Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Grant Diogelwch Adeiladau Tai Cymdeithasol

3. Sail gyfreithiol y DU

Mae Gweinidogion Cymru’n cael talu grant, o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”), i awdurdod lleol tuag at gostau sydd wedi neu sydd i’w hysgwyddo gan yr Awdurdod Lleol hwnnw. Mae Adran 31(3) o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu swm y grant ac mae adran 31(4) yn darparu y gellid talu’r grant o dan amodau y gall Gweinidogion Cymru eu pennu. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i roi cyllid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o dan adran 18(1) o Ddeddf Dai 1996 mewn cysylltiad â’u gweithgareddau tai. Mae adran 18(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu gweithdrefn, amgylchiad, dull neu swm y grant a delir.

4. Amcanion y Cynllun

Cyllid grant i unioni problemau â diogelwch tân mewn tai cymdeithasol sy’n rhan o adeiladau preswyl uchel a lled-uchel.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn unig.

7. Sector(au) a gefnogir

  • Llety a gwasanaethau bwyd
  • Adeiladu
  • Iechyd pobl a gwaith cymdeithasol

8. Hyd y Cynllun

10 Chwefror 2023 tan 31 Mawrth 2026

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£40,000,000

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal o roddir o dan y Cynllun yn cael ei roi ar ffurf grant.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Dyma’r prif feini prawf i fod yn gymwys:

  • Mae’r gronfa’n agored i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol
  • Bydd yn helpu gwaith cyweirio problemau diogelwch tân a strwythurol mewn adeiladau preswyl uchel a lled-uchel, sef y rhai 11 metr o daldra neu uwch (mwy na phedwar llawr o uchder).
  • Mae’r problemau diogelwch tân fydd wedi’u nodi yn y mannau dan sylw yn seiliedig ar asesiad o’r risg ac mae’r mesurau wedi’u hymgorffori yn y cynllun diogelwch tân.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae Llywodraeth Cymru’n dyfarnu grant o hyd at 100% ar gyfer gwaith diogelwch tân, ar sail asesiad o'r cais am grant sy'n ymdrin â’r diffygion diogelwch tân o dan un neu fwy o'r meini prawf isod.

Bydd y cyllid yn cefnogi pum maes:

  1. Systemau synhwyro tân a larwm. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyfredol, gan gwmpasu’r adeilad cyfan ac yn integreiddio â chynllun diogelwch tân ehangach yr adeiladau.
  2. Systemau i gael pobl allan o’r adeilad. I gyd-fynd â’r cynllun diogelwch tân. Rhaid i’r system allu gofyn i bobl aros, gwacáu rhan o’r adeilad neu gwacáu’r adeilad cyfan.
  3. System llethu tân. Mae system llethu tân da a chynhwysfawr yn ffordd effeithiol o leihau’r perygl o anaf neu farwolaeth oherwydd tân.
  4. Compartmenteiddio. Mae hyn yn ymwneud â chadernid y waliau a’r lloriau o gwmpas pob fflat ac â gallu drysau ffrynt i atal tân, mwg a nwyon hylosg eraill rhag lledaenu. Cynhwysir mesurau compartmenteiddio mewn mannau cyhoeddus fel drysau atal tân/mwg i rwystro mwg a nwyon hylosg eraill rhag lledaenu o’r mannau sydd ar dân, ac yn bendant rhag lledaenu i’r mannau dianc neu rhwng lloriau. Bydd angen compartmenteiddio llwybrau dianc yn drwyadl i sicrhau y gall yr holl drigolion eu defnyddio pan fydd angen gwacáu’r adeilad.
  5. Cladio’r waliau allanol o’r newydd. Arolygon trylwyr o’r adeiladau dan sylw i nodi’r risgiau/diffygion diogelwch tân, a chladio waliau allanol a gwaith adeiladu cysylltiedig. Gwaith gosod deunydd cladio newydd yn lle’r hen ddeunydd cladio a gwaith adfer, ynghyd â mesurau lliniaru technegol i sicrhau na all tân ledaenu trwy adeiladwaith allanol yr adeilad.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£8,000,000

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cymru

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image