Grŵp Rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain (BSL): argymhellion
Argymhellion a wnaed gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i lywio map llwybrau polisi BSL Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben
Mae'r argymhellion a luniwyd gan y grŵp wedi'u trefnu'n argymhellion tymor byr a hirdymor. Lluniodd y grŵp hefyd argymhellion sy'n ymwneud â Bil Aelod Preifat BSL (Cymru) a amlinellir yn y ddogfen.
Cefndir
Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL ym mis Ionawr 2025, yn dilyn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Diben y grŵp oedd datblygu cyfres o argymhellion i lywio'r gwaith o baratoi ‘map llwybrau’ polisi BSL Llywodraeth Cymru. Bydd y ‘map llwybrau’ yn amlinellu'r camau gweithredu tymor byr y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau cydnabod a darparu BSL, sicrhau mynediad a chanlyniadau cyfartal, hawliau iaith cyfartal, a grymuso arweinyddiaeth pobl fyddar yng Nghymru.
Cyfarfu'r grŵp yn fisol rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2025 i archwilio rhwystrau iaith a'r camau gweithredu sy'n ofynnol i sicrhau mynediad teg at wybodaeth a gwasanaethau i arwyddwyr BSL byddar ar draws amrywiaeth eang o feysydd polisi. Trafododd y grŵp heriau a meysydd blaenoriaeth.
Daeth y grŵp â chymysgedd amrywiol a chynrychioliadol o randdeiliaid at ei gilydd, gan gynnwys sefydliadau ac elusennau byddar, gyda phob un ohonynt yn cyfrannu arbenigedd gwerthfawr a phrofiad bywyd. Cynhaliwyd trafodaethau mewn BSL fel prif iaith y cyfarfod. Cafodd y grŵp ei gyd-gadeirio hefyd gan 2 arwyddwr BSL byddar
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r argymhellion a ddarparwyd gan y grŵp i lywio a datblygu'r Map Llwybrau BSL. Bydd y Map Llwybrau yn cynnwys yr argymhellion tymor byr a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wella bywydau arwyddwyr BSL yng Nghymru ac i gynorthwyo hyrwyddo a hwyluso BSL ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Argymhellion tymor byr
Cynghorodd y grŵp y dylai camau gweithredu ar gyfer argymhellion tymor byr ddechrau ar unwaith a chael eu cwblhau o fewn 18 mis i'r man cychwyn. Isod ceir cofnod o'r argymhellion tymor byr a luniwyd gan y grŵp Rhanddeiliaid BSL.
Argymhelliad 1: casglu data BSL
Mae diffyg data BSL cyfoethog a chynrychioliadol. O fewn casglu data, yn aml nid oes categori diffiniedig ar gyfer cofnodi data ar BSL. Mae angen rhagor o ymchwil i ddeall rhwystrau i gasglu data BSL cywir. Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i archwilio pa rwystrau sy'n bodoli wrth gasglu a choladu data BSL, i lywio unrhyw gasglu data ystadegau yn y dyfodol.
Dylid gwneud cymariaethau â modelau casglu data presennol, gan gynnwys modelau a ddefnyddir ar gyfer y Gymraeg. Dylai Llywodraeth Cymru archwilio ac adolygu casglu data presennol ar gyfer y Gymraeg. Dylai'r fframwaith hwn wedyn lywio casglu data ar gyfer BSL er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng casglu data iaith.
Argymhelliad 2: BSL o fewn asesiadau o anghenion y boblogaeth
Dylai asesiadau o anghenion y boblogaeth sy'n ofynnol drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gynnwys cyfeiriad penodol at anghenion arwyddwyr BSL. Mae angen gwneud newidiadau yng Nghod Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain ac wedyn i archwilio pa ddata all ddeillio o hyn.
Argymhelliad 3: diffinio BSL o fewn y sector addysg
Mae BSL yn aml yn cael ei hystyried yn anghywir fel dull cyfathrebu yn hytrach nag iaith o fewn y sector addysg. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag arwyddwyr BSL byddar i ddatblygu diffiniad clir o BSL fel iaith, i'w hyrwyddo a'i defnyddio mewn lleoliadau addysgol. Rhaid i'r diffiniad fynd i'r afael â'r gwahaniaethau rhwng BSL fel iaith a systemau arwyddion eraill. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gweithwyr proffesiynol addysg i hyrwyddo BSL fel iaith a chodi ymwybyddiaeth ohoni.
