Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Diben y Grŵp

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ymagwedd ysgol-gyfan tuag at les emosiynol ac iechyd meddwl, a hynny fel rhan o'r ymagwedd system-gyfan sydd hefyd yn cydnabod y cysylltiadau rhwng lles meddyliol a lles corfforol.  I gyflawni hyn, bydd y Grŵp yn rhoi sylw i argymhellion a chanfyddiadau adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef 'Cadernid Meddwl' (Ebrill 2018). 

Mae'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn pwysleisio'r angen am newid mawr o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Felly, mae angen inni adolygu'r polisïau cyfredol a'r arferion presennol o ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc; mae angen inni hefyd bennu'r bylchau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth; ac mae angen inni ddatblygu ffyrdd newydd ac effeithiol o weithio i gyflymu gwelliannau i'r system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Cwmpas

Fel y mae'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn pwysleisio, ac fel y nodir yng Nghenhadaeth ein Cenedl, mae'r ysgol nyn leoliad allweddol i gefnogi, cynorthwyo, a hyrwyddo iechyd a lles corfforol a meddyliol. Rydym felly'n cymryd ymagwedd 'ysgol-gyfan', gan roi'r ysgol wrth galon gwaith y grŵp. 

Fodd bynnag, mae angen rhoi'r ymagwedd yng nghyd-destun ymagwedd 'system-gyfan' hefyd. Hynny yw, cydnabod bod yr ysgol wrth galon gweithgarwch yn y maes, ond bod yna gyfres o ryngddibyniaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth i'r cartref, y gymuned a gwasanaethau asiantaethau eraill, rhai statudol ac anstatudol.

Bydd y Grŵp yn sicrhau bod polisi ac arferion ar draws y llywodraeth yn cefnogi iechyd a lles corfforol, iechyd meddwl a lles meddyliol plant a phobl ifanc.  Byddwn yn bwrw ymlaen â hyn ar draws y llywodraethau ac ar draws y sectorau, gan geisio cyngor gan arbenigwyr o'r sectorau, ynghyd â phlant a phobl ifanc eu hunain, ac eraill er mwyn sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ganolog i'n gwaith.

At ddibenion gwaith y grŵp hwn, caiff y ffrydiau gwaith eu rhannu'n ffrydiau 'ysgol-gyfan' a 'system-gyfan' er mwyn rhoi ffocws priodol ar y ddau.

Egwyddorion

Dyma'r egwyddorion sy'n sail i'r gwaith hwn:

  • Rhaid i'r cymorth fod yn gyffredinol ac wedi'i dargedu (mae diagram 1 yn egluro hyn).
  • Rhaid i'r cymorth fod yn briodol, yn amserol ac yn effeithiol.
  • Rhaid i'r cymorth ganolbwyntio ar arferion ataliol, adferol ac ar ymyrraeth effeithiol ac amserol pan fo'i hangen.
  • Dylai'r cymorth osgoi meddyginiaethu plant a sicrhau bod anghenion a dymuniadau'r plant a'r bobl ifanc yn hollol ganolog.
  • Dylai'r cymorth gael ei ddarparu'n amlasiantaethol, dylai gynnwys datblygu sgiliau i sicrhau gweithio amlasiantaethol.

Dylai cymorth gael ei ddarparu i'r sector addysg ac yn arbennig i ysgolion, i ddatblygu eu capasiti i gefnogi plant a phobl ifanc.

Aelodaeth a strwythur y rhaglen

Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg (a fydd yn Gyd-gadeiryddion). Bydd y Grŵp yn darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a chymorth strategol i weithredu'r ymagwedd ysgol-gyfan (a fydd yn rhan o ymagwedd system-gyfan) i wella lles emosiynol plant a phobl ifanc.

Bydd y Grŵp yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn.  Awgrymir yr aelodaeth ganlynol:

  • Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg (Cyd-gadeiryddion)
  • Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
  • Charles Janczewski, cynrychiolydd Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol
  • Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Arweiniol y GIG dros Iechyd Meddwl
  • Dr Dave Williams, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd lleol Powys, Cynghorydd ar Seiciatreg Plant a'r Glasoed 
  • Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Aled Evans, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Paula Vaughan, Pennaeth Cynradd
  • Chris Parry, Pennaeth Uwchradd
  • Andrew Jarrett, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phenaethiaid Gwasanaethau Plant
  • Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru
  • Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru
  • Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru
  • Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Dr Liz Davies, Uwch Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru (Meddygon Teulu)
  • Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio
  • Mark Campion, Estyn
  • Debbie Harteveld, Consortia Ysgolion Awdurdod Lleol
  • Yr Athro Simon Murphy, DECIPHer (rhwydwaith ymchwil iechyd ysgolion)
  • Liz Gregory, Seicolegydd Clinigol Bwrdd iechyd Lleol
  • Y Cynghorydd Huw David, CLILC

Dirprwyon

Gall aelodau enwebu dirprwy, ond er budd cysondeb ac er mwyn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu ar lefel rhanddeiliaid uwch, dim ond i un o bob tri chyfarfod y bydd anfon dirprwy'n dderbyniol. Mae unigolion wedi cael eu gwahodd ar sail eu rolau uwch fel dylanwadwyr strategol a phenderfynwyr.

Is-grwpiau

Caiff y Grŵp ei gefnogi gan Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid a Grŵp Swyddogion Uwch.  Arweinwyr Polisi Llywodraeth Cymru y mae eu gwaith yn ymwneud â'r ymagwedd ysgol-gyfan neu'r ymagwedd system-gyfan fydd yn y Grŵp Swyddogion Uwch. Bydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yn cynnwys ystod ehangach o gynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y trydydd sector Bydd gan blant a phobl ifanc y cyfle i ddatblygu a siapio gweithgareddau. 

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd

Bydd y Grŵp yn cwrdd o leiaf unwaith bob tymor y Cynulliad (tair gwaith y flwyddyn), a gall gwrdd yn anffurfiol yn amlach na hynny os bydd angen. Mae'r cyfyngiad amser ar y grŵp, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd tymor y Cynulliad (Mai 2021).

Rhaglen waith

Rôl y grŵp fydd cytuno ar weithrediad y cynllun gwaith, a goruchwylio hynny; cynghori ar faterion, rhwystrau a gweithgareddau i'w goresgyn wrth iddyn nhw godi; cynrychioli barn eu meysydd a'u sectorau o ran yr effeithiau y gallant eu cael ar ddatblygiad a gweithrediad gweithgareddau dros gyfnod y rhaglen.

Atodir rhaglen waith ddrafft y Grŵp (atodiad A) a bydd yn para tan fis Mai 2021. Bydd, fodd bynnag, yn ddogfen ddeinamig a fydd yn esblygu i adlewyrchu syniadau a blaenoriaethau'r Grŵp wrth i weithgarwch ddatblygu dros gyfnod y rhaglen, sef dwy flynedd a hanner.  Wrth fwrw ymlaen â gweithgareddau, bydd y Grŵp yn rhoi ystyriaeth i weithgareddau ehangach, gan gynnwys, yn benodol, gwaith parhaus rhaglen Lawn yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc.