Neidio i'r prif gynnwy

Mae grŵp arbenigol a arweinir yn glinigol yn cael ei sefydlu i lunio cynllun cyflawni ar gyfer hyd at 10 hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • bydd grŵp newydd o lawfeddygon, nyrsys a rheolwyr y GIG yn bwrw ati i gynllunio hyd at ddeg hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru
  • bydd yr hybiau yn cynyddu’r capasiti llawfeddygol a diagnostig ac yn diogelu gofal wedi’i gynllunio rhag pwysau argyfwng
  • disgwylir i’r cynllun cyflawni gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.

Mae grŵp arbenigol a arweinir yn glinigol yn cael ei sefydlu i lunio cynllun cyflawni ar gyfer hyd at 10 hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru.

Bydd hyn yn cyflawni un o gamau gweithredu allweddol cynllun 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth newydd Cymru.

Mae’r hybiau yn ganolog i’r gwaith o fynd i’r afael â’r ôl-groniad o achosion ar y rhestrau aros a etifeddwyd gan y weinyddiaeth flaenorol. Byddant yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael triniaethau yn gynt yn ogystal â sicrhau gwell canlyniadau ar eu cyfer.

Byddant yn cael eu sefydlu a’u gweithredu yn ystod tymor y Senedd hon.

Byddant yn cynyddu’r capasiti diagnostig a llawdriniaethau wedi’u cynllunio, yn lleihau nifer y triniaethau sy’n cael eu canslo ac yn helpu i leihau amseroedd aros hir drwy wahanu gofal wedi’i gynllunio oddi wrth bwysau argyfwng.

Bydd y gwaith o ddatblygu’r hybiau yn cael ei amlinellu mewn argymhellion i’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r Grŵp Arbenigol Gofal a Gynlluniwyd yn dwyn ynghyd uwch lawfeddygon, nyrsys, anesthetyddion ac arweinwyr gweithredol o bob rhan o GIG Cymru.

Y cadeirydd clinigol annibynnol fydd Rhidian Morgan-Jones, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol newydd ymddeol sydd â phrofiad o weithio yng Nghymru a Lloegr. Ar hyn o bryd, mae ef yn un o ymddiriedolwyr etholedig Cymdeithas Orthopedig Prydain ac yn gwasanaethu ar sawl pwyllgor cenedlaethol.

Bydd yr Athro Jon Barry, Cyfarwyddwr Cymru Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn rhannu dysgu o bob cwr o’r DU.

Mae aelodau’r grŵp hefyd yn cynnwys:

  • Dr Claire R Dunstan, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Anestheteg
  • Sophie O’Donovan, Nyrs Arweiniol ar gyfer Anestheteg, Gofal Critigol a Theatrau
  • Corrina Casey, Cyfarwyddwr Perfformiad a Chyflawni, GIG Cymru Perfformiad a Gwella

Bydd y grŵp yn manteisio ar ddysgu o hybiau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru yn ogystal ag arferion gorau o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol.  

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:

Mae cynyddu’r capasiti diagnostig a llawdriniaethau wedi’u cynllunio a lleihau amseroedd aros hir drwy wahanu gofal wedi'i gynllunio oddi wrth bwysau argyfwng yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth newydd Cymru. Ry’n ni eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £145 miliwn i gefnogi'r nodau hyn.

Mi fydd y grŵp arbenigol hwn yn cynllunio faint o hybiau gofal wedi’i gynllunio fydd eu hangen arnon ni, ble fyddan nhw wedi’u lleoli a sut fyddan nhw’n gwella capasiti yn y system. 

Ry’n ni am i waith cynllunio’r hybiau hyn gael ei arwain gan y bobl sy’n gwybod orau, hynny ydy, y llawfeddygon, y nyrsys a’r anesthetyddion sy’n gweithio ar y rheng flaen bob dydd.  

 Mi fydd eu harbenigedd yn sicrhau ein bod yn datblygu system gofal wedi’i gynllunio sy’n wydn, yn effeithlon ac yn gweithio i gleifion ledled Cymru