Grantiau Cyfalaf Diwylliant yng Nghymru 2021 i 2026: adroddiad (crynodeb)
Gwerthusiad pwynt mewn amser o’r grantiau cyfalaf rhodiodd gan yr is-adran diwylliant yn ystod y term chweched Senedd 2021 i 2026.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Comisiynwyd Alma Economics gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad, ar adeg benodol, o’r Grantiau Cyfalaf Diwylliant yng Nghymru (2021 i2026). Nod y gwerthusiad hwn oedd asesu i ba raddau y mae’r grantiau cyfalaf a ddyfarnwyd gan yr Is-adran Ddiwylliant wedi cyflawni eu hamcanion datganedig wrth i dymor y Senedd (2021 i 2026) ddod i ben.
Roedd y portffolio Grantiau Cyfalaf Diwylliant o fewn cwmpas y gwerthusiad hwn yn cynnwys 41 o grantiau, wedi ei rannu’n dri phrosiect cyfalaf mawr (Theatr Clwyd, Amgueddfa Bêl-droed Cymru a CELF), yn ogystal ag ystod o fuddsoddiadau llai a wnaed trwy’r Rhaglen Grantiau Cyfalaf Trawsnewid a’r Rhaglen Gwelliannau Cyfalaf Rheoli Casgliadau. Roedd pob un o’r prosiectau hyn yn unigryw, gan amrywio’n sylweddol o ran graddfa, cwmpas, blaenoriaethau ac amserlenni.
O ystyried yr amrywiaeth yn y prosiectau a ystyriwyd, mabwysiadodd y gwerthusiad hwn synthesis pen desg o ddogfennau a data ar lefel prosiect yn bennaf, gan dynnu ar 169 o ddogfennau a ddarparwyd yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys adroddiadau achos busnes llawn, llythyrau dyfarnu grantiau, adroddiadau monitro diwedd prosiect, gwerthusiadau interim, ac adroddiadau archwilio mewnol.
Fel cam cychwynnol yn yr ymchwil hon, datblygwyd model rhesymeg ar gyfer y Grantiau Cyfalaf Diwylliant, gan ddefnyddio adolygiad o ddogfennaeth ar lefel prosiect, a gweithdy a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru. Yn dilyn hyn, cafodd gwybodaeth o ddogfennaeth ei thynnu’n systematig, ei syntheseiddio, a’i halinio â’r themâu a nodwyd yn y model rhesymeg wedi ei ddiweddaru. Aseswyd allbynnau a chanlyniadau fel a ganlyn:
- Wedi ei wireddu: Lle’r oedd tystiolaeth o fuddion datblygol yn bodoli
- Bwriad: Lle’r oedd prosiectau yn dal i gael eu cyflawni neu’n cael eu gweithredu’n gynnar
Prif ganfyddiadau
Cyflwynir prif ganfyddiadau’r ymchwil hon o ran y cynnydd wrth weithredu’r amrywiol brosiectau, ochr yn ochr â’u prif allbynnau a chanlyniadau.
Cynnydd wrth weithredu’r Grantiau Cyfalaf Diwylliant
Mae’r gwerthusiad hwn yn canfod bod gwaith cyfalaf sylweddol eisoes wedi ei wneud ymhlith prosiectau Grantiau Cyfalaf Diwylliant. Ymhlith y 3 phrosiect cyfalaf mawr, disgwylir i Amgueddfa Bêl-droed Cymru agor yn 2026, tra bod gwaith cyfalaf sylweddol yn Theatr Clwyd, a’r orielau o fewn rhwydwaith gwasgaredig CELF, eisoes wedi ei gwblhau, er mai yn ddiweddar y gwnaed hynny. Mae’r ddogfennaeth prosiect a adolygwyd yn datgelu bod gan 11 o 31 o Raglenni Grantiau Cyfalaf Trawsnewid adroddiadau diwedd blwyddyn prosiect eisoes, sy’n nodi cwblhau eu gwaith cyfalaf. Mae adroddiadau diwedd prosiect ar gael ar gyfer pob un o’r 6 phrosiect Gwelliannau Cyfalaf Rheoli Casgliadau sydd o fewn cwmpas y gwerthusiad hwn.
