Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ymagwedd ysgol-gyfan tuag at les emosiynol ac iechyd meddwl, a hynny fel rhan o'r ymagwedd system-gyfan sydd hefyd yn cydnabod y cysylltiadau rhwng lles meddyliol a lles corfforol. I sicrhau y bydd plant a phobl ifanc yn parhau wrth galon y gwaith, caiff ei gefnogi gan Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid.

Diben

Diben y grŵp yw:

  • Cynnig profiad personol o'r cymorth iechyd meddwl a lles meddyliol sydd ar gael i blant a phobl ifanc
  • darparu cyngor i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ei raglen waith
  • Cynhyrchu polisi gyda Llywodraeth Cymru a rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (T4CYP)
  • Herio'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gadw llais plant a phobl ifanc wrth galon ei waith

Aelodaeth a Strwythur y Grŵp

Bydd y Grŵp yn cwrdd bob 2-3 mis, gan ddilyn yr un amserlen â'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Os bydd angen, gall gwrdd yn fwy aml na hynny i fwrw ymlaen â gweithgareddau neu waith penodol. Gellir ffurfio is-bwyllgorau gyda chytundeb y grŵp cyfan, er mwyn canolbwyntio ar waith penodol. Mae'r cyfyngiad amser ar y grŵp, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd tymor y Cynulliad (Mai 2021).

Plant yng Nghymru fydd yn hwyluso'r Grŵp a bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru a  T4CYP yn bresennol yn y cyfarfodydd, yn ogystal â'r aelodau ieuenctid, yn amlwg.

Mewnbwn y tu hwnt i gyfarfodydd

Y tu allan i'r Grŵp, efallai y gofynnir am fewnbwn o bryd i'w gilydd. Caiff aelodau'r Grŵp gytuno pryd a sut y byddant am i bobl gysylltu â nhw y tu allan i'r cyfarfodydd.

Cyfrinachedd

Yn ogystal ag aelodau'n rhannu profiadau neu farn bersonol yn ystod cyfarfodydd, efallai y bydd swyddogion yn rhannu syniadau neu wybodaeth: pethau sydd wrthi'n cael eu datblygu - ni ddylid rhannu hyn y tu allan i'r Grŵp. Gofynnir i aelodau barchu'r cyfrinachedd hwn.

Deddf Hawliau'r Grŵp

  • Hawl i fod mewn amgylchedd diogel
  • Hawl i beidio dioddef camwahaniaethu
  • Hawl i fynegi fy marn fy hun
  • Gwybodaeth - Cyfrinachol
  • Bydd pobl yn gwrando arnaf
  • Hawl i anghytuno a thrafod
  • Hawl i annibyniaeth
  • Hawl i gael y wybodaeth gywir
  • Hawl i gael fy mharchu
  • Hawl i symud o gwmpas yn hollol rydd
  • Hawl i gael egwyl
  • Hawl i gael fy nghynnwys ym mhob trafodaeth

Fy rôl fel aelod yw

  • Hawl i gael fy mharchu
  • Hawl i roi fy marn
  • Byddaf yn gwrando ar eraill
  • Byddaf yn dangos empathi
  • Byddaf yn rhannu profiadau ac yn gwrando ar eraill
  • Byddaf yn dweud pan rydw i angen egwyl
  • Byddaf yn sicrhau bod eraill yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau os ydynt yn dymuno
  • Byddaf yn rhoi gwybod os oes problem
  • Byddaf yn meddwl am yr hyn y byddaf yn ei ddweud
  • Byddaf yn sicrhau cyfrinachedd
  • Byddaf yn garedig ac yn hynaws
  • Byddaf yn rhoi gwybod i staff os na allaf ddod i gyfarfod
  • Fe gadwaf mewn cysylltiad - hysbysu am newid amgylchiadau ac ati
  • Byddaf yn rhannu fy rôl gan godi ymwybyddiaeth ymhlith eraill.