Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â’r grant

Gofynnwyd i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sy’n gorff annibynnol, edrych ar opsiynau o ran sut y gallai Cymru gael ei rhedeg yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosib, o bob cefndir ac ym mhob cymuned, am beth sy’n bwysig iddyn nhw, a beth yw eu gobeithion ar gyfer dyfodol Cymru.

Mae’r Comisiwn wedi sefydlu’r cyfle ariannu yma i wneud yn siŵr bod y sgwrs genedlaethol am y ffordd y gallai Cymru gael ei rhedeg yn y dyfodol yn cynnwys llawer o gymunedau amrywiol o Gymru.

Mae’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned yn rhoi cyfle i grwpiau a sefydliadau gael mynediad at gyllid ar gyfer prosiectau ymgysylltu a fydd yn cyfrannu at waith y Comisiwn.

Bydd y Comisiwn yn darparu grantiau, hyd at uchafswm o £5,000, i fudiadau trydydd sector neu grwpiau cymunedol. Nid yw’r cynllun yma ar agor i bleidiau gwleidyddol na grwpiau ymgyrchu. Bydd cyfleoedd eraill i’r grwpiau yma gyfrannu at waith y Comisiwn. Y cyfanswm sydd ar gael i’w ddosbarthu o dan y cronfa yma yw £50,000. Mae’r cronfa ar gael i’r trydydd sector, grwpiau cymunedol neu sefydliadau.

Beth mae’r Comisiwn yn chwilio amdano?

Mae’r Comisiwn yn chwilio am gynigion gan eich sefydliad ar gyfer prosiect sy’n dangos sut y byddwch chi’n gweithio gyda chymunedau Cymru, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cymryd rhan yn y sgwrs genedlaethol yma. Mae’n arbennig o bwysig ein bod ni’n cynnwys pobl sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw lais yn y sgwrs yma.

Mae’r grantiau’n cael eu cynnig er mwyn gwneud yn siŵr bod barn, safbwyntiau, pryderon a phrofiadau cymunedau amrywiol Cymru yn cael eu cynnwys yn adroddiad interim y Comisiwn. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gyflwyno adroddiad i’r Comisiwn am eich prosiect, yn ogystal â gwerthusiad a chanfyddiadau o’r prosiect.

Pa meini prawf sydd angen i mi ddilyn?

Gallech wneud cais yn annibynnol neu cydweithio hefo grwpiau eraill i gyflwyno cais am gyllid. Cofiwch feddwl am y meini prawf canlynol wrth i chi lunio cais unigol neu ar y cyd â sefydliad arall:

  1. Y gallu i ymgysylltu â grŵp(iau) a/neu gymunedau ar faterion sy’n berthnasol i’r Comisiwn ac i gynhyrchu dadansoddiad craff. Dylech ddangos hyn yn eich cais drwy ddarparu amlinelliad o sut rydych chi’n bwriadu ymgysylltu â’r cymunedau yma. Os oes gennych chi brofiad blaenorol o ymgysylltu â’r gymuned, dylech gynnwys hyn yn eich cais. Os nad oes gennych brofiad blaenorol, mi fydd cymorth a chyngor ar gael i chi.
  2. Y gallu i ddefnyddio dulliau ymgysylltu arloesol i oresgyn rhwystrau a chyrraedd pobl sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw lais yn y sgwrs. Dylech gynnwys unrhyw brofiad blaenorol yn eich cais.
  3. Y gallu i lunio adroddiad ysgrifenedig, adroddiad sydd wedi’i recordio neu adroddiad llafar gan gynnwys crynodeb o’r dystiolaeth a gafodd ei chasglu a gwybodaeth ddemograffig am y cyfranogwyr. Drwy gydol y cyfnod ymgysylltu, bydd y Comisiwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu mwy o adborth anffurfiol. Os oes gennych chi brofiad blaenorol o lunio adroddiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dylech gynnwys hyn yn eich cais. Os nad oes gennych brofiad blaenorol, bydd cyngor a chymorth ar gael i chi.
  4. Y capasiti o ran adnoddau i gyflawni’r gwaith yma erbyn dechrau mis Tachwedd 2022. Fel rhan o’ch cais, dylech roi amlinelliad o ba adnoddau y byddwch yn ymrwymo i’r gweithgaredd yma a darparu amserlen arfaethedig.

Rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr ledled Cymru gyfan – er nad oes rhaid i geisiadau unigol fod â’r gallu i gyrraedd Cymru gyfan, rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy’n seiliedig ar ardal, cymuned neu bwnc.

Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ymgeiswyr a fydd yn gallu ymgysylltu a’r cymunedau canlynol neu hefo profiad o’r themau canlynol, ac yn gallu cynnig ymgysylltiad drwy amrywiaeth o ieithoedd.

Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy’n ymwneud â chymunedau neu themâu eraill hefyd.

  • Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Grwpiau ffydd
  • Ceiswyr lloches, ffoaduriaid a chymunedau sydd newydd ymsefydlu
  • Pobl ifanc
  • Pobl hŷn
  • Grwpiau cymunedol
  • Pobl LHDTC+
  • Menywod/Merched
  • Pobl anneuaidd
  • Pobl anabl
  • Y rhai hynny sydd wedi profi digartrefedd
  • Y rhai hynny sydd wedi profi diweithdra
  • Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Preswylwyr mewn lleoliadau gofal neu sydd yn y system ofal neu y rhai hynny sydd wedi gadael y system ofal
  • Cyn-droseddwyr

Pa wybodaeth mae angen i chi ei darparu?

Dylech ddarparu cynnig, tua dwy neu dair ochr A4 (dim hirach), sy’n amlinellu sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru mewn sgwrs genedlaethol am y ffordd y gallai Cymru gael ei rhedeg yn y dyfodol. Cofiwch feddwl am y meini prawf uchod.

Dylech gynnwys dadansoddiad o’r holl gostau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r prosiect sydd yn eich cynnig.

Cofiwch nodi hefyd ym mha un o’r pedwar categori daearyddol isod mae eich gweithgaredd yn digwydd (sylwer, mae awdurdodau lleol wedi’u rhestru i egluro ffiniau rhanbarthol, ond does dim angen i geisiadau ddangos gweithgarwch penodol ym mhob awdurdod lleol yn y rhanbarth yna).

  • Cymru gyfan
  • Y Gogledd (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Fôn, Wrecsam)
  • Y Canolbarth a’r Gorllewin (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys)
  • Y De (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Abertawe, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg)

Sut i gyflwyno’ch cais

Dylai pob cais gael ei gyflwyno drwy e-bost, at ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru, erbyn Awst 12 fan bellaf.

Ein nod yw rhoi gwybod i sefydliadau am ganlyniad eu cais erbyn diwedd mis Awst 2022, ac rydyn ni’n rhagweld y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu prosiectau ar ddechrau Mis Medi.

Sut bydd y penderfyniad ar brosiectau llwyddiannus yn cael ei wneud

Bydd panel asesu yn adolygu’r ceisiadau. Bydd y panel yn asesu ac yn sgorio ceisiadau yn erbyn y meini prawf uchod.

Bydd ceisiadau’n cael eu trefnu gan y panel a’u graddio yn ôl eu sgôr a gytunwyd gan y panel.

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn ymgysylltu â grwpiau ledled Cymru, bydd o leiaf un cais o bob un o’r categorïau daearyddol (sydd i’w gweld uchod) yn cael ei ddewis i’w argymell.

Bydd cyllid grant yn cael ei ddyfarnu i sefydliadau yn amodol ar y telerau ac amodau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais, gallwch anfon e-bost i ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru

Gwybodaeth gefndir i helpu gyda’ch cais

Dweud eich dweud (noder: nid yw’r Comisiwn yn chwilio am geisiadau sy’n gofyn y cwestiynau yma i aelodau/cymunedau yn unig, mae’n bwysig i ni fod yr ymgysylltiad yn briodol, yn hygyrch ac yn gynhwysol i’r gynulleidfa).