Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn darparu gwybodaeth i aelodau Grwpiau Gweithredu Lleol Pysgodfeydd (FLAGs), eu Cyrff Gweinyddol a sefydliadau, busnesau ac unigolion a all fod am gymryd rhan mewn gweithgareddau neu brosiectau Datblygu dan Arweiniad y Gymuned (DDAG) sy’n cael cymorth drwy  Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014-2020 (EMFF).

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn ategu dogfen ganllaw Llywodraeth Cymru ar Strategaethau Datblygu Lleol ac yn ymdrin ag agweddau fel gweithgareddau cymwys, gwariant cymwys a sut y bydd y FLAGs yn rheoli’r trefniadau ar gyfer datblygu a chefnogi gweithgareddau yn eu hardaloedd FLAG.

Mae’r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn wedi’u darparu er gwybodaeth ac maent yn esbonio prif Reoliadau’r UE, y rheoliadau ar Gymorth Gwladwriaethol a deddfwriaeth ddomestig Gymreig ond nid yw’r Nodiadau hyn yn ddehongliad diffiniol o’r fframweithiau cyfreithiol hynny. Mae’n bwysig cofio ei bod yn bosibl y bydd newidiadau yn cael eu gwneud yn y rheolau manwl ar gymhwysedd gweithgareddau a/neu wariant yn ystod cyfnod y Rhaglen EMFF.

Yn ogystal â phrif Reoliadau’r UE ar gyfer y Rhaglen, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu ffynonellau cyfeirio da iawn sy’n cynnwys y dogfennau canlynol:

  • "Canllawiau ar gyfer datblygiad gan cymuned lleol mewn Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd", Fersiwn 3, Mehefin 2014
  • "Canllawiau ar gyfer datblygiad gan gymuned lleol yn penodol i’r actorion-lleo” Fersiwn 1, Mai 2014

Mae’r ddwy ddogfen ar gael yma: http://ec.europa.eu/regional_policy/en/information/legislation/guidance/#4

Mae gwybodaeth helaeth ar gael ar y Rhyngrwyd am FLAGs o dan Gronfa Pysgodfeydd Ewrop (EFF) yn ystod cyfnod Rhaglen 2007-2013 a gweithgareddau cyfredol y FLAGs o dan EMFF yng nghyfnod Rhaglen 2014-2020, yn cynnwys manylion helaeth am wahanol brosiectau a mentrau sydd wedi’u rhoi ar waith mewn nifer mawr o gymunedau.

Rhwydwaith Ardaloedd Pysgodfeydd Ewrop (FARNET) yw’r gymuned o bobl sy’n gweithredu DDAG o dan EMFF. Mae’r rhwydwaith hwn yn cynnwys FLAGs, Awdurdodau Rheoli, dinasyddion ac arbenigwyr ym mhob rhan o’r UE sy’n gweithio ar ddatblygu cynaliadwy mewn pysgodfeydd ac ardaloedd arfordirol – gweler y ddolen isod:https://webgate.ec.europa.eu/fpfis/cms/farnet/

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) o fewn Llywodraeth Cymru fydd yn cynnal yr archwilaid terfynol o gynigion sydd wedi’u dewis gan y FLAG, i sicrhau eu bod yn gymwys cyn rhoi cymeradwyaeth ffurfiol. Wrth weithredu’r Strategaethau DDAG, bydd cyngor a chyfarwyddyd ar gael am DDAG o dan EMFF, yn y lle cyntaf, oddi wrth y Cyrff Gweinyddol sy’n cefnogi pob FLAG. 

Mae Erthygl 32(2) o Reoliad Rhif 1303/2013 (UE) yn pennu’r prif nodweddion mewn Datblygu dan arweiniad y gymuned, gan nodi bod rhaid iddo:

  • canolbwyntio ar ardaloedd is-ranbarthol penodol
  • cael ei arwain gan grwpiau gweithredu lleol sy’n cynnwys cynrychiolwyr buddiannau economaidd-gymdeithasol lleol cyhoeddus a phreifat, lle na fydd awdurdodau cyhoeddus, yn unol â’r diffiniad ohonynt mewn rheolau cenedlaethol, nac unrhyw grŵp â buddiant unigol yn dal mwy na 49% o’r hawliau pleidleisio ar y lefel penderfynu
  • cael ei gyflawni drwy strategaethau datblygu lleol integredig amlsectoraidd sy’n seiliedig ar ardaloedd
  • cael ei gynllunio gan ystyried anghenion a photensial lleol, a bod rhaid iddo gynnwys nodweddion sy’n arloesol yn y cyd-destun lleol, rhwydweithio ac, os yw’n briodol, cydweithredu.

Mae Erthygl 34(1) o Reoliad Rhif 1303/2013 (UE) yn dweud bod rhaid i grwpiau gweithredu lleol gynllunio a gweithredu strategaethau datblygu dan arweiniad y gymuned. Mae Erthygl 34(3) yn yr un Rheoliad yn mynd ymlaen i ddweud y bydd tasgau grwpiau gweithredu lleol yn cynnwys y canlynol:

  • meithrin gallu cyfranogwyr lleol i ddatblygu a gweithredu gweithrediadau gan gynnwys rhai sy’n meithrin galluoedd rheoli eu prosiect
  • llunio gweithdrefn dewis sy’n dryloyw ac anwahaniaethol a meini prawf gwrthrychol ar gyfer dewis gweithrediadau, sy’n osgoi gwrthdaro buddiannau, sicrhau bod o leiaf 50% o’r pleidleisiau mewn penderfyniadau dewis yn cael eu bwrw gan bartneriaid heblaw awdurdodau cyhoeddus, a chaniatáu dewis drwy weithdrefn ysgrifenedig
  • sicrhau cydlyniant â’r strategaeth DDAG wrth ddewis gweithrediadau, drwy bennu blaenoriaeth y gweithrediadau hynny yn ôl eu cyfraniad at gyflawni amcanion a thargedau’r strategaeth honno
  • paratoi a chyhoeddi ceisiadau am gynigion neu weithdrefn barhaol ar gyfer cyflwyno prosiectau, gan ddiffinio meini prawf ar gyfer dewis
  • cael ceisiadau am gymorth a’u prosesu
  • dewis gweithrediadau a phennu swm y cymorth ac, os yw’n berthnasol, cyflwyno’r cynigion i’r corff sy’n gyfrifol am wirio cymhwysedd yn derfynol cyn cymeradwyo
  • monitro gweithrediad y strategaeth DDAG a’r gweithrediadau sy’n cael cymorth a chyflawni gweithgareddau gwerthuso penodol sy’n gysylltiedig â’r strategaeth honno.

Mae dogfen Rhaglen Weithredol EMFF ar gyfer y DU yn pennu mai prif gyfrifoldeb y FLAGs fydd gweithredu, rheoli, monitro a gwerthuso’r strategaeth DDAG y mae wedi’i llunio.

Prif rolau eraill y FLAG fydd:

  • Sbarduno’r ardal leol i ymgymryd â mentrau DDAG a chymryd rhan yng ngwaith y FLAG, hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd datblygu ac annog ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau am brosiectau
  • Ymgysylltu, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a mentrau eraill ar fesurau DDAG (h.y. grwpiau gweithredu lleol LEADER)
  • Ystyried, argymell a dewis prosiectau gan sicrhau cydlyniant â strategaethau DDAG
  • Pennu swm y cymorth sydd ar gael i brosiectau
  • Cynnal gweithgareddau’n uniongyrchol trwy’r Corff Gweinyddol
  • Rhwydweithio â FLAGs eraill, gan rannu gwybodaeth a’r arferion gorau.

Gall FLAG fod yn gorff sydd wedi’i sefydlu yn unol â’r gyfraith, e.e. cwmni cyfyngedig trwy warant neu gwmni â budd yn y gymuned. O dan y sefyllfa honno, gallai FLAG gael ei ddynodi’n Gorff Cyfryngol er mwyn iddo allu gwneud pethau fel penderfynu ar brosiectau, dyfarnu grantiau a thalu hawliadau grant. Gall FLAG fod yn gymdeithas anghorfforedig. Gallai FLAG o’r math hwnnw ddewis un o’i aelodau i fod yn Gorff Gweinyddol i fod yn gyfrifol am arian a chydymffurfio ar ran y FLAG. Yng Nghymru, mae pob FLAG yn gymdeithas anghorfforedig gyda Chorff Gweinyddol (gweler manylion ym mharagraff 24).

Y strategaeth datblygu lleol (SDLl) yw’r ddogfen allweddol ar gyfer pob ardal FLAG.  Bydd yn cyflwyno, mewn fformat cyson, esboniad manwl o’r ardal; dadansoddiad o’r ardal honno drwy asesiad SWOT; cyfres o nodau ac amcanion ar gyfer yr ardal a chynigion am weithgareddau neu fentrau a fyddai’n cyflawni’r nodau ac amcanion hynny.

Bydd y SDLl yn cael ei hadolygu’n flynyddol drwy gydol cyfnod y Rhaglen EMFF.  Rhaid i’r SDLl ategu a pheidio â dyblygu amcanion polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a rhaid iddi gyfrannu at gyflawni blaenoriaethau Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Bydd y SDLl ar gyfer pob FLAG yn cael ei chyflwyno gan y Corff Gweinyddol priodol i Lywodraeth Cymru ynghyd â dogfennau ategol ar faterion fel gweithgareddau arfaethedig, gwariant arfaethedig fesul blwyddyn, rhagolygon o allbynnau a chyflawniadau. Ar ôl eu cyflwyno, bydd dogfennau’r SDLl yn cael eu hasesu gan bwyllgor a rhaid iddynt gyrraedd meincnod ansawdd.

Rhaid i’r FLAG ddisgrifio’n fanwl hefyd yn ei Gylch Gorchwyl sut y bydd ei drefniadau ei hun ar gyfer llywodraethu corfforaethol yn cael eu rhoi ar waith a’u rheoli a sut y bydd y swyddogaethau gweinyddol i gynnal y FLAG yn cael eu cyflawni.

Bydd pob FLAG yn gyfrifol am hyd at bedwar pot arian a reolir ar wahân. Bydd y rhain, gyda’i gilydd, yn caniatáu i’r FLAG ei reoli ei hun, darparu ar gyfer bywiocáu a hwyluso ar draws ardal y FLAG a rhoi cymorth i ddatblygu a gweithredu gweithgareddau EMFF.

Y pedwar pot arian yw:

  • Cymorth Paratoadol
  • Costau Rhedeg
  • Bywiocáu
  • Gweithredu.

Mae disgrifiad mwy manwl o’r rhain yn yr adran “Gweithgareddau Cymwys” isod.

Bydd Bywiocáu yn cwmpasu’r prif weithgareddau ar gyfer bywiocáu, hwyluso a meithrin gallu yn ardal y FLAG er mwyn datblygu ffyrdd o droi syniadau’n brosiectau dichonol.  Darperir ar gyfer hyn yn bennaf ar ffurf costau staff, costau teithio, costau sy’n angenrheidiol i drefnu cyfarfodydd a dod â phobl at ei gilydd a, lle bo angen, costau am gyngor technegol arbenigol neu ymgynghoriaeth. Mae’n bosibl y bydd rhai o’r ceisiadau sy’n cael eu pennu gan gymunedau o ganlyniad i hyn a’u datblygu wedyn yn cael eu paratoi i’w cyflwyno i’w hystyried o dan gronfeydd eraill ar wahân i EMFF.

