Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pwrpas y grŵp a sut mae'n gweithio.

Cefndir

Yn Cynnal Cymru Fyw, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu ac ymwreiddio’r dull ecosystemau o reoli adnoddau naturiol ac i wneud pob penderfyniad cysylltiedig ar sail yr ecosystem. Gyda llai o gyllidebau, mae adrannau bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o ddenu arian i’r economi wledig a gwneud y gorau un o bob punt a fuddsoddir.

I’r perwyl hwn, mae yna lawer o grwpiau sy’n gweithio ar brosiectau a mentrau allai gael eu hystyried fel PES gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan amrywiaeth eang o ffynonellau.

Pwrpas y grŵp

Creu ymdeimlad o gymuned. Y nod yw creu canolfan ar gyfer grwpiau ac unigolion i rannau a thrafod y prosiectau y maen nhw’n gweithio arnyn nhw er mwyn gallu rhannu profiadau a rhoi cyngor i’w gilydd. Bydd hynny’n sicrhau ffordd gydgysylltiedig o weithio ac yn osgoi dyblygu gwaith ac yn galluogi’r rheini sy’n gweithio yn y maes hwn i fod yn ymwybodol o’r mentrau a dysgu o’u profiadau.

Cylch gorchwyl

Gan fod Taliadau am Ecosystemau (PES) yn faes gwaith newydd, mae llawer o’r prosiectau yn newydd ac arloesol. Mae gan y rheini sy’n gweithio arnyn nhw’r potensial i ddatblygu eu mentrau ar eu pen eu hunain. Mae’r grŵp hwn yn helpu pobl sy’n gweithio yn y maes hwn ac yn cynnig lle iddyn nhw drafod problemau a heriau a rhannu unrhyw wersi a ddysgir. Gallan nhw hefyd gyfrannu’n uniongyrchol i ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru ar PES.

Nod y grŵp hwn yw gwneud y canlynol:

  1. cydgysylltu’r ffordd y rhoddir prosiectau PES ar waith
  2. rhoi cyfle i grwpiau sy’n gweithio yn y maes gyfnewid gwybodaeth
  3. chwilio am gyfleoedd i gyflawni mwy o fewn y prosiectau
  4. chwilio am gyfleodd i greu synergeddau rhwng prosiectau
  5. nodi rhwystrau a heriau o fewn y prosiectau
  6. rhannu profiadau a syniadau
  7. darparu adborth i’r grŵp llywio PES
  8. rhoi cyngor i’w gilydd
  9. rhoi cyngor uniongyrchol ac adborth i grŵp llywio PES
  10. y grŵp i gwrdd 2 neu 3 gwaith y flwyddyn.