Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp hyd at 20 Ionawr 2021.

Cefndir a chyd-destun

Sefydlwyd y grŵp i ddatblygu cynigion ymarferol a allai gyflawni polisi'r Gweinidog Addysg ar gymwysterau yn 2021, yn benodol:

  • Dim arholiadau TGAU, Safon UG na Safon Uwch ar gyfer cymwysterau a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru
  • Elfen o asesiadau yn yr ystafell ddosbarth a reolir gan athrawon, a fyddai'n cael eu gosod a'u marcio'n allanol gan CBAC 
  • Model o ganlyniadau ar gyfer canolfannau sy'n gysylltiedig â dull cenedlaethol y cytunwyd arno ar gyfer sicrhau cysondeb, a fydd yn dryloyw ac yn drylwyr
  • Bydd y model ar gyfer yr olaf yn cael ei drafod a'i gydgynhyrchu gydag athrawon/darlithwyr, gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd mis Rhagfyr
  • Bydd Grŵp Dylunio a Chyflawni ar gyfer hyn, dan gadeiryddiaeth Geraint Rees.  Bydd y grŵp hwn yn un cynghorol: ni fydd ganddo unrhyw rôl ffurfiol o ran gwneud penderfyniadau, ni fydd chwaith yn effeithio ar drefniadau atebolrwydd neu gyfrifoldebau statudol unrhyw sefydliad arall

Ffocws y gwaith ar gymwysterau 2021 yw tegwch i ddysgwyr, a lles a dilyniant dysgwyr, yng nghyd-destun tarfu sylweddol a pharhaus ar ddysgu oherwydd Covid-19.  Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu'r gydnabyddiaeth mai athrawon a darlithwyr sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi dysgwyr eleni yn y cyfnod cythryblus hwn a achoswyd gan Covid-19, ac i ymateb i'w hanghenion.  Mae'n darparu ar gyfer dull gwahanol o alluogi ysgolion a cholegau i wneud y mwyaf o addysgu a dysgu hyd at ddiwedd tymor yr haf. Mae hefyd yn adlewyrchu'r negesuon a gawsom gan brifysgolion yn dweud eu bod yn barod i fod yn hyblyg cyn belled â bod y dull yn gyson, yn dryloyw ac yn drwyadl.

Cwmpas

Bydd y grŵp yn ystyried materion sy'n ymwneud â TGAU, Safon UG a Safon Uwch ar gyfer cymwysterau a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru.  Pan ddaw materion i'r amlwg sy'n berthnasol i gymwysterau ehangach, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol, caiff y rhain eu nodi a'u rhannu â thîm polisi perthnasol Llywodraeth Cymru neu sefydliad arall.    

Cynigion ar gwmpas ac amserlenni'r asesiadau a reolir gan athrawon.  Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau ei bod yn well ganddi i’r rhain gael eu gosod a'u marcio'n allanol, ond dylai ymarferwyr ac ysgolion a cholegau gael dewis pryd a sut i’w cyflwyno, ac ar swyddogaeth CBAC o ran cymorth ac arweiniad.  

Cynigion ar elfennau eraill o asesiadau yn y dosbarth, e.e. asesiadau nad ydynt yn arholiadau, hen bapurau arholiad ac ati, ac unrhyw dystiolaeth arall y gellid ei defnyddio

Model arfaethedig ar gyfer canolfannau ar ddatblygu canlyniadau, gan gynnwys dull cyson o weithredu ledled Cymru, y dysgu proffesiynol a allai gefnogi hyn, a threfniadau’r dull gweithredu cenedlaethol y cytunwyd arno ar gyfer darparu tryloywder a thrylwyredd

Yng nghyd-destun y model y cytunwyd arno, cynigion ynghylch apeliadau, ymgeiswyr preifat, a materion eraill a nodwyd yn y Grŵp sy'n berthnasol i gymwysterau 2021

Mae hon yn flwyddyn anarferol arall a'r penderfyniadau a wneir eleni fydd y rhai sy'n iawn i ddysgwyr yn ystod haf 2021.  Dylai'r dull gweithredu fod yn gyson â thrywydd ein gwaith o ddiwygio'r cwricwlwm, a bydd angen i’r grŵp gofio'r goblygiadau ar gyfer 2022 wrth ddatblygu eu model, yn enwedig i’r rhai sydd ym Mlwyddyn 10 a 12 ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, nid oes gofyn i'r grŵp ddatblygu model tymor hwy ar gyfer cymwysterau: mater i'r llywodraeth nesaf fydd hynny, wedi'i lywio gan ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar ddechrau 2021, ac yng nghyd-destun tarfu parhaus sy'n gysylltiedig â Covid.