Y pot arian ar gyfer Gweithredu yw’r pwysicaf ar gyfer datblygu a chyflawni mentrau penodol â ffocws a fydd yn cwrdd ag amcanion y SDLl. Gallai gweithgareddau gael eu cyflawni gan amrywiaeth o bartneriaid prosiect, sefydliadau allanol, grwpiau o bobl o fewn cymunedau (ar sail ddaearyddol neu thematig) neu gallent gael eu cyflawni gan y Corff Gweinyddol ar ran y FLAG ei hun. Darllener yr adran am bwy sy’n cael ymgeisio am ragor o fanylion.

Y gyllideb sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau DDAG y FLAGs yng Nghymru yw €1.92 miliwn (ynghyd â Chronfa Berfformiad o 6% a fydd yn cael ei rhyddhau os cyrhaeddir y targedau perfformiad a bennwyd ar gyfer y Rhaglen EMFF). Bydd angen i’r FLAGs ddangos eu bod wedi ystyried y cyfyngiad cyllidebol hwn wrth lunio eu SDLl.

Bydd y dyraniadau dangosol i’r FLAGs yn cael eu seilio ar y dechrau ar gyfran gyfartal o’r gyllideb sydd wedi’i neilltuo ar gyfer DDAG, heb gynnwys y Gronfa Berfformiad.

Gellir cynnwys costau rhedeg a chostau bywiocáu sydd gyda’i gilydd yn dod i hyd at 25% o gyfanswm y gwariant cyhoeddus sy’n cael ei ysgwyddo mewn SDLl. Gofynnir i’r FLAGs ddangos bod ganddynt gapasiti gweinyddol priodol i ddarparu ar gyfer cyflawni eu SDLl, gan gadw costau rheoli a gweinyddu mor isel â phosibl er mwyn sicrhau’r gwariant mwyaf posibl ar weithgareddau.

Fel canllaw, caniatawyd defnyddio hyd at 10% o’r dyraniad dangosol ar gyfer costau rhedeg y Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER o dan y Cynllun Datblygu Gwledig. Y disgwyliad gan Lywodraeth Cymru yw y bydd y FLAGs yn rhannu gwariant mewn ffordd debyg, oni bai fod dadl gryf dros weithredu fel arall oherwydd cyfyngiadau cyllidebol.

Bydd unrhyw ddyraniad ariannol a ddyfernir i’r FLAGs yn cynnwys yr holl arian yng nghyllideb EMFF ar gyfer DDAG (heblaw’r Gronfa Berfformiad) a bydd yn cael ei ddarparu ar gyfer holl gyfnod y rhaglen EMFF ar yr amod bod y SDLl yn cael ei chyflawni’n foddhaol.

Manylion cyswllt ar gyfer Cyrff Gweinyddol y Grwpiau Gweithredu Lleol Pysgodfeydd

Y Gogledd: Dafydd Gruffydd
Sir Benfro: Jonathon Haswell
Bae Abertawe: Ben Smith
Ceredigion: Russell Hughes-Pickering

Manylion cyswllt Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Llywodraeth Cymru

Taliadau Gwledig Cymru
PO Box 251
Caernarfon
LL55 9DA

Neu ewch i RPW Ar-lein am ragor o fanylion

Amcanion strategol a thematig

Mae’n ofynnol bod pob prosiect sy’n cael cymorth drwy’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, yn cynnwys EMFF, yn cyfrannu at gyflawni un neu ragor o amcanion polisi strategol neu amcanion thematig ac mae hyn yn cynnwys egwyddorion llorweddol ar lefel y rhaglen, sef y Themâu Trawsbynciol. Gall prosiectau gyfrannu at gyflawni nifer o amcanion o’r fath a rhaid iddynt adrodd ar eu cynnydd ar gyflawni’r rhain wrth gyflwyno pob hawliad am grant.

Mae Erthygl 59 o Reoliad Rhif 508/2014 (UE) yn egluro y bydd gweithgareddau DDAG o dan EMFF yn cyfrannu at gyflawni’r amcan penodol o dan flaenoriaeth yr Undeb a nodwyd yn Erthygl 6(4) yn yr un Rheoliad:

“Cynyddu cyflogaeth a chydlyniant tiriogaethol drwy geisio cyflawni’r amcan penodol canlynol: hyrwyddo twf economaidd, cynhwysiant cymdeithasol a chreu swyddi, a darparu cymorth ar gyfer cyflogadwyedd a symudedd llafur mewn cymunedau arfordirol a mewndirol sy’n dibynnu ar bysgota a dyframaethu, yn cynnwys arallgyfeirio gweithgareddau o fewn pysgodfeydd ac i sectorau eraill yn yr economi forol.”

Rhaid i weithgareddau o dan Strategaethau DDAG EMFF roi sylw i o leiaf un o’r amcanion canlynol sydd wedi’u nodi yn Erthygl 63 o Reoliad Rhif 508/2014 (UE):

  • ychwanegu gwerth, creu swyddi, denu pobl ifanc a hyrwyddo arloesi ar bob cam yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu
  • cefnogi arallgyfeirio y tu mewn neu’r tu allan i bysgodfeydd masnachol, dysgu gydol oes a chreu swyddi mewn ardaloedd pysgodfeydd a dyframaethu
  •  gwella ac elwa o’r asedau amgylcheddol mewn ardaloedd pysgodfeydd a dyframaethu, yn cynnwys gweithrediadau i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd
  • hyrwyddo llesiant cymdeithasol a threftadaeth ddiwylliannol mewn ardaloedd pysgodfeydd a dyframaethu, yn cynnwys treftadaeth ddiwylliannol pysgodfeydd, dyframaethu a morol
  • cryfhau’r rhan y mae cymunedau pysgodfeydd yn ei chwarae mewn datblygu lleol a llywodraethu adnoddau pysgodfeydd lleol a gweithgareddau morol.

Nodwch y gallai’r cymorth y cyfeirir ato uchod gynnwys mesurau Cyfalaf a Refeniw y darperir ar eu cyfer ym Mhenodau I, II a IV o Deitl V o brif rheoliad 508/2014 yr EMFF, ac eithrio Erthyglau 66 a 67, cyn belled â bod rhesymeg glir dros eu rheoli’n lleol.

Am fanylion llawn y mesurau yng Nghymru, gweler y dolenni i nodiadau cyfarwyddyd gwahanol isod. Rhaid i geisiadau gan FLAG i unrhyw rai o’r mesurau hyn gydymffurfio â’r gofynion manwl a’r cyfraddau grant a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd sy’n benodol i’r mesur.

Mae dogfen Rhaglen Weithredol y DU ar gyfer EMFF yn nodi y bydd pob FLAG yn pennu’r camau gweithredu penodol sydd i’w cynnwys yn y SDLl ar gyfer ei ardal, ond bod disgwyl y bydd y camau gweithredu’n cynnwys y rheini sy’n caniatáu i unigolion, cymunedau a busnesau:

  • Addasu i, a manteisio ar, y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin diwygiedig a’r effaith gysylltiedig ar gymunedau arfordirol a mewndirol
  • Sicrhau twf cynaliadwy mewn busnesau bach a chanolig lleol, yn enwedig i gefnogi mentrau ar fwyd o’r môr, yn cynnwys meithrin arloesedd yn y gadwyn gyflenwi bwyd o’r môr, ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion
  • Arallgyfeirio o fewn ac oddi allan i weithgareddau pysgodfeydd y glannau a’r môr, er enghraifft, i weithgareddau twristiaeth (yn cynnwys eco-dwristiaeth)
  • Gwella ac elwa o’r asedau amgylcheddol mewn ardaloedd pysgodfeydd, yn cynnwys gweithrediadau i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd
  • Hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol pysgodfeydd, dyframaethu a buddiannau morol
  • Cryfhau’r rhan y mae cymunedau lleol yn ei chwarae mewn cyfleoedd datblygu, rheoli a llywodraethu adnoddau pysgodfeydd lleol a gweithgareddau morol
  • Mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag amddifadedd cymdeithasol mewn cymunedau pysgota
  • Rhoi sylw i’r angen am hyfforddi ac ailsgilio
  • Manteisio ar ddiddordeb cynyddol y cyhoedd mewn bwyd ffres lleol o’r môr a’u galw amdano
  • Creu cyfleoedd i bobl ifanc sy’n dymuno dod i mewn i’r diwydiant gan roi sylw i’r ffordd y gall newydd-ddyfodiaid gael cyfleoedd pysgota
  • Datblygu sgiliau a nodi cyfleoedd ar gyfer ailsgilio (yn cynnwys prentisiaethau modern) i gwrdd ag anghenion y farchnad gan elwa o sgiliau trosglwyddadwy a chynnal sgiliau traddodiadol
  • Manteisio i’r eithaf ar gadwyn gyflenwi ddibynadwy
  • Datblygu cyfleoedd sydd ar gael yn yr economi Twf Glas (e.e. arallgyfeirio i weithgareddau nad ydynt yn ymwneud â bwyd fel ynni adnewyddadwy ar y môr).

Rhaid i weithgareddau DDAG roi sylw i un neu ragor o’r nodau ac amcanion yn SDLl y FLAG.

At hyn, rhaid i brosiectau roi sylw i un neu ragor o’r Themâu Trawsbynciol lle bo’n briodol yng nghyd-destun y gweithgareddau arfaethedig a’r allbynnau neu ganlyniadau disgwyliedig. Y Themâu Trawsbynciol yw:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng dynion a menywod a pheidio â gwahaniaethu
  • Datblygu Cynaliadwy
  • Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol.

Gweithgareddau cymwys

Ni ellir rhoi rhestr ddiffiniol o weithgareddau sydd neu a all fod yn gymwys o dan DDAG gan fod cwmpas posibl y gweithgareddau yn eang iawn. Mae hyn yn fwriadol er mwyn rhoi cyfle i’r FLAGs ddyfeisio a datblygu gweithgareddau, mentrau a phrosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn eu SDLl a pheidio â chael eu cyfyngu’n ormodol gan feini prawf ar gymhwysedd. Mae rhai mathau o weithgarwch na fyddent yn cael cymorth o dan DDAG (gweler yr adran nesaf) ond os gellir dangos yn glir bod y gweithgarwch yn cyfrannu at gyflawni amcanion EMFF a nodau’r SDLl, yna bydd yn cael ei dybio’n gymwys. Gellir gofyn am gyngor gan yr RPW os oes ansicrwydd ynghylch achos penodol.

Er nad oes rhestr ddiffiniol o weithgareddau cymwys, gellir gweld nifer o enghreifftiau o’r mathau o weithgarwch sy’n debygol o gael eu cyflawni drwy DDAG drwy edrych ar brofiadau’r FLAGs yn y rhaglen EFF bresennol a mentrau blaenorol gan FLAGs.

