Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Rhoddir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, gyda chynlluniau – gan gynnwys y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir - yn cyflawni yn unol â’r themâu canlynol:

  • rheoli tir ar raddfa fferm
  • gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi ffermwyr i weithredu, gan ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd presennol a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon a gwella'r amgylchedd.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru (ar Busnes Cymru).

Adran A – cyflwyniad

Mae'r Llyfryn hwn yn disgrifio’r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir. Mae Canllawiau Technegol hefyd wedi’u paratoi sy’n disgrifio’r cymysgedd o rywogaethau coed cymwys, y dwyseddau plannu, y canlyniadau a’r meini prawf ym mhob Categori Coetir. Darllenwch nhw’n ofalus.  Os byddwch o’r farn wedyn y gallai’ch cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth y cynllun hwn, darllenwch ‘Sut i Wneud Cais’ a’r llyfryn Sut i Lenwi.

Agorodd y ffenest ymgeisio hon ar 13 Chwefror 2023 a chaeodd ar 22 Mai 2023. Mae cyllideb o £3 miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Mae Grantiau Bach - Creu Coetir yn gynllun sydd wedi ei anelu at ffermwyr a rheolwyr tir eraill i'w hannog i blannu coetiroedd bach ar dir sydd wedi'i wella'n amaethyddol neu dir isel ei werth amgylcheddol yng Nghymru.

Mae arian ar gael ar gyfer plannu coed ar hyd cyrsiau dŵr, yng nghorneli caeau neu mewn caeau bach i greu mannau cysgodi stoc, i hybu bioamrywiaeth ac i gynhyrchu tanwydd coed. Mae Grantiau Bach – Creu Coetir yn daliad premiwm ar gyfer y gwaith plannu newydd a chynigir taliadau hefyd am 12 mlynedd ar gyfer gwaith Cynnal a Chadw.  Mae'r broses ymgeisio yn sicrhau bod cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) heb i chi orfod anfon cynllun creu coetir i CNC ar gyfer ei ddilysu. Mae’r cyllid ar gael ar gyfer plannu lleiniau rhwng 0.1ha ac 1.99ha o faint

Mae'r cynllun yn cynnig grantiau i blannu coed ar dir cymwys yn unig, fel sydd wedi’i gynnwys yn yr ardal sensitifedd isel ar y Map Cyfleoedd Coetir. Nid yw cynefinoedd â blaenoriaeth na thir uwchlaw llinell derfyn tiroedd sydd wedi'u hamgáu a thir comin yn gymwys, oherwydd yr effaith bosibl ar y dirwedd a chymhlethdodau eraill.  Os nad yw’ch tir yn yr ardal sensitifedd isel, neu os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth yn y Map Cyfleoedd yn anghywir, dylech wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir a chael help Cynlluniwr Coetir Cofrestredig i ddatblygu Cynllun Creu Coetir.

Rhaid i'r rhai sy'n ymgeisio am gyllid yn y ffenest hon gwblhau eu gwaith plannu a chyfalaf newydd a hawlio ar yr holl waith cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2023/24 h.y. erbyn 31 Mawrth 2024. Ni fydd estyniadau'n cael eu rhoi y tu hwnt i 31 Mawrth 2024.

Bydd angen i chi ystyried a oes yna goed ar gael ichi eu plannu wrth benderfynu a ddylech Fynegi Diddordeb yn y ffenest hon.

Bydd Ffenest 3 yn agor ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ac yn cau ar 15 Medi 2023. Cewch Fynegi Diddordeb faint a fynnoch o weithiau yn y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir, ond cewch ond cyflwyno un cais mewn ffenest ymgeisio.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Bydd coetir gaiff ei greu nawr yn cael cyfrannu at y 10% o orchudd coed a fydd yn amod o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer pob fferm. Rydym dal wrthi’n datblygu cyfraddau talu a modelau’r cynllun newydd ond ni fydd anfantais i ffermwyr sy’n dewis creu coetir cyn dechrau’r cynllun newydd. Rydym wrthi’n ystyried sut y gall ymgeiswyr drosglwyddo eu contract Grantiau Bach – Creu Coetir i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Adran B – pwy sy’n gymwys

Rydych yn gymwys i wneud cais:

  • os ydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN).
  • os ydych yn ddeiliad tir cyhoeddus neu breifat neu’n gyngor neu’n gymdeithas, gan gynnwys grwpiau cymunedol sy'n plannu ar dir cyhoeddus.
  • os yw’ch landlord wedi rhoi ei ganiatâd i chi ymuno â’r cynllun os ydych chi'n gwneud cais fel tenant. 
  • nid yw Adrannau’r Llywodraeth na’u hasiantau yn gymwys am daliad.

Pa dir sy’n gymwys:

  • Dim ond parseli tir yng Nghymru sy’n gymwys.
  • Bydd y tir wedi'i gofrestru gyda System Adnabod Parseli Tir (LPIS) Llywodraeth Cymru ar 14 Chwefror 2023. Darllenwch RPW Ar-Lein: defnyddio 'rheoli fy nhir'.
  • Bydd gennych reolaeth lwyr ar y tir gydol y contract a dros gyfnod llawn yr ymrwymiad. 
  • Rhaid plannu coetir ar o leiaf 0.1ha o dir er mwyn bod yn gymwys am y Grantiau Bach – Creu Coetir.
  • Ni chewch blannu mwy na chyfanswm o 1.99ha fesul cais. Gellir rhannu’r cyfanswm yn flociau o goed, dim un ohonyn nhw’n llai na 0.1ha.

