Neidio i'r prif gynnwy

Rôl Grŵp Ymgynghorol PCET a manylion ei aelodau.

Cefndir

  1. Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd Tuag at weledigaeth newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: adolygiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Comisiynwyd yr adolygiad, a oedd yn archwilio'r ddarpariaeth AGA bresennol ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO), yn sgil argymhellion gan yr 'Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol Ôl-16 (Llywodraeth Cymru, 2019a)' ac adolygiad thematig dilynol o AGA ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gan Estyn (2021a). Secondiwyd Dr Steve Bell o Estyn i Lywodraeth Cymru i gynnal yr adolygiad ar ran Llywodraeth Cymru (a gomisiynwyd gan yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau ar y pryd), fel rhan o'r rhaglen ehangach Datblygu'r Gweithlu Ôl-16. Mae argymhellion yr adroddiad i'w gweld yn Atodiad A.
     
  2. Bydd gweithredu Fframwaith AGA newydd ar gyfer AHO yn effeithiol yn gwella statws proffesiynol ymarferwyr yn y sector AHO ac yn cefnogi a gwella'r parch cydradd gydag ymarferwyr a sefydliadau yn y sectorau addysg orfodol. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ill dau yn cefnogi'r dull hwn. Yn ogystal, mae manteision sylweddol i ddysgwyr o ran deilliannau a chyfranogiad parhaus o gael gweithlu gyda sicrwydd ansawdd a gefnogir yn llawn. 
     
  3. Yn dilyn yr amgylchedd cynllunio a chyllido newydd ar gyfer y sector a grëwyd drwy sefydlu Medr, bydd angen i'r gwaith o weithredu a chyflwyno rhai o'r argymhellion gynnwys cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ar y flaenraglen waith bosibl gyda swyddogion Medr. 

Y sefyllfa bresennol o ran y ddarpariaeth AGA ar gyfer y sector AHO

  1. Mae athrawon sy'n cwblhau’r cwrs AGA Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn llwyddiannus i ddod yn athrawon ysgol hefyd yn ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae hyn, a chwblhau cyfnod sefydlu statudol, yn ofynnol gan ddeddfwriaeth i alluogi person i ymgymryd â gwaith penodol ac i gael ei dalu fel athro cymwysedig mewn ysgol a gynhelir. Mae deddfwriaeth yn bodoli hefyd, ond sydd wedi dyddio, sy'n pennu'r cymhwyster addysgu gofynnol i fod yn athro/darlithydd cymwys mewn coleg addysg bellach. Mae'r cymwysterau cymeradwy'n cynnwys y dyfarniadau Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer AHO, Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg a TAR. Mae colegau addysg bellach hefyd yn ystyried ymarferydd sydd â chymhwyster TAR (SAC) i addysgu mewn coleg addysg bellach.
     
  2. Fodd bynnag, nid yw'r dyfarniad AGA ar gyfer AHO yn rhoi SAC, ac felly ni ystyrir bod ymarferwyr sydd wedi cymhwyso trwy'r llwybr hwn yn gymwys i addysgu mewn ysgolion a gynhelir, er y gallant, mewn rhai amgylchiadau, addysgu cyrsiau galwedigaethol yn y cwricwlwm lleol. Gallant addysgu mewn ysgolion annibynnol, lle nad yw SAC yn fandadol. Yn ogystal, yn wahanol i AGA ar gyfer athrawon ysgol, nid yw'r ddarpariaeth cyrsiau AGA ar gyfer AHO wedi'i hachredu'n ffurfiol gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae hyn wedi bod yn destun pryder o ran parch cydradd a chydnabyddiaeth broffesiynol rhwng y gweithlu ysgolion a'r gweithlu ôl-16, yn ogystal ag ansawdd y ddarpariaeth heb broses arolygu/sicrhau ansawdd sydd wedi'i rheoli a'i chynllunio. 
     
  3. Derbynnir bod angen adolygu'r trefniadau AGA ar gyfer AHO ers peth amser. Ar ôl sefydlu Medr, mae nawr yn amser da i wneud hynny. Mae'r meysydd y byddai angen i ni fynd i'r afael â nhw'n benodol yn cynnwys:
    1. yr angen i ystyried a chefnogi cydraddoldeb rhwng athrawon ysgol ac athrawon addysg bellach o ran gofynion mynediad a chymhellion, a chefnogi hyrwyddo gyrfa yn y sector trydyddol
    2. cludadwyedd posibl cymwysterau addysgu
    3. achrediad priodol ar gyfer y ddarpariaeth cyrsiau
    4. cymorth ar gyfer dysgu proffesiynol i ddarlithwyr sydd newydd gymhwyso a dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff mewn gwasanaeth
       
  4. Bydd gweithredu Fframwaith AGA newydd ar gyfer AHO yn effeithiol yn gwella statws proffesiynol ymarferwyr yn y sector AHO, gan gefnogi a gwella'r parch cydradd gydag ymarferwyr a sefydliadau yn y sectorau addysg orfodol. Mae grŵp cynghori arbenigol lefel uchel wedi'i sefydlu.i gynghori ar y broses ddiwygio, ar gynllun ar gyfer newid yn y dyfodol ac ar drefn y gwelliannau.
     
  5. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen is-ddeddfwriaeth i ddiwygio’r gofynion presennol a (neu) gyflwyno trefniadau statudol newydd yn ystod rhaglen newid pum mlynedd o'r fath, a bydd angen ystyried hyn fel rhan o unrhyw gynigion.
     
  6. Bydd mabwysiadu proses newid pum mlynedd ar gyfer AGA mewn AHO yn caniatáu amser i gynllunio, gweithredu a gwerthuso pob cam o'r broses ddiwygio, gydag ystyriaethau o ran cyrsiau (gan gynnwys cynllun a dilysu) yn cael eu hystyried drwyddi draw. 

Nodau'r grŵp

  1. Bydd disgwyl i'r grŵp:
  • ddarparu arbenigedd ac arweinyddiaeth
  • bod yn llais 'dylanwadu' strategol
  • cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau o adolygu ac ailstrwythuro'r trefniadau AGA ar gyfer AHO yn 2025/26 i weithio tuag at raglen waith pum mlynedd ar gyfer newid
  1. Byddem yn disgwyl i aelodau'r grŵp cynghori ddefnyddio eu profiad a'u gwybodaeth arbenigol i ystyried a phennu trefn y newidiadau sydd eu hangen i'r Fframwaith a'r rhaglen gyflawni ar gyfer y dyfodol. 

Cyfrifoldebau'r grŵp

  1. Yn ystod 12 mis cyntaf y rhaglen ddiwygio:
  • bdd y grŵp yn nodi gweledigaeth sy'n uno ac yn ymgymryd â gwaith cwmpasu pellach i brofi, llywio a chefnogi’r newidiadau sydd eu hangen i'r ddarpariaeth AGA ar gyfer AHO, ac yn darparu ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth ystyried y flaenraglen waith pum mlynedd.
  • bydd yn sicrhau bod cefnogaeth ddwyieithog yn cael ei darparu ar gyfer pob cynnig a datblygiad yn y dyfodol
  • bydd yn cynnig datblygu rhaglen ar gyfer y gweithlu a fframwaith deddfwriaethol i'r dyfodol, yn gosod trefn ar y gwaith hwnnw ac yn ei gefnogi
  • bydd yn darparu ei farn arbenigol i gefnogi a chynghori Gweinidogion Cymru, gan eu harfogi i wneud penderfyniadau gwybodus, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynghylch yr adolygiad a'r dull strategol a fabwysiedir
  • yn dilyn y cyngor a geir yn y sesiynau grŵp, cynhyrchu dogfen 'Rhaglen Waith - Cam 2' a all lywio penderfyniadau posibl yn nhymor nesaf y Senedd

Rhaglen Waith Cam 1: Sefydlu Fframwaith

13. Yng ngham 1 y rhaglen newid (yn ystod y 12 mis cyntaf) bydd yn ofynnol i'r grŵp: 

  1. ddatblygu a chytuno ar weledigaeth sy'n uno ar gyfer y gweithlu ôl-16, yn enwedig ar gyfer y gweithlu AHO
  2. ystyried yr argymhellion eang a'r chwe thema allweddol y cyfeirir atynt yn yr adolygiad gefnogi Fframwaith ar gyfer Gweithredu 

Dyma nhw yn fras: 

  • sefydlu proses ddiwygio genedlaethol, gydweithredol a gwerthusol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • datblygu a chryfhau partneriaethau i roi profiadau cyfoethog ac amrywiol o ansawdd uchel a chymorth mentora i hyfforddeion
  • mabwysiadu cwricwlwm AGA AHO cydlynol a chynhwysfawr, sy'n gysylltiedig â'r safonau proffesiynol, a strwythur dyfarnu cyson
  • paratoi hyfforddeion i addysgu mewn cymdeithas ddwyieithog
  • cydnabod a gwella statws proffesiynol a pharatoi hyfforddeion ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol gydol gyrfa
  • gwella cyfleoedd ymarferwyr AHO ar gyfer datblygiad gyrfa yn y sectorau AHO a ledled y system addysg ehangach (Atodiad A)
  1. adolygu'r dirwedd weithredol bresennol a nodi atebion ymarferol ar gyfer darparu AGA ar gyfer AHO yn y dyfodol
  2. pennu hyd a lled pecynnau gwaith tymor byr, tymor canolig a hirdymor cyflawnadwy a fyddai'n cefnogi ein hymrwymiad i gynyddu cyfranogiad a phresenoldeb trwy wella ansawdd y gweithlu AHO
  3. cynnig amserlen a threfn ar gyfer datblygu a gweithredu'r newidiadau arfaethedig
  4. datblygu meincnod sy'n seiliedig ar dystiolaeth (data)
  5. ystyried pa is-grwpiau sydd eu hangen yn y flwyddyn gyntaf i fwrw ymlaen â chamau penodol a chamau cyflym

