Neidio i'r prif gynnwy

Cam gweithredu

Cam gweithredu
Cam gweithredu Cyfrifol
1. Eilir ac Aled adlewyrchu ar y cyfraniadau ac ystyried dod â gwybodaeth bellach yn ôl i CMEAG EH/AE
2. Newidiadau i'r profforma i'w gwneud Yr Ysgrifenyddiaeth

Yn bresennol

Heather Payne (Cadeirydd), Aled Roberts, Kevin Francis, Alison Mawhinney, Rhian Davies, Viv Harpwood, Carol Wardman, Kathy Riddick, Aled Edwards, Ben Thomas, Julian Raffay, Paula Hopes, Idris Baker, Martyn Jones, Rhian Davies, Helena Herklots, Ilora Finlay

Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod, gan nodi’r ymddiheuriadau.

Cofnodion blaenorol

Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r grŵp roi unrhyw sylwadau/newidiadau ynghylch nodyn y cyfarfod diwethaf i'r Ysgrifenyddiaeth.

Camau gweithredu blaenorol

Cytunwyd i’w trosglwyddo i'r cyfarfod nesaf.

Heriau darparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig

Cyflwynodd y Cadeirydd y Dr Eilir Hughes, arweinydd clwstwr meddygon teulu o Ben Llŷn i drafod materion yn ymwneud â gofal iechyd yng nghefn gwlad.

Rhoddodd Dr Hughes fraslun o’r gefnogaeth iechyd yn Llŷn, gan amlinellu sut mae clystyrau'n gweithio ac yn ymgysylltu â phractisau. Mae meddygon teulu sy'n symud i gefn gwlad yn tueddu i fod â chysylltiad blaenorol â'r ardal, sy'n fantais mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf, gan fod y clinigwyr yn aml yn ddwyieithog, ond mae denu’r niferoedd digonol yn broblem.

Yn aml, mae gan ardaloedd gwledig yng Nghymru boblogaeth hŷn gyda llawer o gydafiacheddau (co-morbidities), yn enwedig y rhai sy'n symud i'r ardal i ymddeol.

Nid yw’r darpariaethau angenrheidiol ar gael bob amser, er enghraifft nid oes cartref nyrsio yn Llŷn.

Mae cymunedau cryf mewn ardaloedd gwledig, a phobl yn adnabod ei gilydd. Mae hyn wedi bod o fudd yn ystod y pandemig COVID-19. Ceir problemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, a phocedi o amddifadedd cymdeithasol.

Mae llawer o bobl yn ymddeol yn gynnar yn y GIG hefyd ac mae angen denu pobl i aros ym maes meddygaeth. Mae barn gref y gallai datganoli penderfyniadau i lefel leol helpu i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen.

Mae’r seilwaith technoleg gwybodaeth mewn ardaloedd gwledig yn peri pryder mawr. Yn ogystal, mae angen hybu llythrennedd digidol pobl o bob oed.

Soniodd Viv Harpwood am sefyllfa debyg ym Mhowys, lle mae'r bwrdd iechyd yn ystyried cychwyn academi gweithlu gwledig.

Mae'r ysgol feddygol ym Mhrifysgol Bangor yn ffordd bosibl o fynd i'r afael ag ystyriaethau gwledig ac mae'n gobeithio denu gweithlu brwdfrydig ym Mangor a fydd yn aros yn y cyffiniau.

Cafwyd trafodaeth ar sut i gynllunio ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Yn aml, nid oes gan bobl hŷn heb blant strwythurau cymorth. Mae angen cydleoli gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol i ddarparu'r cymorth sydd ei angen. Mae comisiynu strategol ar gyfer pobl â dementia a'r rhai ag anghenion lefel uchel. Mae angen modelau i helpu pobl i aros yn annibynnol. Mae iechyd meddwl pobl hŷn yn faes y mae angen ei ystyried, yn ogystal â bod yn ynysig a cholli iechyd corfforol. Bydd angen help ar bobl hefyd i fagu hyder i ailgydio ynddi ar ôl y pandemig.

Dywedodd Rhian Davies fod grŵp ffocws ar iechyd wedi dangos nad yw gwasanaethau'n ymatebol. Mae pellteroedd mewn ardaloedd gwledig yn heriol iawn i'r rhai ag anableddau. Mae maniffesto Anabledd Cymru yn amlinellu'r hyn y maent yn gofyn amdano gan y llywodraeth newydd. 

Gallai modelau cymunedol sy'n seiliedig ar asedau ddarparu cymorth cydgynhyrchiol. Mae angen cyllid er mwyn creu integreiddio go iawn ac mae angen adolygu’r ffordd yr ariennir y gwasanaethau.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi bod yn cynnal cyfres o flogiau gyda nyrsio anabledd dysgu ond mae'n symud drwy broffesiynau eraill, gan helpu i hyrwyddo rolau a hybu diddordeb mewn gweithio yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, nid yw'r GIG yng Nghymru yn gallu diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, ac mae hynny’n effeithio ar safon y gofal sy'n cael ei gynnig. Mae'n anodd taro’r cydbwysedd ac mewn llawer o achosion mae angen i ni gydnabod y dylai’r Gymraeg fod yn ddymunol yn yr ardaloedd gwledig hyn lle mae dros 80% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Dyna pam mae cynyddu’r gweithlu ac annog pobl i symud yn ôl mor bwysig.

Eilir ac Aled i adlewyrchu ar y cyfraniadau ac ystyried dod â gwybodaeth bellach yn ôl i CMEAG.

Brechu

Amlinellodd Paula Hopes y materion yn ymwneud â chydsyniad a galluedd yn ymwneud â brechu. Mae angen i addasiadau rhesymol ystyried yr opsiynau lleiaf cyfyngol sydd ar gael ac osgoi gofid i’r person dan sylw.

Mae'r GIG yn edrych ar drefniadau i gefnogi'r person yn ystod y broses ac ar ôl derbyn y brechlyn.
Y nod yw osgoi pob amgylchiad lle mae angen penderfyniadau anodd.

Mae cwestiynau bellach yn codi o ran ystyried meysydd eraill sy'n ymwneud â brechlynnau. Seminarau ledled y wlad. Mae Books Beyond Words wir yn helpu gan eu bod heb iaith benodol. Ystyrir bod technegau tynnu sylw yn effeithiol iawn.

Oni bai bod y person wedi datgan yn llawn nad yw am ei gael, mae er y budd gorau yn unol â dyfarniad achos llys diweddar.

Camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf – penderfynu mai Viv Harpwood fyddai’r cynrychiolydd ar yr Is-grŵp Brechu.

Y dull o ofyn am drafodaeth a phenderfyniadau gan CMEAG

Cynigiwyd profforma drafft i ffurfioli'r dull o ofyn am gyngor gan y grŵp cynghori.

Cynghorwyd nifer o ddiwygiadau i'r Ysgrifenyddiaeth allu ei ddatblygu ymhellach. Bydd y profforma yn cael ei gyfieithu a’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y cyfarfod nesaf

12 Chwefror 2021