Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon poblogaeth o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd pobl yng Nghymru fesul oed, rhyw, iechyd cyffredinol, anabledd, y lefel uchaf o gymhwyster a statws gweithgarwch economaidd.

Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data cryno ychwanegol ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn ôl amrywiaeth o ganlyniadau economaidd-gymdeithasol ar gyfer unigolion a oedd yn breswylwyr arferol yng Nghymru ar adeg y cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Mae'n dweud wrthym sut roedd y canlyniadau hyn yn amrywio ar gyfer gwahanol fathau o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd ledled Cymru. Mae'r bwletin hefyd yn cynnwys dadansoddiad yn ôl oedran a rhyw er mwyn rhoi cyd-destun. Mae'r holl ddata a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad yn y datganiad hwn i'w gweld ar wefan SYG o'r dudalen Census 2021 sexual orientation and gender identity data combining multiple variables (SYG), a'r datganiad diweddar gan SYG, Sexual orientation, further personal characteristics, England and Wales: Census 2021 (SYG)

Cyswllt

Edward Wilkinson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.