Neidio i'r prif gynnwy

Aelodaeth grŵp Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd.

Sarah Carr

Mae Sarah wedi bod yn gweithio fel milfeddyg yng Nghymru ers 2004, gyda diddordeb mewn anifeiliaid anwes ac anifeiliaid chynhyrchu. Mae’n gyn-lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain ac yn aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, sef y rhai y mae’n eu cynrychioli ar y grŵp cyflenwi hwn.  Mae gan Sarah hefyd ddiadell o famogiaid croesfrid masnachol ac mae’n frwd dros ffermio yng Nghymru.

Rachel Edwards

Mae Rachel yn ffermwr cig eidion a defaid o Forgannwg sy’n rheoli daliad sylweddol ym Mro Morgannwg, gyda’i phartner Richard.  Yn ddiweddar, etholwyd Rachel yn gadeirydd pwyllgor addysg a hyfforddiant Undeb Amaethwyr Cymru. Mae hi'n edrych ymlaen at ymgysylltu ag ysgolion, i addysgu disgyblion am gynhyrchu bwyd. Mae hi hefyd wedi siarad am yr her o gadw iechyd meddwl cadarnhaol, yn y cartref, ac yn y gymuned ffermio ehangach.

Kitty Healey

Mae Kitty yn arwain y Tîm Polisi a Gwyliadwriaeth Gwrthficrobaidd yn y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (CMM).

Robin Howe

Mae Robin wedi hyfforddi yn feddygol a hefyd mewn mcrobioleg clinigol. Ar ôl gweithio fel Uwch Ddarlithydd Ymgynghorol ym Mhrifysgol Bryste ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste am gyfnod symudodd i Gymru yn 2005 i fod yn ficrobiolegydd ymgynghorol ac i arwain Rhaglen Ymwrthedd i Gyffuriau Cymru.  Robin yw’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae wedi cynnal lleoliad clinigol yn labordy Caerdydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Sefydlog Cymdeithas Brydeinig Cemotherapi Gwrthficrobaidd ar gyfer Profi Ymwrthedd Gwrthficrobaidd ac mae’n aelod o Bwyllgor Llywio EUCAST (Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Profi Ymwrthedd.

Ian Jones 

Mae Ian yn filfeddyg ac yn berchennog Grŵp Milfeddygol Hafren yn y Canolbarth. Mae ei bractis yn trin anifeiliaid fferm, dofednod, ceffylau ac anifeiliaid bach. Ei ddiddordeb penodol yw Ymwrthedd Gwrthficrobaidd ac mae'n teimlo'n gryf ynghylch sicrhau defnydd cyfrifol o feddyginiaethau gwrthficrobaidd.

Ifan Lloyd

Mae Ifan Lloyd yn filfeddyg sydd â thros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y maes clinigol cymysg preifat yng Nghymru ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn anifeiliaid fferm. Ar hyn o bryd mae’n filfeddyg ymgynghorol rhan-amser yng Ngrŵp Milfeddygol St James yn Abertawe. Ifan yw llywydd presennol Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygol Prydain,  mae’n gyfarwyddwr milfeddygol ar Iechyd Da (Gwledig) Cyf ac yn gyfarwyddwr ar Cefn Gwlad Solutions Cyf. Mae Ifan yn cynrychioli Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ar y Grŵp Cyflenwi hwn.

Hywel Morgan

Ffermwr cig eidion a defaid yng Nghanolbarth Cymru yw Hywel, ar dir sydd â Bannau Brycheiniog i'r gorllewin, ac yn gwerthu cynnyrch trwy farchnadoedd ffermwyr. Mae'n mwynhau hysbysu ei gwsmeriaid am sut mae ei anifeiliaid yn cael eu magu a'u defnyddio fel arf i reoli'r tir ar gyfer bioamrywiaeth. Mae Hywel yn credu’n gryf mewn gweithio gyda natur, nid yn ei herbyn. Mae’n fentor, yn gadeirydd y Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur, ac yn gadeirydd y Cymdeithasau Pori Tir Comin, ymhlith rolau eraill.

Gwen Rees

Mae Gwen Rees yn filfeddyg ac yn Uwch Gydymaith Ymchwil yng Ngholeg Milfeddygol Bryste.  Cwblhaodd Gwen ei Doethuriaeth gan astudio y defnydd o feddygaeth filfeddygol ar ffermydd llaeth, ac mae’n arweinydd prosiect i Arwain Vet Cymru, gan sefydlu Rhwydwaith Hyrwyddo Rhagnodi Milfeddygol Led-led Cymru.

Andrew Singer

Mae gan Andrew PhD mewn gwyddor pridd a dŵr ac y mae ar hyn o bryd yn brif wyddonydd yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (Wallingford). Mae’n arwain tîm sy’n ymchwilio i’r gydberthynas rhwng llygredd, ymwrthedd i wrthfiotigau ac iechyd yr amgylchedd a phobl.

Robert Smith 

Mae Rob Smith yn lawfeddyg milfeddygol anifeiliaid fferm ac yn gyfarwyddwr Gwasanaethau Milfeddygol Farm First yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae Robert ar fwrdd Iechyd Da, partner cyflenwi milfeddygol De Cymru ac yn Gadeirydd eu gweithgor ar y defnydd cyfrifol o feddyginiaeth gwrthficrobaidd yng Nghymru.

Isobel Stanton

Biolegydd Moleciwlaidd yw Isobel yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU lle mae’n gweithio ar ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn yr amgylchedd.  Cyn hynny, roedd Isobel yn fyfyriwr PhD ac wedi hynny yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Exeter, yn ymchwilio i’r ffordd y caiff AMR ei ddethol yn yr amgylchedd naturiol a’i drosglwyddo o’r amgylchedd naturiol i bobl.

Christopher Teale

Milfeddyg yw Chris sy’n gweithio i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae’n arwain y gwaith ar ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd o fewn yr Asiantaeth. Mae Chris wedi bod yn aelod o bwyllgorau sy’n ystyried ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Cymdeithas Cemotherapi Gwrthficrobaidd Prydain, yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd (EMA) ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).

Gavin Watkins

Mae Gavin yn Uwch-swyddog Milfeddygol yn Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru. Ei ddiddordebau proffesiynol yw clefydau heintus anifeiliaid fferm, meddyginiaethau ataliol milfeddygol, yn enwedig mewn gwartheg, defaid ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, bu Gavin yn gweithio fel Swyddog Archwilio Milfeddygol yng Nghaerfyrddin a chyn hynny roedd yn ymchwilydd clefydau bacteria mewn defaid.

Eifiona Williams

Mae Eifiona Williams yn bennaeth Dŵr o fewn Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.