesydd gweithredol, gan gynnwys sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

Amcan 3

Profiad addysg cadarnhaol i bawb, gyda dysgwyr a staff yn cael cefnogaeth gyda’u lles a’u gwydnwch, sy’n hanfodol ar gyfer gwella deilliannau addysg a chyfleoedd bywyd.

Yr hyn a wnawn

Sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i fod yn unigolion iach a hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, mewn mannau dysgu sy’n gefnogol, sy’n ddiogel, sy’n gynhwysol ac sy’n rhydd o wahaniaethu a bwlio.

Amcan 4

Addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel, lle mae pawb yn cael budd o’r dysgu proffesiynol gorau fel y gallant gefnogi llwyddiant pob dysgwr, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais yn economaidd-gymdeithasol.

Yr hyn a wnawn

Dysgu a chymorth proffesiynol gwarantedig i’r holl staff gydol eu gyrfa, o’r hyfforddiant cychwynnol hyd at lefel arweinyddiaeth, sy’n canolbwyntio ar wireddu pedwar diben y cwricwlwm, a chapasiti a galluogrwydd i gefnogi llwyddiant pob dysgwr.

Amcan 5

Dysgu yn y gymuned, gyda sefydliadau cryf yn ymgysylltu, yn integreiddio ac yn cael eu grymuso gan eu cymunedau.

Yr hyn a wnawn

Grymuso pob dysgwr, teulu a chymuned i feithrin cydberthynas a phartneriaeth cryf â darparwyr addysg, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag anfantais ac yn darparu addysg o’r radd flaenaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Amcan 6

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, gan roi’r cyfle i bob dysgwr gael mynediad cyfartal i’r iaith a’r cyfle i wireddu ei botensial.

Yr hyn a wnawn

Annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y system addysg, fel rhan annatod o Gwricwlwm i Gymru, ein huchelgeisiau Cymraeg 2050 ac ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael ôl-16 i astudio drwy’r Gymraeg a chyfleoedd i ddysgu’r iaith fel dinasyddion gweithredol a gweithgar.

Amcan 1: dysgu am oes

Amcan

Dysgu am oes fel bod pawb yng Nghymru yn dysgu, ac yn  parhau i ddysgu, gan ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a chymryd rhan mewn profiadau sy’n berthnasol i’w bywydau heddiw ac yn y dyfodol.

Yr hyn a wnawn

Sicrhau bod yr holl ddysgu’n cael ei arwain gan bedwar diben y cwricwlwm, drwy gydweithio ar draws darparwyr a chyda diwydiannau a chyflogwyr.

