Neidio i'r prif gynnwy

Cam gweithredu

 
Cam gweithredu Cyfrifol 
Mae angen trafodaethau gyda byrddau iechyd i benderfynu pa drefniadau monitro sydd ar waith a sut y gallant sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn gyson ac yn dryloyw ar lefel glinigol.  I'w drafod gyda chyfarwyddwyr clinigol a nyrsio HP
Mae angen trafodaethau gydag Arolygiaeth Iechyd Cymru i benderfynu a ydynt yn cynllunio unrhyw beth tebyg i'r CQC.  HP
Y Pwyllgor Cenedlaethol - Manylion aelodau o sefydliadau cynrychioliadol i'w rhannu â'r grŵp.   ALL
Gwneud penderfyniadau fframwaith. Syniadau i'w rhannu ynghylch sut y gallwn ychwanegu tryloywder, hygrededd a diogelu'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hyn?  ALL
Ystyried Ap i drefnu bod fframwaith moesegol ar gael yn rhwydd. HP
Angen sgwrs ag AaGIC i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i hyrwyddo dealltwriaeth o anabledd. HP
Aled R i rannu ei brofiad personol gydag olrhain a thracio a'r ganolfan brof Aled R
Pryderon ynghylch grwpiau gwrth-frechlyn, a heriau cyfathrebu i'w trafod gyda chydweithwyr  WG

Yn bresennol

Heather Payne (Chair), Aled Roberts, Alison Mawhinney, Helena Herklots, Kevin Francis, Alison Parken, Rhian Davies, Viv Harpwood, Carol Wardman, Kathy Riddick, Idris Baker, Valerie Billingham, Chantel Patel, Liz Davies, Baroness Finlay, Aled Edwards, Ben Thomas

Nodyn o’r Cyfarfod

1. Croeso, Ymddiheuriadau a Chyflwyniadau 

Gwnaeth y Cadeirydd gyflwyniadau, croesawodd Paula Hope o Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu Bae Abertawe a nododd ymddiheuriadau. 

2. Cofnodion blaenorol 

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r grŵp ddarparu unrhyw sylwadau/diwygiadau ynghylch nodyn y cyfarfod diwethaf i'r Ysgrifenyddiaeth. 

Camau Gweithredu  

Polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â defnyddio sgôr eiddilwch clinigol Rockwood.  Erbyn hyn, mae CQC wedi herio'r penderfyniad cyffredinol i osod gorchmynion 'peidiwch â cheisio dadebru'. Teg adrodd na ddigwyddodd defnydd llawn o sgôr eiddilwch clinigol Rockwood yng Nghymru na Lloegr. Defnyddiwyd adborth gan ein grŵp i herio'r dull o dderbyn cleifion i ofal dwys.  
 
Rhannwyd canllawiau NICE dyddiedig Mawrth 2020 gyda'r grŵp.  Nid yw trafodaethau yn y Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol sy'n cynghori'r pedwar Prif Swyddog Meddygol yn arwain at y datganiad “any patient aged under 65 or any age with stable long term disabilities, do not use the clinical frailty score”.   O ganlyniad i’r trafodaethau a gynhaliwyd yn y grŵp hwn, daeth ein canllawiau yng Nghymru yn gyson â chanllawiau NICE.  
 
Gofynnwyd inni fel grŵp adolygu'r fersiwn ddiweddaraf o'r canllawiau ymchwydd eithafol i Gymru erbyn 11 Rhagfyr 20.  Ar hyn o bryd, mae'r ddogfen yn cael ei hystyried yn swyddogol sensitif ond rydym yn aros am ganiatâd i’w rhannu o fewn ein n Bydd angen i ni gyfarfod eto yr wythnos nesaf i nodi unrhyw faterion.  Croesawyd cyswllt unigol gan y rhai sy'n gallu cael mynediad at y ddogfen drwy’r byrddau iechyd.  
 
Bydd angen inni ystyried ein trafodaethau ynghylch anaf moesol i'r GIG a staff gofal sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa annioddefol ac yn gorfod gwneud penderfyniadau sy'n gwrthdaro â'u gwerthoedd eu hunain a'u hymdeimlad o hunanwerth.  
 
Mae angen trafodaethau gyda byrddau iechyd i benderfynu pa drefniadau monitro sydd ar waith a sut y gallant sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn gyson ac yn dryloyw ar lefel glinigol. 

