Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cydlynydd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru Gyfan.

Nhw:

  • hwyluso gwaith y timau troseddau gwledig ym mhob un o bedair ardal yr heddlu yng Nghymru
  • gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewn sefydliadau statudol ac anstatudol

Beth yw Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad

Troseddau penodol yw’r rhain sydd fel arfer yn digwydd yng nghefn gwlad. Maent yn effeithio ar ffermwyr a chymunedau teneuach eu poblogaeth, neu ar ein bywyd gwyllt, ein cynefinoedd, a'n treftadaeth.

Mae troseddau bywyd gwyllt yn cynnwys unrhyw weithgaredd sy'n torri'r cyfreithiau sy'n amddiffyn anifeiliaid a phlanhigion gwyllt. Gall y troseddau hyn beryglu rhywogaeth i'r pwynt y gall ddiflannu. Mae llawer o anifeiliaid yn cael eu herlid ac yn dioddef creulondeb o ganlyniad i ystod eang o weithgareddau troseddol gan gynnwys:

  • potsio
  • baetio
  • cwrso
  • hela
  • masnachu
  • gwenwyno
  • dinistrio cynefin

Gall fod yn anodd diffinio troseddau cefn gwlad gan eu bod yn cynnwys ystod eang o droseddau. Mae rhai o'r rhain yn cael eu cyflawni hefyd yn y trefi – a gallant fod yn fwy cyffredin yno, er enghraifft cam-drin domestig. Fodd bynnag, gall:

  • amgylchiadau’r troseddau
  • yr ymateb i'r troseddau hynny
  • mynediad at gymorth i'r unigolion a'r cymunedau hynny

fod yn wahanol iawn mewn ardaloedd cefn gwlad.

Ymhlith y troseddau sy'n fwy unigryw i gymunedau cefn gwlad mae’r rheini sy’n ymwneud â ffermydd, ceffylau, a threftadaeth. Mae troseddau sy'n effeithio ar yr amgylchedd, yn cynnwys tipio anghyfreithlon a llygru, hefyd yn effeithio ar amaethyddiaeth. Mae'r troseddau hyn, ynghyd â dwyn a phoeni da byw, yn effeithio ar gynhyrchu bwyd. Mae troseddau treftadaeth yn golygu troseddau sy'n effeithio ar werth adeiladau a safleoedd hanesyddol. Er enghraifft, difrodi henebion a chwilio am fetel yn anghyfreithlon.

Strategaeth yr Heddlu a Llywodraeth Cymru

Ym mis Ebrill 2023, lansiodd Llywodraeth Cymru a phedair ardal yr heddlu y strategaeth gyntaf ar y cyd i fynd i'r afael â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad. Mae'r strategaeth yn nodi'r meysydd blaenoriaeth a'r prif amcanion.

Dogfennau defnyddiol eraill 

Rural and Wildlife Crime Strategy 2022-2025, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, yr Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol a’r Uned Troseddau Gwledig Cenedlaethol (2022) (ar www.nwcu.police.uk).