Rhagor o wybodaeth am y gwaith sydd yn edrych ar newidiadau i’r flwyddyn ysgol.
Cynnwys
Beth sy’n digwydd
Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y canlynol:
- dyddiadau'r tymhorau ysgol.
- aildrefnu gwyliau'r ysgol a hyd y tymhorau
Fe wnaethom ofyn pa opsiynau a allai weithio'n well i ddysgwyr, staff ysgolion a rhieni.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 21 Tachwedd 2023 a 12 Chwefror 2024, ac mae bellach wedi cau.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto, ac rydym wrthi'n dadansoddi'r canfyddiadau. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad a phenderfyniad, o ganlyniad i ganfyddiadau'r ymgynghoriad, yn ystod gwanwyn 2024.
Y rhesymau dros ystyried newid
Nid yw’r flwyddyn ysgol yng Nghymru wedi newid am dros 150 o flynyddoedd. Fe’i cynlluniwyd mewn cyfnod gwahanol iawn, pan oedd mynd i’r ysgol yn rhywbeth gwirfoddol. Nid oedd cwricwlwm cenedlaethol ac roedd disgwyl i blant gyfrannu at yr economi amaethyddol yn ystod gwyliau hir.
Dros y blynyddoedd diweddar mae llawer o newid a gwelliannau wedi digwydd yn y maes addysg yng Nghymru gan gynnwys cwricwlwm newydd, mwy o ddysgu proffesiynol athrawon, a ffyrdd newydd o gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Fodd bynnag, mae'r un agwedd sydd heb newid, ac heb gael ei hystyried o'r blaen, yn un sylfaenol: y ffordd rydyn ni'n strwythuro'r flwyddyn ysgol, y tymhorau, a’r gwyliau.
Newidiadau posib
Rydym yn edrych ar y system yn ei chyfanrwydd i weld sut y gallwn gefnogi'r proffesiwn addysgu yn well wrth gynllunio a rheoli llwyth gwaith, gan helpu i fynd i'r afael â'r golled ddysgu a’r effaith ar les y dysgwyr, a’r staff, y mae’r proffesiwn yn dweud wrthym sy’n deillio o dymhorau anghyson a gwyliau haf hir.
Pethau na fydd yn newid
Nid yw diwygio'r flwyddyn ysgol yn golygu lleihau gwyliau ysgol; ni fydd unrhyw newid i swm cyffredinol y gwyliau i ddysgwyr ac athrawon. Mae Llywodraeth Cymru am edrych ar sut rydyn ni'n trefnu’r un nifer o ddiwrnodau o wyliau ar draws y flwyddyn.
Ar ben hynny, mae ymrwymiad y bydd gwyliau'r haf yn wyliau pedair wythnos o leiaf.
Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddyddiadau tymhorau yn unig ac nid oedd yn ymwneud ag ychwanegu mwy o oriau nac ymestyn y diwrnod ysgol.
Twristiaeth, gofal plant a sectorau eraill
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r gweithwyr a chyflogwyr o sectorau ar wahân i’r sector addysg. Prif amcanion y gwaith yw mynd i'r afael ag anfantais, anghydraddoldebau addysgol cul, cefnogi lles dysgwyr a staff a gwneud i’r calendr ysgol gyd-fynd yn well â bywyd cyfoes. Mae'n bwysig cydnabod mai polisi addysg yw hwn. Mae hefyd yn bwysig bod yr effeithiau, y cyfleoedd, a’r manteision ehangach allai ddeillio o unrhyw newidiadau yn cael eu deall a’u rhannu.
Dyddiadau tymhorau gwahanol ledled y Deyrnas Unedig
Er bod tebygrwydd yng nghalendrau ysgolion Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, nid ydynt yr un fath. Dylid nodi hefyd bod strwythur tymor ysgol yr Alban yn gyfan gwbl wahanol. Bydd unrhyw newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn sgil yr ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.
Ymgynghoriad
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Byddwn yn cyhoeddi'r canfyddiadau cyn gynted ag y byddant ar gael.
Cysylltu
Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.