Mae’r gweithrediadau canlynol yn gymwys i gael cymorth o dan yr Adran hon yn unol ag Erthygl 35 o Reoliad Rhif 1303/2013 (UE):

  • Cymorth paratoadol
  • Gweithredu strategaethau datblygu dan arweiniad y gymuned
  • Costau rhedeg
  • Bywiocáu.

Mae esboniadau pellach o’r rhain isod.

Cymorth Paratoadol

Bydd gweithgarwch Cymorth Paratoadol yn cynnwys meithrin gallu a hyfforddi a rhwydweithio er mwyn paratoi a gweithredu SDLl.

Costau Rhedeg

Bydd Costau Rhedeg yn cwmpasu gweithgareddau’r prif strwythurau rheoli yng Nghorff Gweinyddol y FLAG ynghyd â chostau sylfaenol fel costau adeiladau ar gyfer swyddfeydd, cysylltiadau TGCh a’r defnydd ohonynt, staff craidd a’u costau teithio ac unrhyw wariant allweddol arall sydd ei angen er mwyn rhedeg y FLAG yn effeithiol.

Bywiocáu

Bywiocáu – un o brif fanteision DDAG yw bod y FLAG yn gallu mynd allan i’r gymuned ac annog a helpu unigolion a grwpiau i gyflwyno prosiectau sy’n cyfrannu i’r strategaeth. Yr enw arferol ar weithgarwch o’r fath sy’n ymestyn i’r gymuned yw “bywiocáu”: gweithgarwch sy’n helpu i ddod â grwpiau o bobl at ei gilydd mewn lleoliadau penodol neu bobl sydd â chysylltiadau eraill yn gyffredin, fel mathau penodol o fusnesau, a’u helpu i ddiffinio eu problemau eu hunain a dyfeisio atebion ymarferol.

Mae bywiocáu yn gallu cwmpasu:

  • Ymgyrchoedd gwybodaeth: drwy ddigwyddiadau a chyfarfodydd, taflenni, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, a’r wasg
  • Cyfnewid gwybodaeth â rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a hyrwyddwyr prosiectau posibl er mwyn creu syniadau a meithrin hyder ac ymddiriedaeth
  • Cynorthwyo sefydliadau cymunedol a chreu neu gryfhau strwythurau cymunedol
  • Hyrwyddo a darparu cymorth i baratoi prosiectau a cheisiadau
  • Cynorthwyo prosiectau wedi iddynt ddechrau.

Gweithredu

Gweithredu a chyflawni SDLl (yn cynnwys cyflawni prosiectau) – mae hyn yn cynnwys costau refeniw ar gyfer pobl a fydd naill ai’n rheoli ac yn cyflawni prosiectau’n uniongyrchol a/neu’n darparu cymorth i sefydliadau ac unigolion er mwyn cyflawni gweithgareddau na fyddent yn digwydd fel arall. 

Yn ogystal, mae mesurau Buddsoddi Cyfalaf yn gymwys, os gwelir eu bod yn cyflawni amcanion yr SDLl ac yn cyfrannu at yr amcanion strategol a thematig a ddisgrifir uchod.

Mewn rhai achosion, ni fydd digon o adnoddau gan sefydliad i dalu am nwyddau neu wasanaethau ar y pryd felly byddai rhywun arall, sef y Corff Gweinyddol sy’n cefnogi’r FLAG fel arfer, yn gallu trefnu i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau ar ei ran. Gall hyn gynnwys darparu eitemau bach o gyfarpar, ond bydd y rheini’n aros gyda’r Corff Gweinyddol ar ddiwedd y gweithgarwch, a/neu gostau cyfalaf bach eraill y mae angen eu talu er mwyn caniatáu i’r prosiect fynd yn eu blaenau.

Mentora – costau refeniw yn bennaf ar gyfer pobl sy’n gallu darparu mathau penodol o gymorth i sefydliadau a grwpiau i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u harbenigedd eu hunain.  Dull gwahanol o hyfforddi yw hwn.

Hyfforddi – costau refeniw yn bennaf, er ei fod hefyd yn gallu cwmpasu eitemau bach o gyfarpar, ar gyfer datblygu a darparu cyrsiau mwy ffurfiol i grwpiau o bobl. Gellir gwneud hyn mewn lleoliad ffurfiol fel ystafell ddosbarth neu ddarlithfa ond nid yw hyn yn anhepgor. Byddai’r pynciau i’w trafod a’r canlyniad arfaethedig yn cael eu pennu drwy asesiad sgiliau o ryw fath cyn darparu’r cwrs.

Astudiaethau Dichonoldeb – costau refeniw ar gyfer amser staff a chostau ymgynghoriaeth er mwyn ymchwilio i gyd-destun problem neu fater penodol a llunio arfarniad ysgrifenedig cynhwysfawr o’r materion, y gwahanol atebion, y costau ariannol, dadansoddiad manwl o risgiau ac argymhellion ar gyfer y camau nesaf, yn cynnwys ffynonellau ariannu. Nid yw astudiaeth ddichonoldeb yn cael dod i’r casgliad bod angen cynnal astudiaeth bellach.

Ar ôl ei chwblhau, rhaid i astudiaeth ddichonoldeb ddangos y canlynol o leiaf:

  • Disgrifiad manwl o’r mater y bydd angen delio ag ef drwy unrhyw gynnig a wneir wedyn, gan gyfeirio’n benodol at y rhanddeiliaid gwirioneddol neu ddichonol a’u hanghenion. Rhaid iddi hefyd ddisgrifio sefyllfa bresennol yr ymgeisydd mewn perthynas â’r mater a’r hyn y mae disgwyl iddo ei wneud ar ddiwedd y prosiect
  • Manylion y camau gweithredu sydd i’w cymryd o dan y cynnig, yn cynnwys yr holl eitemau y gofynnir am grant ar eu cyfer
  • Pam y mae angen cymryd y camau yn y busnes, sefydliad neu sector dan sylw
  • Esboniad o fanteision y cynnig, yn enwedig yn y tymor hir
  • Yn achos busnes neu sefydliad newydd arfaethedig, pam na ellir defnyddio’r strwythurau presennol
  • Amcanestyniad o’r llif arian parod dros dair blynedd ar gyfer y cynnig, yn dangos sut y caiff ei weithredu a’i ariannu
  • Blaengynllun busnes tair blynedd ar gyfer y cynnig
  • Argymhelliad clir ynghylch hyfywedd tebygol y prosiect.

Prosiectau Peilot – gweithgareddau ar raddfa fach dros gyfnod penodol i roi prawf ar gysyniad neu roi cynnig ar dechneg arloesol i weld a ellir troi syniad yn brosiect ymarferol ar raddfa lawn. Rhaid trefnu i’r holl wybodaeth a gafwyd o brosiect peilot fod ar gael yn rhwydd fel bod eraill y tu allan i’r sefydliad neu FLAG ei hun yn gallu gweld beth sydd wedi’i wneud a sut mae’n gweithio. Gwariant refeniw yn unig a ganiateir ar gyfer y prosiect: gweler paragraff 42 isod am gymhwysedd eitemau bach, fel cyfarpar cyfrifiadurol, sy’n costio llai na £10,000.

Costau teithio a chynhaliaeth – mae costau refeniw yn gymwys ar gyfer pobl fel swyddogion prosiect, staff eraill, ymgynghorwyr a phobl eraill sy’n cymryd rhan yn y prosiect. Dylid defnyddio’r dull o deithio sy’n fwyaf rhesymol yn ôl yr angen a gall hyn gynnwys ceir a gaiff eu hurio am ddiwrnod, costau y filltir, tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus, tocynnau cwmni hedfan ac unrhyw gostau tebyg eraill, a chostau rhesymol am lety dros nos a phrydau bwyd lle mae cyfiawnhad am hynny.

Gwerthuso – un o’r canlyniadau allweddol o’r prosiectau a gweithgareddau a gyflawnir drwy DDAG yw dysgu gwersi a chofnodi profiadau o brosiectau a gweithgareddau a gyflawnwyd er mwyn helpu i lunio rhaglenni a phrosiectau yn y dyfodol. Gellir talu’r costau am werthuso prosiectau a gweithrediadau’r FLAG a’i Gorff Gweinyddol gan sefydliad allanol annibynnol o arian EMFF.

I ddibenion DDAG, y diffiniad o wariant cyfalaf yw unrhyw eitem unigol ac iddi werth o fwy na £10,000 a/neu oes ddefnyddiol o fwy nag un flwyddyn, ac nid yw’n gymwys. Yn achos eitemau bach, cyfarpar cyfrifiadurol er enghraifft, sy’n costio llai na’r uchafswm hwn ac sy’n gallu bod yn ddefnyddiol ar ôl un flwyddyn, ni fyddai’r rhain yn cael eu hystyried yn gyfalaf gan na fyddai angen cofnodi eitemau o’r fath ar gofrestr asedau cyfalaf ac na fyddai tâl dibrisiant blynyddol ar eu cyfer.

Gweithgareddau anghymwys

Ni ellir defnyddio arian o’r mesurau DDAG i ddarparu cymorth neu fath arall o gynhorthwy a fyddai’n gyfystyr â Chymorth Gwladwriaethol mewn perthynas â busnes, menter neu ‘weithredwr economaidd’ sy’n cael cymorth o’r fath. Mae hyn yn golygu nad yw’r FLAG yn gallu darparu unrhyw fath o gymorth a fyddai’n lleihau costau rhedeg gweithredol y busnes, menter neu ‘weithredwr economaidd’ fel: sybsideiddio cyflogau staff neu roi cymorth ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol tuag at rent, ardrethi, costau ynni, hyrwyddo, cyhoeddusrwydd, hysbysebu a/neu unrhyw gostau rhedeg neu orbenion eraill.

O dan ddarpariaethau Rheoliad Rhif 508/2014 (UE), mae’r gweithgareddau canlynol yn anghymwys ar gyfer arian EMFF:

  • Cynyddu capasiti dal pysgod cwch pysgota neu ariannu cyfarpar sy’n cynyddu gallu cwch pysgota i ddal pysgod
  • Adeiladu cychod pysgota newydd neu fewnforio cychod pysgota
  • Rhoi’r gorau i weithgareddau pysgota dros dro neu’n barhaol, oni bai fod Rheoliad 508/2014 yn darparu ar gyfer hynny fel arall
  • Pysgota ymchwiliol
  • Trosglwyddo perchenogaeth busnes
  • Ailstocio uniongyrchol, oni bai fod deddfiad gan yr Undeb yn darparu’n benodol ar gyfer hyn fel mesur cadwraeth neu yn achos ailstocio arbrofol.

Ni ellir defnyddio’r mesurau DDAG i ddarparu grantiau cyfalaf neu refeniw neu fathau eraill o gymorth uniongyrchol neu anuniongyrchol i fusnesau masnachol. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill: grantiau cyfalaf ar gyfer adeiladau a chyfarpar, unrhyw fath o gymorth i gychwyn busnes, bwrsariaethau busnes, cynorthwyo busnes drwy ddarparu nwyddau neu wasanaethau â chymhorthdal (er enghraifft, rhoi peiriannau a/neu gyfarpar ar fenthyg). Yn ogystal â hyn, nid yw’r canlynol yn gymwys: cymorth ariannol uniongyrchol, benthyciadau, cymorth ariannol i ddatblygu cynnyrch newydd neu ddulliau eraill o ddarparu cymorth ariannol anuniongyrchol i fusnes, fel marchnata ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo neu gyhoeddusrwydd heb godi tâl neu ar gyfradd is.