Dim ond yn ddiweddar y cwblhawyd llawer o’r gwaith cyfalaf hwn (2025, er enghraifft); felly, mae’n dal i fod yn ddyddiau cynnar i’r prosiectau o ran eu cyflawniad gweithredol ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhy gynnar i asesu llawer o’r gweithgareddau gweithredol tymor hwy, a’r buddion dilynol sy’n gysylltiedig â’r prosiectau hyn. Er mwyn mesur y buddion hyn, mae gan bob un o’r 3 phrosiect cyfalaf mwy weithgareddau gwerthuso ffurfiol wedi eu cynllunio, megis adolygiadau gweithredu prosiectau ac adolygiadau ôl-werthuso. Er nad oes gan y grantiau llai werthusiadau tebyg ar raddfa fawr, mae pob un o’r grantiau unigol yn cynhyrchu adroddiadau diwedd prosiect i ddangos sut y defnyddiwyd grantiau i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol.
Nododd y gwerthusiad hefyd heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r gwaith cyfalaf sy’n gysylltiedig â’r prosiectau hyn, sy’n cynnwys y canlynol:
- problemau annisgwyl neu waith ychwanegol sy’n ofynnol wrth wneud gwaith cyfalaf, gan arwain at fwy o waith neu gostau cynyddol (Mae hyn yn cynnwys darganfyddiadau annisgwyl ar safleoedd megis darganfod asbestos, fel yn achos Theatr Clwyd)
- gwaith darganfod annigonol yn y camau cyn-dendro, gan arwain at oedi wrth wneud gwaith cyfalaf, fel yn achos Amgueddfa Bêl-droed Cymru
- newid mewn contractwyr a dulliau caffael yn ystod gweithredu gwaith cyfalaf, fel a welwyd yn achos y Rhaglen Gwelliannau Cyfalaf Rheoli Casgliadau
- amserlenni tynn rhwng dyfarnu cyllid a chwblhau prosiectau, yn enwedig ar gyfer prosiectau llai a ariennir gan grantiau o fewn y Rhaglen Gwelliannau Cyfalaf Rheoli Casgliadau
Effeithiau’r Grantiau Cyfalaf Diwylliant
Mae’r gwerthusiad yn nodi ystod eang o fuddion bwriadedig ar draws sbectrwm eang o allbynnau a chanlyniadau, fel y dangosir drwy ddogfennaeth ar lefel y prosiect. Gyda’i gilydd, mae hyn yn awgrymu bod disgwyl i’r portffolio ddarparu set amrywiol a sylweddol o fuddion yn unol â’i amcanion cyffredinol. Er bod y buddion a gynlluniwyd a’r meysydd targed wedi eu dogfennu’n dda, o ystyried cam presennol y ddarpariaeth, nid yw llawer o’r buddion hyn yn gwbl fesuradwy, ac nid oes modd gwneud sylwadau arnynt eto. Wrth i brosiectau fynd rhagddynt a dod yn gwbl weithredol, disgwylir i ddarlun cliriach o’r effeithiau a wireddwyd ddatblygu.
Ar y cam hwn, mae cryfder y dystiolaeth ar y buddion datblygol ar ei fwyaf ar gyfer allbynnau tymor byrrach, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â gwelliannau cyfalaf a gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau. Mae yna hefyd rywfaint o dystiolaeth o ganlyniadau sy’n datblygu, yn bennaf o brosiectau cyfalaf ar raddfa lai sydd wedi eu cwblhau, ac y mae adroddiadau diwedd prosiect ar gael ar eu cyfer.
Mae’r model rhesymeg gwerthuso yn nodi prif fuddion portffolio Grantiau Cyfalaf Diwylliant yn eu cyfanrwydd, y bwriedir eu cyflawni dros amser, gan gwmpasu allbynnau, canlyniadau ac effeithiau hirdymor.
Allbynnau
- Gwelliannau cyfalaf.
- Cyflenwi gwasanaethau yn well.
- Gweithlu a chapasiti gwirfoddolwyr.
- Cymorth i randdeiliaid y sector a chymunedau ymarfer.
- Hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Canlyniadau
- Mwy o ymgysylltu â’r cyhoedd.
- Perfformiad ariannol y sefydliad.
- Cyfraniad economaidd lleol.
- Cydlyniant cymdeithasol a chysylltiad cymunedol.
- Gwell stiwardiaeth o asedau diwylliannol a threftadaeth.
- Perfformiad cynaliadwyedd amgylcheddol.
