Neidio i'r prif gynnwy

Cyn hir bydd rhieni yng Nghymru yn gallu manteisio ar gronfa newydd gwerth £1.7 miliwn i helpu i dalu am wisgoedd ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y gronfa newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg, hefyd yn talu am gyfarpar ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm, fel dylunio a thechnoleg.

Yn ogystal, bydd rhieni hefyd yn gallu cael gafael ar gyllid am gyfarpar ar gyfer  tripiau ysgol tu allan i oriau'r ysgol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored.

Bydd y gronfa newydd ar gael cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi a daw'n elfen arall o'r Grant Datblygu Disgyblion. Enw'r gronfa fydd Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad.

Yn ogystal â darparu arian ar gyfer gwisgoedd ysgol newydd a dillad ar gyfer gweithgareddau y tu fewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth, bydd Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad ar gael i ystod ehangach o ddisgyblion na'r hen Grant Gwisg Ysgol a bydd gan y cynllun lefel gyllido uwch, sef £125 fesul disgybl.

Am y tro cyntaf, bydd dysgwyr ym mlynyddoedd 1 a 7 sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dod o fewn cwmpas y cyllid. Mewn cyferbyniad i’r hen Grant Gwisg Ysgol, bydd pob plentyn yn y grwpiau blwyddyn hyn sy'n derbyn gofal hefyd yn gymwys i gael y cyllid.

Fel yn achos y cynllun blaenorol, bydd y grant yn cael ei ddosbarthu drwy'r awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu'r grant a bydd yn parhau i wneud hynny er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol a bod arfer da o ran gwisg ysgol yn cael ei rannu rhwng ysgolion.

Wrth gyhoeddi’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad heddiw, dywedodd Kirsty Williams:

“Mae lleihau'r bwlch rhwng cyrhaeddiad y disgyblion hynny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion yn greiddiol i'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau.

“Mae ysgolion eisoes wedi galw'r Grant Datblygu Disgyblion yn 'amhrisiadwy'. Bydd y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad yn ein galluogi i fynd gam ymhellach i gefnogi ein dysgwyr difreintiedig i wireddu eu holl botensial, ac i leihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng y dysgwyr hynny a'u cyfoedion.”

Yn ogystal â'r grant, mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i'r canllawiau anstatudol presennol ynghylch gwisg ysgol, a sut y gellir eu cryfhau.