Costau cymwys

Ni ellir diffinio gwariant sy’n gymwys o dan DDAG.  Mae rhai costau penodol nad ydynt yn gymwys wedi’u rhestru yn yr adran isod.

Mewn egwyddor, os yw’r gwariant yn angenrheidiol i helpu i gyflawni gweithgarwch neu brosiect a fydd yn cyfrannu at gyflawni amcanion y SDLl, yna bydd yn cael ei dybio’n gymwys. Mae cyfarwyddyd pellach isod sy’n ymwneud yn benodol â chymorth paratoadol, costau rhedeg a bywiocáu.

Cymorth Paratoadol

Mae darpar FLAGs sydd wedi cael cymeradwyaeth i’w Datganiad o Ddiddordeb (EOI) gan Lywodraeth Cymru yn gallu ysgwyddo costau rhagarweiniol cymwys ar eu menter eu hunain o 1 Gorffennaf 2016, sef y dyddiad yr anfonwyd y llythyrau cymeradwyo EOI, hyd 16 Medi 2016 (y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno SDLl i’r Uned Rheoli Cynlluniau).

Gellir hawlio am gostau cymwys wedi i’r llythyrau canlyniad ar gyfer proses y SDLl gael eu hanfon ond rhaid cynnwys y costau hynny yn y gyllideb DDAG gyfan a gymeradwyir ar gyfer y FLAG hwnnw. Mewn achosion lle nad yw SDLl wedi cael ei chymeradwyo, gellir hawlio’r costau cymwys os cafwyd cymeradwyaeth i’r EOI.

Er mwyn gwneud cais, rhowch y manylion yn Adran 5 – Gwerth am Arian o dempled y SDLl. Os bydd darpar FLAG yn ysgwyddo costau paratoadol, bydd yn gwneud hynny ar ei fenter ei hun. Ni fydd costau paratoadol yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad o’r ganran ar gyfer Costau Rhedeg.

Y grant mwyaf sydd ar gael am bob cais am gostau paratoadol yw £10,000. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y FLAG yn cofio y bydd unrhyw grant a ddyfernir am gostau paratoadol yn dod o’r gyllideb gyfan ar gyfer DDAG sydd wedi’i chymeradwyo ar gyfer y FLAG hwnnw. Nid ydym yn disgwyl y bydd pob cais yn gofyn am y swm llawn a rhaid darparu sail resymegol glir ar gyfer lefel yr arian grant y gofynnir amdano.

Yn yr un modd â’r Grwpiau Gweithredu Lleol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig, bydd Costau Paratoadol yn cael eu seilio ar gostau gwirioneddol ac ni ddefnyddir methodoleg Costau Syml.

Rhai enghreifftiau o gostau cymwys, sef rhai sydd wedi’u hysgwyddo er mwyn paratoi a gweithredu SDLl, yw:

  • Costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu’r SDLl, yn cynnwys costau ymgynghoriaeth a chostau am gamau gweithredu sy’n ymwneud ag ymgynghori â rhanddeiliaid wrth baratoi’r strategaeth
  • Costau gweinyddol (costau gweithredu a phersonél) sefydliad sy’n gwneud cais am gymorth paratoadol yn ystod y cyfnod paratoi
  • Llogi ystafelloedd ar gyfer
    cyfarfodydd rhanddeiliaid
    hyfforddi aelodau newydd o’r FLAG
  • Gweithgarwch ymchwilio/gwerthuso
  • Astudiaethau o’r ardal dan sylw
  • Gweithgarwch hyfforddi ar gyfer aelodau’r darpar FLAG / rhanddeiliaid lleol.

Costau rhedeg

Mae costau rhedeg yn gysylltiedig â rheoli’r broses o weithredu’r strategaeth DDAG. Y rhain yw:

  • Costau staff
  • Costau gweithredu
  • Costau hyfforddi (ar gyfer staff y FLAG ac aelodau’r FLAG)
  • Costau teithio a chynhaliaeth
  • Costau cysylltiedig â chyhoeddusrwydd a hyrwyddo
  • Costau ariannol (archwilio a chyfrifyddu)
  • Costau cysylltiedig â monitro a gwerthuso’r strategaeth sydd wedi’u nodi ym mhwynt (g) yn Erthygl 34(3).

Rhaid defnyddio methodoleg costau syml ar gyfer yr holl gostau rhedeg.

Bywiocáu

Costau refeniw ar gyfer pobl a fydd yn hyrwyddo cyfleoedd DDAG mewn ardal benodol. Bydd hyn hefyd yn gallu cynnwys costau refeniw ar gyfer pobl sy’n cynorthwyo eraill, fel busnesau, sefydliadau, clybiau, cymdeithasau ac unigolion, i ddyfeisio syniadau a’u troi’n brosiectau ymarferol.

Mae hyn yn debygol o gynnwys costau ategol eraill fel llogi ystafelloedd, costau teithio, te a choffi, rhai mathau o waith ymgynghoriaeth allanol, adroddiadau technegol, ysgrifennu cynlluniau busnes, paratoi ffurflenni cais ar gyfer prosiectau, chwilio am gymorth ariannol ac yn y blaen. 

Rhaid defnyddio methodoleg costau syml ar gyfer yr holl gostau bywiocáu.

Costau anghymwys

Mae’r eitemau a mathau gwariant canlynol yn anghymwys o dan DDAG:

  • Unrhyw gostau y gallech eu hadennill yn llawn neu’n rhannol drwy wneud cais o dan bolisi yswiriant neu drwy geisio digollediad neu iawndal
  • Prynu stoc masnachu
  • Cyfalaf gweithio
  • Prynu tir
  • Prynu adeiladau
  • Prynu ceir, faniau, beiciau modur, beiciau neu unrhyw fath arall o gludiant personol (at ba ddiben bynnag)
  • Prynu cerbydau ar gyfer cludo allanol (fel lorïau, bysiau, faniau, bysiau mini neu unrhyw fath arall o gerbyd a ddefnyddir i gludo nwyddau neu bobl)
  • Adeiladu cychod pysgota newydd neu fewnforio cychod pysgota
  • Unrhyw waith ffisegol ar safle neu wariant arall a gaiff ei ysgwyddo cyn dyddiad dechrau’r prosiect heb gael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan roddwr y grant
  • Gwaith dros dro nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect
  • Costau cynnal a chadw ar gyfer adeiladau, peiriannau neu gyfarpar presennol
  • Cyfnewid peiriannau neu gyfarpar am rai newydd o’r un math
  • Costau sy’n gysylltiedig â chontract lesio fel elw’r lesydd, costau cyllido llog, gorbenion a thaliadau yswiriant
  • Prynu rhywbeth i gymryd lle rhywbeth tebyg
  • Costau trefnu cyfleusterau gorddrafft, benthyciadau, TAW a threthi eraill y gall y buddiolwr eu hadennill, costau gweinyddol a staff neu daliadau i ddigolledu trydydd partïon am ddifeddu, etc.
  • Gorbenion sydd wedi’u dyrannu neu eu dosrannu ar gyfraddau uwch o lawer na’r cyfraddau ar gyfer costau tebyg sydd wedi’u hysgwyddo gan fecanweithiau cyflawni tebyg
  • Gwariant tybiannol
  • Taliadau ar gyfer gweithgarwch o natur grefyddol a/neu wleidyddol
  • Dibrisiant, amorteiddiad a lleihad yng ngwerth asedau a brynwyd gyda chymorth grant Ewropeaidd
  • Darpariaethau
  • Rhwymedigaethau digwyddiadol
  • Hapddigwyddiadau
  • Difidendau i gyfranddalwyr
  • Taliadau llog (ac eithrio o dan gynllun Cymorth Gwladwriaethol a gymeradwyir)
  • Taliadau gwasanaeth sy’n deillio o lesoedd cyllid, hurbwrcasu a threfniadau credyd
  • Costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
  • Costau sy’n ymwneud â dirwyn cwmni masnachol i ben
  • Taliadau ar gyfer pensiynau sydd heb eu hariannu
  • Digolledu am golli swydd
  • Drwgddyledion sy’n deillio o fenthyciadau i gyflogeion, perchenogion, cyfarwyddwyr, partneriaid, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
  • Taliadau am anrhegion a rhoddion
  • Adloniant personol (yn cynnwys alcohol)
  • Dirwyon a chosbau statudol
  • Dirwyon ac iawndal troseddol
  • Treuliau cyfreithiol yn ymwneud â chyfreitha
  • TAW y gellir ei hadennill.

Gellir gofyn am gyngor gan RPW os oes ansicrwydd ynghylch achos penodol.

Cyfarwyddyd ychwanegol ar gostau refeniw

Costau Cyflogau Staff

Mae costau cyflogau staff ar gyfer pobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â bywiocáu, gweithredu a/neu gyflawni’r SDLl / prosiectau, ar sail amser llawn neu ran-amser, yn gymwys. Gall costau staff gwmpasu cyflog gros a chyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr a gallant gynnwys costau pensiwn y cyflogwr os oes cynllun pensiwn sefydledig sy’n gymwys i’r holl staff.

Mae costau rhesymol sy’n deillio o’r contract cyflogaeth, yn cynnwys codiadau disgwyliedig mewn gradd neu raddfa cyflog, yn gymwys.

Rhaid cyfrifo costau staff ar gyfer pobl sy’n gweithio ar fwy nag un prosiect drwy ddull dosrannu priodol.

Mae costau ar gyfer recriwtio staff, yn cynnwys hysbysebu, yn gymwys.

Gall gwariant ar adleoli fod yn gymwys mewn amgylchiadau eithriadol, ond rhaid i’r FLAG gael cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan RPW cyn gwneud cytundeb â darpar gyflogai.

Tâl Absenoldeb oherwydd Salwch a Thâl Mamolaeth/Tadolaeth

Gall tâl absenoldeb oherwydd salwch a thâl mamolaeth/tadolaeth fod yn gymwys os yw’n unol â pholisi staff y sefydliad neu wedi’i gynnwys yng nghontract cyflogaeth yr unigolyn. Mae tâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol y gellir ei adennill oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn anghymwys, hyd yn oed os nad yw’r FLAG wedi’i adennill. Dylid gosod y swm yn erbyn swm y costau Adnoddau Dynol y gofynnir amdano.

Mae costau sy’n gysylltiedig â darparu staff dros dro yn lle staff sydd ar absenoldeb hirdymor oherwydd salwch neu famolaeth yn ystod y cyfnod gweithredu yn gallu cael eu hystyried yn gostau prosiect cymwys. Fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw arian EMFF ychwanegol ar gyfer hyn. Bydd RPW yn ystyried y costau hyn ym mhob achos ar wahân.