Ein hymrwymiadau

  • Bydd dysgwyr yn cael cymorth wedi’i dargedu i wella sgiliau craidd trawsgwricwlaidd wrth i ni gyflawni ein dull ysgol gyfan ar gyfer llafaredd a darllen. Addysgu ffoneg yn systematig ac yn gyson yw un o’r ffyrdd allweddol o gyflawni hyn, felly byddwn yn cydweithio ag arbenigwyr ac ymarferwyr i ddarparu rhagor o arweiniad i gefnogi’r gwaith o addysgu darllen o fewn Cwricwlwm i Gymru.
  • Drwy gomisiynu ymchwil i ddysgu ac addysgu cyrhaeddiad cymysg, byddwn yn mynd i’r afael â’r duedd o osod dysgwyr sydd dan anfantais yn economaidd-gymdeithasol mewn grwpiau addysgu cyrhaeddiad isel a all lesteirio eu cynnydd a’u dyheadau.
  • I gefnogi cynnydd a chyflogaeth dysgwyr, ac i gyd-fynd ag uchelgeisiau Cwricwlwm i Gymru, bydd cymwysterau diwygiedig yn cael eu dilyn gan ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed, wedi’u cynllunio gyda chyfraniad athrawon ac arbenigwyr.
  • Bydd miloedd o ddysgwyr a staff addysg ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob math o addysg, yn mwynhau cyfleoedd sy’n newid bywyd drwy Taith, rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru. Bydd addysgu ieithoedd rhyngwladol yn parhau i ehangu hefyd fel rhan o Gwricwlwm i Gymru, gyda disgwyliadau clir i ddysgwyr gwneud cynnydd mewn ieithoedd rhyngwladol o’r ysgol gynradd fel y nodir yn nodau strategol Dyfodol Byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru 2022 i 2025.
  • Fel y cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023, mewn perthynas â’r dirwedd gwella ysgolion a gwybodaeth, bydd gwybodaeth ar gynnydd a lles, ac ar feysydd allweddol eraill i ysgolion, i gefnogi ysgolion i hunanwerthuso a gwella. 
  • Byddwn yn adolygu cyfeiriad y dyfodol, a rolau a chyfrifoldebau partneriaid, a byddwn hefyd yn datblygu trefniadau gwella ysgolion cydweithredol ymhellach i gefnogi cenhadaeth ein cenedl.
  • Bydd gyrfaoedd ymarferol ym maes addysg a phrofiadau sy’n cysylltiedig â byd gwaith, gan gynnwys cyngor gyrfaoedd ym maes addysg bellach, yn gwella ac yn fwy cyson ac effeithiol wrth i ni gyflwyno Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion uwchradd hyd at 2027.
  • I gefnogi ein dysgwyr sy’n ymuno ag addysg bellach a hyfforddiant ôl-16, byddwn yn adolygu darpariaeth gyfredol y cwricwlwm 16 i 19 er mwyn adeiladu ar bedwar diben Cwricwlwm i Gymru a galluogi dysgwyr i gael profiad dysgu cydlynol, gan gynnwys cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.
  • Bydd Cyfrifon Dysgu Personol (Gyrfa Cymru) yn parhau fel rhaglen uwchsgilio statws cyflogedig hyblyg sy’n ymateb i fethiannau’r farchnad mewn cyfleoedd cyflogaeth. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar sgiliau digidol a sero net, yn ogystal â chyfres ehangach o gymwysterau cymeradwy a fydd yn helpu i ateb galw lleol.
  • Bydd cynlluniau peilot Cwricwlwm Dinasyddion ledled y wlad yn grymuso dysgwyr sy’n oedolion â sgiliau craidd sy’n gysylltiedig ag iechyd a galluoedd dinesig. Bydd hwn ar ffurf dysgu lleol sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd.
  • Drwy ddyletswydd gyfreithiol estynedig i ddarparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion, bydd miloedd yn elwa o’r ehangiad hwn i gyfleoedd dysgu gydol oes.
  • Bydd siarter genedlaethol gyntaf Cymru ar gyfer dysgu gydol oes yn sicrhau bod dinasyddion, cymunedau a sefydliadau’n rhannu cyfrifoldeb a gwybodaeth am yr holl ddysgu sydd ar gael ac yn ei hyrwyddo.
  • Bydd archwiliad newydd ‘Cyflwr y Genedl’ o lythrennedd a rhifedd oedolion, y cyntaf ers dros ddegawd, yn cefnogi datblygiad polisi ac ymyriadau mewn dysgu gydol oes.

Amcan 2: chwalu rhwystrau

Amcan

Chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau bod cyfleoedd a deilliannau addysg rhagorol yn gallu cael eu cyflawni gan bob dysgwr, o bob oed, mewn ystafelloedd dosbarth, ar-lein, ac yn y gwaith.

Yr hyn a wnawn

Drwy adnabod yn gynnar, drwy gymorth a thrwy gamau gweithredu wedi’u targedu, sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau i fod yn ddinesydd gweithredol, gan gynnwys sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