Is-grwpiau

Mae'r grŵp wedi cytuno i gael tri is-grŵp. Dyma nhw:

  1. Dysgu Proffesiynol: dan gadeiryddiaeth Yana Williams (Colegau Cymru)
  2. Cwricwlwm Craidd: dan gadeiryddiaeth Caroline Lewis (USCET)
  3. Cymhellion AHO: dan gadeiryddiaeth Rhian Pound-McCarthy (Medr)

Mae amcanion y grwpiau wrthi’n cael eu cwblhau mewn cydweithrediad â'u cadeiryddion a byddant yn adrodd yn ôl i'r grŵp cynghori o fewn amserlen cytûn.

Aelodaeth a phresenoldeb

  1. Bydd aelodaeth y Grŵp yn hyblyg ac ar sail 'yn ôl yr angen'. Caiff y grŵp ei gadeirio gan Dafydd Evans. Mae gan Dafydd Evans ystod o brofiad perthnasol a bu'n Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai rhwng 2016 a 2018, yn Brifathro Coleg Llandrillo rhwng 2014 a 2016, ac yn Brifathro Coleg Menai rhwng 2009 a 2014. Mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddyrannu adnoddau ac aildrefnu'r sector ôl-16 yn Ynys Môn a Gwynedd. Mae'n aseswr cyswllt i Estyn ac wedi cynnal arolygiadau ar sawl coleg. Mae Dafydd hefyd yn gyn-Gadeirydd Colegau Cymru.
     
  2. Cynigir bod y grŵp yn cynnwys y rhanddeiliaid canlynol:
  • Cadeirydd Annibynnol: Dafydd Evans
  • Arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru (Cyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol)
  • Dr Steve Bell (Awdur yr Adolygiad AHO Mawrth 2023 a chynrychiolydd Ôl-16 Estyn)
  • Medr: cynrychiolydd o dîm y gweithlu
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Rhanddeiliad sector AGA o is-grŵp AHO USCET Cymru
  • Undeb Prifysgolion a Cholegau (fel Cynrychiolydd y Cyd-undebau Llafur)
  • Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Cynrychiolydd o Colegau Cymru
  • Athro o goleg addysg bellach, wedi dilyn cymhwyster TAR AHO yn ddiweddar
  • Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
  • Darlithydd addysg uwch neu addysg bellach, cynrychiolydd darparwr cyrsiau TAR AHO
  1. Mae contract wedi'i gytuno rhwng y Cadeirydd a Llywodraeth Cymru.
     
  2. Os nad yw aelodau craidd yn gallu mynychu'r cyfarfod, gall dirprwy fynychu yn eu lle os yw’r Cadeirydd yn cytuno i hynny. Rhaid bod gan y cynrychiolwyr yr awdurdod i gynrychioli eu hardal.

Trefniadau'r cyfarfodydd

  • Llywodraeth Cymru fydd yn darparu rôl yr ysgrifenyddiaeth.
  • Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fisol yn rhithwir hyd nes yr ystyrir bod eu hangen yn llai aml.
  • Os bydd angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb, neu grwpiau ffocws penodol, telir treuliau rhesymol.
  • Bydd agenda a phapurau yn cael eu dosbarthu 7 diwrnod cyn y cyfarfod.
  • Bydd pob cyfarfod yn cael ei recordio at ddibenion trawsgrifio a bydd crynodeb o'r drafodaeth yn cael ei ddosbarthu i'r aelodau o fewn 10 diwrnod gwaith. Bydd y trawsgrifiadau wedyn yn cael eu dileu. Gofynnir i'r holl aelodau gyflawni unrhyw gamau gweithredu/ymrwymiadau erbyn yr amserlenni cytûn neu o fewn mis i bob cyfarfod.
  • Caiff y cylch gorchwyl hwn ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau'n addas i'r diben ac yn berthnasol dros amser.

