Grŵp Cynghori Cymru ar Ddraenogiaid Môr: 18 Awst 2026
Nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd 6 Awst 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Grŵp
Jim Evans (JE)
Mark Gray (MG)
John O’Connor (JO)
Ian McCarthy (IM)
Gareth Henson (GH)
Sion Williams (SW)
David Curtis (DC)
Simon Frobisher (SF)
Colin Charman (CC)
Llywodraeth Cymru
Julian Bray (JB)
Seb Evans (SE)
Matt Sayer (MS)
Michelle Fraser (MF)
Barrie John (BJ)
Ymddiheuriadau
Peter Elliott (PE)
Richard Strudwick (RS)
Prideaux Hattle (PH)
Keiran Hyder (KH)
Nodiadau
Croeso a Chyflwyniadau, Diben y Cyfarfod
Croesawodd JB yr aelodau i 13eg cyfarfod y grŵp a rhannodd ymddiheuriadau gan PE, RS, PH a KH.
Amlinellodd JB ddiben y cyfarfod, sef adolygu cyngor diweddaraf ICES ar gyfer draenogiaid môr ac ystyried datblygiad posibl cynllun tagio draenogiaid môr masnachol yng Nghymru.
Adolygu a chymeradwyo nodiadau a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol
Aeth SE dros y nodiadau a'r camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol a diolchodd i'r aelodau am ymateb i'r cwestiynau economaidd-gymdeithasol a ddosbarthwyd ar ran CCRI.
Gofynnodd DC am fwy o amser i ddarllen y nodiadau ond cadarnhaodd wedyn nad oedd ganddo unrhyw sylwadau. Cytunodd y grŵp y gellid cyfieithu'r nodiadau a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cam gweithredu 1 – Cyfieithu a chyhoeddi'r nodiadau a'r camau gweithredu o gyfarfod 12.
Crynodeb o gyngor diweddaraf ICES
Cyflwynodd MS gyngor diweddaraf ICES ar gyfer draenogiaid môr. Roedd yr Aelodau'n falch o gael tystiolaeth bod y stoc yn parhau i adfer ac yn dal i fod uwchlaw pwyntiau cyfeirio biolegol allweddol.
Ystyriodd y grŵp y dystiolaeth wyddonol sy'n sail i'r cyngor, gan gynnwys cymhwyso Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf (MSY), tybiaethau rhagolygon a'r berthynas rhwng biomas stoc silio a recriwtio. Nodwyd mai cyngor ICES yw'r sail gytunedig o hyd ar gyfer penderfyniadau rheoli draenogiaid môr.
Ystyriwyd lefelau recriwtio diweddar a'u goblygiadau posibl ar gyfer datblygiad stoc yn y dyfodol, a nododd yr aelodau bod recriwtio yn dal i amrywio. Trafodwyd mesurau posibl i gynnal gwydnwch hirdymor y stoc, gan gynnwys newidiadau i'r maint cyfeirio cadwraeth lleiaf (MCRS). Nododd yr aelodau y gallai cynyddu'r MCRS ganiatáu i fwy o bysgod gyfrannu at silio cyn iddynt gael eu dal.
Esboniodd MS fod yr asesiad yn tynnu ar ffynonellau data lluosog ac yn ymgorffori mesurau rhagofalus i helpu i reoli stoc yn gynaliadwy. Roedd y grŵp yn cytuno i raddau helaeth ar bwysigrwydd parhau i fod yn ofalus wrth ystyried cyfleoedd pysgota yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y stoc yn parhau i adfer.
Tagio draenogiaid môr sy'n cael eu dal at ddibenion masnachol yng Nghymru
Rhoddodd MF ac SE gyflwyniad ar ddatblygiad posibl cynllun tagio ar gyfer draenogiaid môr sy'n cael eu dal at ddibenion masnachol yng Nghymru. Roedd hyn yn seiliedig ar y papur trafod a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod.
Roedd yr aelodau'n gefnogol o gynllun tagio ar y cyfan, ac yn cydnabod ei fanteision posibl a oedd yn cynnwys y gallu i olrhain, rheoli pysgodfeydd, profi tarddiad a gwerth cynnyrch.
Trafodwyd diben a chwmpas cynllun yn y dyfodol, a phwysleisiodd yr aelodau yr angen i gadarnhau amcanion clir cyn datblygu cynigion manwl. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cydbwyso amcanion profi tarddiad, y gallu i olrhain a chasglu data, gan gydnabod y gallai fod angen defnyddio dulliau gwahanol yn dibynnu ar y canlyniadau a ddymunir.
Roedd yr Aelodau'n cytuno y gallai tagio roi cyfle i ddatblygu cynnyrch premiwm o Gymru a hyrwyddo draenogiaid môr sy'n cael eu dal gan fachyn a lein fel pysgodfa gynaliadwy, a oedd yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd (FMP) Draenogiaid Môr. Tynnwyd sylw hefyd at ystyriaethau ymarferol, yn cynnwys cyllido, gweinyddu a threfniadau cyflawni hirdymor.
Trafodwyd nifer o opsiynau cyflawni, gan gynnwys cynllun syml yn canolbwyntio ar darddiad a allai roi sylfaen gychwynnol y gellid ei ehangu dros amser i ymgorffori manteision ychwanegol o ran y gallu i olrhain a rheoli pysgodfeydd. Tynnodd yr aelodau sylw at bwysigrwydd cysylltu â masnachwyr pysgod i ddeall cyfleoedd y farchnad yn well a chyda gweithredwyr cynlluniau tagio ac olrhain presennol i ganfod gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.
Roedd cytundeb cyffredinol y byddai angen gwaith datblygu pellach a mwy o ymgysylltu â rhanddeiliaid i fwydo cynigion drafft. Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd yr opsiynau'n cael eu hystyried yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cam gweithredu 2 – Datblygu a dosbarthu holiadur i fasnachwyr pysgod i gasglu adborth ar dagio draenogiaid môr.
Cam gweithredu 3 – Cysylltu â'r Southwest Handline Fishermen’s Association i ganfod gwersi a ddysgwyd o dagio draenogiaid môr.
Cam gweithredu 4 – Llunio dogfen sy'n amlinellu'r camau nesaf posibl ar gyfer tagio draenogiaid môr i gefnogi mwy o drafod.
Y camau nesaf
Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 22 Medi 2026. Bydd KH a ZR (Cefas) yn cyflwyno canlyniadau'r gwaith cyfrifo pŵer a gomisiynwyd, a bydd IM yn cyflwyno papur ar amseru'r tymor caeedig ar gyfer draenogiaid môr.
Bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal ar 20 Hydref 2026 a fydd yn canolbwyntio ar yr adolygiad awdurdodi draenogiaid môr. Anfonir y gwahoddiadau maes o law.
Y camau nesaf; unrhyw fater arall; dyddiad y cyfarfod nesaf
Camau gweithredu
Camau sy'n weddill o gyfarfodydd blaenorol
Cyfarfod 7: 5 Rhagfyr 2024
- Cael cyngor ar sut y gellid amrywio terfynau bagiau hamdden. MB: ar waith.
Cyfarfod 8: 4 Chwefror 2025
- Paratoi datganiad ynglŷn â rôl pysgota hamdden a phwysigrwydd data hamdden wrth gyflawni’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd (FMP) draenogiaid môr. SE/HR: ar waith.
- Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llysgenhadon i hyrwyddo’r Sea Angling Diary. MB: ar waith.
Cyfarfod 11: 26 Mawrth 2026
- Cydlynu trafodaeth ar gyfnodau silio rhwng Prifysgol Essex a Phrifysgol Bangor. MS: ar waith.
Camau gweithredu newydd o'r cyfarfod hwn
- Cyfieithu a chyhoeddi'r nodiadau a'r camau gweithredu o gyfarfod 12. MF: cwblhawyd 11 Medi 2026.
- Datblygu a dosbarthu holiadur i fasnachwyr pysgod i gasglu adborth ar dagio draenogiaid môr. SE/MF: cwblhawyd 3 Medi 2026.
- Cysylltu â'r Southwest Handline Fishermen’s Association i ganfod gwersi a ddysgwyd o dagio draenogiaid môr. JE: ar waith.
- Llunio dogfen sy'n amlinellu'r camau nesaf posibl ar gyfer tagio draenogiaid môr i gefnogi mwy o drafod. SE: ar waith.