Amodau plannu:

  • rhaid i chi gadarnhau bod pob cymydog ac unigolyn sydd ag eiddo sy’n ffinio â’r safle plannu newydd yn hapus â’ch cynigion plannuDarllenwch Adran E – Annog y Cyhoedd i Gymryd Rhan.
  • rhaid plannu’r coed gan ddefnyddio dulliau plannu â llaw, creithio pridd neu dwmpathau wyneb i waered a thwmpathau colynnog, yn unol â meini prawf  y Categori Coetir a ddewisir. 
  • rhaid i'ch cynnig plannu o dan y cynllun fod o dan y trothwy ar gyfer Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (EIA) fel na fydd angen cynnal EIA (Coedwigaeth).  Gweler y canllawiau Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA) yn yr Adran hon.

Nid yw'r canlynol yn gymwys am Grantiau Bach – Creu Coetir:

  • tir y mae rheolwr tir neu fusnes fferm arall yn hawlio cymhorthdal neu gynllun grant domestig neu UE arno (hawlio ddwywaith ar yr un tir).
  • tir o dan Drwydded Bori.
  • tir Comin cofrestredig.
  • tir lle mae’r coed wedi’u cwympo a bod angen ailstocio.

Tir o dan gontract y cynlluniau canlynol

  • Creu Coetir Glastir
  • Adfer Coetir Glastir
  • Cynllun Coetir Ffermydd/Cynllun Premiwm Coetir Ffermydd
  • Premiwm Tir wedi’i Wella
  • Premiwm Creu Coetir Glastir.
  • Grantiau Bach Glastir neu Grantiau Bach – Amgylchedd
  • Grant Creu Coetir

Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (EIA)

Mae'r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir wedi ei lunio fel nad oes angen cynnal Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) o ran coedwigo fel arfer. Fodd bynnag bydd angen i chi hefyd ystyried a oes unrhyw goetir wedi'i blannu o fewn y 5 mlynedd diwethaf ar dir sy’n ffinio â’r safle rydych am blannu coed arno. Mae hyn yn cynnwys coed sydd wedi’u plannu ar dir eich cymydog. Mae tir sy’n ffinio yn cael ei ddiffinio fel o fewn 10m i’ch cynllun arfaethedig.

Y Trothwy ar gyfer cynnal EIA yw 2ha os oes unrhyw ran o’r tir mewn Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a 5ha ar gyfer unrhyw dir arall.

Os caiff mwy na throthwy’r EIA ei blannu dros y 5 mlynedd ddiwethaf gan gynnwys ar dir cyffiniol, ni chaiff Grant Bach – Creu Coetir ei dalu i chi a dylech ystyried gwneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir. Gallwch ofyn am help Cynlluniwr Coetiroedd cofrestredig fydd yn llunio cynllun creu coetir ar eich cyfer, a bydd yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn rhan o'r cynllun.

Adran C – tir mewn cynlluniau eraill

Dyma fanylion y berthynas rhwng Grantiau Bach – Creu Coetir a thir sydd mewn cynlluniau eraill:

Glastir Uwch

Plannu yn ystod Contract Glastir Uwch byw

Os ydych am blannu coed o dan y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir cyn i'ch contract Glastir Uwch ddod i ben, ni chewch wneud hynny ar unrhyw ran o barsel yr ydych yn cynnal opsiwn rheoli ynddo. Dim ond yn y parseli sy’n weddill, nad oes opsiwn rheoli’n cael eu cynnal ynddyn nhw, y gallwch ystyried cynnig plannu coed.

Gallai gwneud gwaith sy’n mynd yn groes i gontract Glastir Uwch byw arwain at gosbi unrhyw daliadau sy’n cael eu hawlio o dan yr opsiwn hwnnw.

Plannu ar ôl i Gontract Glastir Uwch ddod i ben

Os ydych am blannu’r coed ar ôl i'ch contract Glastir Uwch ddod i ben, ni chewch blannu coed ar unrhyw dir oedd o dan opsiwn rheoli Glastir Uwch. Er mwyn cael plannu ar y tir hwn, rhaid ichi wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Glastir Organig a’r Cynllun Troi’n Organig

Os oes gennych dir o dan gontract Glastir Organig neu’r cynllun Troi’n Organig, gallwch ei roi yn eich contract Grantiau Bach - Creu Coetir. Ond, rhaid gofyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein am ganiatâd i dynnu’r tir o'ch contract Glastir Organig neu Droi’n Organig. O gael caniatâd Llywodraeth Cymru, caiff y tir ei dynnu o’ch Contract Glastir Organig, a dim ond ar ôl gwneud hynny y cewch ddechrau plannu’r coed.

Tyfu er mwyn yr Amgylchedd

Os oes gennych dir o dan gontract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, gallwch ei gynnwys yn eich contract Grantiau Bach - Creu Coetir. Ond, rhaid gofyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein am ganiatâd i dynnu’r tir o'ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. O gael caniatâd Llywodraeth Cymru, caiff y tir ei dynnu o’ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, a dim ond ar ôl gwneud hynny y cewch ddechrau plannu’r coed.

