Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Andy Pithouse, Cynghorydd Arbennig i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Alwyn Jones, Cadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog
Denise Moultrie, Llywodraeth Cymru 
Taryn Stephens, Llywodraeth Cymru 
Andrew Davies, Llywodraeth Cymru 
Claire Morgan, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru
Anna Bird, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Bobbie-Jo Haaroff, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro a Chynrychiolydd Gofalwyr Di-dâl
Jayne Newman, Cynrychiolydd Gofalwyr Di-dâl
Anne Seddon, Prifysgol Bangor
Kim Dolphin, Cyngor Sir Fynwy, a Chadeirydd y Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr (COLIN)
Elizabeth Flowers, Adran Comisiynydd Plant Cymru 
Jenny Oliver, Pennaeth Profiad Pobl yng Nghwm Taf Morgannwg 
Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Kath Proudfoot, Yn cynrychioli COLIN
Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Pennie Muir, Cymorth Prosiectau Rhanbarthol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 
Valerie Billingham, Arweinydd Iechyd a Gofal, Comisiynydd Pobl Hŷn 
Vanessa Webb, Ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe 
Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint 
Rachel Williams, Cynghrair Gofal 

Ymddiheuriadau

Iain McMillian, Bro Morgannwg 
Stephanie Griffith, Gofal Cymdeithasol Cymru 
Angela Hughes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Marie Davies, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Claire Roche, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Jacob Ellis, Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru 
Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
Ffion Johnson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd y cadeirydd bawb i’r cyfarfod gan gynnwys y cynrychiolwyr gofalwyr di-dâl a oedd newydd eu penodi, sef Bobbie-Jo Haaroff a Jayne Newman, a oedd yn mynychu am y tro cyntaf.

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ei sylwadau ar yr ail Ŵyl i Ofalwyr Ifanc, yr oedd wedi ei mynychu ar 23 Awst yn Llanfair-ym-Muallt.

Roedd y Dirprwy Weinidog wedi siarad â llawer o’r 300 a mwy o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc a oedd wedi ymgynnull yno, a soniodd pawb faint yr oeddent wedi mwynhau a gwerthfawrogi’r holl weithgareddau a’r cyfleoedd i gymdeithasu a chael cymorth. Hefyd cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â nifer o bobl ifanc a oedd wedi cael eu recriwtio i’r Bwrdd Cynghorol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, gyda chymorth Plant yng Nghymru.

Gwnaed buddsoddiad sylweddol er mwyn creu’r cynllun cerdyn adnabod, a rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc mewn addysg, ac agweddau eraill ar eu bywydau, er mwyn iddynt allu manteisio ar ein cymorth llawn.

Hefyd, cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol at y gofrestr genedlaethol i ofalwyr di-dâl. Roedd o’r farn y gallai rhestr sengl o ofalwyr di-dâl ar gyfer Cymru gyfan fod yn ddefnyddiol iawn, a phe bai’n bosibl ei diweddaru’n rheolaidd byddai’n gallu darparu gwybodaeth werthfawr a bod o gymorth i’r gofalwyr hyn hunanddiffinio. Fodd bynnag, ar ôl ymchwilio ymhellach, gwelwyd na fyddai’n bosibl coladu manylion pobl o’r rhestrau presennol a gedwir gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a sefydliadau gofalwyr oherwydd deddfwriaeth diogelu data. Nid oedd pobl wedi rhoi caniatâd i’w gwybodaeth gael ei rhannu wrth gytuno i fynd ar y rhestrau hyn. Felly, byddai angen i bob unigolyn ymuno â rhestr genedlaethol newydd, yn ogystal â’r rhestrau y maent arnynt eisoes. Ni fyddem yn gallu bod yn hyderus y byddai pobl yn diweddaru eu gwybodaeth yn rheolaidd, a byddai hyn yn effeithio ar gywirdeb unrhyw ddata a fyddai’n cael eu coladu. Erbyn hyn rydym hefyd wedi ymchwilio i’r gost a fyddai’n gysylltiedig â sefydlu a chynnal y rhestr. Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod o’r farn bod y gost a swyddogaeth gyfyngedig rhestr genedlaethol yn golygu nad yw hwn yn opsiwn ymarferol.