Ein hymrwymiadau

  • Mae Cwricwlwm i Gymru yn ganolog i’n diwygiadau i wella ansawdd dysgu, a lefelau ymgysylltu â dysgu, mewn ysgolion a lleoliadau a byddwn yn parhau i gadw ein ffocws ar y sgiliau trawsgwricwlaidd a’r sgiliau cyfannol.  
  • Bydd dysgwyr dan anfantais yn elwa o gefnogaeth ychwanegol wedi’i thargedu drwy’r Grant Datblygu Disgyblion a byddwn yn cydweithio â phartneriaid i adolygu sut mae’n cael ei ddefnyddio a chynorthwyo ysgolion ymhellach i ddefnyddio’r grant yn effeithiol.
  • Byddwn yn cael gwared â’r hyn sy’n rhwystro pob dysgwr rhag ymgysylltu’n llawn ag addysg beth bynnag fo’i gefndir economaidd drwy hyrwyddo ‘Hanfodion ysgol’ (mynediad at y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer gwisg ysgol ac offer ysgol).
  • Byddwn yn hyrwyddo a hwyluso’n weithredol dealltwriaeth gyffredin o God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 a threfniadau ar gyfer gweithredu, drwy estyn allan i ddysgwyr, rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr a monitro darpariaeth.
  • Byddwn yn cefnogi diwygiadau i systemau, darpariaeth ac arferion y maes anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sy’n ymwneud ag arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac addysg gynhwysol, gan gyflwyno newidiadau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY ac yn monitro effeithiolrwydd y system.
  • Rydym yn unigryw yn y DU gan fod yna le gorfodol yn ein cwricwlwm i brofiadau a hanesion Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Byddwn yn cwblhau gweithredu argymhellion adroddiad yr Athro Charlotte Williams OBE.
  • I gefnogi ymrwymiad proffesiynol ac addysgegol parhaus i godi safonau i bawb, bydd y gefnogaeth a ddarperir i athrawon wrth iddynt symud ymlaen o addysg gychwynnol athrawon i ymsefydlu’n statudol i’w gyrfa gynnar a thu hwnt yn canolbwyntio mwy ar ddatblygu gweithwyr addysg proffesiynol myfyriol, chwilfrydig a chydweithredol mewn diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd.
  • Byddwn yn cadw ein hymrwymiad i’r asesiadau personol sy’n cefnogi pob dysgwr yng Nghymru i wneud cynnydd o ran darllen a rhifedd, ym mha bynnag iaith y mae’n dysgu.
  • Wrth godi safonau ar gyfer y dysgwyr mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol a chefnogi datblygiad proffesiynol athrawon, byddwn yn comisiynu ymchwil i gymell athrawon i weithio yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.
  • Er mwyn sicrhau mwy o degwch a chefnogi safonau uchel i bawb, byddwn yn cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr addysg ar y ffordd orau y gallant wrando ar ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel, gweithredu ar eu safbwyntiau, a bwydo’n ôl iddynt.
  • Drwy ddull strategol a chynaliadwy o ddysgu digidol a chyfunol, bydd cyfleoedd yn cael eu hymestyn mewn ysgolion a gynhelir, addysg bellach a dysgu oedolion er mwyn gwneud y mwyaf o’r buddion trawsnewidiol y gall digidol eu cael ar addysg. Bydd hyn yn cynnwys galwad i weithredu i sefydliadau addysg bellach, gyda chefnogaeth cyllid cyfalaf, er mwyn sicrhau bod gan bob sefydliad gynllun strategol digidol ar waith erbyn haf 2023.
  • Er mwyn gwella ein dealltwriaeth gyffredin o ddeilliannau dysgwyr, byddwn yn datblygu gwaith tymor hwy i olrhain a monitro deilliannau ôl-16 ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, ac yn cynnal ein hymrwymiad i’r system cymorth myfyrwyr fwyaf blaengar yn y DU ac i gyllid y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) ar gyfer dysgwyr cymwys rhwng 16 ac 18 oed.
  • Er mwyn chwalu’r rhwystrau yn ein system drydyddol a chyflawni ar gyfer pob dysgwr, o bob oed, byddwn yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, stiward cenedlaethol gwirioneddol ar gyfer codi safonau a dyheadau.
  • Mae hybu cyfle cyfartal ac ehangu cyfranogiad mewn addysg drydyddol yn ddyletswyddau strategol craidd ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, a bydd yn cyflawni’r rhain i godi safonau a dyheadau i bawb.
  • Fel rhan o’n hadolygiad o ddysgu oedolion, byddwn yn edrych i gynyddu ac ymestyn cyfleoedd dysgu ar-lein, gan ddechrau drwy fapio’r ddarpariaeth ar-lein bresennol yng ngwanwyn 2023 a’i gwneud hi’n haws i ddysgwyr posibl ddeall eu hopsiynau.

