Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau

Cyflwynwyd pawb gan y Cadeirydd, a nodwyd yr ymddiheuriadau.

2. Camau gweithredu a chofnodion blaenorol

Cytunwyd bod y cofnodion blaenorol yn gofnod cywir. Cytunodd y grŵp i gyhoeddi camau gweithredu a nodiadau cyfarfodydd yn y dyfodol.

Camau gweithredu a gwblhawyd – llythyr DNACPR wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Yr Ysgrifenyddiaeth i’w rannu gydag Aelodau:

Penderfyniadau ar beidio â cheisio dadebru cardio-anadlol (DNACPR): oedran, anabledd a chyflyrau hirdymor

Decisions on do not attempt cardiopulmonary resuscitation (DNACPR): age, disability and long term conditions

Crëwyd fersiwn hawdd ei darllen a bydd y fersiwn hon yn cael ei chyhoeddi. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried fersiwn BSL.

3. Pwyllgorau moeseg clinigol a rhwydwaith cenedlaethol

Darparwyd papur trafodaeth gan y Llywodraeth yn ymwneud â ffurf a swyddogaeth Pwyllgorau Moeseg Clinigol GIG Cymru a swyddogaeth rhwydwaith cenedlaethol. Roedd y drafodaeth yn cynnwys a ddylai pwyllgorau moeseg lleol fod yn orfodol neu’n wirfoddol. Cytunodd y grŵp ar yr ail, gyda’r holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’n cael eu hannog yn gryf i roi cymorth o’r math hwn, yn enwedig oherwydd bod angen i bob un gael mynediad at Bwyllgorau Moeseg Ymchwil.

Yn ogystal â phwyllgorau moeseg lleol, cytunwyd bod angen cymorth moeseg clinigol cenedlaethol, gan adeiladu fframwaith Cymru gyfan sy’n dod ag arbenigedd pwyllgorau presennol ynghyd yn hytrach na chreu strwythur newydd ar wahân.

Un dewis a drafodwyd oedd system ‘bydi’ rhanbarthol, gyda chymorth moesegol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau cyfagos yn y De-ddwyrain, y De-orllewin a’r Gogledd. Oherwydd bod rhai pwyllgorau moeseg clinigol lleol yn bodoli eisoes, gellir datblygu trefniadau presennol a chefnogi ardaloedd lle nad yw’r ddarpariaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gwirfoddolwyr yw aelodau’r pwyllgorau moeseg lleol presennol. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â sut y bydd aelodau yn cael eu penodi, naill ai drwy broses benodi gyhoeddus neu fel arall. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â’r arbenigedd sydd ei angen, gan gynnwys arbenigedd ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol a chyngor yn ymwneud â chymunedau, ffydd, anabledd a lleisiau gweithwyr. I gynorthwyo wrth ystyried sut i greu pwyllgorau lleol a’u rhoi ar waith, mae gan bob bwrdd iechyd Gyfarwyddwr Cydraddoldeb y gellir cysylltu ag o.

Mae angen ystyried swyddogaeth y pwyllgorau, ac ystyried egwyddorion fel bod yn agored ac yn dryloyw, darparu hyfforddiant parhaus a faint y byddai angen i’r pwyllgor fod ar gael.

Holwyd a fyddai’r pwyllgor yn ymateb i achosion unigol yn brydlon neu ar frys, neu yn darparu trosolwg ac yn craffu ar ddulliau cenedlaethol o ymdrin ag iechyd a gofal iechyd.

Cam gweithredu: dylai’r holl aelodau ystyried aelodaeth a mathau o bwyllgorau moeseg lleol.
Cam gweithredu: canfod a rhannu cylch gorchwyl y pwyllgor moeseg presennol.

4. Cynllunio Gofal Uwch

Rhoddwyd cyflwyniad ar fersiwn ddrafft dull cynllunio gofal uwch sy’n cael ei ddatblygu gan Hospice UK. Templed yw’r dull hwn sy’n cael ei ddefnyddio i ddechrau sgwrs yn well ac mewn modd cwrtais. Dylid anfon unrhyw sylwadau ynglŷn â’r ddogfen at y Farwnes Finlay (neu i CMEAG.wales@llyw.cymru). Gofynnwyd i’r aelodau beidio â rhannu hyn ymhellach ar hyn o bryd.

5. Adolygiad BAME COVID-19

ae Llywodraeth Cymru yn bryderus ynghylch effaith anghymesur COVID-19 ar gymunedau BAME, o ran y gofal a nifer y marwolaethau. Sefydlwyd grŵp ar wahân i ganolbwyntio ar hyn, gan weithio gyda GIG Lloegr a chael cyngor gan sefydliadau perthnasol fel BAPIO. Bydd gohebiaeth ynglŷn â hyn yn cyrraedd yn y dyfodol agos.

6. Unrhyw fater arall

Dim. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 30 Ebrill 2020.