Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pwrpas y grŵp a sut mae'n gweithio.

Diben

Mae'r Grŵp Cynghori Gweinidogol Penaethiaid yn darparu cyngor strategol uniongyrchol i’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg gan benaethiaid ysgolion ar bolisi a diwygio addysg yng Nghymru.

Mae'r Grŵp yn gweithredu fel fforwm dibynadwy lle gall y Gweinidog Cabinet a swyddogion Llywodraeth Cymru:

  • brofi cynigion polisi yn gynnar yn y broses ddatblygu
  • derbyn her adeiladol a mewnwelediad proffesiynol gan arweinwyr ysgolion
  • nodi cyfleoedd, risgiau a chanlyniadau anfwriadol sy'n gysylltiedig â gweithredu
  • deall goblygiadau ymarferol penderfyniadau polisi i ysgolion, dysgwyr a'r gweithlu
  • llywio'r gwaith o ddatblygu polisi cydlynol, cyflawnadwy ac wedi'i lywio gan dystiolaeth

Mae'r Grŵp yn gorff cynghori ac nid oes ganddo bwerau gwneud penderfyniadau.

Cwmpas

Bydd y Grŵp yn canolbwyntio ar flaenoriaethau addysg y Gweinidog Cabinet, ynghyd â materion sy'n dod i'r amlwg ac sydd o bwysigrwydd strategol i addysg yng Nghymru.

Gellir gofyn i'r Grŵp ystyried:

  • cynigion polisi ac diwygiadau sy'n datblygu
  • heriau gweithredu a chyflenwi
  • cynllunio strategol a datblygu rhaglenni
  • dulliau o ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • materion, tueddiadau a risgiau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n effeithio ar ysgolion a dysgwyr
  • cyfleoedd i wella deilliannau, tegwch a llesiant ar draws y system addysg

Caiff meysydd blaenoriaeth â drafodir eu cytuno'n flynyddol a gellir eu hadolygu yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu blaenoriaethau Gweinidogol.

Aelodaeth

Bydd y Grŵp yn cynnwys penaethiaid profiadol sy'n gwasanaethu mewn amrywiaeth o ysgolion a gynhelir ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a lleoliadau cyfrwng Cymraeg.

Bydd yr aelodaeth yn ceisio sicrhau cydbwysedd o safbwyntiau o wahanol sectorau, ardaloedd daearyddol a chyd-destunau ysgolion. Nid yw aelodau'n benodiadau cyhoeddus.

Penodiad a chyfnod yn y Swydd

Mae aelodau a benodwyd ym mis Mehefin 2025 am gyfnod cychwynnol o flwyddyn wedi cael estyniad i'w haelodaeth tan fis Mehefin 2027. Gall Llywodraeth Cymru gytuno ar estyniad pellach os bernir bod hynny'n briodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i ddisodli aelodau neu lenwi unrhyw swyddi gwag er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Grŵp.

Rolau a chyfrifoldebau aelodau

Disgwylir i aelodau:

  • fynychu cyfarfodydd a chyfrannu'n weithredol iddynt
  • darparu cyngor strategol a her broffesiynol yn seiliedig ar eu profiad fel arweinwyr ysgolion
  • ystyried materion o safbwynt cenedlaethol ac er budd dysgwyr ledled Cymru
  • defnyddio eu rhwydweithiau proffesiynol i gasglu ac adlewyrchu safbwyntiau ehangach y sector lle bo hynny'n briodol
  • nodi goblygiadau ymarferol, cyfleoedd a risgiau sy'n gysylltiedig â chynigion polisi
  • adolygu a gwneud sylwadau ar bapurau, cynigion ac adroddiadau yn ôl y gofyn
  • cynnal cyfrinachedd wrth drin gwybodaeth sensitif
  • datgan unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig

Ni ddisgwylir i aelodau weithredu fel cynrychiolwyr ffurfiol eu hawdurdod lleol na'u partneriaeth, undeb neu gymdeithas broffesiynol.

Ffyrdd o weithio

Bydd y Grŵp yn gweithredu fel fforwm cynghori strategol.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu papurau a deunyddiau trafod cyn y cyfarfodydd lle bynnag y bo modd.