Gwaith Cyfalaf a gafodd ei ariannu o’r blaen

Os yw'r Gwaith Cyfalaf wedi'i ariannu o’r blaen o dan unrhyw un o'r cynlluniau isod, nid yw'n gymwys am Grantiau Bach – Creu Coetir:

  • Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
  • holl gynlluniau Glastir

Cael eich talu ddwywaith

Rhaid i chi beidio â gwneud cais am Grantiau Bach – Creu Coetir os ydych yn derbyn arian ar gyfer y gwaith dan sylw o unrhyw ffynhonnell arall, gan y byddech yn cael eich talu ddwywaith ac ni chaniateir hynny. Os gellir profi’ch bod yn cael neu wedi cael arian o ffynhonnell arall ar gyfer ymrwymiadau Grantiau Bach – Creu Coetir, gallech gael eich cosbi’n ariannol, gorfod ad-dalu taliadau gyda llog a dod â’ch contract i ben.

Adran D – y cyllid sydd ar gael

Gwaith cyfalaf

Mae'r taliadau Cyfalaf ac Arwynebedd canlynol i’ch helpu i sefydlu coetir a’i gynnal a’i gadw wedi hynny ar gael o dan gynllun Grantiau Bach - Creu Coetir.

Categori coetir

Taliad fesul Hectar

Coetir Gwlyb a Glan Nant 1100

£3,302

Coetir Gwlyb a Glan Nant 1600

£4,550

Bioamrywiaeth Frodorol 1100

£3,302

Bioamrywiaeth Frodorol 1600

£4,550

Tanwydd pren (cynhyrchiol)

£5,146

Coed Cysgodol Brodorol

£6,170

Coed Cysgodol (cynhyrchiol)

£5,146

Y Wiwer Goch 1600

£4,550

Y Wiwer Goch 2500

£5,146

Gwaith Cyfalaf Ychwanegol

Taliad fesul Eitem

Ffensio

£8.32 / m

Cilbyst a Gât Ceffyl o Bren

£220.83 yr un

Cilbyst a Gât Mochyn o Bren

£237.80 yr un

Taliad Arwynebedd blynyddol am 12 mlynedd

Talu fesul Hectar

Premiwm

£350

Cyfraddau cynnal a chadw am 12 mlynedd - Taliad fesul Hectar

Bl1

Bl2

Bl3

Bl4

Bl5

Bl6

Bl7

Bl8

Bl9

Bl10

Bl11

Bl12

£400

£300

£250

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

Categorïau coetir

Fe welwch ragor o fanylion am y Categorïau Coetir yn y llyfryn Canllaw Technegol gan gynnwys y cymysgedd rhywogaethau coed cymwys, dwysedd plannu, canlyniadau a meini prawf pob Categori Coetir.

Gwaith Cyfalaf ychwanegol

Fe welwch fanylebau technegol Gwaith Cyfalaf Ychwanegol yn y llyfryn Canllaw Technegol.

Mae grant ffensio ar gael ar gyfer cadw da byw allan o goetir newydd ei blannu. Mae grantiau ar gael ar gyfer gatiau pren, ond dim ond gatiau sy’n caniatáu mynediad ar hawliau tramwy cyhoeddus fel llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Ni chaiff unrhyw ffens y rhoddir grant i’w hadeiladu fod yn hirach na pherimedr y safle a blennir.  Weithiau, bydd yn well gosod y ffens mewn cae arall (e.e. i gynnwys perth/gwrych neu goetir cyffiniol). Rhaid bod gan y cwsmer reolaeth lwyr ar y cae hwnnw a rhaid ei fod yn bodloni holl amodau’r cynllun.

Gallwch wella’r ffens er mwyn cadw ceirw neu gwningod allan ar eich cost eich hun, ond rhaid i hyn fod yn ychwanegol at y ffens stoc safonol.

Cadw stoc allan

Ni chaniateir unrhyw dda byw ar y safle plannu newydd am oes ymrwymiadau contract y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.

Taliad cynnal a chadw

Bydd taliad Cynnal a Chadw blynyddol yn cael ei dalu gydol oes y contract ichi ar gyfer cynnal a chadw’r coetir newydd. Bydd taliad blynyddol ar gael am 12 mlynedd. Mae hyn yn dechrau’n ddwys i gydnabod y costau uwch yn y blynyddoedd cynnar ar ôl plannu er mwyn darparu'r cyllid pan fo angen. Er mwyn ei gael, rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Gais Sengl (SAF) bob blwyddyn erbyn 15 Mai trwy RPW Ar-lein a hawlio ar bob cae cymwys sydd wedi’i gynnwys yn eich contract.

Mae'r grant cynnal a chadw yn cael ei roi ar gyfer gwaith chwynnu cyfnodol ac i brynu coed newydd yn lle’r rhai sy’n marw. Pan fyddwn yn archwilio’ch coed, byddwn yn disgwyl iddyn nhw fod wedi cydio’n iawn. Disgwylir tyfiant rhesymol yn eu huchder bob blwyddyn fel eu bod yn 5 i 6 troedfedd (1.5 i 1.8m) o daldra neu uwch erbyn eu bod yn bum oed.

Dylid clirio’r chwyn o amgylch bôn pob coeden am dair blynedd yn dilyn hawlio’r Gwaith Cyfalaf ar gyfer plannu. Rhaid i chi ddiogelu’r coed rydych chi wedi eu plannu rhag difrod a chystadleuaeth gan chwyn, pryfed, plâu ac anifeiliaid pori, fel cwningod, ysgyfarnogod a da byw. Ni ddylai fod unrhyw ddifrod gan anifeiliaid sy’n pori dail na thystiolaeth bod y llain wedi cael ei defnyddio gan dda byw. Dylid plannu coed yn lle'r rhai sy'n methu.

