Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cynnal cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Ysgolion ar 27 Tachwedd, gyda chyflwyniad i'w aelodau a thrafodaeth ynghylch blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer addysg. Mae'r cylch gorchwyl a rhestr o’r aelodau i'w gweld isod a bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp ar gael drwy flog Addysg Cymru.

Cylch gorchwyl

Diben

Diben y Grŵp Cynghori Arbenigol Gweinidogol ar Ysgolion yw darparu cyngor ac argymhellion strategol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar faterion polisi allweddol, mentrau a materion eraill o bwys yn y portffolio addysg. Nod y grŵp yw sicrhau cyngor a her gwybodus sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy ymgorffori safbwyntiau ac arbenigedd amrywiol o’r sector. Nid oes gan y grŵp bwerau gweithredol; grŵp cynghori yn unig ydyw. 

Cwmpas

Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer addysg. Bydd y dull o ddiwygio a gwella addysg yn anelu at greu system sy'n gweithio i bob dysgwr. Bydd pwyslais arbennig ar iechyd meddwl a llesiant a'r dull ysgol gyfan. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus mewn presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol a chau'r bwlch cyrhaeddiad i'n dysgwyr mwyaf difreintiedig. Blaenoriaeth bellach yw cymorth ar gyfer cynllunio cwricwlwm, cynnydd ac asesu a sicrhau bod gan athrawon yr wybodaeth, yr adnoddau a'r hyder i wneud y mwyaf o fanteision y cwricwlwm. Ochr yn ochr â'r cwricwlwm, bydd gweithredu dull cyson o ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol yn faes pwysig arall.

Ar draws y meysydd hyn, bydd y grŵp yn ystyried datblygu polisi, cynllunio strategol, gweithredu a gwerthuso rhaglenni, ymgysylltu â rhanddeiliaid a materion a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y sector.

Aelodau

Cyfansoddiad

Mae’r grŵp yn cynnwys 11 aelod allanol, a benodir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Nid yw'r aelodau na'r Cadeirydd yn benodiadau cyhoeddus. Daw’r aelodau o amrywiaeth o sectorau ac arbenigeddau. Ceir rhestr o’r aelodau yn atodiad A.

Penodi a deiliadaeth

Gall Ysgrifennydd y Cabinet benodi aelodau newydd yn ôl yr angen i gynnal effeithiolrwydd y grŵp.

Cadeirydd

Ysgrifennydd y Cabinet fydd yn cadeirio'r grŵp. Nodir cyfrifoldebau'r cadeirydd isod. 

Rolau a chyfrifoldebau 

Rolau a chyfrifoldebau’r aelodau

  • Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd.
  • Rhoi cyngor gwybodus ac adeiladol.
  • Adolygu a rhoi sylwadau ar ddogfennau ac adroddiadau perthnasol.
  • Sicrhau cyfrinachedd trafodaethau a deunyddiau.
  • Datgan unrhyw wrthdaro buddiannau cyn gynted ag y byddant yn codi. 

Rolau a chyfrifoldebau’r Cadeirydd

Caiff y grŵp ei gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a fydd yn gyfrifol am gynnull, arwain a hwyluso'r cyfarfodydd, gosod yr agendâu mewn ymgynghoriad ag aelodau a sicrhau bod argymhellion y grŵp yn cael eu cofnodi. Cefnogir y Cadeirydd gan ysgrifenyddiaeth y grŵp. 

Cyfarfodydd

Amlder

Bydd y grŵp yn cyfarfod bob chwarter, yn bersonol neu drwy Teams, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn cael eu cynnull yn ôl yr angen. 

Cymorth ysgrifenyddol

Bydd y Gyfarwyddiaeth Addysg yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i'r grŵp, gan gynnwys cydlynu logisteg cyfarfodydd, paratoi a dosbarthu agendâu a deunyddiau ar gyfer cyfarfodydd a chofnodi a dosbarthu cofnodion ac eitemau gweithredu. 

Adrodd

Bydd y grŵp yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd ac argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn cyflwyno adroddiad blynyddol ffurfiol yn crynhoi gweithgareddau, canfyddiadau a chyngor.

Adolygu a gwerthuso

Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol. Gall Ysgrifennydd y Cabinet ddiwygio'r cylch gorchwyl yn ôl yr angen, mewn ymgynghoriad â'r grŵp.

Cyfrinachedd a thryloywder

Rhaid i bob aelod gydymffurfio â gofynion cyfrinachedd ynghylch gwybodaeth sensitif. Bydd y grŵp yn gweithredu'n dryloyw, ac efallai y bydd canlyniadau nad ydynt yn gyfrinachol ac adroddiadau ar gael i'r cyhoedd yn ôl disgresiwn Ysgrifennydd y Cabinet.

Treuliau

Telir costau teithio a chynhaliaeth i aelodau sy'n mynychu cyfarfodydd yn wirfoddol. 

Atodiad A: Rhestr o’r aelodau 

  • Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Graham Donaldson: Canolfan Robert Owen, Prifysgol Glasgow
  • David Dallimore: Prifysgol Bangor, Addysg plentyndod cynnar
  • Melvin Ainscow: Athro Emeritws Addysg, Prifysgol Manceinion; Athro Addysg, Prifysgol Glasgow; Athro Atodol, Prifysgol Technoleg Queensland
  • Ann John, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg
  • Gareth Evans: Cyfarwyddwr Polisi Addysg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Luke Sibieta: Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Pholisi Addysg
  • Lee Elliott Major: Athro Symudedd Cymdeithasol
  • Syr Alasdair Macdonald
  • Yr Athro Alma Harris: Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Enlli Thomas: Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Alison Peacock: Prif Swyddog Gweithredol, y Coleg Addysgu Siartredig