Amcan 3: profiad addysg cadarnhaol i bawb

Amcan 3

Profiad addysg cadarnhaol i bawb, gyda dysgwyr a staff yn cael cefnogaeth gyda’u lles a’u gwydnwch, sy’n hanfodol ar gyfer gwella deilliannau addysg a chyfleoedd bywyd.

Yr hyn a wnawn

Sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i fod yn unigolion iach a hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, mewn mannau dysgu sy’n gefnogol, sy’n ddiogel, sy’n gynhwysol ac sy’n rhydd o wahaniaethu a bwlio.

Ein hymrwymiadau

  • Bydd dysgwyr yn cael cefnogaeth i fwynhau cydberthnasau iach a diogel gydol eu bywydau. Wrth greu amgylchedd diogel a grymusol i bawb, byddwn yn cynnal pwysigrwydd addysg cydberthynas a rhywioldeb fel maes gorfodol i bob dysgwr, a bydd canllawiau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb, dysgu proffesiynol ac adnoddau yn parhau i gael eu diweddaru.
  • Er mwyn cefnogi lles pawb, gan gynnwys athrawon, staff cymorth a dysgwyr, rydym yn ariannu ysgolion a lleoliadau i ymestyn a gwella’r ddarpariaeth gwnsela, i gefnogi ymyriadau wedi’u targedu ac ymestyn dysgu proffesiynol.
  • Bydd dull ysgol gyfan o ran lles emosiynol a meddyliol yn cefnogi datblygiad unigolion iach, hyderus, a byddwn yn parhau i weithredu ac ymwreiddio drwy ein canllawiau ar gyfer y fframwaith statudol.
  • Bydd cydweithredu cryfach rhwng gwasanaethau yn sicrhau y bydd gwasanaethau mewngymorth cenedlaethol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn cael eu cyflwyno ar hyd a lled y wlad.
  • Bydd pob dysgwr ysgol gynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim, gan ymateb i’r argyfwng costau byw a chefnogi lles dysgwyr mewn dull ysgol gyfan o ymdrin ag addysg bwyd, yn ogystal â chynhyrchu bwyd lleol ac economïau lleol.
  • Dylai’r flwyddyn ysgol weithio’n well i ddysgwyr, staff ysgolion, rhieni a gofalwyr. Byddwn yn cydweithio â phartneriaid ar y ffordd y mae gwyliau a thymhorau ysgol wedi’u rhannu i gyflawni hyn, gan gefnogi lles dysgwyr a staff.
  • Byddwn yn ystyried argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol fel y maent yn berthnasol i leoliadau dysgu er mwyn helpu i sicrhau bod plant yn cadw’n ddiogel. Bydd hyn yn cynnwys cryfhau’r rheoliadau ysgolion annibynnol i gynyddu amddiffyniadau diogelu dysgwyr mewn ysgolion annibynnol.
  • Ni ddylai unrhyw un golli allan ar raglenni sy’n sicrhau cyfoethogi o fewn cwricwlwm eang a chytbwys. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd sy’n targedu dysgwyr dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, mentora iaith a STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) a Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau.
  • Rydym wedi deddfu i wneud lles myfyrwyr a staff yn amod cofrestru cychwynnol a pharhaus i ddarparwyr addysg drydyddol, gan sicrhau bod y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn bwrw ymlaen â hyn pan fydd y system newydd ar waith.
  • Bydd buddsoddiad y llywodraeth mewn mentrau meddyliol a lles addysg bellach yn sicrhau mwy o gwnsela, hyfforddiant staff a swyddogion lles. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i les ym maes dysgu oedolion. Byddwn yn cynnull grŵp cynghori iechyd meddwl arbenigol hefyd i ystyried y rhyngwyneb rhwng addysg uwch a’r gwasanaeth iechyd, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar.

Amcan 4: addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel

Amcan

Addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel, lle mae pawb yn cael budd o’r dysgu proffesiynol gorau fel y gallant gefnogi llwyddiant pob dysgwr, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais yn economaidd-gymdeithasol.