Taliad premiwm

Mae'r taliad Premiwm blynyddol yn daliad o £350/ha  sy'n seiliedig ar arwynebedd. Mae ar gael am 12 mlynedd. I gael hawlio'r taliad Premiwm, rhaid i chi gyflwyno SAF bob blwyddyn erbyn 15 Mai trwy RPW Ar-lein a’i hawlio ar bob cae cymwys sydd wedi’i gynnwys yn eich contract.

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Gall tir a blannwyd o dan y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir fod yn gymwys am y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS), cyn belled â bod SPS (Cynllun Taliad Sengl) wedi’i hawlio ar y tir hwnnw yn 2008 a bod ymrwymiad arnoch o dan y contract i goedwigo'r tir. Os oes Taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm yn cael eu talu, bydd y tir yn parhau’n gymwys am y BPS, hynny tan y newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Rhaid defnyddio codau cnydau penodol i hawlio BPS. Darllenwch lyfryn rheolau diweddaraf y Ffurflen Gais Sengl (SAF) am y manylion.

Adran E – cyn mynegi Diddordeb

Asesu’r safle

Cyn llenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein, rydyn ni’n eich cynghori i asesu’r safle rydych yn bwriadu plannu’r coed arno.  Bydd hynny’n eich helpu i weld pa un o'r Categorïau Coetir fydd yn gwireddu’ch nodau chi orau ac sydd fwyaf addas i’r lleoliad.  Cewch gyngor ar hyn yn y Canllaw Technegol.

Bydd yr asesiad yn eich helpu i gasglu gwybodaeth am eich cynigion plannu. Bydd angen hynny arnoch i gadarnhau ble y dylech blannu’r coed a gosod y ffens ac i ateb cwestiynau’ch Ffurflen Mynegi Diddordeb.  Eich atebion fydd yn pennu amodau’ch contract Grantiau Bach - Creu Coetir ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio ag UKFS a rheolau'r cynllun.  Mae’n bwysig felly bod eich atebion yn disgrifio’ch cynnig yn gywir.

Cymysgedd rhywogaethau a dwysedd plannu

Ar ôl penderfynu pa Gategori Coetir sy’n addas, bydd angen i chi ddewis y cymysgedd gorau o rywogaethau. Darllenwch y cymysgeddau o rywogaethau cymwys yn y Canllaw Technegol.  Mae’n bwysig eich bod yn ystyried daearyddiaeth yr ardal rydych am blannu’r coed ynddi a’ch amcanion wrth greu’r coetir. 

Dylech feddwl a fydd un Categori Coetir yn addas i’r safle cyfan neu a ddylech rannu’r safle’n is-ardaloedd gwahanol. Er enghraifft, os oes tir gwlyb wrth droed rhiw, byddai’r categori Coetir Gwlyb a Glan Nant (1100 neu 1600 o goed/ha) yn addas ond efallai y bydd y categori Coed Cysgodol Brodorol yn fwy addas ar y lan sychach, gyferbyn. Bydd angen ichi ddangos y categorïau gwahanol hyn ar fap fel rhan o’ch cais ar-lein.

Mannau agored

Yr unig fannau agored sy’n gymwys o dan y cynllun hwn yw cnycau (brigiadau) creigiog a hawliau tramwy cyhoeddus Efallai y byddwch am dynnu’r mathau hyn o dir o’ch cynnig plannu.

Os oes angen i chi eu cynnwys, gofalwch eich bod yn plannu digon o goed yn holl rannau eraill y safle i sicrhau’r dwysedd plannu y mae’r Categori Coetir dan sylw yn gofyn amdano. Os oes man agored, caniateir bwlch o 10 metr rhwng pob coeden os nad oes modd eu plannu yn y man agored. Bydd angen plannu coed yn nes at ei gilydd yng ngweddill y safle i sicrhau’r dwysedd gofynnol, ond peidiwch â’u plannu lai nag 1 metr oddi wrth ei gilydd a pheidiwch â phlannu coed o fewn 1 metr i ffens (hen neu newydd). 

Os nad yw’n bosibl cadw at yr amodau hyn oherwydd maint y man agored a’r dwysedd plannu sydd ei angen, dylech rannu’ch safle plannu yn safleoedd ar wahân a thynnu unrhyw gnwc creigiog neu hawl tramwy cyhoeddus o’r arwynebedd. Nid yw nodweddion fel afonydd, nentydd, pyllau, adeiladau, safleoedd caled a ffyrdd yn cael eu cyfrif fel mannau agored a pheidiwch â’u cynnwys felly yn y safle plannu.

Annog y cyhoedd i gymryd rhan

Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau bod pob cymydog ac unigolyn sydd ag eiddo’n ffinio â'r coetir rydych yn ei blannu yn hapus â’ch cynnig. Mae cysylltu â chymdogion fyddai â diddordeb, yn enwedig cymdogion agos, yn gyfle i roi gwybod am y cynnig ac osgoi gwrthdaro posib. Os nad oes modd datrys y pryderon cyn cyflwyno’r ffurflen Mynegi Diddordeb, ni fydd eich cynnig plannu yn gymwys.

Dylid cwblhau’r ymgynghoriad cyn Mynegi’ch Diddordeb. Os oes gan y cymdogion bryderon na allwch eu datrys, bydd gofyn addasu’r cynllun a dod i gytundeb, neu os ydych o’r farn nad oes sail i’w gwrthwynebiad, gallwch wneud cais i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Caniatâd

Eich cyfrifoldeb chi yw cael unrhyw ganiatâd neu gydsyniad sydd ei angen ar gyfer gwaith ar neu ger cwrs dŵr, neu ar gyfer ffens neu gât ar draws hawl tramwy cyhoeddus sy’n croesi’ch safle plannu.  Cewch ragor o fanylion am y gofynion hyn yn y Canllaw Technegol.    