Costau Diswyddo

Gellir penderfynu bod gwariant ar ddiswyddo yn gymwys mewn achosion penodol os bydd yr holl feini prawf canlynol wedi’u bodloni:

  • mae’r staff wedi cael eu cyflogi ar gyfer prosiect ac mae’r costau cyflog wedi cael eu hariannu ar y cyd drwy’r prosiect ac mae eu swyddi’n cael eu dileu
  • mae gofyniad statudol i dalu costau diswyddo o dan gyfraith Cyflogaeth y DU
  • mae’r taliadau diswyddo yn unol â darpariaethau a throthwyon statudol.

Mae taliadau ychwanegol neu arbennig sy’n rhan o becyn diswyddo, ond sydd wedi’u rhoi yn ôl disgresiwn y cyflogwr ac yn fwy na’r gofynion statudol, yn anghymwys.

Mae taliadau ar gyfer diswyddo gwirfoddol lle nad yw’r swydd yn cael ei dileu a lle bydd yn cael ei llenwi wedyn yn anghymwys.

Rhaid cyfrifo gwariant cymwys ar gostau diswyddo ar sail pro rata mewn perthynas â’r cyfnod cyflogi ar y prosiect a’r oriau yn y contract cyflogaeth.

Yn achos staff sydd wedi’u secondio i brosiect sy’n cael ei ariannu gan yr UE h.y. nid staff prosiect newydd, rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi ar y prosiect am o leiaf 2 flynedd i fod yn gymwys. Yn aml, fodd bynnag, bydd Telerau ac Amodau y sefydliad sy’n noddi’r prosiect yn gymwys mewn achos o ddiswyddo a gall y rhwymedigaethau contractiol fod yn drech na’r darpariaethau yn yr adran hon.

Lle mae swyddi’n cael eu dileu, bydd hawl gan bob cyflogai i gael cyfnod rhybudd statudol fel a ganlyn:

  • O leiaf 1 wythnos o rybudd os yw wedi’i gyflogi rhwng 1 mis a 2 flynedd
  • 1 wythnos o rybudd am bob blwyddyn os yw wedi’i gyflogi rhwng 2 a 12 mlynedd
  • 12 wythnos o rybudd os yw wedi’i gyflogi am 12 mlynedd neu ragor.

Mewn rhai achosion bydd y cyflogwr a’r cyflogai’n hepgor y cyfnod rhybudd a rhoddir tâl yn lle rhybudd. Mae tâl yn lle rhybudd yn cael ei ystyried yn dâl diswyddo anstatudol a gellir ei dalu i gyflogai dim ond:

  • Os yw’n rhan o bolisi safonol y sefydliad cyflogi ar adnoddau dynol / staff
  • Os yw pob contract cyflogaeth yn cynnwys cymal ‘tâl yn lle rhybudd’.

Mae’n bwysig bod y sefydliad cyflogi yn cofio mai dim ond costau sydd o dan drothwyon statudol y DU fydd yn gymwys ar gyfer y prosiect. Bydd unrhyw daliadau neu gyfnodau rhybudd sy’n uwch na’r terfynau statudol yn anghymwys a’r sefydliad cyflogi fydd yn talu amdanynt.

Costau Teithio a Chynhaliaeth

Dim ond costau teithio a chynhaliaeth sy’n ymwneud â chyflawni’r prosiect ac sy’n gyson â chanllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gostau teithio busnes cyflogeion fydd yn gymwys.

Rhaid i lwfansau dyddiol, costau llety a chostau eraill ar gyfer cynhaliaeth fod yn unol â pholisi safonol y sefydliad cyflogi ar gynhaliaeth. Fodd bynnag, mae costau cysylltiedig ar gyfer eitemau fel diodydd alcoholaidd yn anghymwys.

Costau Hyfforddi Staff

Mae costau ar gyfer hyfforddi staff sy’n ymwneud â dysgu gwybodaeth arbenigol i’w galluogi i gyflawni gweithgareddau a/neu brosiectau arfaethedig yn gymwys.

Taliadau i staff - eraill

Bydd y canlynol yn gymwys os ydynt yn drethadwy:

  • Taliadau am ofal plant neu creche.

Bydd y canlynol yn gymwys os ydynt wedi’u cynnwys yn y wybodaeth recriwtio ac yng nghontract cyflogaeth y cyflogai ar ddechrau cyfnod y contract:

  • Taliadau bonws terfynol nad ydynt yn gysylltiedig â pherfformiad sy’n gyfwerth â hyd at dri mis o’r cyflog gros.

Mae’r canlynol anghymwys:

  • Taliadau bonws di-dreth a lwfansau eraill
  • Taliadau croeso
  • Taliadau eithriadol i gyflogeion sy’n derbyn cynnig o swydd
  • Darpariaeth eithriadol o hawliau pensiwn
  • Taliadau bonws sy’n gysylltiedig â pherfformiad
  • Benthyciadau
  • Ceir cwmni
  • Cynlluniau gofal iechyd personol
  • Unrhyw daliadau neu gymhellion eraill i gyflogeion sydd o natur eithriadol a heb eu hegluro yn y wybodaeth recriwtio a/neu yng nghontract cyflogaeth y cyflogai.

Ffioedd Proffesiynol / Ymgynghoriaeth a Thaliadau Is-gontractwyr

Mae gwariant ar waith a gyflawnwyd gan ymgynghorydd neu is-gontractwr yn gymwys os yw’r gwaith yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r gweithgarwch neu brosiect. Er enghraifft, byddai ffioedd ymgynghoriaeth yn gallu cynnwys gwasanaethau cyfreithiol, technegol, cyfrifyddu ac archwilio sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni prosiectau DDAG.

Rhaid caffael yr holl ffioedd ymgynghoriaeth a chostau is-gontractwyr mewn ffordd briodol yn unol ag arferion da a rheolau a rheoliadau perthnasol ar gaffael neu ofynion am dendro cystadleuol.

Marchnata a Hyrwyddo

Mae gwariant cymwys yn gallu cwmpasu costau sy’n gysylltiedig ag agweddau priodol a chymesur ar farchnata sy’n ymwneud yn benodol â gweithgarwch DDAG, er enghraifft, dylunio a chynhyrchu deunyddiau marchnata, hwyluso cynadleddau a seminarau priodol, a thargedu ymgyrchoedd hysbysebu am weithgareddau DDAG a/neu’r FLAG ei hun.

Mae gwariant sy’n gysylltiedig â gofynion yr UE ar gyfer cyhoeddusrwydd effeithiol a darparu gwybodaeth mewn perthynas â phrosiectau a Rhaglenni yn gymwys.

Lesio

Mae lesio’n debygol o fod yn elfen mewn cyflawni gweithgareddau DDAG ac mae hyn yn gymwys os bydd y meini prawf canlynol wedi’u bodloni:

  • Bod y defnydd o’r cyfarpar, adeiladau neu dir yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni’r gweithgarwch DDAG ac yn angenrheidiol ar ei gyfer
  • Na fydd yr uchafswm sy’n gymwys yn fwy na gwerth marchnad yr ased sydd wedi’i lesio
  • Yng nghyswllt lesio tir ac eiddo, nad yw’r tir neu eiddo’n cael ei lesio i ddibenion amaethyddiaeth, coedwigaeth neu bysgodfeydd
  • Os yw cyfnod y contract lesio yn hirach na chyfnod y prosiect, dim ond y gyfran o’r les sy’n gysylltiedig â chyfnod y prosiect fydd yn gymwys
  • Nid yw costau sy’n gysylltiedig â’r contract lesio, yn cynnwys treth, elw’r lesydd, costau ailgyllido llog, gorbenion, taliadau gwasanaeth a thaliadau yswiriant yn wariant cymwys
  • Lle nad yw’r gwariant ar lesio yn ymwneud yn llwyr â’r prosiect DDAG sydd wedi’i ariannu, rhaid dosrannu’r costau’n briodol.

Costau Teithio a Chynhaliaeth Cyfranogwyr / Buddiolwyr

Mae costau teithio cyfranogwyr / buddiolwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gweithgarwch DDAG ac yn hanfodol ar gyfer ei gyflawni’n effeithiol yn wariant cymwys.

Costau Cyfranogwyr / Buddiolwyr am ofalu am blant a dibynyddion eraill

Mae costau am ofalu am blant / dibynyddion y cyfranogwyr/buddiolwyr tra bydd y cyfranogwyr/buddiolwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau DDAG yn wariant cymwys.

Arian cyfatebol

Ar gyfer gweithgareddau a phrosiectau sy’n cyflawni DDAG, y cyfraniad gan EMFF fydd rhwng 50% a 100% o gyfanswm costau cymwys y prosiect. Disgrifir manylion y cymorth a ddarperir ar gyfer bob mesur yn y nodiadau canllaw sy’n benodol i bob cynllun sy’n ymdrin â’r gweithgaredd rydych am ei gynnal.

Bydd yr ymgeisydd neu’r FLAG yn cael cynnwys cyfraniadau ariannol ychwanegol at weithgarwch y prosiect. Mae’r arian ychwanegol hwn yn cael ei alw’n arian cyfatebol yng nghyd-destun DDAG o dan EMFF.

Gellir darparu arian cyfatebol ar ffurf arian parod neu gyfraniadau mewn nwyddau gan y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Mae cyfraniadau mewn nwyddau yn wasanaethau, eitemau neu gynhyrchion a roddwyd i’r prosiect gan unigolyn neu sefydliad lle nad oedd arian parod yn rhan o’r trafodiad. Rhaid i bob cyfraniad mewn nwyddau sy’n cael ei roi fel arian cyfatebol fod yn gysylltiedig â chyflawni prosiect neu fath arall o weithgarwch DDAG.

Ar gyfer gweithgareddau a phrosiectau sy’n cyflawni DDAG, y cyfraniad gan EMFF fydd rhwng 50% a 100% o gyfanswm costau cymwys y prosiect. Disgrifir manylion y cymorth a ddarperir ar gyfer bob mesur yn y nodiadau canllaw sy’n benodol i bob cynllun sy’n ymdrin â’r gweithgaredd rydych am ei gynnal.

Bydd yr ymgeisydd neu’r FLAG yn cael cynnwys cyfraniadau ariannol ychwanegol at weithgarwch y prosiect. Mae’r arian ychwanegol hwn yn cael ei alw’n arian cyfatebol yng nghyd-destun DDAG o dan EMFF.

Gellir darparu arian cyfatebol ar ffurf arian parod neu gyfraniadau mewn nwyddau gan y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Mae cyfraniadau mewn nwyddau yn wasanaethau, eitemau neu gynhyrchion a roddwyd i’r prosiect gan unigolyn neu sefydliad lle nad oedd arian parod yn rhan o’r trafodiad. Rhaid i bob cyfraniad mewn nwyddau sy’n cael ei roi fel arian cyfatebol fod yn gysylltiedig â chyflawni prosiect neu fath arall o weithgarwch DDAG.

I ddibenion gweinyddol, mae’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn cael eu diffinio fel a ganlyn:

Y sector cyhoeddus

Mae hyn yn cynnwys unrhyw sefydliad sy’n rhan o lywodraeth ganolog neu leol, neu o dan eu rheolaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • y sector addysg cyhoeddus (yn cynnwys addysg bellach ac uwch)
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Adrannau Llywodraeth y DU a’u Hasiantaethau
  • unrhyw gwmnïau di-elw sydd wedi’u sefydlu gan ran o lywodraeth leol neu ganolog er mwyn darparu rhan o’u gwasanaethau neu arfer eu pwerau
  • cwmnïau sy’n cynnwys partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus (e.e. Awdurdodau Lleol) a’r sector preifat, lle mae’r sector preifat yn dal llai na 50% o’r cyfrannau.