Yr hyn a wnawn

Dysgu a chymorth proffesiynol gwarantedig i’r holl staff gydol eu gyrfa, o’r hyfforddiant cychwynnol hyd at lefel arweinyddiaeth, sy’n canolbwyntio ar wireddu pedwar diben y cwricwlwm, a chapasiti a galluogrwydd i gefnogi llwyddiant pob dysgwr.

Ein hymrwymiadau

  • Er mwyn rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, yr ysgol, y coleg ac yn genedlaethol, byddwn yn cydweithio â phartneriaid a’r proffesiwn i gyflawni argymhellion y cyd-weithgor ar y materion hyn.
  • Mae’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol yn adlewyrchu ein hymrwymiad system gyfan i weld gwerth mewn dysgu proffesiynol i bawb, sy’n gysylltiedig â Chwricwlwm i Gymru ac ymwreiddio tegwch a lles. Mae’r hawl ar gael i athrawon a chynorthwywyr addysgu, arweinwyr, ac arweinwyr system neu gynghorwyr sy’n cefnogi ysgolion neu leoliadau. Mae’n rhaid i gynnig cenedlaethol fod yn gyson ac o’r safon uchaf, felly bydd proses ddilysu newydd er mwyn gwneud yn siŵr y gellir sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol cenedlaethol a’i gydnabod.
  • Mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr yn rhan annatod o wireddu uchelgeisiau Cwricwlwm i Gymru. Drwy gefnogi’r prosiect tair blynedd Camau i’r Dyfodol, rydym yn dwyn ynghyd yr arbenigedd a’r profiad angenrheidiol i lywio ymarfer rhagorol. Cyhoeddir allbynnau o fis Medi 2023.
  • Mae dibenion dysgwyr a’r cwricwlwm yn ganolog i waith gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion. Byddwn yn monitro’r canllawiau newydd i wella ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd 2023 i 2024, cyn ymgynghori ar eu gwneud yn statudol. Byddwn yn cydweithio ag Estyn er mwyn sicrhau bod y canllawiau hyn yn cyd-fynd a’u fframwaith arolygu, yn ogystal â’r ecosystem wybodaeth sy’n dod i’r amlwg.
  • Er mwyn creu darlun cenedlaethol o gyrhaeddiad dysgwyr ar draws ehangder Cwricwlwm i Gymru, cefnogi gwelliant cenedlaethol yn y cwricwlwm ac addysgu, a llywio ein gwerthusiad o ddiwygio’r cwricwlwm, byddwn yn datblygu rhaglen fonitro genedlaethol i asesu samplau o ddysgwyr ledled Cymru ar sail parhaus, gan ddechrau ar sail peilot yn y flwyddyn academaidd 2025 i 2026.
  • Bydd y gweithlu addysg yn meddu ar fwy o wybodaeth a sgiliau i gefnogi dysgwyr sydd ag ADY yn well drwy raglen o godi ymwybyddiaeth ar draws rolau statudol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), dysgu proffesiynol, rhaglen Meistr mewn Addysg a dysgu ADY gwell drwy addysg gychwynnol i athrawon.
  • Er mwyn sicrhau tegwch a mynediad o ran cyflenwi, byddwn yn datblygu ac yn cyflwyno model cynaliadwy ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi sy’n sicrhau bod gwaith teg yn ganolog iddo a byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol. Byddwn yn parhau i hyrwyddo fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer ysgolion, staff cyflenwi ac awdurdodau lleol hefyd.
  • Bydd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn cynnal adolygiad strategol gan sicrhau bod strwythur cyflogau ac amodau athrawon ac arweinwyr yn cofleidio dyheadau ar gyfer y dyfodol.