Holi Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru’n holi’r Ymddiriedolaethau Archeolegol am bob cais ar ôl i’r ffenest ymgeisio gau.   Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried a yw’r gwaith plannu'n briodol ac a oes angen addasu'r cynnig os oes pryderon y gallai’ch gwaith plannu effeithio ar Nodwedd Amgylchedd Hanesyddol, Tirwedd Hanesyddol neu Safle Treftadaeth y Byd.

Os bydd Ymddiriedolaeth yn codi pryderon, caiff eich cais Mynegi Diddordeb ei wrthod.  Bydd angen ichi naill ai newid dyluniad eich cynnig plannu ac ailymgeisio yn ystod ffenest ymgeisio arall, neu wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir. Rydyn ni’n eich cynghori i gysylltu â'r Ymddiriedolaeth berthnasol cyn Mynegi Diddordeb os ydych yn gwybod bod nodwedd hanesyddol ar neu wrth y tir yr ydych am blannu coetir arno.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi addasu’ch cynnig a’i wneud yn dderbyniol i'r Ymddiriedolaeth cyn Mynegi Diddordeb.  Fe welwch fanylion cyswllt yr Ymddiriedolaethau ar ddiwedd y canllaw hwn.

Adran F – gwneud cais i’r cynllun Grantiau Bach –Creu Coetir

Mynegi Diddordeb

Rhaid Mynegi Diddordeb yn Grantiau Bach – Creu Coetir ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8:30am – 5.00pm, Gwener 8:30am – 4.30pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r Canllaw Sut i Gofrestru  am ragor o wybodaeth. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen cysylltu â Llywodraeth Cymru i ddweud am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Darllenwch ein Canllaw Sut i Gofrestru.

Bydd angen i chi dynnu amlinell y darn tir rydych am blannu’r coed arno a’i ffensio ar eich ffurflen Mynegi Diddordeb ac ateb nifer o gwestiynau am eich cynnig a'i leoliad.  Diben hyn yw asesu a yw’ch cais yn gymwys a’ch cynnig yn addas.  Defnyddir eich atebion i ffurfio'r cynllun rheoli cywir ar gyfer y coetir gan fodloni amodau'r cynllun ac UKFS. Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth ddewis eich Categorïau Coetir a gofalu’ch bod yn dewis gwaith cyfalaf sy’n addas i’r lleoliad. Ni fydd modd eu symud i le arall ar ôl cau'r ffenest oherwydd yr amserlen dynn ar gyfer rhoi contractau ac ar gyfer hawlio. Ceir rhagor o arweiniad ar hyn yn y Canllaw Technegol.     

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Fynegi Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble i fynd am help digidol.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru RPW Ar-lein. 

Ceisiwch ateb cwestiynau Llywodraeth Cymru am eich cais Mynegi Diddordeb yn y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir yn gyflym. Os na chawn ateb erbyn yr amser gofynnol, efallai na allwn gynnig contract Grantiau Bach – Creu Coetir i chi.

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i Fynegi Diddordeb trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Tynnu’ch cais Mynegi Diddordeb yn ôl

Ar ôl Mynegi Diddordeb yn Grantiau Bach – Creu Coetir, a oes modd ei dynnu’n ôl?

  1. Oes – os yw’r ffenest Mynegi Diddordeb dal ar agor

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy "Fy Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein; gallwch ail-gyflwyno’r cais cyn i'r ffenest gau.

  1. Oes - wedi i’r ffenest Mynegi Diddordeb gau OND cyn i'r busnes gael y contract.

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy "Fy Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Daw’ch cyfle nesaf i gyflwyno cais Mynegi Diddordeb yn y ffenest ymgeisio nesaf.

Cofiwch fod y broses ymgeisio'n un gystadleuol ac nad oes gwarant y byddwch yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.

  1. Oes – ar ôl i’ch cais Mynegi Diddordeb gael ei ddewis a chynnig eich contract.

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy "Fy Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Daw’ch cyfle nesaf i gyflwyno cais Mynegi Diddordeb yn y ffenest ymgeisio nesaf.

Cofiwch fod y broses ymgeisio'n un gystadleuol ac nad oes gwarant y byddwch yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.

Y broses ddewis

Mae proses ddewis y cynllun Grantiau Bach - Creu Coetir yn asesu pob cynnig plannu newydd sy'n cael ei gyflwyno drwy gais Mynegi Diddordeb. Bydd pob cais yn cael sgôr ar sail ei allu i roi canlyniad sy’n cefnogi amcanion Grantiau Bach – Creu Coetir o ran dod â manteision i'r cyhoedd, fel dal carbon, atal llifogydd a gwella ansawdd aer.

Os bydd gwerth y ceisiadau’n fwy na gwerth y gyllideb, y prosiectau cyfalaf sy'n sgorio uchaf fydd yn cael eu dewis. Cewch ragor o wybodaeth am y broses sgorio yn grantiau bach creu coetir.

Cynnig contract

Bydd contractau'n cael eu cynnig pan fydd y ceisiadau wedi’u dilysu'n llwyddiannus a'u dewis a bydd gennych 30 diwrnod i naill ai 'dderbyn' neu 'wrthod' y contract sy’n cael ei gynnig ichi, hynny ar RPW Ar-lein. Os na fyddwch wedi derbyn eich contract o fewn 30 diwrnod, caiff y cynnig ei dynnu'n ôl.