Yn ogystal â hyn, ar hyn o bryd mae gan swyddogion Llywodraeth Cymru fanylion cyswllt ar gyfer yr holl restrau a gedwir gan sefydliadau neu asiantaethau eraill, ac felly maent yn gallu defnyddio’r manylion hyn i ddosbarthu gwybodaeth i’r holl ofalwyr di-dâl y gwyddys amdanynt. Dywedodd y Dirprwy Weinidog ei bod yn awyddus i glywed barn Grŵp Cynghori’r Gweinidog cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cymryd camau pellach i sefydlu rhestr genedlaethol ar gyfer gofalwyr ai peidio.

Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at yr adolygiad cyflym a gynhaliwyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o hawliau gofalwyr di-dâl yn ystod ac ar ôl yr ymateb i COVID-19. Mae’r Dirprwy Weinidog am i Grŵp Cynghori’r Gweinidog fwrw ymlaen â chynllun gweithredu sy’n codi o gasgliadau’r adolygiad cyflym er mwyn sicrhau bod newidiadau er gwell yn cael eu cyflwyno.

Hefyd, croesawodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr aelodau newydd i Grŵp Cynghori’r Gweinidog, sef Bobbie-Jo Haaroff a Jayne Newman.

Adborth neu gwestiynau gan y grŵp

Codwyd cwestiwn ynghylch y posibilrwydd o barhau â’r cyllid o £1m sydd wedi ei ddarparu i gefnogi gofalwyr di-dâl ar adeg rhyddhau’r unigolyn y maent yn gofalu amdano o’r ysbyty neu ar adeg ei dderbyn i’r ysbyty, ar gyfer 2024 i 2025. 

Nododd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y cwestiwn, gan ymateb drwy ddweud ei bod wedi ymrwymo i gadw cymaint o fuddsoddiad ariannol o fewn y sector gofalwyr di-dâl â phosibl. Bydd angen cynnal trafodaethau ar y gyllideb, a bydd angen cadarnhau cyllid ar gyfer unrhyw flwyddyn yn y dyfodol drwy’r broses pennu cyllidebau drafft blynyddol.

Gadawodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y cyfarfod.

Adroddiad yr Adolygiad Cyflym gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cafodd y ddogfen hon ei chylchredeg cyn y cyfarfod er mwyn i’r aelodau gael y cyfle i edrych ar yr adroddiad. Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i baratoi’r adroddiad hwn fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mehefin 2022.

Cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i ganfod y ffordd orau o ystyried casgliadau’r adroddiad a sut y gellid defnyddio’r casgliadau hynny i adnewyddu strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl.

Bydd yr adolygiad cyflym yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru maes o law. Gwnaed cais y dylai aelodau’r grŵp gael gwybod pryd yr oedd yn cael ei gyhoeddi.

Adborth gan y grŵp 

Cafwyd sylwadau penodol ynghylch geiriad yr adroddiad. Gofynnwyd bod y sylwadau manwl yn cael eu hanfon ymlaen at y cadeirydd a swyddogion yn Llywodraeth Cymru.

Roedd y pwyntiau eraill a godwyd yn cynnwys: defnyddio ieithoedd eraill yn ychwanegol at y Gymraeg â’r Saesneg ar ddeunyddiau i ofalwyr di-dâl; cysylltiadau â gweithwyr cymdeithasol; a therminoleg. Roedd yn cael ei gydnabod nad oedd rhai pobl am gael eu disgrifio fel gofalwr neu ofalwr di-dâl.

Roedd y grŵp yn cefnogi’r syniad o ddefnyddio casgliadau’r adolygiad i adnewyddu’r strategaeth genedlaethol. Cytunwyd y byddai grŵp gorchwyl a gorffen yn ymgymryd â’r gwaith hwn.

Roedd yn cael ei gydnabod bod asesiadau o anghenion gofalwyr yn faes pwysig y dylid ei wella, ac efallai y byddai creu is-grŵp cenedlaethol o dan Grŵp Cynghori’r Gweinidog o gymorth i gyflawni hyn. Byddai penderfyniad ar hynny’n cael ei wnaed ar ôl i’r grŵp gorchwyl a gorffen adolygu’r strategaeth fel y nodir uchod.

