Neidio i'r prif gynnwy

Mae Grŵp Llywio Iechyd Coed Cymru yn cynghori ar blâu a chlefydau sy’n effeithio ar goed.

Diben y grŵp yw rhoi cyngor a chymorth inni ar:

  • amlinellu ein polisïau
  • datblygu ein hymateb strategol i achosion o blâu a chlefydau sy'n effeithio ar goed
  • ystyried eu heffaith bosibl ar blanhigion yn yr amgylchedd ehangach
  • canfod ffyrdd o sicrhau bod coed a choetiroedd (cyhoeddus a phreifat) yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau yn y tymor byr, canolig a hir
  • cysylltu â grwpiau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd a Phrydain i adolygu bygythiad plâu a chlefydau newydd sy'n effeithio ar goed a phlanhigion cysylltiedig fel y gallwn gydgysylltu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau i ymateb i blâu a chlefydau
  • ystyried goblygiadau plâu a chlefydau ar adnoddau 
  • ystyried cost strategaethau rheoli a sut y dylid eu cyflawni

Mae'r grŵp yn cael ei gadeirio gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth Llywodraeth Cymru, ac mae'n atebol i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.