- Buddion o ran llesiant.
Effeithiau
- Mynediad gwell at ddiwylliant, a chyfranogiad gwell ynddo, i bobl ledled Cymru.
- Sicrhau bod asedau diwylliannol yn adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well.
- Dod â diwylliant yn agosach at adref.
- Democrateiddio diwylliant.
- Gwella cysylltedd â diwylliant.
- Hyrwyddo iechyd a llesiant cadarnhaol ymhlith pobl.
- Ategu’r ymdrechion i gyflawni cynllun sero net Cymru gyfan a strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru.
- Adfywio asedau cymunedol lleol, darparu cyflogaeth, a datblygu sgiliau a chyfleoedd eraill.
- Hyrwyddo a datblygu’r economi ymwelwyr ac enw da a phroffil ein diwylliant a’n treftadaeth yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Casgliadau ac argymhellion
Mae’r dystiolaeth a adolygwyd yn y gwerthusiad hwn yn dangos bod buddsoddiadau Grantiau Cyfalaf Diwylliant yn llwyddo i gyflawni gwelliannau cyfalaf ar draws portffolio amrywiol o brosiectau diwylliannol ar raddfa fawr ac ar raddfa lai ledled Cymru. Mae tystiolaeth gynnar o allbynnau a chanlyniadau sy’n datblygu yn awgrymu bod rhai prosiectau ar y trywydd iawn i gyflawni’r buddion hirdymor a fwriadwyd dros amser. Ar gyfer prosiectau eraill, roedd cam cynnar y broses weithredu yn golygu nad oedd tystiolaeth o effeithiau a wireddwyd ar gael ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Rydym yn argymell bod gweithgareddau gwerthuso yn parhau i ddangos tystiolaeth o ganlyniadau ac effeithiau wrth iddynt ymddangos. Mae natur amrywiol y prosiectau a gefnogir hefyd yn peri heriau parhaus o ran mesur a chyfuno effeithiau yn gyson ar lefel ehangach y Grantiau Cyfalaf Diwylliant. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y mesurau canlynol i gryfhau monitro a gwerthuso ar draws fersiynau presennol o’r Grantiau Cyfalaf Diwylliant a’r fersiynau yn y dyfodol.
- Datblygu set graidd o ddangosyddion monitro: sefydlu set a rennir o ddangosyddion monitro craidd sy’n cyd-fynd â themâu cyffredin (e.e. ymgysylltu â’r cyhoedd, cynaliadwyedd ariannol) i gynorthwyo dadansoddi ehangach ar lefel portffolio Grantiau Cyfalaf Diwylliant.
- Mabwysiadu fframwaith monitro modiwlaidd: cyfuno dangosyddion craidd â mesurau hyblyg, penodol i’r prosiect er mwyn cydbwyso cymhariaeth ag amrywiaeth prosiectau.
- Cryfhau’r broses o gasglu data llinell sylfaen: annog prosiectau yn y dyfodol i gynnal mesuriadau sylfaenol er mwyn olrhain ychwanegedd ac effaith yn well dros amser.
- Darparu canllawiau ar ddiffiniadau dangosyddion: gwella cysondeb yn y ffordd y mae dangosyddion (e.e. niferoedd ymwelwyr, ymgysylltiad digidol) yn cael eu mesur a’u hadrodd.
- Cynnal gwerthusiad o effeithiau ar lefel portffolio Grantiau Cyfalaf Diwylliant: defnyddio dulliau a gydlynir yn ganolog i asesu effeithiau megis llesiant a chyfraniad economaidd.
- Cynnal cyfranoldeb mewn gofynion monitro: sicrhau bod disgwyliadau yn parhau i fod yn briodol i raddfa’r prosiect gan barhau i gynhyrchu data cymharol ar draws y Grantiau Cyfalaf Diwylliant.
Gan adeiladu ar argymhelliad 1, mae’r gwerthusiad hwn hefyd wedi datblygu fframwaith arfaethedig cychwynnol o deuluoedd o ddangosyddion craidd y gellid eu defnyddio i ategu gweithgarwch monitro a gwerthuso yn y dyfodol ar draws portffolio Grantiau Cyfalaf Diwylliant.
Manylion cyswllt
Awduron: Alma Economics Limited
Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Is-adran Diwylliant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: diwylliant@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 88/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-021-0