Cyfeiriodd aelodau’r grŵp at yr angen i wneud mwy er mwyn sicrhau bod pobl o ardaloedd gwledig neu grwpiau lleiafrifol yn cael eu cydnabod, gan y gallent fod yn llai tebygol o ddiffinio’u hunain fel gofalwyr di-dâl, neu gael eu hadnabod fel gofalwyr di-dâl. Eglurwyd bod yr angen i gydnabod mwy o ofalwyr yn un o brif egwyddorion y strategaeth bresennol, ac mae Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cael eu hariannu i weithredu’r ymgyrch ‘Ymwybyddiaeth o Ofalwyr’.

Cam gweithredu

Dod o hyd i gynrychiolwyr o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r strategaeth bresennol a’i chymharu ag argymhellion yr adolygiad cyflym. Y grŵp gorchwyl a gorffen i gael ei hwyluso gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

Fframwaith ymgysylltu yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Kate Cubbage

Mae hwn yn cael ei weithredu drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n creu cyfleoedd i leisiau gofalwyr gael eu clywed, ac i gasglu gwybodaeth sy’n cefnogi gwaith ehangach y grŵp hwn.

Mae digwyddiadau diweddar wedi canolbwyntio ar Flaenoriaeth 4 y strategaeth, “cefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle”. Cynhaliwyd y digwyddiadau yn ystod yr haf gyda’r nod o wrando ar rieni sy’n ofalwyr a dysgu ganddynt gan eu bod yn grŵp nad oedd y gwaith blaenorol wedi ymgysylltu â nhw yn uniongyrchol.

Roedd cysondeb o ran sylwadau’r bobl a oedd yn bresennol o ran yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu. Un o’r prif feysydd ffocws oedd mynediad at addysg. Roedd llawer o bobl yn credu bod dulliau gweithredu ar gyfer cynhwysiant yn anhyblyg, ac nad yw rhai plant anabl a niwroamrywiol yn gallu cael mynediad i gyfleusterau addysg priodol.

Mae’r amseroedd aros i gael asesiad a diagnosis yn rhwystr i gael y cymorth a’r ddarpariaeth dysgu ychwanegol briodol. Bydd rhieni sy’n ofalwyr yn aml yn cael anhawster i gael seibiannau rhag gofalu. Y prif gasgliad allweddol arall oedd bod y rhiant sy’n ofalwr yn gallu cael anawsterau wrth geisio cynnal cyflogaeth amser llawn, a bod hynny’n cael effaith negyddol ar incwm y teulu.

Adborth gan y grŵp 

Codwyd cwestiwn ynghylch gallu ysgolion i fod yn hyblyg. Atebodd Kate Cubbage drwy ddweud ei bod o’r farn bod gan ysgolion adnoddau addas, ond ei bod yn bosibl nad ydynt yn gwybod amdanynt. Cydnabuwyd bod y rhain yn faterion sydd wedi bodoli ers amser. Gwnaed cynnig i Kate Cubbage gyfarfod â Swyddfa’r Comisiynydd Plant i drafod y materion hyn.

Cam gweithredu

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chydweithwyr yn Adran Addysg Llywodraeth Cymru i sicrhau bod barn rhieni sy’n ofalwyr yn cael ei chynrychioli yn y grwpiau priodol neu'n cael ei hystyried.

Deddf Absenoldeb Gofalwyr 2023

Claire Morgan

Rhoddwyd trosolwg o’r Ddeddf hon, a gafodd Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai 2023. Mae’r ddarpariaeth yn y Ddeddf yn golygu y gall cyflogeion sydd â chyfrifoldebau gofalu gael absenoldeb heb dâl am hyd at wythnos, ac mae’n berthnasol i Gymru, Lloegr, a’r Alban. Bydd y gyfraith yn dod yn weithredol yn ystod 2024, ond nid yw’r dyddiad wedi ei gadarnhau eto.

Mae'r cyflwyniad PowerPoint a’r daflen ‘Ydych chi’n barod?’ yn darparu'r manylion llawn.

