Grant gwaith brys: canllawiau ymgeisio
Canllawiau ymgeisio ar gyfer Awdurdodau Rheoli Risg sy’n gofyn am gyllid mewn perthynas â gwaith cyfalaf brys. Gellir defnyddio’r cyllid i atgyweirio seilwaith llifogydd sydd wedi’i ddifrodi gan stormydd.
Ar y dudalen hon
Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
yn Llywodraeth Cymru drwy anfon neges e-bost at: RisgLlifogyddArfordirol@llyw.cymru
© Hawlfraint y Goron 2026
WG55308
ISBN digidol 978-1-80853-351-8
Cyflwyniad
Yn dilyn llifogydd mawr blaenorol, mae'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) wedi gallu darparu cyllid cyfalaf brys i Awdurdodau Rheoli Risg (RMAs) i atgyweirio seilwaith llifogydd a ddifrodwyd gan stormydd. Mae'r cynnig hwn bob amser wedi bod yn amodol ar amgylchiadau eithriadol ac argaeledd cyllid cyfalaf.
Diben Grant Gwaith Cyfalaf Brys FCERM yw galluogi awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wneud cais am gyllid cyfalaf a defnyddio'r cyllid hwnnw i atgyweirio a/neu wella seilwaith FCERM hanfodol a ddifrodwyd gan storm a enwir neu gyfnod o dywydd garw sylweddol.
Noder: Mae'r cyllid hwn yn wahanol i'r Cynllun Cymorth Ariannol Brys ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru (CCAB). Mae CCAB (a elwid gynt yn "Bellwin") yn gynllun refeniw dewisol sydd ar gael i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo â'r costau o ymateb ar unwaith. Nid yw cyllid CCAB yn estyn i waith buddsoddi cyfalaf.
Gwaith Cyfalaf Brys FCERM
Er gwaethaf natur frys y gwaith hwn, gellir nodi llawer o fanteision ehangach yn unol â'r Nodau Llesiant, gan gynnwys y canlynol:
- Gwelliannau i strwythurau draenio i'w galluogi i wrthsefyll newid hinsawdd yn well;
- Cymunedau diogel sydd â chysylltiadau da, gwella mynediad i ysbyty, cartref gofal, a busnesau;
- Sicrhau nad yw llifogydd/erydu arfordirol yn effeithio'n andwyol ar fusnesau, gan gynnal cyflogaeth;
- Gwaith meithrin ymwybyddiaeth gyda thrigolion, gan ddarparu gwybodaeth am lefelau afonydd a rhybuddion llifogydd;
- Cymru iachach, drwy leihau gorbryder sy'n effaith gyffredin ymhlith pobl sydd wedi cael profiad o lifogydd;
- Defnyddio deunyddiau lleol i wneud gwaith;
- Defnyddio contractwyr lleol, llai i wneud gwaith, sy'n helpu i ddatblygu gweithwyr lleol ac a allai gefnogi'r Gymraeg yn anuniongyrchol; a
- Defnyddio cynllunwyr mewnol i leihau costau a meithrin sgiliau o fewn Awdurdodau Rheoli Risg.
Meini prawf cymhwystra
Yn yr un modd â phrif grant rhaglen gyfalaf FCERM Llywodraeth Cymru, ac yn unol â'n Strategaeth Genedlaethol, rhaid i waith arfaethedig leihau'r risg i bobl ac eiddo neu gynnal eu lefelau presennol o amddiffyniad.
Mae Grantiau Gwaith Cyfalaf Brys FCERM ar gyfer gwaith cyfalaf yn unig. Dylid ariannu gweithgareddau refeniw, megis glanhau ar unwaith a dosbarthu bagiau tywod ac ati, naill ai o gronfeydd wrth gefn yr Awdurdodau Rheoli Risg, y Grant Cynnal Refeniw (RSG) blynyddol, neu gellir cyflwyno cais drwy'r CCAB os agorir y cynllun ar gyfer y digwyddiad.
Dylai gwaith brys FCERM roi blaenoriaeth i fynd i'r afael ag effeithiau digwyddiadau tywydd garw sylweddol sy'n achosi difrod i seilwaith cyfalaf FCERM presennol, a fyddai, os na chaiff ei atgyweirio'n brydlon, yn peri risgiau sylweddol i drigolion. Diben yn seiliedig ar gyfalaf sydd i'r cyllid hwn, a bwriedir iddo gael ei ddefnyddio'n benodol i atgyweirio seilwaith cyfalaf. Bydd 100 y cant o'r grant yn cael ei ddyfarnu oni nodir yn wahanol.
