Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Grant Datblygu Eiddo

3. Y sail gyfreithiol

Y pwerau perthnasol yw Adrannau 60, 62 a 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac Adran 1 o Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975 (fel y'i diwygiwyd).

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Un o rolau economaidd Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â'r heriau eiddo sy'n rhwystro cyflawni polisi'r llywodraeth o dan y Rhaglen Lywodraethu ac sy'n rhwystr i greu Cymru fwy ffyniannus a thecach.

Mae eiddo yn rhan o 'gynnig economaidd Cymru', a gall dod o hyd i'r safle neu'r eiddo cywir fod yn hanfodol i alluogi busnesau o Gymru i ehangu neu ennill prosiect mewn cystadleuaeth â rhanbarthau eraill y DU yn ogystal â chystadleuwyr rhyngwladol.

Mae'r bwlch presennol rhwng y cyflenwad a'r galw am safleoedd ac adeiladau modern yn cael ei gydnabod. Mae'r Genhadaeth Economaidd o dan y Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio'n glir at bwysigrwydd sicrhau cyflenwad digonol o safleoedd cyflogaeth ac adeiladau.

Mae Cynllun Cyflawni Eiddo Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol a heriol i ddarparu hyd at 300,000 troedfedd sgwâr y flwyddyn o safleoedd cyflogaeth newydd ledled Cymru ar raglen dreigl 3 blynedd. Y Grant Datblygu Eiddo (PDG) yw'r prif offeryn cyflawni o dan Gynllun Cyflawni Eiddo Llywodraeth Cymru.

5. Diben y cynllun

Mae'r PDG yn grant dewisol sy'n darparu cymorth i'r sector preifat ar gyfer datblygu safleoedd ac adeiladau gan gynnwys darparu seilwaith a chyfleustodau, neu estyn, adnewyddu, ailwampio neu drawsnewid safleoedd masnachol ac adeiladau presennol a gwelliannau amgylcheddol cysylltiedig. Gellir rhoi cyllid ar gyfer cynlluniau tybiannol, cyn-osod neu bwrpasol lle na fyddai datblygiad o'r fath yn digwydd fel arall oherwydd diffyg rhwng costau cymwys y prosiect a gwerth y datblygiad wedi iddo gael ei gwblhau.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Bydd y cynllun yn agored i bob menter yng Nghymru ac eithrio'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau canlynol:

  • Sector glo
  • Sector dur
  • Sector ffibrau synthetig
  • Sector adeiladu llongau
  • Cynhyrchu, dosbarthu a seilwaith ynni
  • Y sector trafnidiaeth a'r seilwaith sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Gweithgynhyrchu
  • Masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
  • Adeiladwaith
  • Gwybodaeth a chyfathrebu
  • Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
  • Gweithgareddau eiddo tirol
  • Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  • Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  • Gweithgareddau gan wasanaethau eraill

9. Hyd y cynllun

Rhwng 1 Rhagfyr 2025 a 31 Rhagfyr 2035.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£100,000,000

11. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae PDG yn fecanwaith cymorth eiddo a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi twf Swyddi a Busnes yng Nghymru yn unol â mentrau ehangach fel Parthau Menter, Dinas-ranbarthau a mentrau'r Sector. Bydd asesiad o gymhwysedd yn seiliedig ar werth y prosiect i economi Cymru ac yn seiliedig ar sawl ffactor arall gan gynnwys nifer ac ansawdd y swyddi y gellir eu creu, sector, cynaliadwyedd, lleoliad ac ansawdd dylunio ymhlith ffactorau eraill.

Defnydd – Prif ffocws ar ddatblygu Diwydiannol (gan gynnwys warws) / datblygu Swyddfa ond gellir ystyried unrhyw ddefnydd masnachol sy'n cefnogi creu swyddi

Ymgeisydd – Datblygwyr, Buddsoddwyr, Contractwyr, Perchen-feddianwyr, perchnogion tir eraill.

Lleoliad – Cymru Gyfan

Buddiant mewn tir – Buddiant Rhydd-ddaliadol neu Lesddaliadol am o leiaf 15 mlynedd neu fwy.

Gwariant cymwys – Ymchwiliadau ac Arolygon Safle, Costau Caffael Tir ac Eiddo (yr isaf o'r pris prynu neu Werth y Farchnad Agored), Dymchwel, Adfer, Paratoi Safle, Seilwaith, Rheoli a gwelliannau amgylcheddol, Gosodiadau a Ffitiadau, Ffioedd Proffesiynol, Ffi Cyllid a Datblygwyr a lefel o Elw Datblygwyr sy'n berthnasol i'r prosiect.

Dylid nodi y bydd yr holl wariant cymwys a adroddir yn destun asesiad a gynhelir gan ymgynghorydd costau a benodir gan Lywodraeth Cymru i benderfynu a yw'r gwariant yn rhesymol ac yn cynnig gwerth am arian.

Eithriadau – Ni all Perchennog Preswyl hawlio Ffi nac Elw Datblygwyr

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn y Grant Datblygu Eiddo wedi'i gyfyngu i'r bwlch hyfywedd h.y. y gwahaniaeth rhwng y gost gyfalaf a gwerth y prosiect.

Prin iawn yw'r achlysuron lle y dyfernir uchafswm posibl y grant. Yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael, bydd yr isaf o:-

  • isafswm lefel yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i gyflawni'r prosiect yn amodol ar uchafswm dyfarniad o ddim mwy na 45% o gostau cymwys y prosiect.
  • gwerth y prosiect i economi Cymru yn seiliedig ar sawl ffactor gan gynnwys nifer ac ansawdd swyddi, sector, cynaliadwyedd, lleoliad ac ansawdd dylunio.

Rhaid i fuddiolwr y cymorth ddarparu cyfraniad ariannol o leiaf 25% o'r costau cymwys, naill ai drwy ei adnoddau ei hun neu drwy gyllid allanol sydd heb dderbyn unrhyw gymorth cyhoeddus.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£8,000,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm Eiddo drwy e-bost: Seilwaith.Eiddo@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image