Yr awdurdod strategol ar gyfer goruchwylio pob agwedd ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru.
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sef corff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Y bwriad yw sefydlu'r Comisiwn yn 2023 a fydd yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio'r sectorau canlynol:
- Addysg bellach (AB), gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion
- Addysg uwch (AU), gan gynnwys ymchwil ac arloesi
- Addysg i oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned
- Prentisiaethau a hyfforddiant.
cyfrifoldebau
- Diogelu buddiannau dysgwyr, sicrhau bod dysgu galwedigaethol a dysgu academaidd yn cael yr un parch
- sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn fwy cydnaws ag anghenion cyflogwyr
- monitro perfformiad a llywodraethiant ar yr un pryd ag amddiffyn rhyddid academaidd sefydliadau
- monitro a hybu gwelliant ymysg darparwyr addysg a hyfforddiant
- cymryd dull gweithredu system gyfan ar gyfer cyllido ymchwil ac arloesi, gyda'r gallu i ddarparu cyllid i ystod eang o sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch
- cynyddu’r addysg drydyddol sydd ar gael yn Gymraeg ac annog unigolion i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Cyflwynwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i'r Senedd ar 1 Tachwedd 2021 a daeth yn gyfraith ar 08 Medi 2022.
Addysg Drydyddol ac Ymchwil - Gweledigaeth Strategol
Mae’r weledigaeth strategol yn ceisio ychwanegu at gryfderau sector Addysg Drydyddol Cymru er mwyn bodloni’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaen yn well.
Cefndir
Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Ellen Hazelkorn i gynnal adolygiad o lywodraethu, rheoleiddio a goruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau brif argymhelliad:
- datblygu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y sector AHO
- sefydlu corff hyd braich newydd sy'n gyfrifol am oruchwylio, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth y sector.
Ymgynghoriadau
Yn dilyn yr adolygiad, cyhoeddwyd Papur Gwyn yn 2017: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus.
Dilynwyd hyn gan ymgynghoriad technegol, Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus: y camau nesaf, a gaeodd ar 17 Gorffennaf 2018.
Ar 14 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddrafft o Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i ymgynghori arno. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Rhagfyr 2020. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ar 25 Chwefror 2021.
Cysylltu â ni
Os ydych angen rhagor o wybodaeth neu ganllawiau, e-bostiwch CTER@llyw.cymru.