Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y grŵp.

Diben y grŵp hwn yw ymgysylltu â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a'u cynghori ar eu blaenoriaethau strategol a'u cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Mae’n ffurfio rhan o’n cynllun i ymgysylltu â defnyddwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer ystadegau economaidd.  Bydd y grŵp yn rhoi persbectif defnyddwyr allanol ar ystadegau a gyhoeddir o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Bydd y grŵp yn:

  • cynghori Llywodraeth Cymru ar y prif ddefnyddiau a'r gofynion ar gyfer gwybodaeth ystadegol economaidd yng Nghymru
  • mynegi barn ar gynlluniau ystadegol strategol arfaethedig, gan roi cyngor ar flaenoriaethu gwaith presennol a gwaith datblygu gan ystyried blaenoriaethau'r Llywodraeth
  • nodi bylchau yn narpariaeth ystadegau economaidd Cymru a chynghori ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r bylchau hyn, tra hefyd yn ystyried goblygiadau adnoddau a baich ar gyflenwyr data
  • adnabod meysydd ar gyfer cydweithredu ar draws sefydliadau, ac osgoi dyblygu
  • rhoi adborth, a chynghori ar ffyrdd o wella'r broses o ledaenu ystadegau economaidd Cymru
  • codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r defnydd effeithiol o ystadegau economaidd Cymru (a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill) o fewn y gymuned defnyddwyr ehangach
  • cydweithredu i hwyluso mynediad at ffynonellau data economaidd

Bydd y grŵp yn canolbwyntio'n bennaf ar ystadegau economaidd (economi, busnes, y farchnad lafur, masnach a thrafnidiaeth), ond bydd hefyd yn ystyried ymchwil gymdeithasol a thystiolaeth economaidd pan fydd cysylltiad agos â'r ystadegau.