Argymhelliad 4: mapio BSL o fewn y gweithlu addysg
Dylai Llywodraeth Cymru fapio'r gweithlu addysgu presennol i ddeall lefelau presennol o ddarpariaeth BSL.
Argymhelliad 5: mapio darpariaeth BSL blynyddoedd cynnar
Dylai Llywodraeth Cymru fapio sut y mae plant byddar yn cael eu nodi yn ystod sgrinio blynyddoedd cynnar a'r ddarpariaeth bresennol i fabanod, plant a rhieni o'r pwynt nodi.
Argymhelliad 6: mapio BSL o fewn gwasanaethau iechyd meddwl
Dylai Llywodraeth Cymru fapio'r llwybr a'r broses bresennol ar gyfer ceisio cymorth iechyd meddwl, ar gyfer pobl ifanc ac oedolion y mae BSL yn iaith gyntaf neu'n ddewis iaith iddynt ar draws holl fyrddau iechyd Cymru.
Argymhelliad 7: enghreifftiau o arfer da wrth ddarparu BSL
Dylai Llywodraeth Cymru gasglu tystiolaeth o arfer da mewn perthynas â darparu BSL mewn lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus a mapio darlun o sut beth yw arfer da. Dylai enghreifftiau o arfer da gynnwys astudiaethau achos i'w rhannu o fewn Llywodraeth Cymru a chyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Argymhelliad 8: adolygu darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru
Rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau ei darpariaeth BSL. Dylai:
- yn gyntaf, adolygu'r broses lle maent yn cynnal cyfieithiadau a chyfathrebu BSL a chreu proses Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu BSL mewn perthynas â dogfennau cyhoeddus a deunyddiau ymgynghori
- defnyddio'r adolygiad i archwilio a datblygu model o arfer gorau ar gyfer darpariaeth, cyfathrebu ac ymgyngoriadau BSL
Argymhelliad 9: cynllun i nodi gweithwyr proffesiynol sy'n defnyddio BSL mewn amgylcheddau gwaith
Dylai Llywodraeth Cymru weithredu cynllun BSL sy'n debyg i'r cynllun Iaith Gwaith a'r bathodyn swigen oren. Dylai'r bathodyn gael ei ddylunio a nodi'n weladwy pa weithwyr proffesiynol, ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, sy'n gallu arwyddo ac annog y defnydd o BSL ar draws y sector cyhoeddus.
Argymhelliad 10: cryfhau diogelu ar gyfer y gymuned arwyddo BSL fyddar
Dylai canllawiau ac adnoddau diogelu sy'n ymwneud â cham-drin ac amddiffyn unigolion agored i niwed gael eu gwneud yn gwbl hygyrch i arwyddwyr BSL byddar. Mae hyn yn cyd-fynd â dyletswyddau presennol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Dylai Llywodraeth Cymru yn gyntaf:
- gynnal adolygiad o ganllawiau diogelu presennol i nodi a yw'r canllawiau presennol ar gael mewn BSL a bod cyfieithiadau yn hygyrch i'r arwyddwyr BSL byddar mwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai ag anghenion iaith neu wybyddol ychwanegol
- adolygu llwybrau adrodd presennol, gan asesu a yw'r llwybrau adrodd yn glir ac yn uniongyrchol ac yn galluogi arwyddwyr BSL byddar i godi pryderon diogelu drwy BSL
- adolygu'r hyrwyddo presennol o adnoddau diogelu a sianeli adrodd, gan archwilio a yw arwyddwyr BSL byddar, yn enwedig y rhai sydd fwyaf mewn perygl, yn ymwybodol sut i gael mynediad at help a chymorth
Yn dilyn yr adolygiadau hyn, lle mae bylchau a meysydd y mae angen eu cryfhau, dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau gweithredu.
Hirdymor
Dylai camau gweithredu i gyflawni argymhellion hirdymor ddigwydd o fewn 2 flynedd a chael eu cwblhau o fewn 5 mlynedd i'r man cychwyn. Isod ceir cofnod o'r argymhellion hirdymor a luniwyd gan y grŵp Rhanddeiliaid BSL.