Mae’ch contract yn sicrhau bod eich cynnig ar gyfer plannu coetir yn cyd-fynd ag amodau'r cynllun ac UKFS a bydd yn cadarnhau’ch Categori Coetir, lleoliad y gwaith cyfalaf ac unrhyw amodau sy'n benodol i'ch gwaith plannu y bydd angen i chi gadw atyn nhw i fod yn gymwys am grant.

Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith nes bod contract wedi’i gynnig i chi, h.y. peidiwch â dechrau paratoi’r tir, plannu coed na’r gwaith ffensio rydych am hawlio grant ar ei gyfer.

Adran G – amodau’r grant

Rhaid sicrhau nad yw unrhyw waith a wneir fel rhan o’r prosiect yn torri rhwymedigaethau amgylcheddol o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol arall, gan gynnwys rheoliadau ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS), nac yn niweidio unrhyw nodweddion amgylcheddol hanesyddol.

Amodau'r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn effeithio ar y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir (gweler Adran N). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r contract Grantiau Bach – Creu Coetir yn cael ei gynnig yn unol â thelerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich contract, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Gallai peidio â chadw at amodau a thelerau’r contract arwain at ganslo’ch contract a/neu ofyn am yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi yn ôl, neu leihau’r grant sy’n daladwy.

Amodau

Rhoddir y grant ichi ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr yn y cais Mynegi Diddordeb, y ffurflen hawlio ac unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol. 

Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai rhoi datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd wrth Fynegi Diddordeb arwain at ddod â’r contract i ben a/neu adfer unrhyw daliadau ynghyd â’r llog.

Peidiwch â chreu amodau artiffisial er mwyn cael taliad.

Rhaid i’r ymgeisydd ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Mae’r manylion rydych wedi’u rhoi yn eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau os bydd newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.

Rhaid ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r manylion a roddir yn adran Manylion yr Ymgeisydd ar y ffurflen.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu hasiant awdurdodedig priodol, fynd ar eich tir ac archwilio’r tir ac unrhyw offer, cyfleusterau a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a bod y wybodaeth a roddwyd ar gyfer Mynegi Ddiddordeb yn gywir.

Peidiwch â gwneud gwaith cyn ymuno â'r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir sy'n niweidio'r amgylchedd. Rhaid deall y gallai hynny arwain at wrthod eich cais.

Ni fyddwch wedi cynnwys tir sydd o dan gytundebau rheoli eraill neu sy’n destun grant neu gais am grant arall, a allai ei gwneud yn bosibl eich talu ddwywaith.

Rhaid ichi gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.

Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich cais Mynegi Diddordeb yn y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno i ni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth yn ôl yr angen.

Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd i sefydliadau eraill am wybodaeth amdanoch chi, neu roi gwybodaeth amdanoch chi iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, fel sy'n briodol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith.

Adran H – taliadau

Hawlio Gwaith Cyfalaf

Bydd yn rhaid ichi hawlio'r Grantiau Bach – Creu Coetir ar dudalen Hawlio Grantiau eich cyfrif RPW Ar-lein. Chewch chi ddim mo'ch talu nes bod eich hawliad Gwaith Cyfalaf wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael eich talu, rhaid ichi:

  • dderbyn contract cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a rhaid cadw at yr holl ofynion.
  • fod wedi cwblhau’r gwaith plannu coed a ffensio a bod tystiolaeth bod y gwaith wedi’i gwblhau
  • cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant ar eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio 
  • cyflwyno ffotograffau â geo-dag gyda'r hawliad, yn dangos y gwaith cyfalaf gorffenedig (gweler 'cadw cofnodion' – Adran K)

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy dudalen Hawlio Grantiau RPW Ar-lein.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl i’r gwaith cyfalaf gael ei gwblhau. Fodd bynnag, ni chewch hawlio ar brosiect sydd wedi'i gwblhau'n rhannol ac ni fyddwch yn cael hawlio ar unrhyw waith ychwanegol y byddwch yn ei wneud ar ôl i'r hawliad gael ei gyflwyno.

Rhaid i ymgeiswyr sy’n ymgeisio am gyllid yn y ffenest hon gwblhau eu gwaith plannu a chyfalaf newydd a hawlio ar yr holl waith cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2023/24 h.y. erbyn 31 Mawrth 2024. Ni fydd estyniadau'n cael eu rhoi y tu hwnt i 31 Mawrth 2024.

Cam-hawlio a chosbau

Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy'n rheoli’r cynllun a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n gywir, mae'r cynllun yn cynnwys cosbau pan gaiff rheolau’r cynllun eu torri'n ddifrifol.

Dim ond am y gwaith cymwys rydych chi wedi ei gwblhau y dylech hawlio arno, hyd yn oed os yw hyn yn llai na'r hyn sydd wedi’i nodi yn y contract.

Os gwelwn nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau yn unol â manylebau technegol y prosiect ac nad oes modd ei unioni, bydd y taliadau'n cael eu lleihau i werth yr hyn sydd wedi’i gwblhau yn unol â’r fanyleb.

Os bydd y gostyngiad hwn yn fwy na 10% o werth yr hawliad, byddwn yn eich cosbi am orddatgan.

Os caiff hawliad ffug ei wneud, neu os na fydd perchennog y tir yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, caiff y taliad yn y flwyddyn pan gafodd yr uchod ei ganfod ei atal a rhaid i unrhyw arian sydd eisoes wedi’i dalu y flwyddyn honno gael ei dalu’n ôl

Hawlio taliadau cynnal a chadw a’r premiwm

Gellir hawlio taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir ar y SAF flynyddol erbyn 15 Mai ym mhob blwyddyn y contract. 