  • Er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau’r gweithlu i weithio gyda’r plant a’r bobl ifanc sydd dan yr anfantais fwyaf yn economaidd-gymdeithasol, byddwn yn darparu rhaglen Pencampwyr Cyrhaeddiad ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol i gydweithio ag arweinwyr eraill.
  • Byddwn yn parhau i gefnogi a datblygu’r Llwybr Arweinyddiaeth er mwyn sicrhau ein bod yn meithrin capasiti a galluogrwydd i gefnogi llwyddiant pob dysgwr. Mae hyn yn cynnwys ymateb i argymhellion yr Adolygiad o’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn addas i’r diben, gan roi cymorth i arweinwyr ar bob cam o’u taith arweinyddiaeth.
  • Bydd llawer mwy o ffocws ar arweinyddiaeth a bydd hyn yn cynnwys cryfhau’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, ymestyn y broses gymeradwyo a chynyddu nifer y cymdeithion, sy’n cyd-fynd â phedwar diben y cwricwlwm ac yn ymgorffori tegwch.
  • Bydd Estyn yn cyflwyno trefniadau arolygu newydd o fis Medi 2024. Bydd arolygiadau yn ategu prosesau hunanwerthuso a gwella, a byddant yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol. Bydd arolygu mwy rheolaidd yn rhoi sicrwydd cyfoes i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr.
  • Rydym wedi cyhoeddi adnoddau ymarferol cenedlaethol ar gyfer gwerthuso a gwella, cynllunio’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu, ac rydym yn parhau i’w diweddaru, ac mae’r cyfan ar gael i bawb ar Hwb. Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm yn blatfform agored, gyda chyfle i bob ymarferydd yng Nghymru gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â’n heriau a’n cyfleoedd cyffredin.
  • Fel rhan annatod o’n gweithlu addysg, mae gan gynorthwywyr addysgu rôl hanfodol yn helpu i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wella’r defnydd o gynorthwywyr addysgu, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, a chael mwy o gysondeb o ran cyflog sy’n adlewyrchu’r rolau pwysig hyn.
  • Bydd ein hymrwymiad i gydweithio â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol o fudd i’r system addysg gyfan. Mae hyn yn cynnwys rhannu a dysgu arferion gorau er mwyn i ni gefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys partneriaeth newydd gyda’r Sefydliad Gwaddol Addysgol, sefydlu cymuned fyd-eang newydd o athrawon ac addysgwyr, a gweithio drwy Gymru Fyd-eang.
  • Bydd Fframwaith Dysgu Proffesiynol Ôl-16 newydd, ochr yn ochr â buddsoddiad parhaus yn y Gronfa Dysgu Proffesiynol Ôl-16, yn dwyn ynghyd amrywiaeth o hyfforddiant, cyngor a chanllawiau i staff ar bob lefel i ddatblygu gyrfaoedd a bywydau proffesiynol.
  • Trwy Gynllun Trosglwyddo Gwybodaeth, byddwn yn parhau i ariannu a chefnogi sefydliadau addysg bellach i ddod ag arbenigedd i’r diwydiant, gan ganolbwyntio ar ddysgu a chysyniadau newydd mewn meysydd fel materion digidol, sgiliau gwyrdd, adeiladwaith ôl-osod a pheirianneg.
  • Bydd dull mwy cydlynol o wella ar draws y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol drwy ddyletswydd strategol y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i hyrwyddo gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol, gan gynnwys datblygiad proffesiynol y gweithlu a safbwyntiau dysgwyr.