Bydd cyngor y Grŵp yn llywio datblygiad polisi, ond bydd cyfrifoldeb am benderfyniadau polisi yn parhau gyda Gweinidogion Cymru.

Bydd swyddogion yn rhoi adborth, lle bo'n briodol, ar sut mae cyngor y Grŵp wedi dylanwadu ar ddatblygiad polisi a phenderfyniadau.

Cyfarfodydd

Bydd y Grŵp fel arfer yn cyfarfod unwaith bob hanner tymor. Gellir cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn rhithwir neu drwy gyfuniad o'r ddau ddull.

Bydd y Gweinidog Cabinet fel arfer yn mynychu o leiaf un cyfarfod ym mhob tymor i drafod blaenoriaethau Gweinidogol a derbyn cyngor yn uniongyrchol gan aelodau.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cadeirio gan y Gweinidog Cabinet neu gan swyddog enwebedig o Lywodraeth Cymru pan na fydd y Gweinidog Cabinet yn bresennol.

Bydd dyddiadau cyfarfodydd yn cael eu rhannu ymlaen llaw cyn dechrau pob blwyddyn academaidd lle bynnag y bo modd.

Cymorth ysgrifenyddol

Bydd y Gyfarwyddiaeth Addysg yn darparu cymorth ysgrifenyddol i'r Grŵp, gan gynnwys:

  • trefnu cyfarfodydd
  • paratoi agendâu a phapurau
  • cofnodi camau gweithredu a phrif bwyntiau trafod
  • cydlynu cyfathrebu rhwng aelodau a swyddogion

Adrodd a thryloywder

Bydd y Grŵp yn gweithredu mewn modd sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng tryloywder a'r angen am drafodaethau gonest ac agored.

Gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi crynodebau o'r prif themâu a'r materion a drafodwyd gan y Grŵp, yn amodol ar ofynion cyfrinachedd.

Ni fydd y cyngor a ddarperir gan y Grŵp yn rhwymo Gweinidogion.

Adolygu a gwerthuso

Bydd effeithiolrwydd y Grŵp a'r cylch gorchwyl hwn yn cael eu hadolygu'n flynyddol.

Gall Ysgrifennydd y Cabinet ddiwygio'r cylch gorchwyl hwn ar ôl ymgynghori â’r aelodau.

Cyfrinachedd

Rhaid i aelodau gynnal cyfrinachedd unrhyw wybodaeth sensitif a rennir drwy'r Grŵp.

Ni ddylid rhannu gwybodaeth a ddynodwyd yn gyfrinachol y tu allan i'r Grŵp heb gytundeb ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Tâl a threuliau

Gwneir taliad o £300 y dydd i ysgolion yr aelodau.

Telir costau teithio a chynhaliaeth i aelodau sy'n mynychu cyfarfodydd ac sydd hefyd yn teithio i gefnogi rôl y Tîm Gwella Addysg.

Aelodaeth

  • Bethan Moore: Ysgol Arbennig Crownbridge, Tor-faen
  • Betsan Llwyd: Ysgol Cwm Banwy, Powys
  • Cat Place: Ysgol Gynradd Jubilee Park, Casnewydd
  • Catryn Lawrence: Ysgol Penrhyncoch ac Ysgol Penllwyn, Ceredigion
  • Christopher Parry: Ysgol Lewis Pengam, Caerffili
  • Damien Beech: Ysgol Gynradd Goetre, Merthyr Tudful
  • Hugo Hutchison: Ysgol Uwchradd Trefynwy, Sir Fynwy
  • Janet Hayward: Ysgol Gynradd Cadoxton, Bro Morgannwg
  • Jeremy Evans: Ysgol Arbennig Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Julian Kennedy: Ysgol Olchfa, Abertawe
  • Nicola Williams: Ysgol Gynradd Libanus, Caerffili
  • Olwen Corben: Ysgol Glanrafon, Sir y Fflint
  • Paul Keane: Ffederasiwn Ysgol Gymunedol Blenheim Road ac Ysgol Gynradd Coed Efa
  • Richard Owen: Ysgol Gymunedol Aberdâr, Rhondda Cynon Taf
  • Ryan Davies: Ysgol Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Trystan Edwards: Ysgol Garth Olwg, Rhondda Cynon Taf
  • Ty Golding: Ysgol Gynradd Holton, Bro Morgannwg