Neidio i'r prif gynnwys

Prif negeseuon

Nodiadau pwysig

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut mae llenwi’r cais i gynllun grantiau bach - Dechrau Busnes Garddwriaeth.

Gofalwch eich bod yn cyflwyno’ch cais yn unol â’r amserau a ddisgrifir yng nghanllaw’r Cynllun.

Cofrestru ar gyfer RPW Ar-lein

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, rhaid i chi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein.  I gael mwy o fanylion, darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru. Os oes angen newid manylion eich busnes, gallwch newid y rhan fwyaf ohonyn nhw ar-lein. Ond, efallai y bydd angen mwy o fanylion ar Lywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau mawr.  Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Problemau gyda’r cais

Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Os ydych chi'n cael problemau neu'n ei chael hi'n anodd mynd i'ch cyfrif RPW Ar-lein, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid lle mae staff wrth law i roi gwybodaeth ac ateb ymholiadau. 

Gallwch ddefnyddio'r dudalen "Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein i ofyn cwestiwn i'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Neu, gallwch ffonio 0300 062 5004 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am i 4pm). 

Cael gafael ar y cais 

Mae’r cais ar gael i chi o dan y rhestr ffurflenni ar dudalen hafan RPW Ar-lein. Dewiswch y cais yr hoffech wneud cais amdano a chliciwch ar y botwm dechrau i ddechrau’r cais. Os ydych chi eisoes wedi dechrau’r cais a’ch bod wedi arbed yr hyn rydych wedi’i lenwi ond heb gyflwyno’r cais, bydd y botwm yn newid i "Parhau â'r Cais". Os ydych am barhau â’r cais, bydd y system yn cynnig y dewis i chi barhau o ble gwnaethoch chi stopio o'r blaen neu i ddechrau o’r dechrau eto. Os ydych am ddechrau eto, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Trosolwg a mynd o dudalen i dudalen

Bydd y cais yn dangos eich Cyfeirnod Cwsmer (CRN) yng nghornel chwith uchaf y dudalen. 

Mae ochr chwith y sgrin yn dangos y tudalennau sydd ar gael yn y cais. Bydd y dudalen rydych chi'n gweithio arni nawr yn cael ei dangos mewn glas. Gallwch glicio ar dudalen arall i fynd yn syth i'r dudalen honno neu glicio'r botymau "Nesaf" / "Yn ôl" i symud rhwng tudalennau. Bydd tudalennau ble bydd angen ichi fwydo data ynddyn nhw yn cael eu marcio â chroes goch neu dic gwyrdd. Mae croes goch yn dangos bod angen rhagor o ddata ar y dudalen honno, a bydd tic gwyrdd yn dangos eich bod wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen.

Dangosir nifer o fotymau ar y sgrin i'ch helpu i symud o gwmpas y cais:

  • "Cymorth" os oes angen cymorth i lenwi'r ffurflen
  • "Argraffu" i argraffu copi o'r ffurflen yn ei chyflwr presennol
  • "Cymraeg"/"Saesneg" i newid rhwng ieithoedd
  • "Safio" i gadw'r hyn rydych wedi’i lenwi
  • "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf yn y rhestr
  • "Yn ôl" i symud i'r dudalen flaenorol yn y rhestr
  • "Gadael" i gadw a gadael y ffurflen

Cais i’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth: cyflwyniad

Dyma dudalen y cyflwyniad sy’n rhoi gwybodaeth ichi am y Cynllun. I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon, darllenwch y llyfryn Grantiau Bach - Dechrau Busnes Garddwriaeth: canllawiau cyffredinol.

Mae dolen yng nghornel chwith ucha’r  sgrin ar gyfer sut i wneud cais ar ein gwefan. 

Ar y chwith, fe welwch y gwahanol adrannau. Mae croes goch yn dangos naill ai nad ydych wedi agor yr adran honno eto neu’ch bod wedi gwneud camgymeriad yn yr adran honno. Bydd croes werdd yn dangos eich bod wedi cwblhau’r adran ac nad ydym yn gallu gweld unrhyw gamgymeriadau. Mae botymau llywio ar dop a gwaelod y ffurflen. Hefyd, os hoffech weld copi Saesneg neu Gymraeg, mae botwm i newid o un iaith i’r llall yn y gornel chwith isaf. 

