Canllawiau ar wneud cais am y grant datblygu, gan gynnwys cymhwystra ac amodau’r grant.
Cynnwys
Cyflwyniad
Darparwyd y canllawiau hyn ochr yn ochr â ffurflen gais ar gyfer y Grant Dylunio a Datblygu Prosiectau Datgarboneiddio (‘grant datblygu’).
Mae’r cyllid ar gael i bob prif gorff sector cyhoeddus sy’n cyflwyno Adroddiadau Sero Net y Sector Cyhoeddus. Diben y cyllid yw cefnogi gwariant refeniw ar gymorth dylunio a datblygu datgarboneiddio proffesiynol, gweithredadwy a thrydydd parti ar gyfer adeiladau sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus.
Gall ymgeiswyr llwyddiannus o rowndiau blaenorol wneud cais eto, ar yr amod eu bod yn gallu profi bod y gwaith hwn wedi'i gwblhau'n llawn mewn pryd ar gyfer rowndiau dilynol.
Manylion y grant
Amcanion
Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi bod gwariant ymlaen llaw ar ddatblygu Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi bod gwariant ymlaen llaw ar ddatblygu prosiectau yn rhwystr i gyflymu datgarboneiddio ystad y sector cyhoeddus. Bydd y grant hwn yn ariannu’n rhannol waith dylunio a datblygu sy’n cefnogi’r llif o brosiectau datgarboneiddio.
Noder bod y cyllid hwn wedi'i fwriadu i gefnogi gwaith datblygu sy'n ymestyn y tu hwnt i gwmpas y cymorth sydd eisoes ar gael i sefydliadau'r sector cyhoeddus drwy'r Gwasanaeth Ynni.
Amcanion y Grant Dylunio a Datblygu Prosiectau Datgarboneiddio yw:
- lleihau allyriadau carbon fel rhan o’r ymgyrch tuag at gyflawni sero net ar gyfer y sector cyhoeddus
- cefnogi prosiectau cynhyrchu adnewyddadwy sydd mewn dwylo lleol
- creu llif o brosiectau aeddfed sy’n barod ar gyfer buddsoddiad a fyddai’n addas ar gyfer sicrhau cyllid o fewn 2 flynedd
Mae’r Grant ar gael i gyrff sector cyhoeddus yn unig; fodd bynnag, rydym yn annog defnyddio Mentrau Cymunedol i helpu i gyflawni’r gwaith dylunio a datblygu, a’r prosiect cyfalaf dilynol.
Manylion allweddol
Mae’r grant yn cefnogi 50% o gostau dylunio a datblygu wedi’u hanfonebu.
Mae’r dyfarniad uchaf fesul cais wedi’i gyfyngu i £50,000.
Gall cais o £100,000 neu fwy dderbyn y grant llawn o £50,000. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd dalu’r holl gostau dros £100,000.
Rhaid i’r holl waith dylunio a datblygu gael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2027.
Ar agor i sefydliadau’r sector cyhoeddus yn unig.
Cais
Amserlenni ymgeisio
Y cyfnod ymgeisio yn y rownd hon yw 1 Medi i 25 Medi 2026 yn gynwysedig.
Efallai y byddwn yn cau neu’n ymestyn y cyfnod ymgeisio yn dibynnu ar faint o geisiadau a fydd yn dod i law.
Ffurflen gais
Gwnewch gais gan ddefnyddio’r ffurflen Excel sydd wedi’i darparu.
Gall pob cais gynnwys sawl safle a phrosiect technoleg. Mae pob ffurflen yn caniatáu ar gyfer hyd at 10 safle, 4 prosiect a enwir, a 5 dyfynbris gan gontractwyr.
Gall sefydliad gyflwyno hyd at ddau gais. Fodd bynnag, er tegwch, mae’n bosibl y rhoddir llai o flaenoriaeth i ail geisiadau o gymharu â cheisiadau cyntaf.
Cyflwynwch dystiolaeth gan gynnwys dyfynbrisiau contractwyr i gefnogi’ch cais. Dylai’r rhain gael eu hanfon drwy e-bost ochr yn ochr â’ch ffurflen gais.
Asesiad
Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn ôl maint y datgarboneiddio posibl, yr wybodaeth ategol sy’n cael ei darparu, cyflawnadwyedd dyluniadau a gwaith datblygu, pa mor barod yw’r prosiect ar gyfer buddsoddiad ar ôl cefnogaeth.
O ran y ffurflenni cais sy’n cael eu cyflwyno, rhaid bod pob adran berthnasol wedi’i chwblhau a bod yr wybodaeth ategol ynghlwm. Gall methu â gwneud hynny arwain at wrthod eich cais.
Efallai y bydd angen cyfarfodydd egluro gydag ymgeiswyr. Gall y rhain ddigwydd unrhyw bryd yn ystod y cynllun grant.
