Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) wedi ei sefydlu i ddarparu cymorth cyllid grant ar gyfer gosod systemau larwm tân cyffredin mewn adeiladau preswyl cymwys yng Nghymru lle mae gofyniad am fesurau diogelwch tân interim. 

Mae’r grant yn cefnogi diogelwch preswylwyr tra bod gwaith adfer neu liniaru diogelwch tân parhaol ar y gweill. Y nod yw lleihau dibyniaeth ar drefniadau patrolau diogelwch tân parhaus pan ystyrir bod system larwm tân cyffredin sydd wedi ei chynllunio’n briodol yn fesur interim priodol. 

Mae’r grant yn rhan o Raglen Diogelwch Adeiladau ehangach Llywodraeth Cymru. Mae cyllid grant drwy’r cynllun hwn yn cefnogi mesurau lleihau risg dros dro ac nid yw’n dileu’r gofyniad i fynd i’r afael â diffygion diogelwch tân sylfaenol yn barhaol. Disgwylir i berchnogion adeiladau ac endidau cyfrifol barhau i fynd rhagddynt â gwaith adfer neu liniaru parhaol. 

O dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, y person cyfrifol sy’n parhau i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelwch tân. Nid yw cyllid grant drwy Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am ddiogelwch adeilad i Lywodraeth Cymru. 

Ynglŷn â’r grant

Diben y grant yw cefnogi’r broses o osod systemau larwm tân cyffredin fel mesur diogelwch tân interim tra bod atebion parhaol yn cael eu darparu. 

Nod y grant yw:

  • Cefnogi preswylwyr i aros yn ddiogel yn eu cartrefi.
  • Lleihau dibyniaeth ar drefniadau patrolau diogelwch tân parhaus pan fo hynny’n briodol.
  • Lleihau cost mesurau diogelwch tân interim.
  • Lleihau’r angen i symud preswylwyr allan o adeiladau.
  • Cefnogi cynnydd tuag at waith adfer a lliniaru parhaol.

Dim ond mesurau interim y mae’r grant hwn yn ei gefnogi. Rhaid i ymgeiswyr barhau i wneud cynnydd â gwaith adfer neu liniaru parhaol ochr yn ochr ag unrhyw waith gosod larymau. 

Pwy all wneud cais

Mae’r sefydliadau a’r unigolion canlynol yn gymwys i wneud cais am gyllid grant o dan y rhaglen hon:

  • Endidau cyfrifol
  • Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Awdurdodau lleol
  • Asiantau rheoli sydd wedi eu hawdurdodi i weithredu ar ran perchennog adeilad neu endid cyfrifol.
  • Cynrychiolwyr awdurdodedig eraill sy’n gweithredu ar ran Endid Cyfrifol. 

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi eich awdurdodi i weithredu ar ran perchennog yr adeilad neu’r endid cyfrifol pan fo hynny’n berthnasol. 

Ni chaiff lesddeiliaid, tenantiaid, na phreswylwyr wneud cais am y grant yn uniongyrchol. Dylent gysylltu â’u hendid cyfrifol neu, pan fo hynny’n berthnasol, landlord awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig. 

Cymhwysedd

Er mwyn i adeilad gael ei ystyried yn gymwys ar gyfer cyllid grant, rhaid iddo: 

  • Fod yng Nghymru
  • Bod yn 11 metr o uchder neu’n uwch
  • Bod yn amlfeddiannaeth
  • Cynnwys llety preswyl

Hefyd, mae’n rhaid i’r adeilad:

Fod ag Asesiad Risg Tân (FRA), Arfarniad Risg Tân Waliau Allanol (FRAEW), neu asesiad diogelwch tân cyfatebol sy’n dangos yr angen am fesurau diogelwch tân interim, a/neu

Bod wedi derbyn hysbysiadau gan reoleiddiwr lleol, megis awdurdod lleol neu wasanaeth tân ac achub, a allai gynnwys hysbysiadau gorfodi neu wahardd.

Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gadarnhau cymhwysedd. 

