Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r grŵp yn edrych ar ffyrdd o gasglu data er mwyn gweld effaith y ddeddf ar sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus.

Cyflwyniad

Cafodd y cylch gorchwyl hwn ei lunio am y tro cyntaf tra bo’r Bil yn mynd drwy’r Senedd; mae bellach wedi’i ddiweddaru, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, i gyfeirio at y Ddeddf a’r amserlen ar gyfer ei chychwyn.

Diben y Grŵp

Diben y grŵp yw ystyried dulliau o gasglu data ar draws sefydliadau er mwyn monitro effeithiau'r ddeddfwriaeth ar wasanaethau cyhoeddus ac ar sefydliadau eraill.

Bydd hyn yn cynnwys ystyried eitemau data, mannau casglu data a systemau TG gofynnol i ddangos tystiolaeth am effaith a chostau'r ddeddfwriaeth ar wasanaethau cyhoeddus os bydd y gyfraith yn newid. Amcan y grŵp yw casglu data ar gyfer monitro'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill.

Trefniadau Llywodraethiant

Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn atebol i'r Grŵp Gweithredu Strategol ac yn cael ei gadeirio ar y cyd rhwng aelod o'r grŵp a swyddog Llywodraeth Cymru. Bydd y cyd-gadeiryddion, drwy Lywodraeth Cymru, yn cydgysylltu adroddiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp Gweithredu Strategol ar ôl pob cyfarfod o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ac ar adegau priodol drwy gydol y prosiect.

Amserlenni a dyddiadau pwysig

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp ar 9 Gorffennaf 2019. Dylai'r Grŵp benderfynu pa mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gydol oes y Prosiect. Dylai gwaith y Grŵp gael ei gyflawni mewn pryd i sicrhau bod y trefniadau casglu data sylfaen yn eu lle ar draws y sefydliadau gofynnol erbyn diwedd mis Mawrth 2020 fan bellaf.

Tasgau a dyddiadau allweddol ar gyfer y grŵp

  • Deall y broses ar gyfer datblygu casgliadau data gan gynnwys llywodraethiant, penderfyniadau a chymeradwyo - Diwedd Gorffennaf 2019
  • Gweithio i ddeall newidiadau i systemau TG a'r amser sydd ei angen - Diwedd Medi 2019
  • Diffinio Diffiniadau Data - Diwedd Medi 2019
  • Cymeradwyo canllawiau / hyfforddiant ar gyfer casgliadau data - Rhagfyr 2020
  • Cyflwyno Hyfforddiant - Rhagfyr 2020
  • Monitro Sylfaenol - Mawrth 2020
  • Monitro Data Newydd (lle bo'n berthnasol) - O gychwyn y gyfraith newydd

Rolau penodol yr Aelodau a Llywodraeth Cymru

Daw'r aelodau o amrywiol sefydliadau â buddiant allweddol mewn monitro'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus.

Dylai'r aelodau:

  • ddeall yn gyffredinol effeithiau disgwyliedig y Ddeddf ar eu sefydliad
  • datblygu syniadau ar gofnodi data er mwyn mesur effeithiau
  • hwyluso'r gwaith o gymeradwyo a gweithredu'r newidiadau i systemau cofnodi
  • fewn eu sefydliadau
  • cyfethol arbenigedd technegol i gefnogi gwaith y Grŵp pan fo'n ofynnol
  • darparu adroddiadau a diweddariadau i'r Grŵp pan fo'n ofynnol a chyflawni tasgau a chamau gweithredu yn gyflym er mwyn sicrhau fod y cynnydd yn parhau
  • dwyn unrhyw broblemau i sylw'r Grŵp wrth iddynt godi, gan gynnig syniadau am atebion posibl
  • medru gwneud penderfyniadau yn y grŵp, y gellid eu datblygu o fewn eu sefydliadau eu hunain

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu:

  • Cymorth polisi ac arbenigedd technegol
  • Ysgrifenyddiaeth, cefnogaeth weinyddol a threfniadau ar gyfer y cyfarfodydd a gwaith y grŵp;
  • Papurau o fewn 5 diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.

Aelodaeth

Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Casglu Data a Monitro yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran y canlynol:

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol/Plant - ADSS/AWHOCS
  • CAFCASS Cymru
  • Tîm Diogelu’r GIG
  • Llysoedd Ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfarwyddwyr Addysg (ADEW)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Heddluoedd Cymru
  • Byrddau Diogelu Rhanbarthol