Argymhelliad 11: mapio darpariaeth BSL ar draws gwasanaethau cyhoeddus
Mapio ac ymchwil i ddeall materion sy'n ymwneud â mynediad at ddarpariaeth BSL. Dylid casglu tystiolaeth i feithrin dealltwriaeth o lle mae materion yn digwydd o fewn prosesau gwasanaethau cyhoeddus, gall hyn wedyn lywio lle mae angen canolbwyntio canllawiau ac ymyriadau yn y dyfodol. Mae angen dealltwriaeth ddyfnach o'r materion mewn perthynas â darparu gwasanaethau iaith ar draws gwasanaethau cyhoeddus, i nodi beth yw'r prif faterion a lle mae materion yn digwydd o fewn prosesau gwasanaethau cyhoeddus.
Argymhelliad 12: darpariaeth BSL a'r gweithlu addysgol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddatblygu llwybr ar gyfer y gweithlu addysgu yn y dyfodol a llwybr i gefnogi dilyniant gyrfa ar gyfer y gweithlu addysgu presennol. Dylai hyn ystyried sut y gallwn gynyddu'r gronfa o athrawon BSL
- datblygu llwybr ar gyfer addysgu BSL ac ystyried safonau ar gyfer Cymru a'r angen am reoleiddio ar gyfer athrawon BSL. Er enghraifft, efallai y bydd angen i'r holl athrawon BSL fod ar o leiaf lefel 6 BSL. Byddai angen i'r llwybr ystyried sut y gall athrawon gymhwyso mewn BSL a chymhwyso fel athrawon
- sefydlu cofrestr addysgu a dull o wneud cwynion
- mapio Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu i ddeall eu heffaith ledled Cymru a'r ffyrdd y maent yn cynorthwyo pobl fyddar. Dylid ystyried y gall rôl a disgrifiad swydd Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu amrywio yn dibynnu ar y lleoliad addysgol a'r amgylchiadau. Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio arbenigedd aseswyr-hyfforddwyr dehonglwyr lleol wrth adolygu sgiliau a rolau Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellid uwchsgilio Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu i fod yn lefel 6 BSL, gan roi'r cyfle i weithwyr proffesiynol presennol fynd i mewn i lwybr dilyniant gyrfa clir i gyrraedd safonau a chymwysterau dehongli BSL.
Argymhelliad 13: Darpariaeth BSL Blynyddoedd Cynnar a Llwybrau Cymorth
Dylai Llywodraeth Cymru:
- fapio'r llwybr cymorth o'r pwynt nodi ar gyfer babanod a phlant byddar, gan gynnwys cymorth BSL. Dylai rhieni allu wneud dewisiadau cwbl wybodus a chael yr holl opsiynau ar gael iddynt. Dylai darparwyr gwasanaethau drin BSL yn gyfartal o fewn y llwybr cymorth a'i chynnig yn gadarnhaol. Dylid cynnig cyfle i deuluoedd ymgysylltu ag BSL ac mae angen tegwch rhwng ieithoedd
- gweithio gydag arwyddwyr BSL byddar i ddatblygu ymgyrch i hyrwyddo dysgu BSL yn gadarnhaol yn y blynyddoedd cynnar. Dylai'r ymgyrch amlygu manteision a rhinweddau caffael BSL ar oedran cynnar ac mae angen hyrwyddo hyn a chodi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol blynyddoedd cynnar
Argymhelliad 14: Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc ac Oedolion
Mae bylchau sylweddol mewn data ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl i bobl fyddar. Ar hyn o bryd nid oes CAMHS byddar yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru:
- yn dilyn ymarfer mapio cychwynnol, adolygu'r llwybr a'r broses bresennol ar gyfer ceisio cymorth iechyd meddwl drwy BSL ac archwilio a phenderfynu sut y gellid gwella'r broses a dileu rhwystrau ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru
- datblygu naratif data ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc ac oedolion byddar a chasglu ystadegau a data ar iechyd meddwl arwyddwyr BSL byddar. Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ymchwil i sefydlu lle mae anghydraddoldebau iechyd meddwl a lle mae rhwystrau iaith wrth gael mynediad at gymorth a hunanatgyfeiriadau
- meithrin a chryfhau perthnasoedd rhwng CAMHS Cymru a CAMHS byddar yn y DU i sicrhau bod arfer gorau yn cael ei rannu a bod darpariaeth BSL yn cael ei chryfhau
Argymhelliad 15: gweithlu dehongli a chyfieithu BSL
Mae llawer o rwystrau i fynd i'r proffesiwn dehongli a chyfieithu BSL yng Nghymru. Nid oes llwybr gyrfa na llwybr dilyniant clir.