Yr hyn y gellir eu hariannu â grant

Mae Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) yn cefnogi costau cyfalaf rhesymol sy’n gysylltiedig â gosod system larwm tân cyffredin, gan gynnwys:

  • Cydrannau system larwm tân (offer, gwifrau, synwyryddion, paneli a chydrannau tebyg)
  • Llafur a chostau gwaith gosod eraill cysylltiedig
  • Comisiynu a phrofi
  • TAW na ellir ei adennill, pan fo hynny’n berthnasol. 

Gofynion canfod tân a larwm tân

Dylai’r system larwm tân cyffredin gael ei chynllunio i fodloni argymhellion system BS 5839-1 ar gyfer Categori L5 i fodloni’r amcanion diogelwch tân penodol ar gyfer yr adeilad yn seiliedig ar y risgiau sy’n bresennol. 

Dylai unrhyw system canfod tân a larwm tân gael eu dylunio, eu gosod, a’u comisiynu gan unigolyn neu bobl fedrus sy’n meddu ar gymwysterau priodol sydd wedi eu hachredu gan drydydd parti. Dylai’r system larwm hon gael ei chynllunio â’r nod o gyrraedd y safonau y cyfeirir atynt yn Simultaneous Evacuation Guidance 

Gallai’r grant dalu costau rhesymol larwm y gellir ei uwchraddio i fodloni manyleb BS 8629.

Mae Simultaneous Evacuation Guidance yn cynghori y dylid ystyried gosod larwm a bennir er mwyn caniatáu uwchraddio i system rhybudd gadael mewn argyfwng BS 8629 pan fydd y gwaith adfer neu liniaru wedi ei gwblhau. Mae hyn oherwydd pan fo’r adeilad yn dychwelyd i strategaeth gadael mewn argyfwng ‘Aros yn eich unfan’, pan fo gwaith adfer neu waith arall wedi ei gwblhau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid cael gwared ar system larwm cyffredin arferol oherwydd nad yw’n gydnaws â strategaeth ‘Aros yn eich unfan’.

Os newid y system yw’r canlyniad hirdymor a ddymunir, dylai’r Person Cyfrifol drafod newid yn y dyfodol â pheiriannydd larwm tân cymwys cyn gosodiad cyntaf y system larwm tân cyffredin.

Dylai’r Person Cyfrifol dderbyn cyngor technegol perthnasol ac ystyried NFCC Simultaneous Evacuation guidance.

Yr hyn na ellir ei ariannu â grant

  • Costau patrolau diogelwch tân parhaus cyfredol, hanesyddol, neu yn y dyfodol
  • Wardeniaid tân neu bersonél rheoli’r broses o adael mewn argyfwng.
  • Costau rheoli prosiect
  • Costau gweinyddol
  • Contractau cynnal a chadw neu wasanaethu
  • Atgyweirio systemau larwm presennol
  • Tynnu neu newid systemau larwm
  • Ffioedd cyfreithiol
  • Ffioedd proffesiynol nad ydynt yn gysylltiedig
  • Costau patrolau diogelwch tân parhaus gweddilliol sy’n parhau i fod yn angenrheidiol ar ôl y gwaith gosod
  • Costau a ariennir eisoes drwy ffynhonnell ariannu cyhoeddus arall. 
  • Costau sydd eisoes wedi eu hariannu drwy unrhyw bolisi yswiriant neu indemniad

Pan fo system larwm tân interim wedi ei hariannu yn flaenorol drwy Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC), rhaglen ariannu arall gan Lywodraeth Cymru, neu gan ddatblygwr, ni fydd unrhyw gais dilynol am gyllid grant larwm interim yn cael ei ystyried os oes tystiolaeth nad yw’r system wedi ei gwasanaethu neu ei chynnal yn briodol.

