Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru (IAG) wedi bod yn ystyried goblygiadau datblygiadau grid trydan newydd i Gymru ers mis Medi 2024. Ers mis Ebrill 2025, mae aelodau'r grŵp wedi gweithio'n helaeth ar yr adroddiad terfynol ac argymhellion o'u gwaith ymchwilio. Mae'r adroddiad yn darparu trosolwg sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ganfyddiadau'r grŵp. Mae'n nodi argymhellion y bwriedir iddynt lywio datblygu grid trydan yn y dyfodol yng Nghymru, a sicrhau bod uwchraddiadau seilwaith yn cefnogi datgarboneiddio, diogeledd ynni, a llesiant cymunedau. 

Crëwyd yr adroddiad gan grŵp o arbenigwyr a rhanddeiliaid annibynnol, a gynullwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r aelodau annibynnol wedi cyfrannu eu gwybodaeth am rwydweithiau trydan, effeithiau amgylcheddol, effeithiau economaidd-gymdeithasol, buddiannau cymunedol, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i drafodaethau’r grŵp. Canolbwyntiodd gwaith y Grŵp Cynghori Annibynnol ar nodi egwyddorion ar gyfer datblygu’r grid, gan ystyried ffactorau technegol a chymdeithasol, ac ymateb i bryderon y cyhoedd am effeithiau seilwaith newydd, yn enwedig y cydbwysedd rhwng llinellau uwchben a llinellau tanddaearol. 

Bwriedir i ganfyddiadau ac argymhellion y grŵp lywio polisi, cynllunio ac ymgysylltu wrth i Gymru bontio i system ynni garbon isel ar gyfer yr 21ain ganrif.

Er gwaethaf y gwaith helaeth a wnaed i ddatblygu'r adroddiad terfynol, nid yw wedi bod yn bosibl cael yr holl aelodau annibynnol i gytuno’n unfrydol i'r cynnwys a'r argymhellion yn yr adroddiad cyn ei gyhoeddi. Mae hyn yn adlewyrchu'r heriau a'r farn gref sy'n bodoli o hyd mewn perthynas â’r grid yng Nghymru. 

Gan fod y rhan fwyaf o aelodau'r grŵp yn cefnogi’r adroddiad, mae Cadeirydd annibynnol y Grŵp Cynghori Annibynnol wedi cytuno y dylid cyhoeddi'r adroddiad, gan gydnabod y brys cynyddol i wneud cynnydd ar yr argymhellion. 

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i'r Cadeirydd a'r holl aelodau am eu hamser a'u sylw i fanylion, a'u dull adeiladol sy'n canolbwyntio ar gyflawni cyhoeddi argymhellion y mae’r mwyafrif o'r grŵp yn eu cefnogi. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig yn y gwaith sydd ei angen wrth adolygu polisi ac ymgysylltu ar gyfer grid trydan y dyfodol i Gymru.

Crynodeb o argymhellion yr adroddiad

Mae argymhellion llawn y grŵp i’w gweld yn yr adroddiad. Mae crynodeb a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ar gael isod, wedi'i grwpio yn feysydd thematig allweddol:

Gwybodaeth a chyfathrebu

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pobl a busnesau yng Nghymru wedi'u paratoi'n dda ar gyfer y newidiadau grid sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio, gyda chynllun cyfathrebu clir i hysbysu a chefnogi pawb drwy'r pontio. Dylai'r cynllun hwn dynnu sylw at fanteision newidiadau seilwaith a darparu gwybodaeth am gymorth a digolledu i'r rhai yr effeithir arnynt.

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo neu gomisiynu gwybodaeth ffeithiol, hygyrch am seilwaith grid trydan, gan esbonio agweddau technegol ac opsiynau mewn ffordd sy'n hawdd i'r cyhoedd ei deall.

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu trosolwg clir o'r prosesau sy'n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys amserlenni, camau a chyfleoedd ar gyfer mewnbwn gan y cyhoedd. Bydd hyn yn helpu pobl i ddeall sut a phryd y gallant ymgysylltu, a gallai nodi ffyrdd o gyflymu cyflawni i gyrraedd targedau datgarboneiddio.