Dylai Llywodraeth Cymru fapio ac ymchwilio i rwystrau gyrfa presennol i ddod yn ddehonglydd/cyfieithydd BSL a datblygu. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn er mwyn cynyddu nifer y bobl sy'n mynd i'r proffesiwn dehongli/cyfieithu BSL.
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gyrfa Cymru fel rhan o'r ymchwil hon ac ystyried ffyrdd ymlaen o ran hyrwyddo dehongli/cyfieithu fel gyrfa a chynyddu nifer y dehonglwyr a chyfieithwyr. Dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori â gweithwyr proffesiynol dehongli a chyfieithu BSL (gan gynnwys sefydliadau cynrychioliadol), a'r gymuned arwyddo BSL fyddar fel rhan o'r gwaith hwn.
Argymhelliad 16: safonau ar gyfer dehongli a chyfieithu BSL/Cymru
Dylai Llywodraeth Cymru gysylltu â Chofrestrau Cenedlaethol Gweithwyr Proffesiynol Cyfathrebu sy'n gweithio gyda phobl fyddar a dall fyddar (NRCPD), sef y rheoleiddiwr gwirfoddol arweiniol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaethau iaith yn y DU, i archwilio sut y gellid cofrestru dehongli a chyfieithu BSL/Cymru yn erbyn safonau penodol.
Argymhelliad 17: ystyried prosesau cwynion BSL
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a deall y rhwystrau o fewn prosesau cwynion Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus. Dylai'r holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus rymuso pobl fyddar i wneud cwynion.
Argymhelliad 18: canllawiau BSL
Mae ‘Iaith Arwyddion Prydain: cyngor i wasanaethau cyhoeddus’ wedi dyddio ac mae angen ei adolygu er mwyn adlewyrchu BSL fel iaith. Dylai Llywodraeth Cymru lunio canllawiau a fframwaith i wasanaethau cyhoeddus ar gyfer darparu BSL. Rhaid i'r canllawiau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gaffael a threfnu dehonglwyr a chyfieithwyr, byddai hyn yn cynnwys y safonau a'r ansawdd disgwyliedig. Rhaid i unrhyw ganllawiau ystyried anghenion iaith arwyddwyr BSL byddar, aelodau o'r teulu a gofalwyr di-dâl Rhaid i ganllawiau yn y dyfodol gynnwys gwybodaeth gyfoethog am brofiad bywyd arwyddwyr BSL byddar.
- Arwain fel esiampl a sicrhau eu bod yn dilyn safonau. Arwain at strategaeth BSL ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â darparu BSL yn eu lleoliadau.
- Ystyried y Gwasanaethau Cyfnewid Fideo presennol sy'n cael eu defnyddio ledled Cymru a sut i ddefnyddio Gwasanaethau Cyfnewid Fideo mewn lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus yn briodol.
- Cysylltu canllawiau â chanllawiau presennol a deddfwriaeth berthnasol. Mae angen i ganllawiau eistedd ochr yn ochr â strategaeth BSL genedlaethol a gallent gefnogi'r cyfnod cyn gweithredu strategaeth BSL.
Argymhelliad 19: Darpariaeth BSL o fewn Cyfleoedd Llesiant
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ystyried ac yn adolygu cyfleoedd llesiant presennol ar gyfer arwyddwyr BSL byddar, ac ymyriadau sy'n gweithredu fel mesurau ataliol iechyd meddwl. Gall cyfleoedd llesiant gynnwys gweithgareddau a dulliau ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein ac yn bersonol, clybiau a grwpiau lleol.
