Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y bwrdd a sut y bydd yn gweithio.

1. Diben

Rhoi adborth ar ran rhanddeiliad ar gynnwys Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC), ar y gwaith o'i baratoi ac ar brosesau cysylltiedig â chynghori ar roi'r cynllun a fabwysiedir ar waith.

2. Cwmpas

Bydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol yn "gyfaill beirniadol" i Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses Cynllunio Morol. Bydd y grŵp yn cynghori ar ffyrdd o fynd ati i ddatblygu cynlluniau morol ac ar ganlyniadau penodol y cynllunio hwnnw, gan gynnwys yr hyn a gynhwysir yn y cynllun. Bydd drafftiau cynnar o'r hyn a gynhyrchir yn cael eu rhannu ar sail gyfrinachol â'r grŵp.

Bydd y Grŵp yn cynghori ar y gwaith o baratoi a gweithredu'r cynllun a bydd yn parhau ar ôl i'r cynllun gael ei fabwysiadu.

3. Meysydd allweddol a fydd yn cael sylw

Bydd angen cyngor a chyfraniadau mewn nifer o feysydd, er enghraifft:

  • Gweledigaeth ac Amcanion CMC
  • Cynnwys CMCC
  • Y broses cynllunio morol yng Nghymru
  • Tystiolaeth ar gyfer cynllunio'r Arfarniad o Gynaliadwyedd, yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
  • Integreiddio â systemau cynllunio eraill
  • Monitro, adolygu ac asesu CMCC
  • Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol fel rhan o'r broses cynllunio morol
  • Y dull rheoli ar lefel yr ecosystem, rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a llesiant
  • Canlyniadau gwaith ymchwil sy'n gysylltiedig â'r broses cynllunio morol
  • Rhoi'r cynllun ar waith, gan gynnwys gwneud penderfyniadau
  • Rhoi gwybod am "wersi a ddysgwyd" oddi wrth brosesau cynllunio morol eraill neu oddi wrth brosesau cynllunio cysylltiedig
  • Helpu i ddatblygu'r ffordd y mae gwaith yn cael ei gydgysylltu ar draws ffiniau, yn enwedig yn ardaloedd Aberoedd Afon Hafren ac Afon Dyfrdwy.

4. Cysylltu ag eraill

  • Bod yn llinell gyswllt rhwng y tîm cynllunio morol a rhwydweithiau ehangach o randdeiliaid yng nghyswllt y maes perthnasol y maent yn ei gynrychioli
  • Cyfathrebu â rhwydweithiau rhanddeiliaid pan fyddwn yn ymgynghori a'n helpu i drafod â nhw pan fo hynny'n briodol
  • Hyrwyddo'n neges
  • Rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw rwydweithiau newydd neu am y ffyrdd gorau o gyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol.

5. Aelodaeth

Bydd aelodau'r grŵp yn cynrychioli buddiannau amryfal randdeiliaid, gan gynnwys:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithas Ceblau dan y Môr Ewrop
  • Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain
  • Cymdeithas Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
  • Cyswllt Amgylchedd Cymru
  • Grŵp Defnyddwyr a Datblygwyr Gwely'r Môr
  • Grŵp Porthladdoedd Cymru
  • Fforwm Arfordir Sir Benfro
  • Horizon Nuclear Power
  • Partneriaeth Aber Afon Hafren
  • Prifysgol Lerpwl
  • Renewables UK
  • RSPB
  • SeaCAMS2
  • Seafish
  • Swyddogion Safleoedd Morol Ewropeaidd
  • Tidal Lagoon Power
  • Tîm Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru
  • Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
  • Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol
  • Y Sefydliad Rheoli Morol
  • Y Siambr Morgludiant
  • Ynni Môr Cymru
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Ystad y Goron

Mae'n bosibl y gofynnir i randdeiliaid eraill ac arweinwyr polisi eraill yn Llywodraeth Cymru ddod i gyfarfodydd penodol.

6. Trefniadau gweithio

Bydd y Grŵp yn cael ei gadeirio gan Bennaeth y Gangen Polisi Morol.

Bydd yn cyfarfod bob chwarter fwy neu lai tra bo CMCC yn cael ei ddrafftio. Bydd nifer y cyfarfodydd rheolaidd yn cael ei adolygu ar ôl i CMCC gael ei fabwysiadu. Fel arfer, bydd y cyfarfodydd yn rhai wyneb yn wyneb, a chânt eu hategu yn ôl y gofyn gan rith-gyfarfodydd. Byddant yn cael eu cynnal ar draws Cymru.

Bydd aelodau'r Grŵp yn cyfrannu ac yn cynnig cyngor yn ôl y gofyn ar sail hyblyg. Mae'n bosibl y gofynnir i'r aelodau ymuno â grwpiau gorchwyl a gorffen llai ar sail ad-hoc wrth inni gwblhau camau gwahanol o'r cynllun.

Bydd Ystad Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio pryd bynnag y bo modd a chaiff cyfleusterau fideo-gynadledda eu defnyddio lle y bo modd.

Bydd y Grŵp yn gweithredu fel cyfaill beirniadol. Disgwylir cyfraniadau adeiladol a disgwylir i'r aelodau ganolbwyntio ar ddatrys problemau a phryderon.

Pan rennir gwybodaeth/deunydd â'r Grŵp, bydd Llywodraeth Cymru yn esbonio a fydd yn briodol ei rhannu y tu allan i'r grŵp.

Bydd pwyntiau gweithredu yn cael eu nodi a'u hanfon at yr aelodau a chaiff crynodeb lefel uchel o'r drafodaeth ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.