Y sector preifat

  • Cwmnïau sy’n bwriadu gwneud elw a lle gellir dosbarthu’r elw hwnnw
  • Cwmnïau sy’n bartneriaeth rhwng corff sector preifat (h.y. cwmni sy’n dosbarthu elw fel y nodwyd uchod) a chorff sector cyhoeddus, a lle mae’r sector preifat yn dal 50% neu ragor o’r cyfrannau.

Y trydydd sector

  • Endidau cyfreithiol nad ydynt yn cael dosbarthu gwargedau i gyfranddalwyr neu fuddsoddwyr eraill. Fel arfer mae’r rhain yn sefydliadau anllywodraethol sydd â gwerthoedd yn eu llywio ac sy’n ailfuddsoddi’r rhan fwyaf o’u gwargedau i hyrwyddo amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol. Gall hyn gwmpasu: elusennau ac ymddiriedolaethau, mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol, cymdeithasau darbodus, a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.

Gweler yr adran ar Gyfraddau Grant am ragor o wybodaeth a chyfarwyddyd ar y cyfraddau grant uchaf ar gyfer Costau Paratoadol, Costau Rhedeg a Bywiocáu, a Gweithredu.

Cyfarwyddyd ychwanegol ar arian cyfatebol mewn nwyddau

Nid yw cyfarpar a werthir ar ddisgownt a gwasanaethau neu gyngor a ddarperir ar ddisgownt yn gymwys fel arian cyfatebol mewn nwyddau.

Mae cyfraniadau mewn nwyddau drwy ddarparu gwaith, nwyddau, gwasanaethau, tir ac eiddo tirol heb dalu arian parod amdanynt yn gymwys ar yr amod bod rheolau cymhwysedd y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd a’r rhaglen wedi’u bodloni a bod yr holl feini prawf canlynol wedi’u cyflawni:

  • na fydd y cymorth cyhoeddus a gaiff ei dalu i’r gweithrediad sy’n cynnwys cyfraniadau mewn nwyddau yn fwy na chyfanswm y gwariant cymwys, heb gynnwys cyfraniadau mewn nwyddau, ar ddiwedd y gweithrediad
  • na fydd y gwerth a briodolir i gyfraniadau mewn nwyddau yn fwy na’r costau a dderbynnir fel arfer ar y farchnad dan sylw
  • y gellir asesu a gwirio gwerth y cyfraniad a’r dull o’i ddarparu yn annibynnol
  • yng nghyswllt darparu tir neu eiddo tirol, er mwyn gwneud cytundeb lesio gellir talu swm nominal o arian parod bob blwyddyn nad yw’n fwy nag uned sengl o arian yr Aelod-wladwriaeth
  • yng nghyswllt cyfraniadau mewn nwyddau ar ffurf gwaith di-dâl, pennir gwerth y gwaith drwy ystyried yr oriau o waith a wiriwyd a’r gyfradd talu am waith cyfatebol.

Cyfarpar a Defnyddiau Crai

Gellir darparu cyfarpar a defnyddiau crai i brosiect fel math o arian cyfatebol mewn nwyddau ond rhaid i’r FLAG/buddiolwr sicrhau bod tystiolaeth wedi’i chadw am werth y swm a roddwyd. Gall hyn fod ar ffurf rhestr brisiau neu gatalog a gyhoeddwyd sy’n dangos y cyfarpar neu ddefnyddiau neu, ar gyfer eitemau mwy anghyffredin, prisiad gan brisiwr annibynnol cymwysedig.

Ymchwil a Gwaith Proffesiynol

Gellir darparu gwaith ymchwil neu waith proffesiynol arall i brosiect fel math o arian cyfatebol mewn nwyddau ond rhaid i’r FLAG/buddiolwr sicrhau bod tystiolaeth wedi’i chadw am werth y gwasanaethau a ddarparwyd. Dylai hyn gynnwys y wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • Tariff neu restr gyhoeddedig o gyfraddau talu am y gwasanaeth a ddarparwyd
  • Tystiolaeth sy’n dangos bod y ffigurau hyn yn cymharu’n dda â phrisiau cystadleuwyr
  • Mae angen cadw taflenni amser neu gofnodion eraill o’r oriau a gyfrannwyd os yw’r gost wedi’i seilio ar hyn.

Gwaith Gwirfoddol Di-dâl

Yng nghyswllt gwaith gwirfoddol di-dâl sy’n hanfodol ar gyfer cyflawni’r prosiect DDAG, bydd gwerth y gwaith yn cael ei bennu drwy ystyried yr oriau a dreuliwyd a’r gyfradd arferol yr awr neu’r diwrnod am y gwaith a gyflawnwyd. Ni fydd y cyfraniad at DDAG o dan y prosiect yn fwy na chyfanswm y gwariant cymwys heb gynnwys y cyfraniad mewn nwyddau. Hefyd:

  • Rhaid i’r symiau a hawlir am y gweithgarwch hwn gael eu hawlio ar gyfradd sy’n gymesur â natur y gwaith a gyflawnwyd ac nid ar sail cyflog neu gyfradd talu arferol y gwirfoddolwr. Os yw gwirfoddolwr yn cyflawni’r un dyletswyddau â staff sy’n cael tâl, neu ddyletswyddau tebyg, y gyfradd a ganiateir ar gyfer y gwirfoddolwr fydd cyfradd cyflog y cyflogai. Os nad oes cyfradd cyflog gymharol, mae cyfraddau derbyniol wedi’u dangos isod.
    Ni ddylai’r cyfraddau ar gyfer defnyddio gwaith di-dâl fel arian cyfatebol mewn nwyddau fod yn uwch na’r rhai a nodwyd isod mewn unrhyw brosiect.
  • Byddai angen cael cytundeb cyn dechrau’r gweithgarwch i gynnwys costau am rolau mwy arbenigol a thechnegol fel arian cyfatebol mewn nwyddau. Byddai disgwyl i’r prosiect gadw dogfennau sy’n dangos yn glir y cyfiawnhad dros gynnwys yr arbenigwr a’r gyfradd cyflog y cytunwyd arni i ddibenion arian cyfatebol mewn nwyddau.
  • Dylid cadw taflenni amser i ategu’r hawliad am yr oriau a weithiwyd ar y prosiect a dylent gael eu llofnodi gan y gwirfoddolwr a’r cyflogwr
  • Dim ond personau sy’n gweithio’n gwbl wirfoddol fydd yn gymwys. Os bydd un o gyflogeion y prosiect yn cyflawni dyletswyddau ‘gwirfoddol’ ychwanegol, ni fydd y rhain yn gymwys fel arian cyfatebol mewn nwyddau.

Costau tybiannol y cytunwyd arnynt fel cyfraddau derbyniol am waith gwirfoddol

Mae’r cyfraddau isod wedi’u darparu a’u cadarnhau gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. Maent yn deillio o ddadansoddiadau sy’n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), sy’n cynnwys y data diweddaraf a gyhoeddwyd ar 12 Rhagfyr 2013 (sylwer bod y cyfraddau ar gyfer y DU ond nad ydynt yn cynnwys rhanbarthau Llundain a De-ddwyrain Lloegr).

Teitl y Swydd             Cod DGS   Cyfradd yr Awr (£)  Cyfradd Flynyddol (£)

Rheolwr Prosiect               2424             21.72                           42,756

Ymchwilydd Prosiect         2426             16.55                           31,880

Cydgysylltydd Prosiect      3539             14.94                           28,944

Hyfforddwr                         3563             14.26                           27,775

Gweinyddwr Prosiect         4159             10.13                          19,812

Asesu Prosiectau a Risg

Mae prosiectau sy’n cynnwys symiau sylweddol o arian cyfatebol mewn nwyddau yn gallu wynebu anawsterau o ran llif arian parod os bydd swm neu amseriad y gweithgarwch neu gyfraniad mewn nwyddau yn amrywio neu heb fod yn brydlon. Rhaid i’r FLAG/buddiolwr sicrhau ei fod yn darparu trywydd archwilio llawn ar gyfer yr holl arian cyfatebol mewn nwyddau a rhaid i unrhyw sefydliad neu berson sy’n darparu cyfraniad o’r fath sicrhau hefyd ei fod yn darparu ac yn cadw’r cofnodion angenrheidiol.

Mae costau am staff sydd wedi’u lleoli mewn prosiect gan sefydliad yn cael eu cyfrif yn arian cyfatebol gwirioneddol (ar sail y cyflogau a dalwyd) ac nid yn arian cyfatebol mewn nwyddau.

Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol

Cyfraddau grant

Mae gweithgarwch DDAG lle mae’r buddiolwr yn gorff cyfraith gyhoeddus neu’n fenter yr ymddiriedwyd iddi’r gwaith o redeg gwasanaethau o fudd economaidd cyffredinol yn gymwys ar gyfer y cyfraddau grant uchaf canlynol o dan y darpariaethau yn Erthygl 95 o Reoliad Rhif 508/2014 (UE) ar EMFF:

  • Costau paratoadol: 100% o’r costau gwirioneddol a gafodd eu hysgwyddo a’u talu
  • Costau Rhedeg a Bywiocáu: 100% o’r costau gwirioneddol a gafodd eu hysgwyddo a’u talu
  • Costau Gweithredu: 100% o’r costau gwirioneddol a gafodd eu hysgwyddo a’u talu. Disgrifir y cyfraddau grant yn nodiadau cyfrarwyddyd y cynllun dan sylw sy’n gymwys i’r gweithgaredd rydych am ei gynnal. Gweler y ddolen isod i nodiadau cyfarwyddyd y cynlluniau gwahanol a chysylltwch ag RPW os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd neu gyfradd ucha’r grant neu’r trothwyon uchaf. Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

Os nad yw’r buddiolwr yn gorff cyfraith gyhoeddus neu’n fenter yr ymddiriedwyd iddi’r gwaith o redeg gwasanaethau o fudd economaidd cyffredinol, fe all fod yn gymwys, o dan y darpariaethau yn Erthygl 95 o Reoliad Rhif 508/2014 (UE) ar EMFF, am y cyfraddau grant uchaf canlynol ar yr amod ei fod yn darparu modd i’r cyhoedd weld canlyniadau ei weithgarwch a bod y gweithgarwch a gyflawnir:

  • Er budd pawb a/neu
  • Yn cynnwys cyd-fuddiolwr a/neu
  • Yn cynnwys nodweddion arloesol (lle bo’n briodol, ar lefel leol).

Gweler Atodiad A am ragor o gyfarwyddyd.

  • Costau paratoadol: 100% o’r costau gwirioneddol a gafodd eu hysgwyddo a’u talu
  • Costau Rhedeg a Bywiocáu: 100% o’r costau gwirioneddol a gafodd eu hysgwyddo a’u talu
  • Costau Gweithredu: 80% o’r costau gwirioneddol a gafodd eu hysgwyddo a’u talu.