Ni chewch hawlio blwyddyn gynta'r taliad Cynnal a Chadw na’r Premiwm tan y flwyddyn ar ôl ichi hawlio taliad cyfalaf y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.  

Er mwyn cael y taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm, rhaid i chi:

  • arwyddo contract Grantiau Bach – Creu Coetir a chadw at yr holl ofynion
  • cyflwyno hawliad dilys ar y SAF erbyn 15 Mai bob blwyddyn

Codau cnydau SAF

I hawlio’r taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm rhaid i chi ddefnyddio'r codau cnydau canlynol (gallai’r codau hyn newid a dylech eu cadarnhau yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl cyn hawlio)

  • BW1 – Coetir Llydanddail (stoc wedi’i gadw allan) – I'w ddefnyddio os cawsoch daliad SPS ar y tir hwn yn 2008
  • WS1 – Coetir Llydanddail (stoc wedi’i gadw allan) – I'w ddefnyddio os na chawsoch daliad SPS ar y tir hwn yn 2008

Taliadau cynnal a chadw a’r premiwm

Bydd taliadau'n cael eu cyfrif ar sail y tir y byddwch yn hawlio taliad arno ar y SAF ac sy’n rhan o’r Contract ac wedi’i restru yn Atodlen y Contract sy’n ddilys ar 15 Mai ac unrhyw hysbysiadau a wnaed mewn perthynas â'r tir hwnnw.

Rhaid ichi hawlio’r taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r SAF, fel a nodir yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl. 

Os byddwch yn hawlio taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm ar dir y gwelir nad yw’n gymwys am daliad, mae'n bosib y cewch eich cosbi am orddatgan fel a ddisgrifir yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl.

Rhaid i’ch hawliadau am daliad Cynnal a Chadw a’r Premiwm fodloni’r gofynion Trawsgydymffurfio. Eich cyfrifoldeb chi yw bodloni'r gofynion hyn dros y flwyddyn galendr gyfan yr ydych yn hawlio taliad ar ei chyfer a gall peidio â bodloni'r gofynion hyn arwain at gosbi’ch taliadau.

Rhaid i chi ddarllen a deall Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl cyn hawlio Taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm. 

Torri contract

Bydd archwiliadau gweinyddol ac archwiliadau fferm yn cael eu cynnal i weld a ydych wedi torri’r contract ac os gwelir eich bod, rhoddir gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW ar-lein. Lle gwelir eich bod wedi torri’r contract, byddwn yn lleihau a/neu’n atal eich taliadau gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol, mawr, parhaol ac ailadroddus oedd y tramgwydd.  Gellir cosbi taliadau’r blynyddoedd blaenorol hefyd.  Fe welwch fanylion y tramgwyddau hyn yn y safonau dilysadwy.

Os bydd Llywodraeth Cymru’n credu bod y tramgwydd mor ddifrifol nad oes modd ei gywiro, gallai derfynu’ch contract. 

Rydym yn asesu tramgwyddau yn ôl safonau dilysadwy sy’n cyfateb i ymrwymiadau’r cynllun. Mae matrics cosbau wedi’i lunio i benderfynu ar lefel y gosb i’w rhoi. Mae’r matrics cosbi a’r safonau dilysadwy i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir. Mae troseddau’n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran I – trosglwyddo neu werthu tir sydd o dan Gontract

Rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’ch caeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Gallai’r newidiadau hynny gynnwys:

  • cofrestru caeau nad ydynt wedi’u cofrestru gydag RPW o’r blaen (h.y. caeau heb eu cofnodi ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF))
  • rhannu caeau yn barhaol
  • uno caeau yn barhaol
  • newid ffiniau caeau
  • newid nodweddion parhaol caeau.

Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y terfyn o 30 diwrnod ar ôl iddo ddigwydd os ydy meddiannydd y tir, gan gynnwys perchennog neu denant, yn newid.

Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y newidiadau hyn drwy ddefnyddio’r cyfleuster Rheoli Fy Nhir (MML) ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd.

Ar ôl ichi arwyddo’ch contract Grantiau Bach – Creu Coetir, os byddwch yn penderfynu gwerthu neu drosglwyddo’ch tir neu ran ohono yn ystod cyfnod yr ymrwymiad, efallai y cewch gosb ariannol a / neu y bydd yn rhaid ichi ad-dalu’r arian rydych chi eisoes wedi'i gael.

Os ydych am drosglwyddo contract Grantiau Bach – Creu Coetir i feddiannydd newydd, rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru. Os ydy’r meddiannydd newydd yn dewis cymryd eich ymrwymiad oddi arnoch a bod y tir yn dal yn gymwys, rhaid i’r meddiannydd newydd gadw at yr ymrwymiad ar y tir hwnnw am weddill cyfnod y contract. Dylid gofalu fod y meddiannydd newydd yn gwybod am yr ymrwymiad cyn cytuno i gymryd y tir dan sylw.

Nid yw rheoliadau’r cynllun yn caniatáu trosglwyddo contract gwaith cyfalaf. Daliwr y contract fydd yr unig fusnes a fydd yn gallu hawlio ar waith cyfalaf Grantiau Bach – Creu Coetir. Ni ellir prosesu trosglwyddiad nes bod yr hawliad ar y gwaith cyfalaf wedi’i ddilysu a’r taliad wedi ei awdurdodi.