Cymhwystra
Sefydliad
Mae’r cyllid hwn yn agored i bob prif sefydliad sector cyhoeddus sy’n adrodd ei allyriadau ar gyfer Adrodd Sero Net y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys:
- awdurdodau lleol
- byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, ac awdurdodau iechyd arbennig
- prifysgolion
- colegau
- tân ac achub
- parciau cenedlaethol
- sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus fel: Trafnidiaeth Cymru, Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a chyrff eraill a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae ymgeiswyr anghymwys yn cynnwys:
- cynghorau tref a chymuned (oni bai trwy awdurdod lleol ar gyfer allyriadau sy’n cael eu cynnwys yn adroddiadau sero net sector cyhoeddus blynyddol awdurdodau lleol)
- adrannau Llywodraeth Cymru
- sefydliadau’r sector cyhoeddus nad ydynt yn cyflwyno data ar gyfer Adrodd ar Sero Net y Sector Cyhoeddus
- yr heddlu (gan nad yw’n sefydliad sector cyhoeddus datganoledig)
- mentrau cymunedol (fodd bynnag, efallai y bydd y corff cyhoeddus yn dymuno defnyddio menter gymunedol ar gyfer y gwaith)
Math o waith dylunio a datblygu
Dyma restr o’r math o waith dylunio neu ddatblygu yr ydym yn barod i’w gefnogi (nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr):
- dyluniadau cyfnodau Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain
- caniatâd cynllunio
- costau dylunio a datblygu sy’n gysylltiedig â gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu
- cymorth caffael prosiect
- arolygon, profion a gwaith datblygu archwiliadol
Rydym yn barod i gefnogi sefydliadau sy’n defnyddio gwahanol ddulliau o gontractio’r gwaith dylunio a datblygu:
- peirianwyr dylunio ymgynghorol neu beiriannydd perchnogion (mae angen caffael pellach ar gyfer contractwr cyflenwi/gosod)
- prosiect un contractwr: contractwr sy’n parhau i ymgymryd â gwaith cyflenwi/gosod yn ddiweddarach
- mentrau cymunedol: datblygu’r prosiect ar gyfer sefydliad sector cyhoeddus a pharhau i gyflenwi/gosod
Mae safleoedd a gafodd eu cynnwys mewn rowndiau blaenorol o geisiadau yn gymwys i wneud cais mewn rowndiau dilynol. Rhaid i ymgeiswyr a fu'n llwyddiannus yn y gorffennol ddangos bod y gwaith a ariannwyd gan y grant wedi'i gwblhau'n llawn mewn pryd ar gyfer y rowndiau dilynol. Noder bod y broses o wneud cais yn un gystadleuol a bod llwyddiant blaenorol yn rhywbeth a ystyrir yn y broses ddethol, lle rhoddir blaenoriaeth i leoliadau a phrosiectau newydd.
Costau prosiect / technolegau cymwys
Dyma restr o’r math o gostau prosiect / technoleg y byddem yn cefnogi gwaith dylunio neu ddatblygu cymwys ar eu cyfer (nid yw’r rhestr yn un gynhwysfawr):
Datrysiadau technoleg gan gynnwys:
- ynni adnewyddadwy wedi’u gosod ar y ddaear (fferm solar / tyrbin gwynt / dŵr) drwy wifren breifat i safle sector cyhoeddus (gan gynnwys datblygiadau newydd gyda gwifren breifat, neu wifrau preifat newydd o asedau adnewyddadwy presennol yn unig)
- cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle wedi’i gysylltu ‘y tu ôl i’r mesurydd’ (e.e. paneli solar ffotofoltäig wedi’u gosod ar do, pyrth ceir / canopïau solar)
- systemau storio ynni batri (‘y tu ôl i’r mesurydd’)
- seilwaith gwefru cerbydau trydan (rhaid iddo gael ei ddefnyddio gan fflyd neu staff y sector cyhoeddus, ond gall gael ei ddefnyddio gan y cyhoedd hefyd)
- datrysiadau gwres carbon isel (e.e. pympiau gwres a mesurau galluogi)
- rhwydweithiau gwres o amgylch un safle/campws (e.e. campws ysgol uwchradd fawr)
- uwchraddio systemau dŵr poeth i gefnogi’r broses o weithredu gwres carbon isel
- gwelliannau i adeiledd adeiladau
- rheolaethau adeiladau a mesuryddion/monitro gwell (lle mae cyfle datgarboneiddio penodol wedi’i nodi)
Costau eraill prosiect gan gynnwys:
- costau cymorth caniatâd cynllunio a dyluniadau technegol cysylltiedig, costau ymgysylltu â rhanddeiliaid ac asesiadau (e.e. arolygon ecolegol)