Ymchwil, cryfhau tystiolaeth a data

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau ledled Prydain Fawr i gomisiynu adroddiadau sy'n cymharu costau a nodweddion technegol seilwaith trawsyrru a dosbarthu, gan gynnwys effeithiau amgylcheddol a thechnegau amgen. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu yng Nghymru.

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â chwmnïau rhwydweithiau a rhaglenni arloesi i ystyried aredig ceblau fel opsiwn ar gyfer llwybrau penodol, gan adeiladu ar yr wybodaeth bresennol a deall ei gostau, ei effeithiau a'i addasrwydd ar draws gwahanol folteddau a thirweddau.

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid i nodi a mynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth a ddefnyddir i asesu effeithiau seilwaith grid, gan gomisiynu ymchwil yn ôl yr angen i sicrhau bod penderfyniadau yn gallu ystyried yn llawn effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.

Polisi a chanllawiau i gynllunwyr, datblygwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau

Argymhelliad 6a/b

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei dull polisi o ymdrin â phrosiectau seilwaith grid, gyda'r nod o wella prosesau gwneud penderfyniadau a thryloywder. 

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried datblygu fframwaith strwythuredig ar gyfer adolygu cynllunio seilwaith a chydsynio ceisiadau, gan sicrhau bod yr holl gostau, effeithiau a manteision yn cael eu hystyried.

Yn y broses o gynhyrchu argymhellion, mae'r Grŵp Cynghori Annibynnol wedi casglu ac ystyried nifer sylweddol o ffynonellau tystiolaeth perthnasol. 

Mae ffynonellau tystiolaeth sydd eisoes ar gael yn y parth cyhoeddus wedi'u rhestru yn atodiad yr adroddiad. Mae gwybodaeth arall a ddarparwyd yn uniongyrchol i'r grŵp yn cael ei chwblhau i'w chyhoeddi ar y dudalen we hon. 

Rheoli consensws dros yr adroddiad

Ystyriwyd bod sicrhau consensws llawn holl aelodau'r Grŵp Cynghori Annibynnol dros gynnwys ac argymhellion yr adroddiad terfynol yn heriol o ystyried safbwyntiau amrywiol yr aelodau, ac mae wedi profi'n anghyraeddadwy yn yr amserlen hyd at fis Rhagfyr 2025. Mae'r Cadeirydd Annibynnol wedi cytuno y gellir cyhoeddi'r adroddiad gyda chonsensws y mwyafrif, gan gydnabod bod themâu'r argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn wedi cael cytundeb eang i'w cynnwys ar draws yr aelodaeth lawn dros y misoedd diwethaf, a bod angen iddynt fod ar gael er mwyn gallu llunio gwaith yn y dyfodol. 

Mae manylion aelodau'r Grŵp Cynghori Annibynnol nad oeddent yn gallu cytuno i naill ai'r adroddiad terfynol neu i argymhellion penodol fel y maent wedi’u geirio ar hyn o bryd wedi’u crynhoi isod. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod heriau dod o hyd i atebion i'r materion cymhleth hyn a bydd yn parhau i gynnwys pobl yn y gwaith o ddatblygu polisi, i fynd i'r afael â'r pryderon parhaus hyn. 

Nid oedd y cynrychiolydd cymunedol yn gallu cymeradwyo cyhoeddi'r adroddiad a chyflwynodd sawl newid ac ychwanegiad. Roedd y newidiadau ac ychwanegiadau yn cynnwys dau faes i ganolbwyntio arnynt yn benodol ynghylch comisiynu adolygiadau critigol o dystiolaeth arbenigol a ddefnyddir ar gyfer polisi, ac i wneud mwy o argymhellion uniongyrchol ar gyfer polisi ar aredig cebl. Mae'r meysydd hyn wedi cael eu trafod o'r blaen gan y grŵp ac nid oedd cefnogaeth eang i fynd y tu hwnt i'r argymhellion presennol.