Enghreifftiau o waith cyfalaf brys FCERM a fydd yn gymwys i gael cyllid:
- Jetio ac ymchwiliadau gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng
- Atgyweiriadau lleol i asedau draenio gan gynnwys cwlfertau
- Atgyweiriadau lleol i asedau uwch ar gyfer rheoli perygl llifogydd fel bwndiau, argloddiau neu waliau
- Monitro atgyweiriadau i gyfarpar - fel systemau teledu cylch cyfyng sydd wedi’u difrodi, synwyryddion dyfnder
- Atgyweiriadau o ran mynediad/allanfa i asedau llifogydd crigiol
- Costau sy’n gysylltiedig â chau ffyrdd wrth gynnal atgyweiriadau brys i asedau FCERM sydd o fudd i eiddo.
Mae'r cyllid yn dibynnu ar argaeledd cyfalaf yn ystod y flwyddyn ar draws Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gwaith cyfalaf brys wedi'i gynnwys yn y gyllideb llifogydd flynyddol. Rhaid i'r holl arian gael ei wario'n llawn yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r cyllid yn cael ei rhoi ynddi. Oherwydd natur cyllidebau llifogydd ar sail flynyddol, ni ellir cario cyllid ymlaen na'i ddyrannu ar draws sawl blwyddyn ariannol, oni nodir fel arall.
Disgwylir i Awdurdodau Rheoli Risg wneud darpariaeth briodol ar gyfer digwyddiadau o'r fath o fewn eu prosesau cynllunio ariannol eu hunain, ac ni ddylid dibynnu ar gyllid brys fel prif ffynhonnell cymorth na ffynhonnell sydd ar gael dro ar ôl tro.
Rhaid rhoi gwybod ar unwaith i Dîm y Rhaglen FCERM am unrhyw oedi a wynebir. Dylid ystyried llwybrau cyllido eraill yn achos gwaith na ellir mynd i'r afael ag ef o fewn amserlen uniongyrchol neu nad yw'n cael ei ystyried yn waith brys o dan ofynion y cyllid grant ac mae angen amserlen hirach neu ddatrysiad mwy parhaol.
Yn achos gwaith o'r fath, yn enwedig pan fo angen ymchwilio iddo ymhellach i ddeall achos y difrod, effeithiau neu fethiannau, anogir awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion i raglenni blynyddol Grantiau Cyfalaf FCERM a Grantiau Gwaith Graddfa Fach. Dylai CNC ddefnyddio'r un dull yn ei gyllideb ariannu ar sail flynyddol.
Bydd penderfyniadau cyllido yn seiliedig ar flaenoriaethu cynlluniau yn ôl y manteision y byddan nhw'n eu darparu, ac ariennir cynifer o gynlluniau ag y bydd y gyllideb yn eu caniatáu.
Gwaith nad yw'n gymwys i gael cyllid:
- Gweithgareddau refeniw y gellir eu cynnwys o fewn y rhaglen Cymorth Ariannol Brys neu drwy gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol.
- Gwaith brys angenrheidiol nad yw'n gysylltiedig â llifogydd i ddiogelu strwythurau peryglus.
- Gwaith sydd o fudd i fusnesau a/neu gludiant yn unig.
- Gwaith nad yw o natur frys ac y gellir ei gyflawni'n rhesymol drwy'r Grantiau Gwaith Graddfa Fach neu brif raglen Cyfalaf FCERM yn ddiweddarach.
Sut i wneud cais
Ar ôl storm a enwir neu gyfnod o dywydd garw sylweddol a'r cyhoeddiad bod cyllid ar gael, gwahoddir Awdurdodau Rheoli Risg i wneud cais am gyllid Gwaith Cyfalaf Brys FCERM. Ar hyn o bryd dylid cyflwyno ceisiadau drwy'r blwch post Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (RisgLlifogyddArfordirol@llyw.cymru) erbyn y dyddiad cau a nodir er mwyn caniatáu asesiad amserol o gymhwystra. Rhagwelir y bydd y broses ymgeisio yn symud i system Taliadau Gwledig Cymru (RPW) maes o law. Bydd Awdurdodau Rheoli Risg yn cael gwybod am unrhyw newid i'r broses ymgeisio a bydd y cyfarwyddiadau perthnasol yn cael eu rhoi iddynt.
Bydd cyfanswm y cyllid fydd ar gael yn cael ei bennu ar sail maint y digwyddiad, argaeledd cyffredinol cyllid ar draws Llywodraeth Cymru, a gwerth y cynigion a gyflwynir gan awdurdodau yr effeithir arnynt ledled Cymru. Bydd dyraniadau cyllid yn cael eu blaenoriaethu yn unol â faint o frys sydd i gyflawni'r gwaith a'r manteision a ddarperir, a bydd y dyfarniadau yn cael eu gwneud o fewn terfynau'r gyllideb sydd ar gael.
Efallai y bydd swyddogion o dimau Arfarnu Technegol a Rhaglen Llifogydd FCERM yn cysylltu ag ymgeiswyr os oes angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad i gefnogi'r broses asesu. Bydd canlyniadau'r ceisiadau am gyllid yn cael eu cyfleu cyn gynted â phosibl. Pan ystyrir bod gweithgareddau arfaethedig yn anghymwys, caiff swyddogion Llywodraeth Cymru gyfeirio ymgeiswyr at ffrydiau cyllido eraill pan fo hynny'n briodol.