Os nad yw buddiolwr a/neu ei weithgarwch yn gymwys am y cyfraddau grant o dan y darpariaethau ym mharagraffau 96 a 97, yna bydd y cyfraddau grant uchaf yn is. Os yw hyn yn berthnasol yn eich achos chi, cysylltwch â’r Uned Rheoli Cynlluniau (drwy’r manylion cyswllt yn y ddogfen hon) i drafod y mater.

Fodd bynnag, ni fydd uchafswm y grant a gaiff ei dalu (mewn arian parod) yn fwy na’r costau gwirioneddol mewn arian parod sydd wedi’u hysgwyddo a’u talu.

Cymorth gwladwriaethol

Rhaid i’r holl brosiectau gydymffurfio â holl reolau cymhwysedd y cynllun a’r rheolau Cymorth Gwladwriaethol er mwyn bod yn gymwys am arian.

Nid yw Erthyglau 107, 108 a 109 TEFU yn gymwys i grantiau a roddir o dan y cynllun hwn o dan Reoliad (UE) rhif 508/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, o fewn cwmpas Erthygl 42 TFEU. Ond rhaid i brosiectau ymwneud â dal, cynhyrchu a/neu brosesu cynnyrch pysgodfeydd. Fe’u diffinnir yn:

  • Atodiad I y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o dan 2021C 326/01) ac
  • Atodiadau I a II o Reoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd EU1379/2013.

Os ydych chi’n credu nad yw’ch prosiect yn bodloni’r meini prawf hyn, dylech gysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod eich prosiect cyn gwneud cais am arian.

Cylch gorchwyl y FLAG

Rhaid i DDAG gael ei arwain gan grwpiau gweithredu lleol sy’n cynnwys cynrychiolwyr buddiannau economaidd-gymdeithasol lleol cyhoeddus a phreifat, lle na fydd awdurdodau cyhoeddus, fel y maent wedi’u diffinio mewn rheolau cenedlaethol, nac unrhyw grŵp â buddiant unigol yn dal mwy na 49% o’r hawliau pleidleisio ar y lefel penderfynu.

Erthygl 32, 2(b) o Reoliad Rhif 1303/2013 (UE)

Fel yr eglurwyd yn y Cyflwyniad, mae Rheoliad Rhif 1303/2013 (UE) yn pennu y bydd tasgau’r FLAG yn cynnwys y canlynol:

  • meithrin gallu cyfranogwyr lleol i ddatblygu a gweithredu gweithrediadau gan gynnwys rhai sy’n meithrin galluoedd rheoli eu prosiect
  • llunio gweithdrefn dewis sy’n dryloyw ac anwahaniaethol a meini prawf gwrthrychol ar gyfer dewis gweithrediadau, sy’n osgoi gwrthdaro buddiannau; sicrhau bod o leiaf 50% o’r pleidleisiau mewn penderfyniadau dewis yn cael eu bwrw gan bartneriaid heblaw awdurdodau cyhoeddus; a chaniatáu dewis drwy weithdrefn ysgrifenedig
  • sicrhau cydlyniant â’r strategaeth DDAG wrth ddewis gweithrediadau, drwy bennu blaenoriaeth y gweithrediadau hynny yn ôl eu cyfraniad at gyflawni amcanion a thargedau’r strategaeth honno
  • paratoi a chyhoeddi ceisiadau am gynigion neu weithdrefn barhaol ar gyfer cyflwyno prosiectau, gan ddiffinio meini prawf ar gyfer dewis
  • cael ceisiadau am gymorth a’u prosesu
  • dewis gweithrediadau a phennu swm y cymorth ac, os yw’n berthnasol, cyflwyno’r cynigion i’r corff sy’n gyfrifol am wirio cymhwysedd yn derfynol cyn cymeradwyo
  • monitro gweithrediad y strategaeth DDAG a’r gweithrediadau sy’n cael cymorth a chyflawni gweithgareddau gwerthuso penodol sy’n gysylltiedig â’r strategaeth honno.

Mae’n bwysig bod y FLAG yn diffinio strwythurau a gweithdrefnau clir ar gyfer ei lywodraethu corfforaethol ei hun gan eu disgrifio mewn ffordd glir, agored a thryloyw.  Er mwyn cyflawni hynny, rhaid i’r FLAG baratoi a chytuno ar ei ddogfen Cylch Gorchwyl a fydd yn ymdrin â materion allweddol fel:

  • Sut y cytunir ar aelodaeth y FLAG
  • Sut i reoli cynrychiolaeth y sectorau
  • Sut i roi gwybod am ddatblygiadau i randdeiliaid ehangach a phartïon cysylltiedig
  • Sut i gynnal a chofnodi cyfarfodydd
  • Sut i bennu cworwm
  • Sut i gofnodi a rheoli gwrthdaro buddiannau
  • Sut i ddefnyddio meini prawf ar gyfer dewis wrth asesu, a hysbysu Llywodraeth Cymru am brosiectau trydydd parti i gyflawni’r SDLl
  • Sut i reoli apelau.

Mae pob FLAG yn cwmpasu ardal ddaearyddol sydd wedi’i dynodi.  Rhaid i’r FLAG gynnwys cynrychiolaeth sylweddol (rhwng 10% a 49%) o’r sectorau pysgodfeydd a/neu ddyframaethu. Hefyd rhaid iddo gynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i adlewyrchu rhychwant y sefydliadau cyhoeddus, cwmnïau a sefydliadau trydydd sector yn ei ardal ddaearyddol. Bydd FLAG amlsectoraidd o’r fath yn creu sylfaen wybodaeth ganolog fawr ar gyfer sgiliau ac yn sicrhau sylw teg i’r gwahanol fuddiannau. Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, rydym yn argymell na fydd y FLAG yn cynnwys llai na 18 o aelodau.

Dylai aelodau unigol gynrychioli dim ond un sefydliad i ddibenion cyfansoddiad y FLAG.

Er hynny, fe welir yn aml fod gan unigolion nifer o fuddiannau yn y gymuned leol a rhaid i’r FLAG fabwysiadu mecanwaith i gofnodi’r rhain mewn ffordd dryloyw. Mae hyn yn bwysig gan fod gofyn i’r FLAG sicrhau na fydd unrhyw grŵp â buddiant unigol yn dal mwy na 49% o’r hawliau pleidleisio ar y cam penderfynu.

Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau neu’r posibilrwydd o hynny, rhaid diffinio “grŵp â buddiant unigol” mewn ffordd eang fel ei fod yn cynnwys nid yn unig gynrychiolaeth o’r tri phrif sector ond hefyd yn cwmpasu ‘grwpiau buddiant’ eraill fel y sector pysgodfeydd a/neu ddyframaethu, Awdurdod Lleol, cwmni unigol, sefydliad lleol unigol sydd â nifer o staff ar y FLAG yn ogystal â’r Corff Gweinyddol ei hun.

Er enghraifft, mae’n ofynnol na fydd mwy nag 8 o’r 18 o aelodau ar y FLAG yn dod o’r sector cyhoeddus a hefyd na fydd mwy nag 8 aelod yn cynrychioli unrhyw “grŵp buddiant unigol” arall, felly bydd yn rhaid ystyried unrhyw fuddiannau eilaidd sydd gan y bobl hynny sy’n aelodau o’r FLAG. Rhaid egluro yn y Cylch Gorchwyl sut y bydd hyn yn cael ei reoli.

Mae’r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol na fydd unrhyw fuddiant unigol yn dal mwy na 49% o’r hawliau pleidleisio, felly rhaid egluro yn y Cylch Gorchwyl sut y bydd y gofyniad hwn yn cael ei fodloni wrth bennu’r cworwm sydd ei angen ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol a phenderfyniadau ar ddyrannu arian.

Er enghraifft, os mai’r cworwm sydd ei angen i wneud penderfyniad yw 8 aelod o’r FLAG a bod buddiant gan ddau o’r aelodau sy’n bresennol sy’n golygu bod rhaid iddynt adael y cyfarfod ar y pwynt hwnnw, yna bydd y rheol nad yw unrhyw fuddiant unigol i ddal mwy na 49% o’r hawliau pleidleisio yn parhau’n gymwys, felly mae’n bosibl na fydd y chwe aelod sy’n weddill yn gallu gwneud penderfyniad wedyn am nad oes cworwm yn y cyfarfod.

Byddai’r un mater yn codi os oedd Cadeirydd y cyfarfod yn defnyddio pleidlais fwrw oherwydd, ar y pwynt hwnnw, byddai dwy o’r hawliau pleidleisio gan yr un sector a/neu sefydliad cynrychiadol, felly byddai’n rhaid sicrhau bod y cworwm yn y cyfarfod yn parhau er mwyn gallu gwneud penderfyniad.

Bydd angen meddwl yn ofalus ynghylch pennu nifer y cynrychiolwyr sydd ei angen i ffurfio cworwm i wneud penderfyniad dilys a rhaid cofio, wrth ystyried gweithrediad y FLAG yn y tymor hir, y bydd angen i’r nifer fod yn fwy na’r hyn sy’n arferol. Rydym yn awgrymu pennu cworwm o 8 neu un rhan o dair o leiaf o holl aelodau’r FLAG, pa un bynnag sydd fwyaf, fel y bydd mwy o gyfle gan gyfarfodydd i wneud penderfyniadau gan gydymffurfio â’r rheoliadau.

Rhaid nodi yn y Cylch Gorchwyl sut y rhoddir gwybod am y cyfle i ymuno â’r FLAG yn yr ardal, sut y penderfynir ar aelodaeth y FLAG a sut y bydd buddiannau’r sectorau yn cael eu cydbwyso.

Rhaid rhoi sylw penodol yn y Cylch Gorchwyl i ffyrdd o ddefnyddio gweithdrefnau ysgrifenedig i wneud penderfyniadau er mwyn gallu cadw at y rheol nad yw unrhyw fuddiant unigol i ddal mwy na 49% o’r hawliau pleidleisio.

Mae gwrthdaro buddiannau sy’n codi o ganlyniad i reoli’r broses penderfynu gan strwythurau lleol presennol a/neu’r sectorau neu fuddiannau mwyaf yn berygl gwirioneddol i brosiectau lleol o bob math. Fodd bynnag, mae hyn yn creu cyfyng-gyngor i’r FLAG hefyd oherwydd gwelir yn aml mai aelodau mwyaf gweithgar ac egnïol y gymuned yw’r rheini sydd â’r mwyaf o syniadau ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau a byddai eu cau allan yn gallu amddifadu’r FLAG o egni ac arweinyddiaeth.

Dylai aelodau’r FLAG ddatgan eu buddiant mewn prosiectau sy’n cael eu hystyried ac ni ddylent gymryd rhan mewn penderfyniadau neu argymhellion sy’n ymwneud â nhw’n uniongyrchol a rhaid nodi’r mecanwaith i reoli hyn yn y Cylch Gorchwyl.

Rhaid cynnwys gweithdrefn glir a syml yng Nghylch Gorchwyl y FLAG i ddelio ag unrhyw apelau ynghylch y canlyniad i brosesau ar gyfer cymeradwyo prosiectau arfaethedig.