Adborth gan y grŵp

Gofynnodd aelodau sut y gellir sicrhau y bydd cyflogwyr yn gwybod am hyn. Cadarnhaodd Claire Morgan y bydd taflen o’r enw ‘Ydych chi’n barod?’ yn cael ei hanfon at aelodau’r grŵp ynghyd â rhagor o wybodaeth, a bod gwaith yn mynd rhagddo i roi gwybod i gyflogwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth cyn i’r ddeddf gael ei gweithredu.

Diweddariadau gan Lywodraeth Cymru

Cynllun Seibiannau Byr

Denise Moultrie

Cafodd y cynllun hwn ei sefydlu’r llynedd gydag ymrwymiad ariannu tair blynedd gwerth £9m a gafodd ei roi i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Cafodd cyllid ar gyfer 2022 i 2023 ei ddarparu ar sail ‘yn ystod y flwyddyn’, ac felly nid oedd y ddarpariaeth i weithredu’r cynlluniau ar gyfer y 12 mis llawn hyd at 31 Mawrth 2023.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael chwech allan o saith o adroddiadau diwedd blwyddyn gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o ran sut mae’r cyllid wedi cael ei ddefnyddio. Mae templed adrodd manylach yn cael ei drafod ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol er mwyn sicrhau bod y data a’r naratif yn fwy cyson a chymharol. Bydd trafodaethau mwy manwl gyda’r byrddau yn gallu digwydd ar ôl hynny.

Adborth gan y grŵp

Cafodd pwynt ei godi yn cwestiynu a yw adroddiadau’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth, er enghraifft gwahanol fathau o seibiannau, er mwyn i’r cyllid allu gael ei deilwra ar gyfer meysydd penodol. Cadarnhaodd Denise Moultrie fod pob bwrdd yn gyfrifol am asesu ei ardal ei hun ac unrhyw fylchau sy’n bodoli ar y pryd gan ddod o hyd i ffyrdd creadigol o roi sylw i’r sefyllfa. Cadarnhawyd hefyd bod dadansoddiad o’r bylchau wedi cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr er mwyn sicrhau bod y darlun clir o’r sefyllfa ar draws yr holl fyrddau.

Codwyd amrywiaeth a chydraddoldeb fel materion pwysig o ran mynediad at seibiannau byr.

Cardiau Adnabod i Ofalwyr Ifanc

Denise Moultrie

Cafwyd adroddiadau gan 20 o awdurdodau lleol ar hynt y gwaith o gyflwyno Cardiau Adnabod i Ofalwyr Ifanc yn ystod 2022 i 2023. Cafodd cyfanswm o 2,366 o gardiau eu rhoi i bobl ifanc. Mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i weithio gydag ysgolion i hyrwyddo’r cerdyn, yn ogystal â meddygfeydd a fferyllfeydd.

Roedd o leiaf 550 o’r rheini’n ofalwyr ifanc nad oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod amdanynt cyn hynny. Dywedodd rhai awdurdodau lleol eu bod wedi llwyddo i adnabod gofalwyr ifanc drwy’r cynllun hwn, er bod oddeutu hanner ohonynt wedi dweud nad oeddent wedi adnabod ond nifer bach o ofalwyr ifanc, neu ddim gofalwyr ifanc o gwbl, nad oeddent yn gwybod amdanynt eisoes, drwy’r cynllun hwn.

Roedd rhai awdurdodau lleol wedi sicrhau bod deiliaid y cerdyn yn cael disgownt gan fusnesau lleol, er nad oedd awdurdodau eraill wedi gwneud hynny.

Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod y cerdyn yn gweithio’n dda lle mae’n cael ei ddefnyddio. Gall helpu pobl ifanc ar eu taith drwy’r ysgol, ac wrth gasglu meddyginiaethau ac yn y blaen, ond serch hynny, yr her fwyaf yw codi ymwybyddiaeth o’r cerdyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â chydweithwyr mewnol o fewn polisi addysg i ymchwilio i rai o’r rhwystrau gyda’r bwriad o ymchwilio iddynt ar y cyd ag adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Gallai’r mater hwn gael ei godi gyda’r Bwrdd Cynghorol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, er mwyn iddo ei ystyried, yn ogystal â chamau gweithredu eraill y gall roi sylw iddynt. Mae angen cadarnhau cysylltiadau ffurfiol rhwng Grŵp Cynghori’r Gweinidog a’r Bwrdd Cynghorol ar gyfer Gofalwyr Ifanc.