Yr hyn a ddisgwylir gan dderbynwyr cyllid grant

Ar ôl cyflwyno’r Llythyr Dyfarnu Grant, mae’n ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau, ar ôl ymrwymo i’r cytundeb ac unwaith eto cyn y bydd cyllid grant yn cael ei ryddhau:

  • eu bod wedi datgelu’r holl fesurau adfer neu liniaru y maent yn ymwybodol ohonynt
  • eu bod wedi sicrhau bod y mesurau gofynnol hyn ar waith yn yr adeilad fel y gellir dileu’r patrolau diogelwch tân parhaus ar ôl gosod y larwm
  • bod unrhyw fesurau ychwanegol a ddatgelwyd yn gyraeddadwy ac yn cynnig amserlen ar gyfer eu cwblhau

Os bydd ymgeisydd yn cael Asesiad Risg Tân neu ohebiaeth oddi wrth y Gwasanaeth Tân ac Achub neu Berson Proffesiynol ar ôl i’r larwm gael ei osod, yn gofyn am fesurau adfer ychwanegol i gael gwared ar batrolau diogelwch tân parhaus neu i’w hosgoi (yn ychwanegol at y rhai a ddatgelwyd ar yr adeg pryd y gwnaed y cais), mae’n rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) yn brydlon. Hefyd, mae’n rhaid iddo ddarparu manylion am gynlluniau i fynd i’r afael â’r mesurau hynny o fewn 10 diwrnod busnes (dydd Llun i ddydd Gwener yn gynwysedig, ac eithrio gwyliau cyhoeddus, yw’r diwrnodau busnes).

Os yw mesurau ychwanegol wedi eu datgelu ac:

  • nid ydynt wedi eu gwneud o fewn yr amserlenni gofynnol
  • mae hynny’n golygu bod yr adeilad yn ddarostyngedig i Hysbysiad Gwahardd o fewn 1 flwyddyn i osod y larwm

Efallai y bydd angen ad-dalu’r cyllid grant.

Gwneud cais am gyllid grant

Gallwch wneud cais am gyllid grant gan Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) gan ddefnyddio’r ffurflen ganlynol:

Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC): ffurflen gais rhagweithiol | LLYW.CYMRU

Cyn ichi wneud cais, darllenwch Canllawiau i Ymgeiswyr Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC).

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl ichi wneud cais

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ceisiadau i wneud yn siŵr:

  • eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd i gael mynediad at Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC)
  • mai chi yw’r Endid Cyfrifol cywir

Pan fo dyfarniad grant yn cael ei gyflwyno, bydd angen i’r Endid Cyfrifol ei lofnodi.

Rheoli cymhorthdal

Bydd Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) yn gweithredu yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 ac unrhyw gynllun cymhorthdal Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol. 

Mae’n bosibl y gofynnir ichi ddarparu gwybodaeth i gefnogi asesiadau rheoli cymorthdaliadau a gofynion tryloywder. 

Gellid cyhoeddi gwybodaeth am ddyfarniadau grant pan fo hynny’n angenrheidiol yn ôl deddfwriaeth neu’r cynllun cymorthdaliadau perthnasol. 

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb. Cewch wneud cais a gohebu â ni yn Gymraeg neu Saesneg.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a gyflwynir yn Saesneg.

Hysbysiad preifatrwydd

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn rhan o gais Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC).

Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth er mwyn:

  • asesu ceisiadau grant neu gais am gyllid grant.
  • monitro perfformiad cynlluniau.
  • gwirio unrhyw wybodaeth a ddarperir.
  • sicrhau bod grantiau wedi eu talu yn unol ag amodau cymhwysedd a rheoli cymorthdaliadau y cynlluniau.
  • gwerthuso ac adolygu effaith, perfformiad, a chostau y cynlluniau.
  • ymchwilio i effeithiolrwydd y cynlluniau a chefnogi datblygiad polisïau yn y dyfodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae Llywodraeth Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol yn hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Gwneud cwyn

Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a gawsoch gan Lywodraeth Cymru, gallwch wneud cwyn gan ddefnyddio Gweithdrefn Cwyno Llywodraeth Cymru.

Bydd cwynion yn cael eu trin yn unol â threfniadau cwyno cyhoeddedig Llywodraeth Cymru.

Ni fydd cwyn yn arfer arwain at gais am gyllid grant yn cael ei ailasesu oni bai bod tystiolaeth nad yw’r broses asesu cyhoeddedig wedi ei dilyn yn gywir.

Ceir gwybodaeth am sut i wneud cwyn yn LLYW. CYMRU:

Sut i wneud cwyn am Lywodraeth Cymru

Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon ar ôl i’ch cwyn gael ei hystyried, efallai y byddwch yn gallu cyfeirio’r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth yn:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC), cysylltwch â, e-bost: GLMIC@llyw.cymru