Dewis gweithgareddau neu brosiectau

Pwy sy’n cael gwneud cais

Ni dderbynnir ceisiadau oddi wrth sefydliadau neu unigolion sydd wedi’u cael yn euog o dwyll o dan EFF neu EMFF.

Ni dderbynnir ceisiadau oddi wrth sefydliadau neu unigolion sydd wedi’u cael yn euog o drosedd y mae Llywodraeth Cymru neu’r Undeb Ewropeaidd yn ei ystyried yn ‘dor rheolau difrifol’ neu’n dwyll, yn y 12 mis cyn gwneud cais.

Y Broses:

Rhaid gwirio pob cais am arian i sicrhau ei fod yn gymwys, fel y nodwyd yn Rheoliad Rhif 508/2014 (UE) ac yn Erthygl 34 o Reoliad Rhif 1303/2013 (UE), a’i wirio ar sail y meini prawf ar gyfer y SDLl.

Bydd lefel y gwiriadau ar gyfer hyn a’r gofynion am gyfraniad ychwanegol gan arbenigwyr yn gymesur â chyfanswm cost y prosiect a lefel y risg sydd wedi’i nodi. Cyflawnir y gwiriadau hyn drwy Asesiad FLAG, gyda chymorth Corff Gweinyddol y FLAG. Bydd hyn yn sicrhau llywodraethu a phenderfynu cadarn wrth gymeradwyo’r prosiect a’i fonitro wedyn.

Wedi i’r FLAG gwblhau asesiad llawn o’r prosiect arfaethedig, bydd Corff Gweinyddol y FLAG yn paratoi adroddiad ysgrifenedig sy’n cynnwys crynodeb o’r asesiad ac argymhelliad i’w gymeradwyo neu ei wrthod. Os bydd y FLAG yn gwrthod cynnig, yna bydd Corff Gweinyddol y FLAG yn anfon llythyr gwrthod gydag esboniad at yr ymgeisydd. Os bydd argymhelliad i gymeradwyo’r cais, yna bydd ei asesiad a’r argymhelliad yn cael eu trosglwyddo RPW er mwyn dilysu’n derfynol eu bod yn gymwys cyn eu cymeradwyo.

Pan fydd cynnig yn gymwys, bydd RPW yn hysbysu’r ymgeisydd ei fod yn ei gymeradwyo ac yn rhoi gwybod i’r FLAG hefyd. Bydd ceisiadau sy’n cael eu gwrthod gan RPW yn cael eu dychwelyd i’r FLAG gydag esboniad pam a Chorff Gweinyddol y FLAG fydd yn gyfrifol am roi adborth i’r ymgeisydd ac am drafod unrhyw newidiadau y gallai fod eu hanhen i wneud y cynnig yn dderbyniol.

Cyfrifoldebau’r FLAG

Y FLAG yw’r corff sy’n gyfrifol am benderfynu ar asesiadau o brosiectau trydydd partïon ac am wneud argymhellion ar wrthod ceisiadau neu anfon argymhellion ar gyfer cymeradwyo prosiectau i RPW. Ni ellir dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i unrhyw sefydliad neu is-grŵp arall y tu allan i’r prif FLAG. Mae’r FLAG yn cael cymorth gan ei Gorff Gweinyddol ei hun sy’n rheoli’r prosesau a gweithdrefnau y mae’r FLAG wedi’u sefydlu.

Allbynnau a chanlyniadau

Mae Rhaglen Weithredol EMFF yn gosod y dangosyddion canlynol ar gyfer allbynnau a chanlyniadau mewn gweithgareddau DDAG:

  • Dangosyddion allbynnau:
    • Nifer y prosiectau sy’n cael cymorth paratoadol
    • Nifer y strategaethau datblygu lleol a ddewiswyd
  • Dangosyddion canlyniadau:
    • Cyflogaeth a grëwyd (swyddi cyfwerth ag amser llawn)
    • Busnesau a grëwyd

Yn unol â meini prawf dewis EMFF a gytunwyd gan Bwyllgor Monitro Rhaglen EMFF y DU, bydd pob strategaeth datblygu lleol yn cael ei hasesu ar sail ei chyfraniad at gyflawni’r dangosyddion canlyniadau hyn.

Yn unol â Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn 1243/2014, gofynnir hefyd am osod targedau ar gyfer y canlynol:

Erthygl 62(1)(a) Cymorth oddi wrth EMFF ar gyfer datblygu dan arweiniad y gymuned — Cymorth Paratoadol:

  • Y math o fuddiolwr: corff cyhoeddus, sefydliad anllywodraethol, corff cyfunol arall, unigolyn preifat.

Erthygl 63 Gweithredu strategaethau datblygu lleol — dewis FLAGs:

  • Cyfanswm y boblogaeth a wasanaethir gan y FLAG (unedau)
  • Nifer y partneriaid cyhoeddus yn y FLAG
  • Nifer y partneriaid preifat yn y FLAG
  • Nifer y partneriaid cymdeithas sifil yn y FLAG
  • Y nifer cyfwerth ag amser llawn sydd wedi’u cyflogi gan y FLAG ar gyfer gweinyddu
  • Y nifer cyfwerth ag amser llawn sydd wedi’u cyflogi gan y FLAG ar gyfer bywiocáu.

Erthygl 63 Gweithredu strategaethau datblygu lleol — prosiectau sy’n cael cymorth gan FLAGs (yn cynnwys costau rhedeg a bywiocáu):

  • Y math o weithrediad: ychwanegu gwerth, arallgyfeirio, yr amgylchedd, diwylliannol-gymdeithasol, llywodraethu, costau rhedeg a bywiocáu.

Nid yw’r cyfarwyddyd ar y Diffiniadau o Ddangosyddion Cyffredin ar gyfer rhaglen EMFF 2014-2020 wedi’i ddarparu eto. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfarwyddyd penodol ar yr elfennau hyn yn y rhaglen EMFF pan fydd y wybodaeth ar gael.

Os bydd y FLAG yn cymeradwyo prosiectau trwy gostau gweithredu’r mesurau ychwanegol y darperir ar eu cyfer ym Mhenodau I, II a IV o Deitl V prif reoliad 508/2014 yr EMFF, bydd dangosyddion penodol yr allbynnau a’r canlyniadau’n gymwys.

Atodiad A: cyfarwyddyd ar gyd-fudd, cyd-fuddiolwr a nodweddion arloesol

Cyd-fudd a Chyd-fuddiolwr:

‘Cyd-fuddiolwr’ yw sefydliad y cydnabyddir ei fod yn cynrychioli budd ei aelodau, grŵp o randdeiliaid neu’r cyhoedd yn gyffredinol. Y sefydliad ei hun yn ei gyfanrwydd ddylai fod yn fuddiolwr prosiect ac nid ei aelodau.

Caiff ‘cyd-fudd’ ei ddiffinio fel camau gweithredu a gaiff eu cymryd gan y sefydliad hwn sydd er cyd-fudd ei aelodau, grŵp o randdeiliaid neu’r cyhoedd. Dylai camau gweithredu o’r fath felly gwmpasu mwy na chyfanswm buddiannau unigol aelodau o’r cyd-fuddiolwr hwn.

Os nad oes gan brosiect fudd ariannol uniongyrchol i’r ymgeisydd sy’n cyflawni’r prosiect neu i fuddiolwr y prosiect a bod ganddo gyd-fudd a chyd-fuddiolwr (neu gyd-fuddiolwyr) yna gellir ei ystyried yn Gyd-brosiect.

Os oes gan brosiect fudd ariannol uniongyrchol i’r ymgeisydd sy’n cyflawni’r prosiect neu i fuddiolwr y prosiect yna ni ellir ei ystyried yn Gyd-brosiect.

Nodweddion Arloesol:

Gellir diffinio arloesedd mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er enghraifft:

Arloesedd cynnyrch yw cyflwyno nwyddau neu wasanaethau sy’n newydd neu wedi gwella’n sylweddol o ran eu nodweddion neu eu defnyddiau arfaethedig. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau sylweddol i’r manylebau technegol, y cydrannau a’r defnyddiau, y feddalwedd gysylltiedig, pa mor hawdd ydyw i’w drin neu nodweddion swyddogaethol eraill.

Ystyr arloesedd proses yw rhoi dull cynhyrchu neu ddarparu ar waith sy’n newydd neu wedi gwella’n sylweddol. Mae hyn yn cynnwys newidiadau sylweddol mewn technegau, cyfarpar a/neu feddalwedd.

Ystyr arloesedd marchnata yw rhoi dull marchnata newydd ar waith sy’n cynnwys newidiadau sylweddol yn y gwaith o ddylunio neu becynnu cynnyrch, lleoli cynnyrch, hyrwyddo cynnyrch neu ei brisio.

Ystyr arloesedd sefydliadol yw rhoi dull sefydliadol newydd ar waith fel rhan o drefniadaeth gweithle, cysylltiadau allanol neu arferion busnes y sefydliad neu’r cwmni.

Ffynhonnell: Oslo Manual: Guidelines for Collecting and Interpreting Innovation Data; Third edition (cyhoeddiad ar y cyd rhwng OECD a Eurostat):
http://ec.europa.eu/eurostat/documents/3859598/5889925/OSLO-EN.PDF

Nid yw’r rhestr hon yn rhagnodol nac yn gynhwysfawr. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno achos cadarn a darbwyllol i ddangos bod ei brosiect arfaethedig yn cynnwys nodweddion gwirioneddol arloesol.

Gall nodweddion arloesol fod yn weithgareddau sy’n arloesol i’r sector neu’r diwydiant ond gallant hefyd fod yn arloesol i fusnes neu sefydliad, ond mae’n rhaid iddynt fod yn bresennol. Os yw’r prosiect yn cael ei gyflawni’n lleol, rhaid i’r nodweddion arloesol fod yn bresennol yn lleol.

Disgwylir hefyd i’r ymgeisydd ddangos y canlynol:

  • Bod y nodweddion arloesol yn berthnasol i’r nodau a’r gweithgareddau cymwys o fewn y Mesur penodedig
  • Bod y nodweddion arloesol yn berthnasol i gyflawni nodau’r prosiect.

Lle bo’r arloesedd arfaethedig yn ymwneud â sefydliad neu fusnes, efallai y bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddangos bod y gweithgarwch hwn hefyd yn cynrychioli rhywfaint o arloesedd o fewn y sector neu’r diwydiant perthnasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y gwerth am arian sy’n cael ei roi gan y prosiect cyfan, yn cynnwys unrhyw nodweddion arloesol arfaethedig fel rhan o’r arfarniad ehangach o’r prosiect.

Bydd Llywodraeth Cymru yn arfarnu’r holl geisiadau am lefel uwch o gymorth cyhoeddus fesul achos. Disgresiwn Llywodraeth Cymru yw gwneud y penderfyniad terfynol ar lefel y cymorth cyhoeddus y gall prosiect fod yn gymwys i’w gael.

Rheoli fersiynau

  • Mehefin 2021: Diweddarwyd ddiwethaf - cyfalaf
  • Awst 2019: Diweddarwydd – rheoli cronfeydd
  • Tachwedd 2016: Cyhoeddwyd gyntaf