- ffioedd a gwaith datblygu ceisiadau grid gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu (ac eithrio taliadau uwchraddio cysylltu â’r grid, gan y dylai’r rhain gael eu cyfalafu)
- arolygon strwythurol
- arolygon asbestos (os oes eu hangen yn ardal benodol y prosiect)
- monitro dros dro ar y safle
- tyllau turio i weld a ellir gosod systemau pympiau gwres o’r ddaear
- cyngor cyfreithiol megis ar gyfer contractio, mentrau sector cymunedol ar y cyd, neu gytundebau prynu pŵer
Costau prosiect / technolegau anghymwys
Ni fydd y Grant Datblygu yn cefnogi cyllid ar gyfer:
- unrhyw brosiectau sy’n gysylltiedig â’r grid yn unig
- system gwresogi ardal neu waith uwchraddio i rwydweithiau system gwresogi ardal bresennol (oni bai ei fod ar gyfer cysylltiadau adeiladau sector cyhoeddus Cymru yn unig)
- gwaith dylunio a datblygu ar gyfer adeilad newydd neu waith adnewyddu mawr ar gyfer gwaith cyfalaf mawr
- taliadau uwchraddio cysylltiad grid Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu
- costau staff cyflogedig mewnol
- TAW adenilladwy: bydd angen i ymgeiswyr reoli’r agwedd hon ar lif arian parod yn briodol lle y caiff TAW ei thalu mewn un flwyddyn ariannol ond ei hadennill y flwyddyn wedyn. Noder: rydym yn disgwyl i’r holl TAW gael ei hadennill
- cynlluniau gweithredu a chynnal a chadw
- Contract Perfformiad Ynni: costau dichonoldeb a Chynigion Gradd Buddsoddi a all gael eu cyfalafu
E-bostiwch grant.datblygu@gwasanaethynni.cymru os bydd gennych ymholiadau am gymhwystra unrhyw waith dylunio neu ddatblygu
Dyfarniadau grant
Dyfarniad
Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd hysbysiad o ddyfarniad yn cael ei anfon ac yna bydd Llythyr Cynnig Grant yn cael ei roi.
Dylai’r Llythyr Cynnig Grant gael ei lofnodi o fewn 10 diwrnod o’i gael. I dderbyn y grant, bydd angen i berson priodol ar lefel uwch lofnodi’r llythyr a darparu manylion banc.
Gellir cyflwyno hawliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus ar gyfer gwariant o 1 Medi 2026 tan 31 Mawrth 2027.
Adrodd ar gynnydd
Bydd ceisiadau am adroddiadau ar gynnydd neu gyfarfodydd trwy gydol cyfnod y grant.
Mae’n rhaid rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Ynni drwy e-bostio grant.datblygu@gwasanaethynni.cymru cyn gynted â phosibl am unrhyw newidiadau perthnasol i’r prosiect a gymeradwywyd, e.e. newid mewn cwmpas, cyflawnadwyedd o fewn y flwyddyn ariannol, neu werth gofynnol y grant.
Mae’n ofynnol i’r sawl sy’n derbyn grant roi mynediad i staff gweithredol ar gyfer cyfweliadau neu arolygon, ymateb i geisiadau am astudiaethau achos a datganiadau i’r wasg, a chytuno ar geisiadau rhesymol i rannu dysgu a dealltwriaeth. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i rannu gwybodaeth dylunio a pherfformiad, cefnogi ymweliadau â’r safle, a rhannu gwybodaeth a lluniau astudiaethau achos.
Hawliadau
Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n derbyn grant wneud un hawliad. Fodd bynnag, ar gyfer prosiectau mwy cymhleth, mae’n bosibl tynnu arian i lawr ddwywaith (2) trwy gydol y flwyddyn ariannol, fel rhan o’r cynnig grant y cytunwyd arno. Dylai arian gael ei dynnu i lawr mewn ôl-ddyledion pan eir i gostau. Caiff ffurflen hawlio ei defnyddio i wneud ceisiadau am daliadau.
Rhaid i ymgeiswyr ddilyn safonau hawlio a bennir gan y Gwasanaeth Ynni. Mae hyn yn cynnwys darparu tystiolaeth o anfonebau a thaliadau ar ffurf PDF i gwmpasu 100% o gostau’r prosiect (y bydd hyd at 50% ohonynt yn cael eu hariannu). Rhaid i wariant cymwys fod o fewn y flwyddyn ariannol, a rhaid i anfonebau gael dyddiad sy'n cyfateb i waith a wnaed rhwng dyddiad cychwyn y grant a'r 31 Mawrth 2027. Caiff templedi o’r dogfennau hawlio gofynnol eu darparu i ymgeiswyr ar ôl iddynt lofnodi’r Llythyr Cynnig Grant.
Dylai ymgeiswyr gyflwyno'r canlyniadau o'r grant datblygu i grant.datblygu@gwasanaethynni.cymru, dim hwyrach na mis ar ôl cyflwyno eu cais terfynol am daliad.
