Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd.

Diben

Yn yr etholiadau cynghorau cymuned a thref ("cynghorau cymuned") diweddaraf ym mis Mai 2022, roedd 62% o’r seddi’n rhai diymgeisydd ac roedd 16% o’r seddi heb eu llenwi. Roedd tua 30 o gynghorau heb gworwm yn dilyn yr etholiadau hyn. Roedd y nifer a bleidleisiodd hefyd wedi gostwng tua 5% ers 2017 i 38%. Ym mis Gorffennaf 2022, nododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn datganiad ysgrifenedig:

"Nid yw hyn yn foddhaol o bell ffordd. Mae cynghorau cymuned yn gyfle i sicrhau newidiadau cymunedol cadarnhaol ar lefel fwyaf lleol ein democratiaeth."

Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn i archwilio'r ddau fater allweddol a nodwyd yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog:

  1. Sicrhau bod gan bobl ddewis gwirioneddol o ran pwy sy'n eu cynrychioli a'u gwasanaethu.
  2. Sicrhau bod pobl yn teimlo bod cymryd rhan ar y lefel hon o ddemocratiaeth yn ffordd o sicrhau newid, ac felly eu bod yn awyddus i sefyll mewn etholiad.

Nod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw rhoi dadansoddiad i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r sector o'r materion a'r opsiynau ar gyfer camau yn y tymor byr a'r tymor hir i wella'r sefyllfa hon.

Yr amcanion

Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn yn dwyn ynghyd y cynrychiolwyr sydd ag arbenigedd o ran deall y broses ddemocrataidd, y rhwystrau i gynwysoldeb ac amrywiaeth, a rhanddeiliaid o fewn llywodraeth leol a'r trydydd sector. Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn edrych ar y rhesymau dros lefelau isel o ymgysylltiad a chyfranogiad gyda chynghorau cymuned a thref ac yn awgrymu opsiynau ar gyfer gweithredu i fynd i'r afael â'r rhain.

At ddibenion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn:

  • Ymgysylltu: mae hyn yn cyfeirio at ba mor ymwybodol yw cymunedau o'r hyn y mae eu cyngor cymuned neu dref yn ei wneud a’u rhan nhw yn ei waith. Mewn ardaloedd sydd â lefelau ymgysylltu uwch, mae hefyd yn disgrifio sut mae cynghorau cymuned a thref a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn gweithio gyda'i gilydd fel rhan o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau.
  • Cynrychiolaeth: mae hyn yn cyfeirio at y bobl sy'n gynghorydd cymuned neu dref, ac yn annog pobl i ddod yn gynghorydd.

Cwmpas

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gyfrifol am adnabod opsiynau ar gyfer camau gweithredu i gynghorau cymuned a thref, cyrff sy'n cynrychioli'r sector a'r llywodraeth i wneud y canlynol:

  • gwella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhwng cymunedau a'u cynghorau cymuned
  • cynyddu nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad ar gyfer cynghorau cymuned a thref

Yn benodol, disgwylir y bydd yn ystyried:

  • sut y gall cymunedau a'u cynghorau cymuned a thref gyfathrebu a gweithio'n agosach â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw rwystrau (neu rwystrau canfyddedig) a sut y gellir goresgyn y rhain
  • sut y gellir annog mwy o bobl i sefyll fel cynghorwyr cymuned, gan ddysgu o achosion lle mae mwy o gystadleuaeth am seddi cyngor
  • sut y gellir annog mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr/cynghorwyr posibl
  • sut y gellir monitro a gwerthuso iechyd democrataidd cynghorau cymuned a thref yn y tymor hir