Materion i'w hystyried

Ymwybyddiaeth o’r pwysau parhaus ar athrawon a darlithwyr a sicrhau bod unrhyw gynigion yn dderbyniol ac yn gymesur o ran y galw ar eu hamser, o ystyried beichiau eraill (yn enwedig yr angen i barhau i addysgu);

Perchnogaeth athrawon/darlithwyr o'r model, a'r gallu i gefnogi eu dysgwyr drwy gydol y flwyddyn;

Eglurder ynghylch sut y bydd cynigion yn gwneud y defnydd gorau o’r amser addysgu a dysgu sydd ar gael yn nhymor yr haf;

Sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn rhan annatod o’r darlun cenedlaethol yn gyffredinol yn unol â dyletswydd cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn y sector cyhoeddus;

Rhoi sicrwydd i brifysgolion ynghylch sgiliau a galluoedd dysgwyr a'u bod wedi astudio’r elfennau craidd y mae eu hangen er mwyn camu ymlaen yn llwyddiannus;

Rhoi sicrwydd i brifysgolion ar drylwyredd y dull gweithredu arfaethedig;

Ystyried y fframwaith cyfreithiol a'r gofynion ar gyfer dyfarnu Cymwysterau Cyffredinol.  

Bydd y grŵp yn datblygu amserlen a chynllun gwaith gan gynnwys cyfathrebu fel blaenoriaeth frys.

Strwythur y broses o wneud penderfyniadau

Gwahoddwyd aelodau'r grŵp penaethiaid / arweinwyr colegau drwy argymhellion gan gonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a Cholegau Cymru.    

Geraint Rees fydd yn cadeirio'r grŵp, ac fe’i gwahoddwyd i helpu'r grŵp i ddatblygu cyfres o gynigion ymarferol sy'n bodloni meini prawf y Gweinidog.  Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn eistedd ar y grŵp i gynrychioli'r cyd-destun polisi ehangach, a byddant yn darparu'r ysgrifenyddiaeth.  

Bydd y grŵp yn gyfrifol am ddatblygu'r cynigion, y bydd y cadeirydd neu swyddogion Llywodraeth Cymru wedyn yn eu cyflwyno i grŵp cyfeirio allanol presennol Llywodraeth Cymru ar gymwysterau. Mae’n bosibl y bydd y grŵp cyfeirio’n dymuno rhoi sylwadau ar y cynigion.  Bydd y cadeirydd yn sicrhau bod y dull gweithredu ailadroddol hwn yn esgor ar gyfres glir o gynigion i'r Gweinidog erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020 (yn gynharach os oes modd), i'w gweithredu o fis Ionawr 2021 ymlaen.  

Bydd angen i'r cynigion roi manylion clir am y dull gweithredu a'r amserlen i ysgolion a cholegau eu defnyddio o fis Ionawr 2021 ymlaen.  Bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r cadeirydd, yn ystyried y camau nesaf o ran llywodraethu'r broses o weithredu'r cynigion hyn bryd hynny, er mwyn sicrhau bod cefnogaeth a goruchwyliaeth glir ar gyfer eu rhoi ar waith yn ystod haf 2021.

Ffyrdd o weithio

Mae'r Gweinidog wedi nodi dull polisi a ffefrir ar gyfer 2021 sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhan o'r sector addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd a chydweithio i ddatblygu model a dull gweithredu sy'n cefnogi ein dysgwyr.  Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddylunio a Chyflawni yn cael ei arwain gan gadw hyn mewn cof.  

Bydd y penaethiaid / arweinwyr colegau sy'n cymryd rhan yn y grŵp yn rhan annatod o gydberthnasau presennol eu hysgolion a’u colegau.  Fodd bynnag, ni fydd yn ofynnol iddynt gynrychioli cymuned ehangach penaethiaid/arweinwyr coleg Cymru yn y grŵp.  

Bydd manylion trafodaethau'r grŵp yn gyfrinachol o fewn y grŵp, er mwyn hybu deialog agored.  Bydd y cadeirydd yn rhannu gwybodaeth a diweddariadau fel y bo'n briodol;

Efallai y bydd y grŵp am drefnu is-grwpiau i ystyried materion penodol, e.e. ynghylch cyrsiau craidd, neu gydraddoldebau, neu fynediad i brifysgolion.

Amserlen cyfarfodydd

Bydd cyfarfod bob wythnos ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020 rhwng 11 ac 1, a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r ysgrifenyddiaeth. Bydd y grŵp yn ystyried cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.

Aelodaeth

Mae'r aelodau isod wedi cydsynio i gyhoeddi eu henwau, a’u cysylltiad ag ysgol neu goleg.  

Tracy Senchal (Ysgol Coedcae) 
Daniel Owen (Ysgol Uwchradd Llanidloes, Powys) 
Mark Tucker (Ysgol Uwchradd John Frost) 
Christopher Wilkinson (Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseph, Wrecsam) 
Aaron Bayley (Ysgol Syr Thomas Jones, Ynys Môn) 
Justin O'Sullivan (Ysgol Cardinal Newman) 
Trystan Edwards (Ysgol Garth Olwg) 
Mark Leighfield, (Coleg Dewi Sant) 
Andrew Cornish (Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion) 
Yana Williams (Cambria) 
Kay Martin (CAVC)
Marc Belli (Ysgol Cil-y-coed Sir Fynwy; Ysgol Esgob Llandaf, Caerdydd) 
Sarah Sutton (Ysgol Eirias) 
Mair Hughes (Ysgol Penglais Aberystwyth) 

Gwahoddir Cymwysterau Cymru a CBAC i arsylwi ar bob cyfarfod, gan gynnwys trafodaethau is-grwpiau, er mwyn rhoi cyngor arbenigol o ran asesu.