Adborth gan y grŵp 

Trafodaeth ar sut y gellid adnewyddu’r ymgyrch i hyrwyddo cardiau adnabod mewn ysgolion, a rhoi hwb iddi. Cynigiodd Ymddiriedolwyr Gofalwyr Cymru ailddechrau cyfarfodydd cenedlaethol gydag awdurdodau lleol i helpu i roi sylw i unrhyw rwystrau, ac ail-ddarparu adnoddau ar gyfer ysgolion a oedd wedi cael eu datblygu ar ddechrau’r cynllun.

Cam gweithredu

Swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Cadeirydd i ymchwilio i gysylltiadau ffurfiol rhwng Grŵp Cynghori’r Gweinidog a’r Bwrdd Cynghorol newydd ar gyfer Gofalwyr Ifanc.

Swyddogion Llywodraeth Cymru i gysylltu ag arweinwyr addysg a gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol o ran y rhwystrau i gyflwyno’r cardiau yn ehangach, ac i weithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru o ran yr adnoddau cymorth sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Cofrestr i ofalwyr di-dâl 

Denise Moultrie

Yng nghyfarfod blaenorol Grŵp Cynghori’r Gweinidog, amlinellwyd materion yn ymwneud â diogelu data mewn perthynas â chreu cofrestr. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a ddywedodd y byddai’n costio rhwng £100,000 a £250,000 i weithredu a chynnal y system yn y flwyddyn gyntaf, gan ddibynnu ar lefel y diogelwch yr oedd ei hangen.

Fel y disgrifiwyd gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei hanerchiad cynharach i Grŵp Cynghori’r Gweinidog, byddai rhestr genedlaethol yn golygu y byddai angen i unigolion ymuno’n annibynnol a sicrhau bod eu manylion yn parhau’n gyfredol. Ailadroddwyd barn y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch pa mor ddefnyddiol fyddai’r rhestr a beth fyddai ei gwerth i ofalwyr di-dâl.

Adborth gan y grŵp

Codwyd cwestiwn ynghylch defnyddio data dienw. Cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru fod cais pellach Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu cyfrifiad ar ofalwyr di-dâl, drwy dynnu data cyfanredol dienw o wybodaeth awdurdodau lleol, yn parhau i gael ei ystyried a’i fod yn ffrwd waith ar wahân. Gellir trafod hyn mewn un o’r cyfarfodydd nesaf.

Gofynnodd aelod o’r grŵp ynghylch y cymorth sydd ar gael i rywun sy’n ofalwr ac sydd wedi bod yn y carchar.

Gofynnodd y cadeirydd i aelodau’r grŵp a oeddent yn fodlon cefnogi barn y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol nad oedd creu rhestr genedlaethol o ofalwyr yn opsiwn ymarferol, gan na fyddai’n gallu casglu gwybodaeth o restrau eraill ar gyfer gofalwyr, ac na fyddai’n adlewyrchu nifer y gofalwyr di-dâl yng Nghymru na’u nodweddion mewn modd cywir, ac na ellid ei chyfiawnhau o ran y gost. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi datblygu dull arall o gyfathrebu â gofalwyr di-dâl sydd ar restrau sy’n bodoli eisoes, ac maent yn parhau i ymchwilio i’r posibiliadau o ran tynnu data di-enw o’r wybodaeth a gedwir gan awdurdodau lleol.

Cam gweithredu

Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen newydd i adolygu’r cynllun gweithredu, a hefyd i edrych ar sut yr ydym yn gweithio gyda chymunedau lleiafrifol ac anodd eu cyrraedd, a chyfathrebu â nhw.

Unrhyw fater arall

Cafodd adroddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru eu codi gan aelod o’r grŵp a gwestiynodd y lefelau ymgysylltu â’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth sy’n digwydd wrth ddilyn y broses arolygu. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod gofyn am sylwadau gan aelodau’r cyhoedd a defnyddwyr yn rhan o’r fethodoleg arolygu. Mae manylion proses arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru ar gael drwy ei gwefan.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod ym mis Ionawr 2024 – y dyddiad i’w gadarnhau.