Atodiad A

Argymhellion o’r adroddiad ‘Tuag at weledigaeth newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: adolygiad ar gyfer Llywodraeth Cymru’:

Sefydlu proses ddiwygio genedlaethol, gydweithredol a gwerthusol sy’n seiliedig ar dystiolaeth

  1. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i broses ddiwygio pum mlynedd sydd wedi’i chynllunio ar gyfer AGA AHO.
  2. Sefydlu grŵp cynghori sefydlog lefel uchel i gynghori ar y broses ddiwygio.
  3. Datblygu gweledigaeth unedig ar gyfer addysg gychwynnol athrawon AHO yng Nghymru.
  4. Mireinio prosesau casglu data er mwyn cofnodi nifer yr hyfforddeion mewn hyfforddiant a gwybodaeth ddemograffig briodol, canlyniadau hyfforddeion a’u cyrchfannau. Cyhoeddi ystadegau blynyddol yn ymwneud ag AGA AHO.
  5. Dylai Estyn gynnal cyfres o adolygiadau sector i lywio’r broses adolygu a gwerthuso ei chynnydd.
  6. Sefydlu rhwydwaith proffesiynol ar gyfer addysgwyr athrawon AGA AHO.

Datblygu a chryfhau partneriaethau i roi profiadau cyfoethog ac amrywiol o ansawdd uchel a chymorth mentora i hyfforddeion

  1. Sefydlu panel, meini prawf a phroses achredu ar gyfer AGA AHO, gan gynnwys trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd ac arolygu.
  2. Achredu rhaglenni AGA AHO. Sicrhau bod unrhyw broses achredu’n ei gwneud yn ofynnol i bartneriaethau AU-AB gyflwyno darpariaeth, a bod pob partneriaeth yn cynnwys o leiaf un SAU ac o leiaf un coleg AB ‘angor’.
  3. Gwella ansawdd, a mynediad at, ddarpariaeth fentora ar gyfer hyfforddeion AGA AHO.
  4. Gwella ansawdd profiad ymarfer addysgu hyfforddeion.

Cwricwlwm AGA AHO cydlynol a chynhwysfawr, sy’n gysylltiedig â’r safonau proffesiynol, a strwythur dyfarnu cyson

  1. Sicrhau bod gan ddyfarniadau AGA AHO deitlau, lefelau gofynion a gwerthoedd credyd cyson.
  2. Datblygu cwricwlwm craidd, sy’n gysylltiedig â’r safonau proffesiynol, a fyddai’n cael ei gyflwyno gan bob darparwr.
  3. Gan ddefnyddio’r safonau proffesiynol AHO presennol, datblygu meini prawf a chanllawiau ychwanegol y gellir eu defnyddio i ddisgrifio’r disgwyliadau ar gyfer ymarferwyr AHO ar ôl cwblhau eu rhaglenni AGA, ac yn ystod eu cyfnod sefydlu.
  4. Paratoi hyfforddeion i addysgu mewn cymdeithas ddwyieithog.
  5. Datblygu modiwlau gwahaniaethol, fel rhan o’r cwricwlwm craidd, sy’n hyrwyddo, yn annog ac yn cefnogi addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
  6. Sicrhau bod unrhyw raglen gymhelliant yn y dyfodol ar gyfer hyfforddeion AGA AHO yn cynnwys cymhellion i hyfforddeion addysgu neu astudio yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  7. Datblygu cyfleoedd i hyfforddeion sy’n ymgymryd â phrofiad ymarfer addysgu neu sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw sefydliad gael cymuned o gymheiriaid a manteisio ar brofiadau cydweithredol gyda chydweithwyr.
  8. Sicrhau bod hyfforddeion sy’n ymgymryd â phrofiad ymarfer addysgu neu sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael mynediad at fentor addysgu sydd ag arbenigedd a phrofiad o ddarpariaeth ddwyieithog.

Cydnabod a gwella statws proffesiynol a pharatoi hyfforddeion ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol gydol gyrfa

  1. Sefydlu statws proffesiynol, Statws Ymarferydd Cymwysedig (AHO) , wedi’i dalfyrru i ‘SYC (AHO)’,ar gyfer ymarferwyr sydd wedi cwblhau dyfarniad AGA AHO.
  2. Datblygu proses sefydlu ar gyfer ymarferwyr AHO gyrfa gynnar sydd wedi cwblhau dyfarniad AGA AHO, sy’n cefnogi dysgu, myfyrio a datblygiad proffesiynol, ac yn rhoi sicrwydd bod ymarferwyr yn bodloni safonau proffesiynol AHO.
  3. Adolygu a diweddaru Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 fel eu bod yn adlewyrchu’r strwythur cymwysterau newydd.

Gwella cyfleoedd ymarferwyr AHO ar gyfer datblygiad gyrfa yn y sectorau AHO a ledled y system addysg ehangach

  1. Ymchwilio i fethodoleg a fframwaith rheoleiddio, a’u datblygu, fel bod ymarferwyr AHO yn gallu cael eu cyflogi fel athrawon cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir.
  2. Datblygu cyfleoedd i ymarferwyr AHO astudio mewn swydd ar lefel gradd ac ôl-radd ym maes addysg.