Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Awst 2020.

Cyfnod ymgynghori:
8 Gorffennaf 2020 i 17 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae’r crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar tudalen ymgynghoriad Gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti 

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed barn plant a phobl ifanc am y cynnig i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn gofyn ichi am eich barn am wahardd gwerthu cŵn a chathod bach hyd at chwe mis oed yn fasnachol gan drydydd parti.

Mae gwerthwyr trydydd parti masnachol yn werthwyr anifeiliaid anwes trwyddedig.

Mae gwerthwyr trydydd parti masnachol yn cael eu cysylltu â pheidio â rhoi’r gofal y dylai anifeiliaid anwes ei gael o’u cymharu â’r bridiwr.

Er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth yng Nghymru, mae’ch sylwadau’n bwysig iawn i’n helpu i benderfynu ar y camau nesaf.

Dyna pam ein bod yn gofyn ichi am eich barn ac i roi unrhyw enghreifftiau sydd gennych.  Gallen nhw ein helpu i ddeall y sefyllfa’n well.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar www.childreninwales.org.uk