Er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu’n deg ac i gefnogi ymateb prydlon, bydd dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ceisiadau yn cael ei gyfleu i bob Awdurdod Rheoli Risg cymwys. Ar ôl y dyddiad cau hwn, bydd cyfran gychwynnol o geisiadau yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo.
Ni chaiff unrhyw gyllid a ddyfernir ei gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol ganlynol, a dylid ystyried hyn wrth gyflwyno ceisiadau, yn enwedig ar gyfer unrhyw gynigion sy'n ymwneud â gwaith o fewn cyrsiau dŵr. Os bydd oedi ac na fydd modd cwblhau cynllun erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, bydd y cyllid a ddyfernir yn cael ei golli, ac nid oes sicrwydd y bydd cyllid ar gael ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.
Bydd ceisiadau a ddaw i law yn cael eu blaenoriaethu drwy ystyried y ffactorau canlynol:
- Tystiolaeth o lifogydd go iawn neu lifogydd a fu bron â digwydd.
- Cyfanswm y cartrefi a fydd yn elwa arno.
- Amcangyfrif o’r gost fesul cartref.
- Manteision ehangach.
Tystiolaeth i gefnogi ceisiadau
Er bod cyllid Gwaith Cyfalaf Brys FCERM wedi'i gynllunio i gefnogi gwaith brys drwy broses ymgeisio symlach, mae yna ofyniad clir o hyd i ddarparu data perthnasol a gwybodaeth ategol. Drwy gyflwyno tystiolaeth briodol ochr yn ochr â'r cais bydd yn helpu i sicrhau proses asesu amserol ac effeithlon.
Dylai tystiolaeth a gyflwynir gyda’r ffurflenni cais gynnwys y canlynol, pan fo hynny'n gymwys:
- Mapiau sy'n dangos lleoliad y gwaith arfaethedig (gan gynnwys dimensiynau) a'r eiddo a fydd yn elwa arno.
- Tystiolaeth ffotograffig o effeithiau storm ar seilwaith llifogydd.
- Adroddiadau Adran 19 (os ydynt ar gael).
- Cyfeiriad at Strategaethau Lleol Rheoli Risg Llifogydd pan fo hynny'n briodol.
Gall methu â darparu tystiolaeth ddigonol arwain at oedi neu wrthod y cais.
Hawliadau a dogfennaeth ategol
Gofynnir am hawliadau ddwywaith y flwyddyn, yn unol â'r amserlen ganlynol:
- Chwarter 1: Gorffennaf – Rhagolwg yn unig
- Chwarter 2: Hydref – Hawliad ac adroddiad cynnydd
- Chwarter 3: Ionawr – Rhagolwg yn unig
- Chwarter 4: Mawrth – Hawliad ac adroddiad cynnydd terfynol
Ni dderbynnir unrhyw orchmynion amrywio i gynyddu gwerth y grant neu i estyn hyd y Grant Gwaith Cyfalaf Brys.
Er mwyn darparu rhywfaint o hyblygrwydd, caiff un dyfarniad grant gwmpasu sawl cynllun, fel mewn blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn caniatáu i gyllid gael ei ailddyrannu rhwng cynlluniau, ar yr amod nad yw cyfanswm y gwerth yn fwy na dyfarniad y grant gwreiddiol a bod y gwaith yn cael ei gwblhau.
Mewn achosion lle nad yw cynllun yn mynd rhagddo mwyach, rhaid rhoi gwybod i dîm y rhaglen cyn ailddyrannu unrhyw gyllid i gynlluniau eraill. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir rheoli unrhyw gyllid nas defnyddir yn briodol a'i ddychwelyd, pan fod angen gwneud hynny.
Dylai'r ddogfennaeth ategol berthnasol gael ei chyflwyno gyda'r cais, a fydd yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- Adroddiad cynnydd;
- Anfonebau am waith a gwblhawyd;
- Cyfriflyfr/amser staff; a
- Ffotograffau.
Brandio
Lle bo’n briodol, dylai unrhyw waith sy’n cael ei ariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru gael ei frandio a dangos logo Llywodraeth Cymru. Mae costau sy’n gysylltiedig â brandio yn gymwys i gael grant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a yw plac yn briodol ar gyfer eich cynllun, cysylltwch â Changen FCERM Llywodraeth Cymru .
Gwybodaeth bellach a manylion cyswllt
Grantiau Gwaith Cyfalaf Brys FCERM
I gael rhagor o wybodaeth am Grantiau Gwaith Cyfalaf Brys FCERM, cysylltwch â'r Gangen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn RisgLlifogyddArfordirol@llyw.cymru
Y Cynllun Cymorth Ariannol Brys
I gael rhagor o wybodaeth am CCAB, cysylltwch â'r Gangen Polisi Cyllid Llywodraeth Leol yn LGFPmail@llyw.cymru