Tudalen hysbysiad preifatrwydd

Mae’r dudalen "Hysbysiad Preifatrwydd" yn disgrifio sut rydym yn trin data personol sy'n ymwneud â cheisiadau am grant a cheisiadau am gyllid. Mae'n esbonio sut rydym yn prosesu gwybodaeth ynghylch pwy sy'n gymwys, atal twyll a chadarnhau pwy ydych chi. Mae hefyd yn esbonio sut y gellir rhannu data gydag awdurdodau rheoleiddio ac asiantaethau atal twyll, cyfnodau cadw gwybodaeth bersonol, a hawliau unigolion o dan gyfreithiau diogelu data. Ar ôl darllen, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.

Pwy sy’n gymwys

Ar y dudalen hon, rhaid ichi ateb y cwestiwn a ydych yn berchennog, partner neu randdeiliaid â rhan weithredol mewn busnes sydd â budd mewn garddwriaeth fasnachol. 

Os mai ‘Ydw’ yw’ch ateb, ni fyddwch yn cael gwneud cais.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau ynghylch pwy sy’n gymwys.

Ffit strategol

Ar y dudalen hon, byddwch yn rhestru’ch cymwysterau perthnasol, er enghraifft cymhwyster mewn garddwriaeth, amaethyddiaeth neu bwnc cysylltiedig. (Gallai pwnc cysylltiedig olygu gwyddor cnydau, marchnata, diogelwch bwyd, astudiaethau busnes ac ati.)

Rhaid ichi gadarnhau hefyd a dangos tystiolaeth os ydych wedi dilyn cwrs datblygu proffesiynol parhaus (CPD) ym maes amaethyddiaeth, cynllunio busnes, rheoli neu ddatblygu busnes neu unrhyw fath arall o CPD a fyddai’n eich helpu i baratoi i sefydlu menter arddwriaethol lwyddiannus.

Pwysig: rhaid ichi gyflwyno’r dogfennau canlynol, os ydynt yn gymwys, erbyn dyddiad cau’r cais hwn:

  • copi o dystysgrifau cymwysterau
  • tystiolaeth o weithgareddau CPD rhwng 1 Ionawr 2023 a 30 Medi 2026

Rhaid ichi gadarnhau y canlynol hefyd:

  • pa fath o fenter arddwriaethol ydych chi am ei sefydlu – dewiswch un neu fwy o’r opsiynau o’r rhestr rydym wedi’i darparu
  • beth fydd strwythur y fenter? Dewiswch un o’r ddau opsiwn ar y rhestr
  • os ydych wedi paratoi cynllun busnes ar gyfer eich menter arddwriaethol newydd, dewiswch ‘Ydw’ neu ‘Na’

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn.

Gwybodaeth a phrofiad

Ar y dudalen hon byddwch yn disgrifio’r wybodaeth a'r profiad sydd gennych all eich helpu i ddechrau busnes garddwriaeth. Nid oes rhaid i'r profiad fod o fewn y sector garddwriaeth ond byddai profiad ehangach fel rheoli staff, gwerthu ac ati yn cael ei ystyried yn ddefnyddiol. 

Bydd gofyn ichi hefyd roi crynodeb neu ddisgrifiad o’ch swydd bresennol ac esbonio sut y byddwch yn delio â’r fenter newydd gyda’ch swydd bresennol / eraill. Gallech sefydlu menter ran amser tra’ch bod yn cadw’ch swydd arall, ond bydd angen ichi esbonio sut y byddwch yn rheoli’r gweithgarwch a chadw’r ddysgl yn wastad rhwng y blaenoriaethau gwahanol. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn. 

Addasrwydd y buddsoddiad/gweithgaredd

Ar y dudalen addasrwydd y buddsoddiad / gweithgaredd, byddwch angen i chi esbonio pam eich bod am sefydlu’r busnes gan gynnwys sut y bydd yn fenter yn un hyfyw. 

Bydd angen disgrifiad byr o’r fenter arddwriaethol rydych yn cynnig ei sefydlu gan gynnwys eich rheswm dros sefydlu menter arddwriaethol a manylion strwythur eich busnes. Bydd angen ichi esbonio pam eich bod am sefydlu’r busnes i’n hargyhoeddi’ch bod am wneud hynny gyda’r bwriad o sefydlu menter hyfyw. 

Bydd angen ichi restru’r cnydau garddwriaethol rydych am eu tyfu. Bydd angen ichi ddweud hefyd beth ydych am ei wneud gyda’r cnydau, gan gynnwys maint y fenter yn y flwyddyn gyntaf. Disgwylir bod gennych gynllun clir ar gyfer rhoi hyn ar waith. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn ac i ychwanegu’r cnydau rydych chi am eu tyfu.

