Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y grŵp.

Diben

Bydd y Grŵp Cyflawni Addysg Strategol yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni cenhadaeth ein cenedl yn effeithiol. Bydd yn ymroi i gefnogi'r uchelgais o adeiladu diwylliant o gydweithredu ar draws y Llywodraeth yng Nghymru a'r haen ganol.

Prif ffocws

Prif ffocws y grŵp fydd sicrhau proffesiynoldeb cydweithredol rhwng holl sefydliadau'r haen ganol yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu bod angen i bob aelod a sefydliad sy'n rhan o'r grŵp ganolbwyntio ar:

  • Drawsnewid yr addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion
  • Gwerthuso ar sail tystiolaeth yn hytrach na data
  • Darparu adborth gonest ond adeiladol o fewn ac ar draws ein sefydliadau, er mwyn mireinio’r diwygiadau heb ddadsefydlogi'r gwaith o gyflawni cenhadaeth ein cenedl
  • Alinio rhaglenni neu weithgareddau lle maent yn effeithio ar ysgolion a/neu lle ceir swyddogaethau sy'n gorgyffwrdd
  • Gofyn am esboniadau ac eglurhad lle bo angen
  • Ceisio sicrhau ymchwilio cydweithredol parhaus o fewn ac ar draws ein sefydliadau
  • Ein rôl fel addysgwyr proffesiynol sy'n gofalu am ein gilydd ac yn sefyll gyda'n gilydd.

Prif fantais hyn i’n system addysg yw y bydd y gweithwyr proffesiynol allweddol sy'n aelodau o'r grŵp ac yn cefnogi'r broses ddiwygio yng Nghymru yn symud o fod yn hunan-effeithiol i weithredu'n effeithiol ar y cyd. Bydd hyn yn golygu bod sefydliad yn symud o'r agwedd bod eu pobl yn gallu gwneud gwahaniaeth, cael effaith neu gyflawni eu hamcanion, i sefyllfa lle mae pob sefydliad yn credu ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth i'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru gyda'n gilydd. Bydd aelodau'r grŵp yn amlinellu dymuniad cryf i feithrin proffesiynoldeb cydweithredol er mwyn gallu goruchwylio cenhadaeth ein cenedl.

Bydd yr aelodau'n defnyddio'r cyfarfodydd i ddatblygu a chyfoethogi eu dealltwriaeth o elfennau strategol allweddol cenhadaeth ein cenedl; ac i nodi’r meysydd yn eu gwaith lle ceir synergedd.

Bydd gan y grŵp gadeirydd annibynnol a bydd yn gwahodd arweinwyr agweddau o'r byd academaidd i lywio'r trafodaethau.

Bydd cyfle i'r aelodau ddylanwadu ar bolisi wrth ei ddatblygu o fewn Llywodraeth Cymru. Lle'n briodol, bydd y Cadeirydd yn cael cyfle i roi adborth annibynnol i'r Gweinidog Addysg ar gynnydd o ran cyflawni cenhadaeth ein cenedl.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae aelodau'r grŵp yn gyfrifol am:

  • Ddarllen yr holl ddeunyddiau a gyflwynir iddynt i'w hystyried, a chyfrannu sylwadau ac enghreifftiau o brofiad perthnasol i'w trafod, a
  • Chyflawni at ddiwylliant o broffesiynoldeb cydweithredol ac adeiladu system o weithredu'n effeithiol ar y cyd rhwng sefydliadau haen ganol a'r Llywodraeth yng Nghymru.

Amlder y cyfarfodydd

Bydd y grŵp yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn fel arfer.

Ysgrifenyddiaeth

Cyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru fydd yn darparu'r ysgrifenyddiaeth.

Aelodaeth

  • Cadeirydd - yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Estyn
  • Cymwysterau Cymru
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysgu Cymru (CCAC)
  • Consortiwm Canolbarth y De (CSC)
  • Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS)
  • Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
  • Consortiwm Gogledd Cymru (GwE)
  • Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) (i'w gadarnhau)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (i'w gadarnhau)
  • Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)
  • Byrddau arholi perthnasol eraill
  • Prifysgol Bangor / Prifysgol Caer
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd / Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol Cymru
  • Colegau Cymru
  • Swyddfa Archwilio Cymru
  • Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol (i'w gadarnhau)
  • Llywodraeth Cymru - y Gyfarwyddiaeth Addysg (Cyfarwyddwr)
  • Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm
  • Llywodraeth Cymru - Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol
  • Llywodraeth Cymru - Cymorth i Ddysgwyr
  • Llywodraeth Cymru - Effeithiolrwydd Ysgolion
  • Llywodraeth Cymru - Addysg, Cynllunio Busnes a Llywodraethiant
  • Llywodraeth Cymru - y Gymraeg

Yn bresennol

  • Arweinydd agweddau - Mick Waters
  • Arweinydd agweddau - Graham Donaldson
  • Arweinydd agweddau - Syr Alasdair Macdonald