Mae grŵp arbenigol a fydd yn helpu i lunio, cefnogi a chynghori ar ddarparu’r cynnig gofal plant estynedig yng Nghymru wedi cyfarfod am y tro cyntaf heddiw.
- Mae grŵp arbenigol wedi cyfarfod am y tro cyntaf i helpu i lunio cynlluniau i ehangu gofal plant a ariennir i blant rhwng naw mis a phedair oed yng Nghymru.
- Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu, cynyddu’r defnydd o'r cynnig, a symleiddio systemau.
- Roedd sefydlu’r grŵp yn un o ymrwymiadau’r 100 Diwrnod Cyntaf, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â thasglu gofal plant Llywodraeth Cymru i gefnogi’r broses o gyflwyno’r cynnig yn raddol.
Y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, a gadeiriodd gyfarfod agoriadol y Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant.
Daw’r aelodau o amrywiaeth o gyrff sy’n cynrychioli darparwyr gofal plant, y gweithlu, gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol, ynghyd ag economegydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu gofal plant i blant rhwng naw mis a phedair oed dros dymor y Senedd hon. Roedd sefydlu'r grŵp yn un o ymrwymiadau'r 100 Diwrnod Cyntaf.
Yn y cyfarfod, cytunodd yr aelodau ar sut y bydd y grŵp yn gweithio gyda’i gilydd ac ar eu blaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod.
Mae blaenoriaethau’r grŵp yn cynnwys cynllunio’r gweithlu, cynyddu’r defnydd o’r cynnig, a symleiddio systemau, er mwyn sicrhau bod y cynnig estynedig yn cyrraedd teuluoedd ledled Cymru yn brydlon.
Bydd y Grŵp Llywio Arbenigol yn gweithredu ochr yn ochr â thasglu gofal plant Llywodraeth Cymru, gan ddarparu’r arbenigedd strategol i lywio gwaith y tasglu o roi’r cynnig ar waith.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a chadeirydd y grŵp arbenigol, Sioned Williams:
Roedd hi’n bleser cadeirio cyfarfod cyntaf y Grŵp Llywio Arbenigol wrth inni fwrw ymlaen â’r cynnig gofal plant trawsnewidiol hwn.
Bydd ehangu gofal plant o safon yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd, ac mae hynny’n flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth hon.
Fel rhan o’n hymrwymiadau ar gyfer y 100 Diwrnod Cyntaf, rydyn ni wedi mynd ati'n ddiymdroi i sefydlu’r Grŵp Llywio Arbenigol a thasglu Llywodraeth Cymru – ymrwymiad rydyn ni’n falch o’i gyflawni. Bydd y Grŵp Arbenigol yn cynnig cyngor strategol a syniadau ymarferol i’n helpu i ehangu gofal plant a ariennir yn raddol. Dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw i wireddu newid go iawn i deuluoedd ledled Cymru.
Dywedodd cynrychiolydd Cwlwm a Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Catrin Edwards:
Mae gwaith y Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant yn gam pwysig tuag at gyflwyno cynnig gwirioneddol uchelgeisiol. Ein ffocws yw sicrhau bod yr ehangu’n gweithio’n ymarferol, wedi’i gyflwyno’n effeithiol ac yn gynaliadwy ar lawr gwlad. Rydym am gefnogi adeiladu system sy’n para, fel y gall plant a theuluoedd elwa’n llawn, tra hefyd yn cefnogi’r sector a’r gweithlu gofal plant i dyfu a ffynnu.
Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â gwella canlyniadau i blant a theuluoedd, gyda chyfle gwerthfawr i gryfhau mynediad cynnar i’r Gymraeg fel rhan o’r cynnig ehangach.
Mae aelodau'r Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant yn cynnwys:
- Cadeirydd, Sioned Williams, y Dirprwy Brif Weinidog
- Dr Su-Min Lee, London Economics
- Dr Lowri Vaughan Brown, Prif Swyddog Addysg, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru
- Sharon Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cwlwm, David Goodger o Blynyddoedd Cynnar Cymru, a Catrin Edwards o'r Mudiad Meithrin.
- Gemma Halliday, Gofal Cymdeithasol Cymru