Ar ôl trosglwyddo neu werthu rhan o’r tir, rhaid i unrhyw dir rydych wedi’i gadw ac sy’n dal yn rhan o’ch contract gwreiddiol barhau i fodloni’r amodau’r contract. Os nad yw, bydd gofyn ichi ad-dalu pob taliad a wnaed ar y tir hwnnw, ynghyd â’r llog. Os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu unrhyw dir sy’n rhan o’ch contract, yna rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru trwy lythyr o fewn 30 diwrnod ar ôl i hynny ddigwydd. O beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, byddwch yn debygol o gael eich cosbi.

Os byddwch yn trosglwyddo neu’n gwerthu tir sydd o dan gontract a bod Llywodraeth Cymru’n credu bod amcanion y cynllun Grantiau Bach – Creu Contract wedi’u tanseilio o’r herwydd, gallai derfynu’r contract ac efallai y bydd yn rhaid ichi ad-dalu pob taliad ynghyd â’r llog.

Adran J – newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn deddfwriaeth (gan gynnwys Newid Dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i reolau neu gontract y cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran K - rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr eich bod yn cadw at reolau’r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.

Gallem ddewis ymweld â chi yn sgil eich hawliad i gadarnhau bod y gwaith cyfalaf wedi’i gwblhau, hynny cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich Mynegiant o Ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth Fynegi Diddordeb a chyflwyno’r hawliad i gyd yn cael eu harchwilio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y gwnawn ni wrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae'n ofyniad bod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r gwaith sydd wedi’i orffen ar unrhyw adeg resymol.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Roi unrhyw wybodaeth am eich Contract Grantiau Bach – Creu Coetir i Lywodraeth Cymru a hynny’n brydlon yn unol â chais Llywodraeth Cymru amdani.
  • Gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich contract Grantiau Bach – Creu Coetir ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.
  • Rhaid cymryd tystiolaeth ffotograffig, gan gynnwys pwynt cyfeirio map â geo-dag, sy'n dangos y gwaith cyfalaf gorffenedig a'i gyflwyno gyda'r hawliad. Bydd angen y rhain ar Lywodraeth Cymru i ddilysu a sicrhau bod y gwaith plannu a'r gwaith cyfalaf cysylltiedig wedi'i gwblhau yn y lleoliad cywir ac yn unol â’r fanyleb dan sylw. Mae help digidol ar gael os oes angen.

Adran L – gweithdrefn apelio a chwyno

Y drefn apelio  

Nid oes sail dros apelio yn y cam Mynegi Diddordeb.

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378
E-bost: Cwynion@llyw.cymru 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed 
CF35 5LJ 

Ffôn: 0300 790 0203 
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru

Adran M - hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwyster efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gydag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Mae’n bosibl y gwnaiff aelod arall o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir ei chwilio, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan Defra yn https://cap-payments.defra.gov.uk/Default.aspx.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Fodd bynnag, os dyfernir y cyllid dan Reoliad Eithriad Bloc Cyffredinol neu reoliad De Minimus, bydd eich data personol yn cael eu cadw am 10 mlynedd o ddiwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch.
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny.
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data.
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd  
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill 
Caerdydd 
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan : ico.org.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Adran N – gofynion cyfreithiol

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliadau Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Cynllun grantiau gwaith cyfalaf yw Grantiau Bach – Creu Coetir, sydd ar gael i reolwyr tir a busnesau fferm yng Nghymru. Mae’r prosiectau Gwaith Cyfalaf sydd ar gael wedi’u dewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol;
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd.
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol i’r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd;
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a meysydd gwledig
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau  amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, a daw’r rheini o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran O – cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Am bob ymholiad ynghylch RPW, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Cyngor technegol a mentora

Ceir cyngor technegol gan Cyswllt Ffermio a Hyb Creu Coetiroedd CNC.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai ar Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).

Cysylltiadau defnyddiol eraill:

Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer SoDdGa, GNC, AGA ac ACA:

Cyfoeth Naturiol Cymru 
d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid 
Tŷ Cambria 
29 Heol Casnewydd 
Caerdydd
CF24 0TP

Ffôn: 0300 065 3000
Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun-Gwe 8am 6pm) 
Ymholiadau cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ar gyfer Henebion Rhestredig / parciau a gerddi cofrestredig:

Cadw
Llywodraeth Cymru 
Plas Carew 
Uned 5/7 Y Parc Cefn Coed 
Nantgarw 
Caerdydd 
CF15 7QQ

Ffôn: 01443 33 6000 
Ffacs: 01443 33 6001 
E-bost: Cadw@Wales.gsi.gov.uk

Ymddiriedolaethau Archaeolegol: Ar gyfer henebion neu nodweddion hanesyddol heb eu rhestru, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Archeolegol berthnasol yn eich ardal chi:

Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 
41 Broad Street 
Y Trallwng
Powys 
SY21 7RR

Ffôn: 01938 553670
Ffacs: 01938 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk
Gwefan: www.cpat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent
Tŷ Heathfield 
Heathfield 
Abertawe
SA1 6EL

Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469
E-bost: enquiries@ggat.org.uk
Gwefan: www.ggat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 
Neuadd y Sir
Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
Dyfed
SA19 6AF

Ffôn: 01558 823121
Ffacs: 01558 823133
E-bost: ynfo@dyfedarchaeology.org.uk 
Gwefan: www.dyfedarchaeology.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 
Craig Beuno
Ffordd y Garth
Bangor 
Gwynedd
LL57 2RT

Ffôn: 01248 352535
Ffacs: 01248 370925
E-bost: gat@heneb.co.uk
Gwefan: www.heneb.co.uk