Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cyflwyniad

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf) yn gwneud darpariaeth ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hyn yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig (AAA) ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau a (neu) anableddau dysgu (AAD) mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Dechreuwyd gweithredu'r Ddeddf ar 1 Medi 2021, gan gyflwyno'r system ADY newydd yn raddol dros bedair blynedd hyd at fis Medi 2025.

Diben

Diben Grŵp Llywio Cenedlaethol ADY yw tynnu ynghyd bartneriaid gweithredu a rhanddeiliaid allweddol i ddarparu cyfeiriad, cyngor a chefnogaeth strategol i lywio'r gwaith o weithredu, monitro, gwella'n barhaus a gwerthuso'r broses o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg).

Bydd y grŵp yn gwneud y canlynol:

  • llywio penderfyniadau allweddol ar weithredu'r Ddeddf
  • darparu cyngor a chyfeiriad i gefnogi'r sector wrth weithredu'r Ddeddf yn gyson
  • cyfrannu at weithredu a gwella ar lefel amlasiantaethol er mwyn cynllunio ar gyfer a bodloni anghenion dysgwyr ADY
  • gwella deilliannau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
  • sicrhau bod pob sector yn rhoi'r pum egwyddor ar waith a nodir yn y fframwaith statudol

Bydd y grŵp yn cyfrannu at y ddau gam gwaith:

  • Cam 1: gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn barhaus a bydd yn rhedeg tan ddiwedd 2023.
  • Cam 2: llywio a pharatoi ar gyfer y broses o fonitro a gwerthuso'r gwaith diwygio tan ddiwedd 2025. Bydd y cam hwn hefyd yn creu seilwaith a fydd yn cryfhau'r ddarpariaeth wrth i'r gweithredu ddod i ben ac wrth symud at ffocws gwella ac arloesi o ran ADY.

Rolau a Chyfrifoldebau

Er mwyn cyflawni'r diben hwn, bydd y Grŵp Llywio yn cyfarfod bob chwarter er mwyn:

  • gosod statws polisi ADY fel blaenoriaeth addysgol genedlaethol a chreu ysgogiad i'w weithredu
  • llywio a darparu arweiniad ar ddatrysiadau o ran polisi ADY, profi cadernid cynigion i gyflawni gwelliannau systemig, a chynnig cyngor ar ymarferoldeb cyflawni
  • darparu arweinyddiaeth i sicrhau gweithio a chydweithio amlasiantaethol hanfodol
  • nodi ffrydiau gwaith allweddol a'r amserlenni sy'n angenrheidiol i sicrhau gweithredu, monitro a gwerthuso effeithiol
  • darparu fforwm ar gyfer trafodaeth, gan hyrwyddo diwylliant o her a chefnogaeth
  • cefnogi datblygiad trefniadau gweithredu, monitro a gwerthuso cadarn, a llywio dulliau o olrhain gweithredu a llwyddiant
  • cynghori ar a chefnogi'r gwaith o gyfathrebu ynghylch ADY, a darparu arweiniad a deunyddiau ymgynghori
  • nodi risgiau a rhwystrau, gan nodi cyfleoedd a datrysiadau posibl, ac ystyried gwersi a ddysgwyd mewn ffordd ddeinamig

Disgwylir i Aelodau’r Grŵp Llywio wneud y canlynol:

  • ymrwymo i gefnogi gwaith y Grŵp Llywio
  • mynychu cyfarfodydd y Grŵp Llywio neu enwebu cynrychiolydd i fynychu yn eu lle
  • paratoi ar gyfer cyfarfodydd, gan gynnwys cwblhau unrhyw gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp Llywio ar faterion o ddiddordeb, a rhaeadru gwybodaeth o fewn eu rhwydweithiau eu hunain a fforymau perthnasol fel y bo'n briodol

Aelodaeth ac atebolrwydd

Bydd y Grŵp Llywio yn gweithio yn unol â Chylch Gorchwyl y cytunwyd arno ac yn atebol i Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr (y Prif Berchennog Cyfrifol).

Mae aelodaeth y Grŵp Llywio yn cynnwys:

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
  • Awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
  • Iechyd (Llywodraeth Cymru a GIG Cymru).
  • Addysg.
  • Tribiwnlys Addysg Cymru.
  • Arweinwyr Gweithredu Cenedlaethol.
  • Swyddogion ADY Llywodraeth Cymru.
  • Estyn.
  • Sefydliadau'r trydydd sector.

Gellir cyfethol cynrychiolwyr eraill yn ôl yr angen neu eu gwahodd i fynychu ar sail gofynion penodol.

Cadeirydd y Grŵp Llywio fydd yr Arweinydd ADY Strategol Cenedlaethol, a bydd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr yn Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel dirprwy lle bo angen.

Rhaid i gynrychiolwyr enwebu, ymlaen llaw, ddirprwy sydd wedi'i rymuso ac y dirprwywyd cyfrifoldeb iddo ar eu rhan os nad ydynt yn gallu mynychu cyfarfodydd y Grŵp Llywio.

Bydd gwasanaethau ysgrifenyddiaeth y Grŵp Llywio yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru.

Dylid cylchredeg agendâu wythnos cyn cyfarfodydd, a phob papur heb fod yn hwyrach na thri diwrnod cyn cyfarfod.

Deellir bod penderfyniadau'r Grŵp Llywio yn rhai a wneir ar y cyd ac i'w gweithredu gan bob aelod, oni bai bod amgylchiadau penodol lle cofnodir penderfyniad mwyafrifol.

Bydd grwpiau Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd yn atebol i'r grŵp llywio gan roi adroddiad cynnydd a (neu) gyflwyniad iddo bob chwarter.