Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) yn gorff hyd-braich newydd a fydd yn gyfrifol am gyllido a goruchwylio addysg ac ymchwil ôl-16 o fis Awst 2024.

Bydd hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth ysgolion, dysgu oedolion a dysgu seiliedig ar waith, ac ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth.

Dyma’r tro cyntaf i un corff reoli a chydlynu’r gwaith o gyllido, cynllunio a rheoleiddio addysg ac ymchwil ôl-16. Fel rhan o'r newid, bydd y Comisiwn yn cymryd y cyfrifoldeb am swyddogaethau mewn llawer o feysydd addysg ôl-16 sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a holl swyddogaethau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a ddaeth yn gyfraith ar 8 Medi 2022, yn sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, corff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) unwaith y bydd yn weithredol. 

Bydd y Comisiwn yn cael ei sefydlu ym mis Medi 2023 a bydd yn weithredol ym mis Awst 2024, pan fydd yn dod yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio’r sectorau canlynol:

  • addysg bellach (AB), gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion
  • addysg uwch (AU), gan gynnwys ymchwil ac arloesi
  • addysg oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned
  • prentisiaethau a hyfforddiant

Mae'r weledigaeth strategol yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Mae sefydlu’r Comisiwn yn hanfodol er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon.

Cyfrifoldebau’r Comisiwn

  • Cymryd dull gweithredu system gyfan ar gyfer cyllido ymchwil ac arloesi gyda'r gallu i ddarparu cyllid i ystod eang o sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach.
  • Diogelu buddiannau dysgwyr, gan sicrhau bod dysgu galwedigaethol ac academaidd yn cael yr un parch.
  • Sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn fwy cydnaws ag anghenion cyflogwyr.
  • Monitro perfformiad a llywodraethiant a diogelu rhyddid academaidd sefydliadau.
  • Monitro a hyrwyddo gwelliant ymysg darparwyr addysg a hyfforddiant.
  • Cynyddu’r addysg drydyddol sydd ar gael yn Gymraeg ac annog unigolion i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.