3. Pwyllgorau Moeseg Glinigol y Rhwydwaith Cenedlaethol 

Gofynnwyd i'r Aelodau roi sylwadau ar y Cylch Gorchwyl drafft a ddarparwyd ynghyd â dolen ar gyfer Cylch Gorchwyl drafft Rhwydwaith Moeseg Glinigol y DU. Dogfen waith i’w chyflwyno i'r CMO a’r CNO i ymateb i adborth i’r hunanfyfyrio ac adolygu a thrafod gyda phwyllgorau CEC. Mae angen Rhwydwaith Cymru Gyfan arnom er mwyn rhoi cymorth a chyngor ledled Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o werth y grŵp eang hwn sydd gennym. Rydym yn adnodd gwych ond gallwn eistedd ar ben CEC a hefyd gefnogi'r ymddiriedolaethau nad oes ganddynt CEC. 
 
Sylwadau: 

  • Mwy o ystyriaeth i broses recriwtio deg ac agored 
  • Natur yr atgyfeiriad i grwpiau moeseg ychydig yn wahanol i'r rhai ar lefel leol. 
  • Mae ehangder arbenigedd a phersbectif ar bwyllgor yn fwy defnyddiol na chynrychiolydd ffurfiol neu wahanol grwpiau proffesiynol adnabyddadwy neu grwpiau eraill. - Rhaid rhoi pwyslais ar strategaeth. Mae angen pyrth yn hytrach na phorthgeidwaid.  Mae angen inni ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng materion Moesol a Moesegol na ellir eu datrys yn lleol. 
  • A oes arnom angen rhwydwaith o'r Pwyllgorau Moeseg Glinigol y tu allan i strwythur CMEAG? 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau anfon yr holl sylwadau at yr Ysgrifenyddiaeth. 

4. Sut y mae'r egwyddorion yn Fframwaith Moesegol CMEAG wedi'u defnyddio mewn penderfyniadau yn ystod y pandemig? 

Cyflwynodd Idris bapur yn rhoi cefndir ac adlewyrchiad o'r broses o wneud penderfyniadau. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw cael fframwaith moesegol wedi golygu bod yr holl broblemau anodd wedi diflannu. Trafodwyd amrywiaeth o bedair enghraifft i ddangos rhai o'r gwahanol ffyrdd y mae'r fframwaith wedi dylanwadu ar benderfyniadau neu heb ddylanwadu arnynt. Y casgliad a dynnwyd o'r pedair enghraifft hyn yw ein bod yn gwybod mewn rhai achosion bod yr egwyddorion cywir wedi dod o hyd i'r penderfyniadau, efallai cyn i'n fframwaith gael ei gynhyrchu. 

Agorodd y Cadeirydd drafodaeth.

  • Gellid cynnal gwerthusiad drwy anfon holiadur at glinigwyr ar draws byrddau iechyd yng Nghymru. 
  • Pryderon ynghylch sut y mae'r byrddau iechyd wedi dehongli'r egwyddorion.  A allwn nodi cysondeb y ffordd y maent wedi’u defnyddio a'u gweithredu ar draws y byrddau iechyd? 
  • Pryderon am ein tryloywder i'r cyhoedd ynghylch gwneud penderfyniadau moesegol.  A oes gennym unrhyw syniadau ynghylch sut y gallwn ychwanegu tryloywder, hygrededd a diogelu'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hyn? 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau anfon yr holl sylwadau at yr Ysgrifenyddiaeth.

5. Profi unigolion ag anableddau dysgu - diweddariad 

Disgrifiodd Paula y materion parhaus ynghylch profi unigolion ag anableddau dysgu a'r rhwystr y mae wedi'i greu wrth gael mynediad at ofal seibiant. 
 
Agorodd y Cadeirydd drafodaeth. 

  • Angen sgiliau ychwanegol i ddeall y diffyg.  Angen sgwrs gydag AaGIC i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i hyrwyddo dealltwriaeth. 
  • Fframwaith Addysg a Hyfforddiant wedi’i ddatblygu gan Brifysgol De Cymru.  Haen 1 Orfodol Lefel 1 ar gyfer holl staff y GIG a gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Cychwynnodd sgwrs AaGIC – sut mae ei chynnal?  

Profiad personol cadarnhaol gyda thracio ac olrhain o ran graddau'r ddealltwriaeth ond nid y ganolfan brofi.  Y broses yn anodd. Sut y byddai rhywun ag anawsterau dysgu yn ymdopi?  Defnyddio contractwyr preifat yn  achosi problem. 

6. Moeseg ddrafft Brechlyn Covid JCVI – diweddariad 

Pryderon ynghylch grwpiau gwrth-frechlyn. Bydd yn heriol defnyddio moeseg annog a pherswadio yn niffyg y gallu i’w wneud yn orfodol. 

7. Diweddariad byr ar Iechyd Gwledig

Mae Aled yn trafod materion gyda chysylltiadau'r Gogledd Orllewin. Bydd yn ceisio dod â phapur i'r cyfarfod nesaf. 

8. Unrhyw fater arall Dim   

Cyfarfod Nesaf Ymhen wythnos.