Adnoddau

Ar y dudalen hon byddwch yn cadarnhau'r adnoddau sydd ar gael i chi sefydlu eich menter arddwriaethol. Bydd hyn yn cynnwys mynediad i dir, unrhyw gyfleusterau a pheiriannau neu offer eraill. 

Os nad oes gennych adnoddau ac nad ydych wedi esbonio sut y byddwch yn sefydlu’r fenter hebddyn nhw, byddwch yn cael sgôr isel. 

Ar gyfer offer, os nad oes peiriannau neu offer ar gael ichi neu os oes raid ichi brynu’r holl beiriannau, bydd gofyn ichi esbonio sut ydych am wneud hynny. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn.

Gwerthu a marchnata cynnyrch

Ar y dudalen hon byddwch yn cadarnhau manylion eich marchnad arfaethedig ac unrhyw ymchwil i'r farchnad yr ydych wedi'i chynnal. 

Gallai gwerthu’ch cynnyrch yn eich ardal effeithio ar gynhyrchwyr eraill. Rhaid ichi ddangos eich bod wedi meddwl am hyn. Os ydych yn bwriadu gwerthu y tu allan i’ch ardal neu fod gennych gytundeb â chwsmer, bydd eich cais yn cael sgôr uwch. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn.

Cynaliadwyedd tymor hir

Ar y dudalen cynaliadwyedd tymor hir, byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni allu gwerthuso sut y bydd y prosiect yn effeithio ar yr amgylchedd ac yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Mae’n hollbwysig defnyddio adnoddau’n effeithlon er mwyn sicrhau economi Lesiant yn ogystal ag i leihau allyriadau. Rydyn ni’n eich cynghori i ystyried sut bydd eich cynlluniau’n effeithio ar yr amgylchedd ac ar y newid yn yr hinsawdd. 

Disgrifiwch sut y bydd y buddsoddiad yn helpu’r busnes i dyfu cnydau’n gynaliadwy ac yn gwella ansawdd y dŵr, pridd ac aer. Dylech ddisgrifio sut ydych yn bwriadu tyfu cnydau’n gynaliadwy gan ystyried ansawdd dŵr, pridd ac aer. 

Esboniwch yn fanwl sut y bydd eich cynllun yn defnyddio maetholion yn effeithiol, yn lleihau allyriadau ac yn gwella ecosystem y fferm.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn.

Cyllid a chyflawni

Ar y dudalen hon bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am agweddau ariannol ar eich prosiect a sut y byddwch yn ei gyflawni ac yn cydymffurfio â’r gofynion.

Bydd gofyn ichi roi manylion sut y caiff y prosiect ei ariannu ar ben unrhyw grant a roddir, a sut y byddwch yn cydymffurfio ag unrhyw ymrwymiadau. Bydd gofyn ichi hefyd ddangos cynllun o’r gwaith y mae’r busnes/sefydliad yn bwriadu ei roi ar waith. Bydd hynny’n cadarnhau’r amserlen ar gyfer cynnal holl weithgareddau a chymalau’ch prosiect. 

Dylech ddarparu manylion y costau rydych yn bwriadu eu hysgwyddo wth sefydlu’ch menter er enghraifft buddsoddi cyfalaf a chostau trin y tir, hadau, cynaeafu, pecynnu, marchnata ac ati.

Bydd angen ichi baratoi cynllun y prosiect sy’n rhoi manylion y costau arfaethedig a’r amserlen ar gyfer y gwariant. 

Bydd angen ichi roi manylion y gweithgareddau rydych am eu cynnal a dyddiad dechrau a dyddiad gorffen pob gweithgaredd. 

Bydd angen ichi fod wedi ystyried hefyd o ble y daw’r eitemau gyda golwg ar sicrhau gwerth am arian, gan gynnwys gofyn am ddyfynbrisiau cystadleuol. 

Bydd angen ichi ddangos tystiolaeth bod gennych ddigon o arian i dalu am yr holl wariant rydych yn ei gynnig. 

Bydd angen ichi esbonio pam na all y prosiect fynd yn ei flaen heb y grant. 

Dylech nodi y cewch sgôr uwch am roi disgrifiad manwl o’ch cynigion buddsoddi, am roi cynllun ac amserlenni manwl yn ogystal â disgrifiad manwl o sut yr ydych am ddefnyddio’r grant a gewch. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau ac ychwanegu gweithgareddau yn ôl y gofyn.