Amcan 5: dysgu yn y gymuned

Amcan

Dysgu yn y gymuned, gyda sefydliadau cryf yn ymgysylltu, yn integreiddio ac yn cael eu grymuso gan eu cymunedau.

Yr hyn a wnawn

Grymuso pob dysgwr, teulu a chymuned i feithrin cydberthynas a phartneriaeth cryf â darparwyr addysg, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag anfantais ac yn darparu addysg o’r radd flaenaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Ein hymrwymiadau

  • Mae ymgysylltu â theuluoedd yn hanfodol i gefnogi dysgu a safonau uchel i blant. Byddwn yn pwysleisio hyn ac yn ei ariannu, gan gynnwys yn ein dull strategol o ymdrin â dysgu gydol oes, llwybrau i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth, a datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd.
  • Rydym wedi darparu £20 miliwn hyd yn hyn i wneud addasiadau ffisegol i adeiladau a chyfleusterau ysgolion er mwyn i’r gymuned wneud mwy o ddefnydd ohonynt. Byddwn yn parhau i ariannu addasiadau allweddol.
  • Mae gan Ysgolion Bro ran hanfodol yn y gwaith o ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau Ysgolion Bro er mwyn helpu i ymwreiddio’r dull gweithredu hwn. Yn dilyn hyn, bydd cyfres o ganllawiau pellach ar gael i bob ysgol ar feysydd fel ymgysylltu â theuluoedd.
  • Bydd canllawiau diwygiedig ar bresenoldeb ac ymgysylltu’n cael eu cyhoeddi yn ystod hydref 2023, a fydd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau, a chyfrifoldebau llywodraethwyr wrth gefnogi dysgwyr i gynnal presenoldeb da. Fel rhan o hyn, gofynnir i ysgolion gyhoeddi eu polisïau presenoldeb.
  • Ni ellir caniatáu i unrhyw ysgol danberfformio’n gyson mewn system o hunanwella sy’n gosod safonau a dyheadau uchel i bawb. Felly byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau newydd ar ysgolion sy’n peri pryder.
  • Mae rheoliadau newydd sy’n sefydlu disgwyliadau clir ynglŷn ag ymgysylltu â rhieni a gwybodaeth i gefnogi cynnydd dysgwyr. Ochr yn ochr ag Estyn, byddwn yn monitro effeithiolrwydd Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Gofalwyr.
  • Bydd ysgolion, drwy ddatblygu cwricwlwm, yn cael cymorth i fod wrth galon eu cymunedau. Byddwn yn cefnogi hyn drwy ddiweddaru canllawiau fel y gall ysgolion ymgysylltu’n llawn â busnesau, elusennau, clybiau, gwasanaethau cyhoeddus ac eraill yn lleol i ddatblygu dealltwriaeth o gynefin a phedwar diben y cwricwlwm.
  • Bydd ein hymrwymiad drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn darparu £1.5 biliwn ychwanegol i ddarparu gofodau dysgu sy’n ysbrydoli dysgwyr i ymgysylltu, dysgu a datblygu i fod yn ddinasyddion delfrydol y dyfodol, gan gynnwys ymrwymiad carbon sero net ac ymgysylltu â’r gymuned fel gwerth craidd. 
  • Wrth sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid, byddwn yn cefnogi darpariaeth statudol a gwirfoddol, gan ddatblygu cynigion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a bwrw ymlaen â nhw.
  • Er mwyn cefnogi contract cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cryfach rhwng sefydliadau a’u cymunedau, rydym wedi deddfu i hyrwyddo’r gwaith o geisio cenhadaeth ddinesig gan ddarparwyr addysg drydyddol.
  • Rydym wedi deddfu i hyrwyddo cydweithio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur, gan adlewyrchu ysbryd partneriaeth gymdeithasol. Mae disgwyl i aelodau cyswllt gweithlu a dysgwyr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fod yn eu lle yn gynnar yn 2024. Ar y cyd, byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu egwyddorion craidd a chyson ar gyfer llywodraethu mewn darparwyr addysg drydyddol, gan sicrhau effeithiolrwydd, atebolrwydd, ymgysylltu dinesig a thryloywder.
  • Mae myfyrwyr ledled Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol at gymdeithas ac yn tyfu fel dinasyddion gweithgar sy’n ymgysylltu. Byddwn yn cydweithio â’r sector addysg drydyddol, gan ddechrau gyda phrifysgolion, i ddatblygu cynnig a chydnabyddiaeth ‘myfyriwr fel dinesydd’ ledled Cymru.
  • Fel sefydliadau angor, mae colegau a phrifysgolion yn gwneud cyfraniad sylweddol at eu heconomïau a’u cymunedau lleol. Byddwn yn cydweithio â ColegauCymru i ddatblygu dealltwriaeth gyfredol o effaith economaidd a gwerth cymdeithasol ehangach y sector colegau a sut gallwn gydweithio i gefnogi hyn ymhellach, gan adeiladu ar waith cadarnhaol prifysgolion yn hyn o beth.

Amcan 6: mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd

Amcan

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, gan roi’r cyfle i bob dysgwr gael mynediad cyfartal i’r iaith a’r cyfle i wireddu ei botensial.