Argymhelliad 20: Ystyried rôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodo
Wrth weithredu argymhellion, dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y mae rôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cysylltu â'r holl argymhellion.
Argymhellion sy'n gysylltiedig â Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)
Gwnaeth y grŵp argymhellion sy'n gysylltiedig â gweithredu Bil Aelod (Cymru). Ar 14 Gorffennaf 2025, cafodd Bil Aelod Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) ei gyflwyno yn y Senedd. Mae’r Bil Aelod wedi dechrau ei daith drwy'r Senedd a bydd yn destun y broses ddeddfwriaethol pedwar cam. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi trosglwyddo'r Bil i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Argymhelliad 21: Dylai Cymru gael ei deddfwriaeth BSL ei hun
Argymhelliad 22: Panel Cynghori BSL
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu panel cynghori BSL hirsefydlog, sy'n cynnwys arwyddwyr BSL byddar yn bennaf. Rhaid i unrhyw ddarpar banel cynghori gynnwys croestoriadedd. Rhaid i gyfansoddiad y panel gynnwys amrywiaeth eang o arwyddwyr BSL i sicrhau cynrychiolaeth eang o'r gymuned arwyddo BSL fyddar. Rhaid i'r panel gysylltu ac ymgynghori'n rheolaidd â meysydd polisi trawslywodraethol gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, blynyddoedd cynnar, cyflogaeth. Dylai'r panel fod â'r gallu i herio Llywodraeth Cymru yn adeiladol lle bo angen. Dylid cael trafodaeth bellach ar sefydlu panel cynghori BSL gan gynnwys recriwtio a chylch gorchwyl.
Rhaid i banel yn y dyfodol hefyd sicrhau cydweithrediad â Chomisiynwyr perthnasol i sicrhau bod arwyddwyr BSL ac BSL byddar yn cael eu hyrwyddo a'u cydnabod ledled Cymru.
Argymhelliad 23: Cynghorydd BSL
Dylai Llywodraeth Cymru recriwtio cynghorydd BSL. Dylai cynghorydd BSL ddarparu cyngor ar amrywiaeth o feysydd polisi a rhaid iddo fod yn arwyddwr BSL byddar.
Argymhelliad 24: cynllun gweithredu/strategaeth BSL
Dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun gweithredu/strategaeth BSL. Dylai'r strategaeth fod yn ychwanegol at unrhyw rolau cynghori a'r panel cynghori BSL. Dylai'r cynghorydd BSL gefnogi a llywio'r cynllun gweithredu/strategaeth. Dylai fod yn ofynnol cael trafodaeth bellach i ddiffinio'r rhyngweithio rhwng y panel cynghori BSL a'r cynllun gweithredu/strategaeth. Dylai'r cynllun gweithredu/strategaeth sicrhau bod meysydd cyfrifoldeb am wahanol gamau gweithredu gyda'r cynllun wedi'u diffinio'n glir.
Argymhelliad 25: Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo BSL fel un o ieithoedd Cymru
Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo BSL fel un o ieithoedd Cymru a chyfeirio at Gymru fel gwlad sydd â 3 iaith genedlaethol, Cymraeg, Saesneg ac BSL.
Argymhelliad 26: cynnig rhagweithiol BSL mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Dylai cyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL drwy sicrhau deunyddiau ac adnoddau BSL, gan weithio gyda dehonglwyr a'u rôl, cyfieithu gohebiaeth ysgrifenedig (llythyrau, negeseuon e-bost, canllawiau, gwefannau). Dylai pob corff cyhoeddus weithio tuag at weithredu cynnig rhagweithiol o BSL yn yr un modd â'r Gymraeg.
Argymhelliad 27: cydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth o BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus
Dylai cyrff cyhoeddus sicrhau bod hyfforddiant ac ymwybyddiaeth yn cael eu darparu i'r gweithlu a dylent gael hyfforddiant ar BSL o safbwynt iaith a diwylliant ac nid o safbwynt mynediad. Dylai hyfforddiant sicrhau bod anghenion iaith yn cael eu diwallu wrth ddarparu gwasanaethau a chanolbwyntio ar ddull gofal sy'n canolbwyntio ar y person. Dylid ystyried BSL fel iaith ar draws cynllunio ac asesiadau, gan gynnwys Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
