Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Diben

Diben y Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil hwn yw ymgysylltu'n rheolaidd â chynrychiolwyr o bob rhan o sector addysg drydyddol Cymru a darparu cyngor strategol i'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar faterion polisi allweddol, mentrau a materion eraill o bwys o fewn y portffolio Addysg Drydyddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod strategol clir o greu system drydyddol gydweithredol a chydlynol a bydd y grŵp yn darparu cyfrwng i ymgysylltu ar faterion sy'n effeithio ar y system gyfan.

Nid oes gan y Grŵp bwerau gweithredol; grŵp cynghori yn unig yw hwn.

Cwmpas

Bydd y Grŵp yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol ym maes addysg drydyddol ar gyfer 2025 i 2026 ac wedi hynny, yn enwedig cynyddu cyfraddau cyfranogiad ar draws y sector addysg ôl-16 a sefydlogi'r heriau ariannol presennol sy'n wynebu chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Ochr yn ochr â'r heriau hyn, mae sefydlu Medr yn cyflwyno cyfle sylweddol i greu sector trydyddol mwy cydweithredol wrth greu llwybrau a gwella canlyniadau i bob dysgwr. Felly, prif ffocws y Grŵp hwn fydd:

  • Cyfranogiad Ôl-16: archwilio strategaethau i sicrhau gwelliant o ran mynediad, cadw a dilyniant i ddysgwyr ar draws llwybrau amrywiol, gan gynnwys addysg bellach, addysg uwch, a dysgu seiliedig ar waith; Hefyd i gynnwys trafodaeth ar effaith cyfranogiad cyn 16.
  • Cynaliadwyedd y System Addysg Drydyddol: mynd i'r afael â chynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol a sefydliadol i sicrhau gwydnwch ac effeithiolrwydd hirdymor.
  • Ymchwil ac Arloesi yn y System Drydyddol: gwella cydweithredu rhwng sefydliadau a diwydiannau er mwyn ysgogi arloesedd, gwella allbynnau ymchwil, a chefnogi twf economaidd.

Ar draws y meysydd hyn, bydd y Grŵp yn ystyried datblygu polisi, cynllunio strategol, gweithredu a gwerthuso rhaglenni, ymgysylltu â rhanddeiliaid a materion a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y sector, yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Bydd lle hefyd i ddatblygu cyfres o is-grwpiau allanol i fwydo i mewn i'r Grŵp Cynghori Gweinidogol o ran y meysydd ffocws penodol a nodir uchod a materion fel:

  • Addysg Ryngwladol
  • Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol

Aelodaeth

Cyfansoddiad

Bydd y Grŵp yn cynnwys aelodau allanol o bob rhan o'r sector addysg drydyddol a'r sectorau cysylltiedig, ar wahoddiad y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Nid oes unrhyw un o'r aelodau na'r cadeirydd yn benodiadau cyhoeddus a disgwylir i aelodau ddarparu arbenigedd a mewnwelediad ar ran y sector yn hytrach na chynrychioli unrhyw un sefydliad. Disgwylir i'r aelodaeth esblygu yn ystod y cyfarfodydd. 

Amgaeir rhestr o’r aelodau yn Atodiad A.

Penodi a Deiliadaeth

Bydd aelodau'n cael eu penodi am gyfnod y tymor hwn o'r llywodraeth, gyda'r posibilrwydd y caiff y penodiad ei adnewyddu, er mwyn sicrhau ystod eang o fewnbwn i'r grŵp. Gall y Gweinidog benodi aelodau newydd yn ôl yr angen i gynnal effeithiolrwydd y grŵp.

Cadeirydd

Bydd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn cadeirio'r grŵp. Nodir cyfrifoldebau'r Cadeirydd ym mharagraff: Rolau a Chyfrifoldebau - Cadeirydd.

Rolau a chyfrifoldebau

Aelodau

  • Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd.
  • Rhoi cyngor gwybodus ac adeiladol.
  • Adolygu a rhoi sylwadau ar ddogfennau ac adroddiadau perthnasol.
  • Sicrhau cyfrinachedd trafodaethau a deunyddiau.
  • Datgan unrhyw wrthdaro buddiannau cyn gynted ag y byddant yn codi.

Cadeirydd

Caiff y grŵp ei gadeirio gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, a fydd yn gyfrifol am gynnull, arwain a hwyluso'r cyfarfodydd, gosod yr agendâu mewn ymgynghoriad ag aelodau a sicrhau bod barn y grŵp yn cael ei gofnodi. Cefnogir y Cadeirydd gan ysgrifenyddiaeth y grŵp.

Cyfarfodydd

Amlder

Bydd y grŵp yn cyfarfod bob tymor, wyneb yn wyneb neu yn hybrid neu drwy Teams, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn cael eu cynnull yn ôl yr angen.

Cymorth Ysgrifenyddiaeth

Bydd y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i'r grŵp, gan gynnwys cydlynu trefniadau cyfarfodydd, paratoi a dosbarthu agendâu a deunyddiau ar gyfer cyfarfodydd a chofnodi a dosbarthu cofnodion a chamau gweithredu.

Adolygu a gwerthuso

Caiff y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol. Gall y Gweinidog ddiwygio'r cylch gorchwyl yn ôl yr angen, mewn ymgynghoriad â'r grŵp.

Cyfrinachedd a thryloywder

Rhaid i bob aelod gydymffurfio â gofynion cyfrinachedd ynghylch gwybodaeth sensitif. Bydd y Grŵp yn gweithredu'n dryloyw, ac efallai y bydd canlyniadau nad ydynt yn gyfrinachol ac adroddiadau ar gael i'r cyhoedd yn ôl disgresiwn y Gweinidog.

Atodiad A: aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog

Aelodau Craidd

  • James Owen, Prif Weithredwr, Medr
  • Yr Athro Fonesig Julie Lydon, Cadeirydd, Medr 
  • David Hagendyk, Prif Weithredwr, Colegau Cymru
  • Lisa Thomas, Cadeirydd, Colegau Cymru 
  • Amanda Wilkinson, Prif Weithredwr, Prifysgolion Cymru
  • Elwen Evans, Cadeirydd, Prifysgolion Cymru
  • Sharon Davies, CLlLC, arweinydd gweithredol ar Addysg 
  • Dr Lowri Brown, CCAC
  • Deio Owen, Llywydd, UCM Cymru
  • Gareth Lloyd, UCU
  • Jamie Insole, UCU
  • Lynne Hackett, Unsain
  • Yr Athro Chris Milward, Prifysgol Birmingham 
  • Yr Athro Roger Whittaker, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru 
  • Ian Price, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Coleg Gŵyr
  • Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg
  • David Jones, cyn Bennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria a chyn Gadeirydd Cymwysterau Cymru
  • Yr Athro Chris Pearce, Is-Brif Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol Glasgow
  • Yr Athro Colette Fagan, Is-lywydd Ymchwil, Prifysgol Manceinion

Llywodraeth Cymru

  • Ruth Meadows, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
  • Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
  • Clarie Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Chyllid,  y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
  • Geoff Owen, Pennaeth Adolygiad o'r Sector Addysg Drydyddol,  y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
  • Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr Llwybrau Dysgwyr, y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
  • David Morris, Pennaeth Strategaeth a Pholisi'r Dyfodol,  y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Polisi a Strategaeth Economaidd
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Robert Hoyle, Pennaeth Gwyddoniaeth
  • Craig Greenland, Ysgrifenyddiaeth

Sylwch y gallai cynrychiolwyr eraill gael eu gwahodd i fynychu ar gyfer cyfarfodydd neu eitemau agenda penodol.