Risg a rheoli risg

Ar y dudalen risg a rheoli risg, bydd angen ichi roi crynodeb yn y tabl o fan leiaf y pum risg fwyaf allai effeithio ar eich gallu i gyflawni’r prosiect a sicrhau allbynnau ac amcanion y prosiect. Bydd hynny’n cynnwys:

  • beth yw’r risg ac a yw’n debygol o ddigwydd dros y cyfnod y bydd y prosiect yn cael ei ddarparu
  • beth fyddai’n digwydd i’r prosiect pe bai yn digwydd
  • pa gamau y gallech eu cymryd i geisio ei atal rhag digwydd ond esboniwch hefyd beth y gallech ei wneud i leihau’r effaith ar y prosiect pe bai’n digwydd

Rhaid ateb yr holl gwestiynau yn yr adran hon a chewch chi ddim cyflwyno’r ffurflen heb ychwanegu o leiaf 5 risg.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ychwanegu risgiau ac ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn.

Targedau a chanlyniadau

Ar y dudalen targedau a chanlyniadau, byddwch yn nodi manylion y targedau a’r canlyniadau y byddwch am eu cyflawni yn ystod 12 mis cyntaf eich menter. Bydd angen ichi nodi’r canlynol: 

  • arwynebedd o dan gnwd / y cnydau a dyfir
  • nifer y cwsmeriaid rydych yn eu targedu
  • gwerth eich gwerthiant 

Dylech nodi ein bod yn disgwyl ichi ddewis targedau sy’n rhesymol ac yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer busnes newydd. Bydd tyfu cnwd ar ddarn bychan o dir a thargedu un cwsmer yn rhoi sgôr isel ichi.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ychwanegu ac i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn.

Themâu trawsbynciol

Ar y dudalen ‘Themâu Trawsbynciol’, bydd angen ichi esbonio sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at y themâu trawsbynciol isod, gan esbonio sut y bydd eich menter yn cyfrannu at brif-ffrydio: 

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • mynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol
  • y Gymraeg

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ateb y cwestiynau yn ôl y gofyn.

Rhestr o’r wybodaeth atodol sydd ei hangen

Mae'r dudalen hon yn cadarnhau unrhyw ddogfennau ategol y bydd gofyn ichi eu cyflwyno gyda'ch cais.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i lenwi’r dudalen hon.

Tudalen gyflwyno: camgymeriadau, gwybodaeth a chrynodeb

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o'r eitemau yr ydych wedi'u dewis ac yn eich hysbysu o unrhyw gamgymeriadau neu negeseuon gwybodaeth ar eich cais.

Ar ôl i chi edrych trwy’r crynodeb a chywiro unrhyw gamgymeriadau, cliciwch ar y botwm ‘Nesaf’.

Tudalen gyflwyno: datganiadau ac ymrwymiadau

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r datganiadau a'r ymrwymiadau y mae'n rhaid i chi gytuno arnynt wrth wneud cais. Darllenwch y dudalen hon yn drylwyr i gadarnhau'ch bod yn deall y canllawiau a'ch bod yn cydymffurfio â gofynion y categori, yr angen i gadw dogfennau, a'r gofyniad i gydweithredu ag unrhyw archwiliadau sydd eu hangen. Rhaid ichi hefyd warantu bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir. 

Ticiwch y blwch ar y gwaelod sydd wedi'i labelu "Rwyf wedi darllen ac yn cytuno â'r Datganiadau ac Ymrwymiadau uchod" a chliciwch ar "Nesaf" i symud ymlaen i'r dudalen gyflwyno.

Noder, os nad ydych yn cytuno â'r datganiadau a'r ymrwymiadau, ni fyddwch yn gallu cyflwyno'ch cais.

Tudalen gyflwyno: cyflwyno

Mae’ch cais bellach yn barod i'w gyflwyno. Cliciwch y botwm "Cyflwyno".

Os oes angen cyflwyno dogfennau atodol yn y cam ymgeisio, gallwch wneud hynny drwy glicio ar y botwm "Cyflwyno Dogfennau" ar y sgrin nesaf ar ôl i chi glicio "Cyflwyno". Darllenwch ganllawiau'r categorïau unigol i gael rhagor o wybodaeth am y dogfennau atodol sydd eu hangen.

Ar ôl cyflwyno'r cais, bydd dogfen gryno sy'n cynnwys manylion y wybodaeth a gyflwynwyd yn cael ei hychwanegu at eich adran negeseuon.

Cysylltiadau

RPW Ar-lein 

Gallwch gael mynediad at wasanaeth RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi cofrestru ar RPW Ar-lein, darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru ar ein gwefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. 

Ymholiadau – Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid 

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg. 

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig 

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer. 

Gwefan Llywodraeth Cymru 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd cyfle ichi gofrestru arni am y daflen e-newyddion, Gwlad.