Yr hyn a wnawn

Annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y system addysg, fel rhan annatod o Gwricwlwm i Gymru, ein huchelgeisiau Cymraeg 2050 ac ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael ôl-16 i astudio drwy’r Gymraeg a chyfleoedd i ddysgu’r iaith fel dinasyddion gweithredol a gweithgar.

Ein hymrwymiadau

  • Dylai cynifer o ddysgwyr â phosibl gael llwybr i addysg cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn cydweithio â Mudiad Meithrin i ehangu darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg ledled y wlad, gyda 60 grŵp meithrin cyfrwng Cymraeg ychwanegol erbyn 2026.
  • Mae cefnogi rhieni a gofalwyr i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, ac i wneud penderfyniadau gwybodus am addysg eu plant, yn sicrhau mwy o gyfleoedd ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog o bob oed. Byddwn yn parhau i gefnogi’r rhaglen Cymraeg i Blant ac yn gweithredu ein Polisi cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd.
  • Bydd canran dysgwyr Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu o 23% (2020 i 2021) i 26% yn 2026.
  • Bydd Adnodd, cwmni cyhoeddi adnoddau addysg dwyieithog cenedlaethol newydd, yn cael ei sefydlu er mwyn cydweithio ar draws sectorau gwahanol i sicrhau bod adnoddau Cymraeg a Saesneg yn cael eu hadnabod a’u comisiynu ac ar gael i gefnogi pob agwedd ar y cwricwlwm.
  • Er mwyn rhoi mwy o eglurder i rieni, gofalwyr a’r system addysg, ac er mwyn annog mwy o ddefnydd ohoni yn yr ystafell dosbarth a’r tu allan iddi, bydd ysgolion yn cael eu categoreiddio yn ôl eu darpariaeth Gymraeg,
  • Mae Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn parhau i fod yn sail i gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cynlluniau newydd 10 mlynedd wedi cael eu cymeradwyo a byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol i fireinio ac yna gweithredu eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg am y degawd nesaf.
  • Rydym yn gwybod na fydd pob dysgwr yn dilyn yr un daith i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg, gyda rhai yn cyrchu eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn hwyrach. Byddwn yn buddsoddi mewn a chefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu darpariaeth trochi hwyr yn y Gymraeg, fel bod dysgwyr o bob rhan o Gymru yn cael y cyfle i gael addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal.
  • Er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu dinasyddion dwyieithog, mae’r Fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg, ochr yn ochr ag adnoddau a dysgu proffesiynol, yn nodi’r profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae dysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg eu hangen er mwyn gwneud cynnydd yn y Gymraeg.
  • Byddwn yn cyflwyno Bil Addysg y Gymraeg er mwyn cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gwella’r gwaith o addysgu’r Gymraeg ym mhob ysgol er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gadael yr ysgol yn siaradwr Cymraeg hyderus a medrus.
  • Mae ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes yn golygu bydd gan bob person ifanc rhwng 16 a 25 oed fynediad am ddim at gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac mae gwersi Cymraeg am ddim hefyd ar gael i athrawon, penaethiaid, cynorthwywyr addysgu a gweithwyr eraill y sector addysg. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel bod prentisiaid a dysgwyr addysg bellach ac addysg uwch yn cael mwy o gyfleoedd i ddysgu Cymraeg, a dod yn athrawon a thiwtoriaid ‘Dysgu Cymraeg’.
  • Wrth fwrw ymlaen â dyletswydd ddeddfwriaethol, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn annog y galw am addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a chyfranogiad ynddo. Bydd yn annog darparwyr i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg hefyd a chydweithio er mwyn gwneud hyn yn effeithiol.
  • Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain prosiect peilot i annog pobl ifanc sy’n siarad Cymraeg i ddychwelyd o brifysgolion i helpu i addysgu Cymraeg mewn ysgolion.
  • Byddwn yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i gyflawni cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg i gynyddu nifer yr athrawon, arweinwyr a gweithwyr cymorth sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac i gefnogi datblygiad sgiliau iaith Gymraeg ac arbenigedd y gweithlu presennol.