Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y grŵp.

  • Adolygu gweithgareddau cyfredol ystadegol, ymchwiliol a gweithgareddau dadansoddol eraill a gwaith lledaenu a wneir gan, neu ar ran, Llywodraeth Cymru. Cynghori Llywodraeth Cymru am welliannau yn sgôp ac ansawdd sy’n angenrheidiol i hysbysu datblygiad, monitro a gwerthuso polisi ac ymarfer tai Cymru.
  • Talu sylw dyledus i’r angen i gynnal safonau uchel o ansawdd tystiolaeth. Cydymffurfio gyda Chod Ymarfer Ystadegau a Chod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
  • Ystyried costau a buddion perthnasol gwaith gwybodaeth. Canfod cyfleoedd i leihau dyblygiad a lleihau’r baich ar sefydliadau sy’n darparu data.
  • Cynorthwyo lledaenu tystiolaeth ystadegol, ymchwiliol a thystiolaeth ddadansoddol arall i holl randdeiliaid sydd â diddordeb yng Nghymru.
  • Sefydlu gweithgorau thema â chyfyngau amser. Bydd y grwpiau yn ystyried ac adrodd canfyddiadau ac argymhellion materion penodol sydd o fewn cylch gorchwyl y Grŵp.